Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
CRYD TUDNO,
CRYD TUDNO, Sef y maen sigl ar drum Pendinas, Llandudno. Cu erioed tew wadn Cryd Tudno,—crair yw, Cerir hwn tra byddo Hanes eglwys mae'n eiglo T 1 olj; Dalm hen cyn-genedl mewn co'. GWTLLT WALIA. il-fii r:
< .v . — . .','" .ENGLYNION…
< .v — ENGLYNION A wnaed wrth roddi corph yr Hen Batriarch hoff, Owen Williams o'r Waenfawr, yn y bedd, Hydref y 3ydd, 1874, yn mynwent Bettws Garmon. Gormes ar fynwent Garmon-yw gorfod Rhoi ,0. Gwyrfai dirion | 0 olwg ei anwylion, 1 sarhad y gwys oer bon Y fywiol lawryf awen-rced yma j Er bir dymor llawen; ) I. Er ei barch gwyraii be A gwy wai'r unig Owen. j Ai daiar yn y diwedd-a -raid roi Ar ei druan anedd ? j Onid ellir mewn dullwedd — I: Edrych yn fyb ych i'w fedd,l 7/J) No., gwelir uriigoliaeth-yw ybedd, ? Ni eha'r byw gwmniaeth •_ A'u jneirwolI-*ac yma'r aeth, >[)< IDiJ Jgfnxby fftd idrafodaeth! ,-ilrf10 ALLTUD EIFION. ——————— ° Clwyfwyd a gwelw-wyd Gwalia,-alr delyn Trwi'.r dalaet,h ddystawa; of i I'. TI ein bardd, cadeirfardd da, 5 il._ I Gwisg alarwisg Orlwyra'. ■ loù: Gormod i Fettws Garmon—droi i gryd io'hith Oer grodir eiu gwron, j- •• r Gorchuddio, neu briddo broiv' v -Goleu dirfawr gwlad Arfon. ■ i J j LLJTXII? TRBBOR HYDRKli"
AEL AELWYD FY MWTHYN FY HUN.
AEL AELWYD FY MWTHYN FY HUN. • }* 0 i fwthyn bach anwyl,—fy mwthyn fy hun, -r,^ Cartrefle dedwyddwch a bri, t II ,'Rwy'n caru dy enw, rwy'n caru dy lun, Wyt bobpeth sydd swynol i mi Pe eawn gymdeithasu A'r bonedd i gyd, A. byw 'n eu palasau bob on, Mi deimlwa yn ganwaith dedwyddach fy myd Ar aelwyd fy mwthyn fy hun. "a yadde na gwinoedd na seigiau i'w cael, Na mawredd o amgylch y fan; 1, lygad yr estron, tyledaidd a gwael Yw'm bwthy'n yn ymyl y Llan: .> Ond os csf ddigonedd o fara a llaeth A bendith i ganlyc. pob un, 'Rwy'n foddlawn i'm tynged er gwell ac er gwaeth Ar aelwyd fy mwthyn fy hun. c, ?»t:;wn ardal fynyddig yn nghanol y wlad r Y llecha fy mwthyn bach gwyn, Yn wastad o gyrhaedd pob dichell a brad, Yn ddiogel yn nghesail y bryn: Os rhua ystormydd, os gwga y byd, j L 'Rwy'n dawel er gwaethaf pob un, 'Kwy'n teimlo fy hunan yn ddiogel o hyd Ar aelwyl fy mwthyn fy hun. Ychydig 'wy'n wyhod am fawredd y byd, Am gyfoetb, ainrhydedd, a bri; Cael cddw eymdeithas-A natur o hyd Sydd waith dymuoolach i mi: Aed balchder, arhodres, a fiFasiwn o'r Wlad, 'Dwy'n hidio ddim Uawer pa'r un, 'Rwyn teimlo fy hunttn mewn perffaith foddhad Ar aelwydfy mwtbytr fy hitn-. v Caf eistedd yn dawel yn ymyl y t&n Ar noson ddrychinog a du, Difvru fy hunan trwy gann rhyw gin Yn yspryd "IX hen Gitury fu," A'm teulu yn siriol, yn liawen, a hael, Yn taro 'n y cydgan bob un, A chyngherdd ardderphog a fyddwn yn gael Ar aelwyd fy mwtbyn fy hun. 'Rwy'n gwybod yn burion am lafur a gwaith, Am wres, ac am bwysau y dydd; 'Rwv'n gwybod am dywydd eiryog a Haith, 'Rwy'n gwybod am chwys ar fy ngrudd 'Rol gweithio yn galed o foreu hyd hwyr, Yu wanaidd a llwydaidd fy llun, Aunghofio fy llafur y byddaf yn llwyr Ar aelwyd fy mwthyn fy hun. Cyn myn'd i orphwyso fy aelwyd a fydd Yn allor i Lywydd y Nef, A gweddi ddiaddurn aufonaf yn rhydd O'm bwthyn yn syth atto Ef; Cyd ddiolch wna'm teula, yn f&u ac yn fawr, Am gofio am danom bob un, Gan dynu y Nefoedd a'i bendith i lawr Ar aelwyd fy mwthyn fy hun. 0! fwthyn bach anwyl, fy mwthyn bach gwyn Lte treuliais flynyddau di-loes, 'Hwy'u ymyl ei adael, yn llithro yn syn I lawr at derfyniad fy oea Pan ddelo fy oriau daiarol i bee, Pan ddelo nos angeu di-lun, Wel dyna 'nycauuiad—cael niarw 'n ddi-len Ar aelwyd fy mwthyn fy hun. lOAN GLAN MENAI.
CWYN YR UNIG. '' •
CWYN YR UNIG. Oh for the touch of the vanished hand 1 Aad the voice that ia still."—Skakrpeutre. ( Tlawd ac amddifad wyf, f -hi Ae unig yn y byd; Heb chwaar, na brawd, na chyfaill mwyn, Na mam i wrando ar fy ugliwyn,, ,J Na dedwydd gartref clyd Fv nghwppan wla oddiwrth fy mia Gan chwiil)a ffawd ysgubwyd, Cyn imi brofi. 'i rhiu. Yn iael iawn ei ben, Dan leni duon bedd, !il Co ¡ Yn rohell o gyrhaedd swn y byd, Mewn argel wely, tawel, clyd, Gorwedda'u; tad mewn hedd Fe aeth fy nhad, i'r dywyll wlad, cy" imi ddyggti ydgau Yr enw swym'l—Tad. Fe dawel huna'r hon A'm gwyliai rhag pob c-iti), Giu adar bach ernynau hedd, A gwylia engyl ar y btdd Lie gorwedd 11 well fy waiii A'r Iiii weu adyi ir.vchben, tianoceiidio'r bedd il'u dagiau Wua tyncr wlith y neo. Digysur, uuig wyf, A'm gvvedd yn wael a gwyw 0 Dduw fy mitm bydd Di yn rhan, Yn gyfaill i amddifad gwan, Ruddfaoa dan eifriw; Bydd Di yn frawd, i druan tlawd, S ydd bron a chael ei lethn Dan bwysau gwg a gwawd. .;t Dyheua'm henaid trist V Dan ddirmyg cteulawn fyd Gweowynig chwiiou siouiiaut tro.-s, Ar eu hadeuydd ddygaut loes, A chlwyf i mi o hyd; y- 0, Dduw yNef! erglyw fy lief, Ac aed gruddfanau f'enaid f,. J fynu iw nefoedd Ef Cyfeillion goreu'r llawr, • Sydd ffals fel gwynt y nch,~ Pan ddelo adfyd du i'tn cwrdd, Yn fuan cilia rhai'n i ffwrdd, Gan chwertbin am fy mhen Gwnant druan tlawd yn wrthrych gwawd Pan ddelo arno gyni, A phan y gwga-kavvd. Fe wthia biraeth dwyfl, Y dagrau dros fy ngrudd, Hen adgofiadau boreu oes, V A ro" t i m hyspryd drylliog A wsaent fy mron yn brudd-^ Panoeddwn Ion ac ysgafn fron, Pan ddawnsiai diiiioveidrwyd(I 0 dan y fynwes hon. c r Breuddwydion boreu oea, Am deg fwynderau'r byd, Am gartref ac anwyliaid cu, .1. Anrhydedd, a chyfeillxon In,— (.. Maent wedi ffoi i gyd Ysgubodd siom, 4'i wyntoedd ffrom, Fy holl awyrol gestyll, Ilawr â dyrnod drom. Yn nghrog ar helyg Ir Y mae'm ben delyn fwyn Fe lysg fy enaid gan rhyw chwant I daraw etto ar ei thant Ryw alaw lawn o swyn Hen odlau lion, y delyn hon, A chwalent y gofidiau, A lechant dan fy naron. Estronol law a sych ( Chwys angeu ar fy ngrudd, Ac ni chaf roddi pwys fy mhen Ar un serch-fynwes gynnes, wen, Pan yn y dyffryn prudd i Ni chlywir si wylofus gri, f Byth, byth ni welir deigryn, Uwchben fy meddrod i. Llansannan N. S. ELLDEYRN.
Y DYN A'R LANTAR, NEU
Y DYN A'R LANTAR, NEU WELEDIGAETHAU Y BARFWR. PENNOD XIX. F Yn mha un y mae'r Dyn a'r Lantar yn myned rhagddo gyda'i araeth ar lafiti-, ac y mae'r Barfior yn gweled ei hun drachefn. Gyda threigliad amser gwelir fod crynhoad un math o lafur i ddwylaw un dosbarth o bobl yn cynnyrchu llawer iawn o eiteithiau gwahanol i'w gilydd. Sylwasom eisoes ei fod wedi rhoddi bod- olaeth i'r farchnad, ac yn awr, 0, Farfwr, cawn sylwi ar bethau ereill sydd yn ei ddilyn. Amlwg yw fod y dosbarth ag sydd wedi ymgymmeryd ag unyhyw orch- wyl pennodol yn rhwym o ddyfod o ddydd i ddydd yn fwy galluog ac amcanus yn y gorchwyl hwnw, tra y mae y gweddill o'r gymdeithas nad ydynt yn ei ddilyn yn sicr o ddiffyg ymarfer o golli o ddydd i ddydd eu gailu 1 ymaflyd ynddo a'i gyflawni. Fel hyn, tra y mae'r naill yn ennill gallu, mae'r dosbarth arall yn ei golli. Yn y lie nesaf, fel y mae llawer o bobl yn dyfod i ymaflyd yn yr un math o lafur y mae yspryd cystadleuaeth yn dechreu ymddangos yn eu plith, ac y mae hyn etto yn peri i'w galluoedd dargan- fyddol ddeffro. Cymmerwn yn lIe cyntaf fol engraifft y llafur o weithio ceryg. Mae'n debyg, 0 Farfwr, dy fod wedi clywed rhyw dro mai gydag arfau o geryg y byddai dy gyndadau cyntefig yn llafurio ac yn rhy- fela. Wedi crynhoi a chyfyngu y gorchwyl o wneud arfau ceryg i un dosbarth, dyna yspryd cystadleuaeth yn disgyn ar y gweithwyr, ac o ganlyniad dyna gynhyrfiad yn cymmeryd lie yn eugallu- oedd darganfyddol. Nid hir y bydd y gallu darganfydddol wedi deffro nag y daw o hyd i ryw beth newydd, a hyny nid trwy lafur gymmaint ond trwy ryw fath o reddf. Trwy ysbrydoliaeth y mae dyn bob amser yn darganfod, a dyma'r paham y perchir y darganfyddwyr yn gymmaint yn mhob oes o'r byd. Wel un boreu wele un o'r gweithwyr ceryg yn cyfodi o'i wely gyda drychfeddwl newydd yn ei ben, a chyn bo hir wele efe yn cyhoeddi i'r byd ei fod wedi darganfod y dull i wneud presliw (bronze), ac fod hwn yn llawer gwell defnydd i wneud arfau o hono nag ydoedd y ceryg tan, y rhai a arferent o'r blaen. Y mae'r genedl yn gweled fod hyn yn gywir, ac mewn can- lyniad wele ofyniad cyffredinol am arfau ) o bresliw. Beth ydyw'r canlyniad mae'r gofyniacl yn un mor gyffredinol nes y mae y darganfyddwr yn gweled y bydd yn well iddo ef ac yn ddigon iddo hefyd barottoi digon o'r defnydd a gadael i ereill ei weithio. Yn awr, dyma'r llafur ag oedd gynt yn un wedi ymranu yn ddau, ac o hyny allan dyma'r dosbarth ag sydd yn parottoi y defnydd yn ymwahanu yn hollol oddiwrth y dosbarth sydd yn ei weithio a'i ffurfio yn arfau. Cyn pen hir amser mae'r genedl yn dyfod i weled fod y defnydd newydd yn wasanaethgar at lawer iawn o bethau, a chan ei fod yn haws i'w weithio na cheryg, mae gwahan- iaeth yn ffurf a hyd yr arfau ac yn ngherf- iad y gwahanol lestri a'r pethau ereill a wneir o hono yn cyfodi yn naturiol. Fel hyn y mae tuedd mewn llaur i ym- grynhoi mewn un dosparth, ac yna i ym- ranu-ynaill ddosparthi wneud defnyddiau a'r llall i'w gweithio, ac yna mae hyn eto trwy ddyfod a defnyddiau newydd i ymar- feriad yn achosi gwahaniaeth pwysig yn y dull o'i weithio, ac yn peri i'r celfyddydau roddi cam yn mlaen tuag at berffeith- rwydd. Afraid fuasai dilyn y ffeithiau hyn yn mhellach na, dangos pa fodd y mae'r | I dyn cyntaf a ddarganfyddodd y presliw ac i a'i gwnaeth erbyn heddyw wedi myned yn ddynionwr yn ei lawn orchwyl yn codi'r pres o'r ddaear, y llall yn ei gludo i'r ffwrn, y llall yn ei ddodi a'i gymmysgu i wneud y presliw, a'r llall yn ei weithio. Fel y mae llafur yn crynhoi mae'r crynhoad yn peri ymraniad a'r ymraniad hwnw ymran- iad drachefn. Y mae golwg arall i'w gym- meryd ar lafur. Beth ydyw llafur ? Add- oliad. Pan y safai ein cyndad Adda tra eto yn, ddieuog o fai yn Ngardd Eden, dyna ydoedd swm ei addoliad, sef llafur. Llafurio a chadw yr ardd yn unig a ofyn- wyd oddiar ei law, ac wrth gyflawni hyn yr ydoedd yn addoli. Wedi iddo syrthio, ac wedillefaru y geiriau "trwy chwys dy wyneb y bwyttai fara" uwch ei ben, yr oedd llafur etc yn aros fel addoliad i Dduw; nid oedd y chwys namyn arwydd allanol o'r anhawsdra a gji, oherwydd, pechodi gyflawni ei ddyledswydd,, o byn allan. Cofia, 0 Farfwr, ac wrth gofio bydd lawen. Mae pob crafiad a roddir genyt ar wyneb gwrychog y ddynoliaeth gyda'r rasal finiog yn weith- red o addoliad. Canys i hyn yma y'th yrwyd i'r byd; dyna dy ddyledswydd tuag at ddyn a thuag at y Nef, ac wrth wneuthurhynyr ydwyt yn addoli. Na ddirmyga lafur, gan hyny, eithr edrych ar y dyn yn llafurio fel dyn yn addoli. Pa addoliad mwy pur, mwy ffyddiog, ellir ei weled na dyn yn gweithio wrth ei orch- wyl yn onest ac yn ddyfal yn y sefyllfa y gosodwyd ef ynddi, gan adael y cynnyrch yn llaw ei Dad ?" Symmudasant yn mlaen, ac unwaith yn rhagor treidd- iodd pelydrau o'r lahtar agored trwy y tywyllwch, gan syrthio ar wyneb newydd o'r drych. Yno gwelai y Barfwr ddarlun o hono ei hun unwaith yn rhagor, ond i'w syndod gwelai 'fod ei wallt a blew ei gernau oil wedi gwynu. Dychrynodd, a gofynodd-" Beth ydyw'r achos o hyn ? Yr oedd fy ngwallt yn ddu pan ddeuais yma gyntaf." Edrych yn mlaen," ebe llais tynghedol y Dyn a'r Lantar; nid tynged dyn ydyw aros yn ieuangc hyd ei fedd." Cynnyddodd gol- euni y lantar yn fwy-fwy. Diflanodd amlinellau allanol y darlun, a gwelai y Barfwr am yr ail dro y tufewn i'w ben ei hun. Ond 0 y fath gyfnewidiad. Yr oedd yr ymenydd ag oedd gynt mor fychan yn awr wedi tyfu yn dalp mawr, lies o'r bron lenwi yr oil o'r tufewn i'r pen, a gwelai y Barfwr ef yn curo i fyny ac i lawr gyda phob curiad o'i galon. Ni chafodd sylwi mwy, canys cauwyd y lantar; w V J: (I'M; barhau.) fu,;
LLITH MR. PUNCH. ' !
LLITH MR. PUNCH. FON^DDIGION,—Yr wyf newydd dderbyn telegram o Gaernarfon, yn hysbysu fod cerbyd o'r dosbarth cyntaf,perthynol i'r Hen Gorph, wedi cael ei redeg dros y ffordd tua gorsaf E—ng—d—i," ac fod amryw o'r teithwyrwedi eu niweidio yn dost, acyneu plith y m aeun boneddwr hynaws a charedig, ac ynfroclor o dref y moch. Yn ffodus, ni ladd- wyd neb, a hyderir y bydd i'r rhai a ni- weidiwyd gael adferiad buan. Priodolir yr achos o'r ddamwain i'r driver a'r stoker, y rhai ydynt yn aelodau dylanwadol o'r Corph. Ac oherwydd iddynt yfed yn hel- aeth o'r stwff peryglus hwnw a elwir "puff-me-up," yr oeddynt yn hollol an- nghymmwys i'r gwaith oedd wedi ei ym- ddiried iddynt. Er hyny, ni fynent hwy ei adael i ereill oeddynt yn fwy cymmwys i'w gyflawni; a'r canlyniad fn, pan oedd- ynt hwy ac amryw o'r aelodau ar gychwyn i Birmingham am cheap trip, rhoddasant ormod o steam ar yr engine, yr hyn a achosodd i'r cerbyd gael ei daflu oddiar y rheiliau, ac aeth hwnw yn chwilfriw man! Ac ofnir y bydd yn ofynol anfon i'r South am gargo o "hwn-twos" i'w gasglu yn nghyd a'i wneud i fyny, gan eu bod bwy yn y South yn fwy cynnefin a phob math o ruins na phobl dda Caernarfon Dywedir fod y merched mwyaf (hyny ydyw, o ran maintioli corphorol) sydd yn byw yn yr heol hono a elwir North Pen- 'rallt, Caernarfon, wedi cael y fath flas ar awyr iach y dref fel ag y maent i'w gweled byth a beunydd yn ymgynnulledig ar yr heol, a'u geneuau yn llydain agored i dderbyn yr elfen "iachusol" sydd yn cynniwair drwy y lie. Ond gan fod pobl ereill, y rhai ydynt yn dyner eu teimlad- au, yn methu myned heibio iddynt heb deimlo yn dramgwyddus, oherwydtt culni yr heol, &c., hwyrach y byddai yn ddoeth i'r merched hyn ofalu am gael ventilation yn eu tai, modd y gallant fwynhau eu hunain yn llawn cystal wrth arcs i mewn. Aeth Miss --a phar o hosanau at Mrs i'w troedio (a hyny oblegid nad ydoedd hi, Miss yn alluog i gyflawni swydd mor isel a gwau hosan "). Troediodd Mrs yr hosanau, ac an- fonodd hwynt i Miss gyda'r pris oedd arni eisieu am y gwaith. Aeth Miss a'r hosanau yn ol at y wraig, a dywedodd wrthi ei bod yn codi pris uchel iawn am eu troedio. Dywedodd y wraig nad ydoedd yn codi dim gormod arnynt; ond daliai Miss i ddyweud ei fod yn uchel iawn, a grwgnachai dalu iddi. O'r diwedd, gafaelodd Mrs mewn siswrn a gwahanodd y traed oddiwrth y coesau, a dywedodd, Very well,, Miss Cymmerwch. chwi y coesau, a. chymmeraf finnau y traed;" a therfynodd hyny yr ymrafael rhyngddynt. Ac ynwir yr ydym yn coelio ddarfod i'r wraig bon ymddwyn yn ddigon cyfiawn tuag at y ferch ieuangc, trwy dori ymaith y traed oddiwrth y coes- au oblegid eiddo y wraig ydoedd y traed hyd nes y caffai dal am danynt; ac, o'r ochr arall, eiddo y ferch ieuangc oedd y coesau. A chan ei bod hi yn ladi" yn grwgnach talu am draed i'w hosanau, yr oedd bagsiau moelion yn ddigon da iddi. Dymuna Pererin Gwyn," Bontnew- ydd am i'r pennill canlynol gael ei gy- hoeddi yn Llais y Wlad, neu yn "Meibl y Radicaliaid," sef yr H- C-, canys dyna y geilw efe ef. A dyma y pennill:— Tair pont wedi eu harchio, Prif ffordd sydd eisio I Lloyd fyn'd i rodio Ysbiwoh i'r gwaolod- r< Yno y cewch ryfeddod- -/oju'/v/ Fel y mae hi'n terfynu ,jn' I gyfwr y weilgi!" "PERERIN GWYN A.'I CANT." Ceiliog Dandy.-Pan oeddym yn dy- chwelyd adref o'r dref, nos Sadwrn di- weddaf, daeth "Ceiliog dandi attom, a dechreuodd ysgwyd ei adenydd chwim ar- nom, a chlowcian yn erwin Safasom yn syn i edrych a gwrando arno am ennyd, a deallasom o'r diwedd mai wedi bod yn ymborthi ar soeg yr oedd efe, a hwnw wedi effeithio ar et gynheddfou ehedyddol i'r fath raddau, nes ydoedd y creadur bachdistadl fel mewn Uesmair— ei big yn agor ac yn cau mor gyflym a. chrangc ffactri," ac yntau, druan, yn ymdreiglo o dan yr arteithiau dirdynol Gresyn, yn wir, fod pobl mor ddiofal a rhoddi pethau peryglus fel hyn i greadur- iaid egwan a diniwed fel hyn. Yn sicr, y mae peth fel hyn yn cruelty to animals," a dylai swyddogion y gyfraith"ofalu am ddwyn y sawl sy'n euog i afael y gyf- raith sydd yn gwahardd y cyfryw drosedd. Oherwydd y mae'n beryglus i bobl fyned allan o'u tai, yn enwedig ar nos Sadyrnau, pan fo y creaduriaid gwallgof hyn yn ym- slafeiddio ar hyd a lied y wlad! "Odds and ends." Pa both sy'n myn'd, ac yn myn'd dim ? Y Relwe fain." Pwy oedd y dyn cyntaf ? Sion Oliver," canys efe a ddaliodd ysgyfarnog pan oedd. hi yn rhedeg ar ei thri-throed, ac yntau ar ei ddau. Pe baipwys o gaws yn costio grot, pa faint gostiai llwyth trol o faip ? Pe byddai pennog a hanner i'w gael am geiniog a dimai, pa sawl un a geid am un-geiniog-ar-ddeg ? Pe byddai i ben ceffyl D—— -y; P hoilti ar ei hyd, pa faint fyddai y gost am ei asio ? Pe bai Robin Sponc yn gadael Uonydd i Corfanydd ac ereill i wisgo dillad odd, pa faint o elw a fydd«i byny iT teillwr barddonol o Bontnewydd ? GWAS MR. PUNCH.
[No title]
Ar y cyhuddiad o ladratta y swm o saith swllt, traddododd ynadon Caergybi gym- meriad a adnabyddir fel Huw Trego i sefyll ei brawf yn y brawdlys nesaf. PELENAU HOLLOWAY.—Gofalwch am eich iecbyd—Y mae unrhyw gyfnewidiad sydyn yn y tywydd yn waBtadol yn achosi gweithrediad afreolaidd yn y corph, dynol. Y mae yn bwngc o bwysigrwydd blaenaf i gywiro pob afreoleidd-dra heb oediad, yr hyn sydd yn ngailu pawb i'w wneud drwy gymmeryd Pelonati Holloway. Y Pelenau hyn ydynt yr, attalfa oreu rhag diffyg treuliad, a'r feddyginiaeth ryddhaol oreu a barottowyd. Purant ac oerant y gwaed, a rheoleiddiant ei rediad drwy yr boll gyfansoddiad hyd yn nod i'r llestr manvlaf yn y croen. Gweithredant yn rhagorol ar yr afu ar kidneys. Drwy yr effeithiau iachusol hyn ysgoir llawer o an- hwylderau, ae attelir afiechyd mwy difrifpl. Llesheir personau darostyngedig i'r bile, gwynt, gymmalwat, crydcymalau, &c., drwy y feddyginiaeth hon.
Y PRIF FARCHNADOEDD CYMREIG.
Y PRIF FARCHNADOEDD CYMREIG. ABERGELE, Hydref 17.-Gwenith, o 13s 6 c i 14s Oc yr hob; haidd, 10s 6c i 13s 6cyr hob; ceirch, 78 9c i 9a Oc yr hob; tfa, 16s Oc i 17s Oc yr hob; blawd ceirch, 3615 Oc 39s Oc y 24U pwys. ABERYSTWYTH, Hydref 5.—Gwenith, 7s Oc i 7s 9d y mesur; haidd, 4a 60 i 5s Oc; ceirch, 3s 6c i 4s 6c y mesur; ymenyn ffres, 18c i 18c y pwys; ymenyn ballfc, 151c i 16c y pwys; ednod, 3s 6c i 48 Oc y cwpl; pytatwe Os Oc i 08 Oc y canpwys. BANGOR, Hydref 16.—Gwenith, 40s 6c i 43s Oc y chwarter; haidd, 31s Oc i 35s Oc; ceirch, 21s 6c i 22s 6c blawd ceirch, 34s 6c i37s Oc y 240 pwys; ymenyn fires o 20c i 21c y pwys cig eidion, o 80 i 10c y pwys; cig defaid, o 8c i 9c y pwys; cig Iloi, o 70 i 8c y pwys. CAERNARFON, Hydref 17.-Gwenith, o 40s Oc i 42s 6c y chwarter haidd, 31s Oc i 368 Oc y chwarter ceirch, o 228 60 i 24s Oc y chwarter blawd ceirch, o 36a Oc i 38s Oc y 240 pwys. DINBYCH, Hydref 14.—Gwenith, 14s 00 i 15s Oe yr hob haidd, 13s Oc i 15s Oc yr bob ceircb, o 7s 6c i 9s 0c yr hob; ymenyn ffres, Is 7c i Is 8c y pwys tybiau bychain, Is 4d i Js 4e y pwys. LLANERCHYMEDD, Hydref 14.-Gwenith, 49s Oc i 49s Oc y chwarter haidd, 36s Oc i 37s Oc y chwarter; ceirch, 22s 00 i 23s Oc y chwarter blawd ceirch, 368 i 37s Oc y 240 pwys; pytatws, o 4s Oc i 0s Oc y 100 pwys; ymenyn ffres, Is 6c i 013 Oc y pwys; cig eidion, 0 8 j 8c y pwys cig defaid, 9o i Oc y pwys hams cartref goreu, o Is I Oc y pwys. LLANRWST, Hydref 13.—Gwenith, 16s Oc i 18s Oc yr hob haidd, lis Oc i 14s Oc yr hob; ceirch, o 8s Oc i 10s Oc yr hob blawd ceirch, 228 Oc i 22s Oc yr bob pytatws, 5s 0c i 5s Oc yr hob ymenyn ffres, o Is 7c i Is 8c y pwys; eig eidion, 7c i go y pwys cig dafad, o 80 i 10c y pwys. LLANGEFNI, Hydref 15.-Gwenith, 40s Oc i 42s Oc y chwarter; haidd, 30s 0c i 34s Oc y chwarter ceirch 21s 6e i 23s Oc y chwarter blawd ceirch, 34s Oc i 36s Oc y 240 pwys pytatws, 4s 6c y 100 pwys ymenyn ffres, Is 7c i Is 7c y pwys; cig eidion, o Sc, i 8c y pwys cig dafad, o 90 i 00 y pwys. -a Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan y Perchenog, KENMUIR WHITWORTH DOUGLAS, Argraffydd, &c., Heol Fawr, Bangor, dydd Gwener, Hydref 23, 1874.