Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
ARDDANGOSFA AMAETHYDDOL UWCHALED.
ARDDANGOSFA AMAETHYDDOL UWCHALED. Cynnaliwyd arddangosfa amaethyddol ar raddfa eang yn Ngherygdruidion ar yr 8fed o'r mis hwn. Troes allan yn llwydd- iant perffaith yn mbob ystyr. Ni welwyd erioed well casgliad o anifeiliaid Cymreig. Llywydd y gymdeithas oedd Syr W. W. Wynn, A.S.,yr hwn a danysgriifodd ugain punt atti. Cafodd dderbyniad fel tywysog gan amaethwyr parchus yr uclieldiroedd hyn. Yr oedd Meistri G. 0. Morgan, A.S., a Watkin Williams, A.S., befyd yn bresennol. Y gwahanol swyddogion oeddynt y rhai caialynol -IslyNvydd, Dr. Edwards, Tynrhyd; beirniaid anifeiliaid corniog, Mr E. Davies, Druid, Corwen, a Mr Williams, Gwernhefin meirch a da pluog, Mr Thomas Jones, Brynmelyn, Llandderfel, a Mr W. Edwards, Brewery, Rhuthyn; defaid ac offerynau, Mr Ro- berts, Tyffos, a Mr Vaughan, Penisa'r- llan ffrwythydd, Major Hughes, Ystrad, Dinbych,a Mr Haughton ,Bryngoleu; ymen- yn a chaws, Mr W. Thomas, Plasnewydd, Wyddgrug; yr hosanau, Mrs Davies, Druid, a Miss Annie Jones, Bala. Dyfarn- wyd y gwobrau canlynol:— Am y tarw Cymreig dros dair oed—1, D. Prichard, Hafodymaidd; 2, Mr J. Morris, Elorgareg-ucha; 3, Mr D. Ellis, Tymawr 4, H. Williams, Llechwedd- figin. Am y tarw Cymreig o dan dair blwydd oed—1, Mr D. Prichard, Hafodymaidd 2, Mr J. Edwards, Hafod-yr-Esgob 3, Mrs M. Jones, Bwleh-y-mawn; 4, Mr W. Jones, Bryn Eryr. Am y tarw Cymreig o dan ddwy flwydd oed—1, Mr J. Hughes, Tyddyn Tudur; 2, Dr. Edwards, Ty'nrhyd; 3, Mr D. Jones, Ty-isa 4, H. Evans, Tai-ucha. Am y fuwch Gymreig—1, Mr C. Ro- berts, Plas 2, E. Jones, Ty-du 3, Mr E. Williams, Cefn-liir-fynydd-ucha 4, Mr M. Jones, Gydros. Am yr anner Gymreig o dan dair blwydd oed—1, Mr J. Edwards, Hafod- yr-Esgob 2, Mr R. Jones, Hendre Ar- ddwyfan 3, Mrs Morris, Hafodwen 4, Mr H. Jones, Disgarth. Am yr anner Gymreig o dan ddwy flwydd-l, Mr D. Roberts, Ty'nyfelin; 2, Mr D. Prichard, Hafodymaidd; 3, Dr. Edwards, Ty'nrhyd; 4, Mr J. Williams, Ty'nypistyll, Llangwm. Am y bustach Cymreig o dan ddwy flwydd oed—1, Mr Thomas Owen, Aelwyd Brys; 2, Mr J. Hughes, Tyddyn Tudur 3, Mr J. Jones, Perthi Llwydion. Amy tarw goreu o unrhyw rywogaeth —W. Kerr, Ysw., Maesmor; 2, Mr D. Jones, Moelfre, Llangwm. Am y fuwch oreu o unrhyw rywogaeth —1 a 2, W. Kerr, Ysw., Maesmor. Am yr anner oreu o dan dair blwydd oed—1, Mr W. Parry, Queen 2, Mr J. Owen, Tynant, Llangwm. Am yr anner oreu o dan ddwy flwydd- 1 a 2, W. Kerr, Ysw., Maesmor; uehel ganmoliaeth, Mrs Jones, Lion Hotel. Am y gaseg wedd oreu gyda chyw—1, Mr W. Parry, Queen; 2, Mr W. Prichard, Cerniogau Bach. Am y par o geffylau goreu at ddyben- ion amaethyddol-l, Mr J. Owen, Ty- nantllwyn; 2, Mr D. Owen, Plas Onn. Am yr ebol neu eboles oreu at ddyben- ion amaethyddol, o dan dair oed—1, Mr M. Jones, Gydros; 2, Mr D. Prichard, Hafodymaidd. Am yr ebol neu eboles oreu o dan ddwy- fiwydd-l, Mr R. Jones, Pentre, Melin-y- wig; 2, Mr R. Williams, Llechwedd-y- figin. Am y ceffyl ysgafn goreu—1, Mr H. Parry, Bwlch-y-beudy 2, Mr D. Evans, Plas lolyn; uchel ganmoliaeth, Mr H. Jones, Llatliwryd. Am y ferlen a chyw goreu o dan 1.5 dyrnfedd—1 ac 2, Dr. Edwards, Ty'n Rhvel. Aill y ferlen neu ferlyn mynyddig goreu —1, Mr R. Jones, Hendre Arddwyfan 2, D. Jones, Ty-gwyn, Llangwm. Am y ferlen a chyw mynyddig goreu- 1, Mr Thomas Jones, Clust-y-blaidd; 2, Mr E. Hughes, Tai draw. Am yr hwrdd Gymreig goreu o dan bed- air oed—1, Thomas Jones, Tai ucha, Hafod Elwy; 2, Mr William Prichard, Cerniogau Bach; 3, Mrs Jones, Bwlch Hafod Einion; 4, Mr David Ellis, Ty Mawr. Etto, o dan ddwyflwydd oed—1, Mr J. Morris, Elorgareg; 2, Mrs Jones, Bwlch Hafod Einion 3, Mr Thomas Williams, Arddwryfan; 4, Mr Thomas Jones, Tai ucha, Hafod Elwy. Am y pedair mamog goreu o rywogaeth Gymreig dros dair oed—1, Mr R. Hughes, Clegir Isa; 2, Mr P. Rowlands, Ty'n-y glyn; 3, Mr Robert Jones, Hendre Ar- ddwyfan 4, Mr Hugh Parry, Bwlch-y beudy. Etto o dan dair blwydd aed-]) Misses J. a C. Hughes, Tai'n-y-Voel; 2, Mr D. Griffith, Cerniogau Mawr 3, Mr T. Owen, Tai Ucha. Am yr oer, myharen Mr J. Jones, Cysulog 2, Mr W. Parry, Queen; 3, Mr David Griffith, Cerniogau Mawr; 4, J. a C: Hughes, Tai'n-y-Voei, Am yr hwrdd goreu o unrhyw rywogaeth -1, Thos. Jones, Ysw., Tai Ucha, Hafod Elwy; 2, Dr. Edwards, Ty'n Rhyd; uchel ganmoliaeth, Mr J. Morris, Elorgareg. Am y ddwy ddafad oreu o unrhyw ryw- ogaeth—1, Mr R. Hughes, Clegir Isa; 2, Mrs Jones, Lion Hotel. Am y baedd goreu—1, Dr. Edwards; 2, Mr H. Parry, Bwlch-y-beudy. Am yr hwch fagu oreu—1, Thos. Owen, Aelwyd Brys 2, W. Jones, Bryn Eryr. Am y swedes goreu-I, Mr H. Parry; 2, Mr D. Williams, Ystrad; 3, Mrs Jones, Bwlch Hafod Einion; 4, J. a C. Hughes. Am y maip goreu—1, Mr David Jones, Dol Werfyl; 2, Mrs Jones, Bwlch-y niawn 3, Mr J. Jones, Tai'n Rhos. Am y mangolds goreu—1, Dr. Edwards, Ty'n Rhyd. Am y pot o ymenyn goreu—1, Mrs Jones, Bwlch Hafod Einion; 2, Mr H. Evans, Tai Ucha; 3, Mrs Jones, Pentre Cwm; 4, Mrs J. Davies, Creigiau'r Bleiddiau. Am y pedwar pwys o ymenyn goreu—1, Mrs J. Davies, Creigiau'r Bleiddiau; 2, Mrs Jones, Pentre Cwm 3, Mr William Hughes, Pant Dedwydd; 4, Mr E. Hughes, Pant y Gaer. Am y cosyn o gaws goreu—1, Mr H. Jones, Llathwryd; 2, Mr D. Jones, Ty Isa; 3, Mr H. Parry; 4, Mr T. Williams, Arddwyfan. Am y ceiliog a dwy iar goreu—1, Mr W. H. Carpenter, Llangwm; 2, Thomas Hughes, Llanfihangel; 3, Mrs Jones, Bwlch Hafod Einion. Am yr hwyiaid goreu—1, C. S. Main- waring, Ysw., Llathwryd; 2, Mr W. H. Carpenter, Llangwm 3, Mr W. Evans, Hafod Llan Isa. Am y gwyddau goreu—1, Mr E. Jones, Cefn Nanau 2, E. Jones, Groroudd 3, Mr E. Jones, Hendre.
YMDDYGIAD ARGLWYDD PENBHYN…
YMDDYGIAD ARGLWYDD PENBHYN TUAG AT EI WEITHWYR. FONEDDIGION,—Yn ngwyneb y cyhudd- iadau brwnt ac anwireddus sydd yn cael eu taenu am Arglwydd Penrhyn y dydd- iau presennol trwy y wasg, a chan orators Radicalaidd mewn cyssylltiad a'r strike yn y chwarel, sef fod ei arglwyddiaeth yn ymddwn yn greulon, anonest, &c., tuag at ei weithwyr, rhoddaf ychydig o engreifft- .YT I iau o ymddygiadau ei arglwyddiaeth tuag at ei weithwyr, modd y gallo y wlad wybod y gwirionedd pa fodd y mae yn yiii- ddwyn tuag attynt. Yn mis Gorphenaf, 1872, fe ddaeth fall fawr yn y chwarel, pryd yr amddifadwyd o 400 i 600 o'r chwarelwyr o'u bargeinion a'u harfau, pa rai a aethant yn chwilfriw yn y dymchwel- iad. Nid oedd gan y dynion hyn ddim i'w wneud mewn canlyniad i'r ddamwain ond yn hytrach na'u troi i fibrild gosod- wyd llawer o honynt i weithio ar y graig ddifudd, pa un nad oedd yn d wyn dimai o elw i'w arglwyddiaeth, chwanegwyd y rhif mewn bargeinion ceryg o'r gweddill, a digolledodd ei arglwyddiaeth y dynion trwy dalu am set newydd o arfau i bob un o honynt, ac ni throwyd gymmaint ag un i ffordd. Mae cannoedd o hen bobl yn gweithio yn y chwarel, pa rai nad ydynt yn dwyn dim elw i'w arglwyddiaeth, ac nad oes rhwymau arno eu cadw; etto mae yn rhoddi cyflogau da iddynt. Pe buasai Arglwydd Penrhyn yn ymddwyn yn greulon ac anonest tuag attynt, mae yn debyg mai yn y tylotty, neu yn derbyn cymmorth o'r plwyf y buasai y dosbarth yna. A phan fydd damwain angeuol wedi cyfarfod rhai o'r gweithwyr, mae yn rhoddi 5p. yn flynyddoi i'r weddw, a swm pennodedig ar gyfer pob un o'r plant. Medrwn nodi cannoedd o engreifftiau o'r uchod. Mae Arglwydd Penrhyn wedi talu cannoedd o bunau dros amryw o'i weith- wyr mewn hospitals yn Llund'ain, pa rai a anfonodd yno i wella eu clyw ac amryw anhwylderau ereill. a phan fydd afiechyd yn mysg eu teuluoeud, mae Castell y Pen- rhyn yn agored ddwywaith yr wvthnos i dderbyn eu cwynion, ac i gyflenwi eu hanghenion, a chawn eu gweled wrth yr ugeiniau yn cyrchu adref o'r Castell yn llwythog o bob danteithion, megis cig, gwin, &c. Hefyd, mae yn gofalu am y gwan hen, a phlant yr ysgolion, trwy ddarparu clybiau ar eu cyfer, yn mha rai y mae yn dosbarthu gwerth cannoedd o bunau bob blwyddyn o l'rethynau, gwlan- eni, &c. A phan fydd eisieu tir i adeiladu capel y mae bob amser yn caniattau, a chyda'r rhwyddineb mwyaf bydd yn caniattau adnewyddu y brydies pan ddaw y tymmor cyntaf i ben. Bydd yn cyfranu yn helaeth i Fwrdd Iechyd Bethesda pan fydd eisieu gwneud gwaith dwfr, drainio, neu rywbeth o'r fath, ac nid yw byth yn gadael i'r trethi gael eu chwyddo ar gefn ei weithwyr, ond yn hytrach yn cymmeryd eu beichiau arno ei hunan, ac yn talu yr hyn sydd yn ddyledus at wasanaeth y bwrdd. Ni waeth lieb ymhelaethu ar haelioni Arglwydd Penrhyn, canys medrwn orlenwi cyfrolau ar y pen yna. WHYDAH.
[No title]
Yn y dyfodol bydd yn ofynol anfon llyth- yraui Langernyw drwy Abergele, yn lie drwy Lanrwst, fel o'r blaen.
,CYFARFOD LLENYDDOL EBENEZER,…
CYFARFOD LLENYDDOL EBENEZER, BANGOR, A "WAETH PWY." FONEDDIGION,—Gwelwn yn eich rhifyn diweddaf o Llais y Wlad rywbeth ar iun adroddiad o'r cyfarfod uchod, gan un a ymgyfenwa yn "NITaeth Pwy." Dyma'r ysgrif fwyaf clogyrnaidd, dichwaeth, ac anfedrus a ddarlienasom erioed mewn un- rhyw newyddiadur. Cynghorwn ei fawr- hydi, Waeth Pwy," i fyned i'r ysgol bob wythnos at yr un a aeth a'r llawryf oddi- arno, (canys y mae'nddiamheumai "colli'r dydd wnaeth iddo gynhyrfu i geisio isel- hau y beirniaid.) Nià oedd yr araeth synwyrlawn a'r cynghorion buddiol a gaf- wyd gan y llywydd, na'r beirniadaethau galluog, a'r cyfarwyddiadau gwerthfawr a roddwyd gan y beirniaid, yn werth sylw, yn ol barn bwyllog (?) un sydd, mae'n sicr, yn arfer barnu yn gyfiawll eithr y pethau a ystyriai ef yn werthfawr oedd y gwenau a'r digrifwch a greai Myn- yddog, a dyna, medd ef, oedd yr hyn a hynodai y cyfarfod. Cymmaint a hyna am ei chwaeth goethedig (?) ef. Ai nid eisteddfod led oedd hi, "wys"? lYIae y frawddeg hon, yn mha un y sonia am an- allu mor wag o synwyr, mor dywyll, ac mor fyr o feddwl ag yw penglog Waeth Pwy." Yr ydym wedi ceisio dyfalu pa beth a feddylir yn yr ymadrodd crybwyll- edig; ond er treulio amser nis gwyddom etto, gan mor wirionffol ydyw. Os rhodd- ir iddi ei meddwlyn oleidarlleniad, sef, nad oedd y boneddigion a wasanaethasant fel beirniaid yn alluog i gyflawni eu gorchwyl, y mae yr haeriad yr un mwyaf beiddgar a dirinygus a ysgrifenwyd gan unrhyw grachfeirniad na llenlleidr o ddyddiau Martinus Scriblerus. Yr idea fod person mor gyfrifol (?) a hwn sy'n gallu cyflawni cynnifer o wallau mewn cyn lleied o linellau, yn cyhuddo rhai o brif feirniaid ein heisteddfodau o fod yn analluog i feirniadu, am na chawsant fanteision a cliyfleusdra i wneuthur hyny." Y beirn- iaid oeddynt y Parch. Mr Williams, Beth- esda Mynyddog, Gweirydd ap Rhys, y cerddor galluog Isalaw, a Phencerdd Gwynedd. Hefyd yr oedd yno ddau neu dri ereill yn beirniadu testynau i blant o dan 15 oed. Dyna y "beirniaic1 dirifedi, y rhai nad oeddynt, wrth reswm, yn alluog i gyflawni eu gwaith," yn ol golygiad goleu- edig (?) "Waeth PWy." Os nad yw ein gweinidogion a'n beirdd blaenaf, a'n cerdd- orion galluocaf yn alluog i feirniadu, pwy, ynte, sydd wedi cael y manteision a'r cyf- leusderau i fod yn feirniaid ? Cyfarfod mor fychan," meddai, ond ychydig cyn hyny dywed fod y programme yn ddigon o faint i lanw eisteddfod! Dyma wrthddywediad teilwng o'r beirniad. "Nid oedd dim yn yr artistesmeddai, oddi- eithr Isalaw." Yn annibynol ar y beirn- iaid nid oedd yno ond un artiste, sef Mr Edward Myrddin Jones, yr hwn a wnaeth ei ran yn rliagorol. Yn y bennod bwys- fawr (?) yma ar yr artistes, dywed fod clod Isalaw drwy y wlad fel cerddor gallu- og a medrus;" ond yn y frawddeg nesaf geilw eu ganigau yn paltry glees, "nad oedd y dorf yn eu hystyried hwy yn werth ond un encore drwy yr holl gyfarfod." Y fath gyssondeb Wrth geisio darostwng y cor, gwna ei arwr yn gydradd a "Waeth Pwy." Dywed nachafodd y cor ond un encore drwy yr holl gyfarfod, ond y mae hyn yn an- wiredd. Canwyd pedwar o ddarnau gan y cor, ac encorwyd tri o honynt; ond gwrthodwyd yr encores gan Mynyddog, fel arweinydd. Felly, anwir noeth yw na chymnleradwyodd y gynnulleidfa ddatgan- iad y canigau gan y cor. Yr oedd y cor wedi ei sefydlu yn bwrpasol at yr achlysur dan arweiniad Mr Thomas Thomas, Tan- yrallt, gwr sydd wedi profieihunyn gerdd- or galluog drwy ymarferiad, ac nid drwy siarad. Heblaw medr y cor, yr hyn a siaradai yn uchel am ei-arweinydd, dy- wedai Mynyddog, dynpenaf "Waeth Pwy," am y pump genethod ieuaingc a gystad- leuasant ar ddatganu Anwyl yw Gwalia fy Ngwlad," "na chlywsaigynnifer o blant erioed yn canu cystal yn ystod ei holl deithiau, a'u bod wecli canu yn rhagorol." Yr oedd y rhai hyn yn aelodau o'r cor, ac wedi eu hyrwyddo gan yr arweinydd. Dywed yr olaf fod Pencerdd Gwynedd wedi chwareu yn fedrus ar yr harmonium. Do, yn odidog; ond annghofiodd 11 Waeth Pwy" ein hysbysu mai Miss Savage oedd yr accompanist^ yr hon sydd yn haeddu uchel ganmoliaeth am ei gwasanaeth gwerthfawr gyda'r offeryn yn wastadol. Hefyd, ni chrybwyllodd enw Mr Adoniah Evans, yr hwn a chwareuodd ar yr ber- doneg, ac a ganodd gan yn ganmoladwy iawn. Cymmered Waeth Pwy fwy o ofal y tro nesaf pa beth a pha sut i ysgrifenu; neu gall ddyfod i gwrdd â phrofedigaetbau heb ddisgwyl am danynt. S. E. Bangor, Hydref 19fed. O.Y.—Digrif braidd yw gweled y gwr bach yma, ar ol cymmeradwyo gwaith Mynyddog yn creu gwen a digrifwch," yr hyn a fwynheid mor amlwg ganddo ef yn y cyfarfod, yn troi i ofyn mor hirwep yn ei O.Y. a ydyw yn ymddygiad cre- fyddol cynnal cyngherddau a chyfarfodydd I llenyddol ysgafn a chwerthinllyd, ac yn deilwng o broffeswyr creiydd ?" Heblaw fod yr ymadrodd yna yn .orddwwiolfrydig, y mae ei gyfansoddiad mor ddwfn ram- madegol fel y mae'n anhawdd iro, ben i ddyn cyffredin ei ddeall.—S.E.
LLAITHFAEN.;.
LLAITHFAEN. FONEDDIGION,—Caniatewch i mi, trwy gyfrwng eich newyddiadur clodwiw, i ofyn i rai o'ch gohebwyr am ychydig o eglur- had mewn perthynas i'r maen a adna- byddir, trwy ranau helaeth o'r Dywysog- aeth, wrth yr enw "Llithfan." Y mae rhinweddau meddyginiaethol y maen hwn yn ddigon hysbys i'r rhan fwyaf o deulu- oedd Ceredigion a'r amgylchoedd" fel y feddyginiaeth fwyaf sicr ac effeithiol rhag y gynddaredd (hydrophobia). Y mae cryn lawer o ddyfalu wedi ac yn bod yn nghylch y maen hwn, sef o ba le y cafwycl ef, gan nad oes neb, hyd ag y gwn i yllt bresennol, yn gwybod gyda sicrwyddl ddim am dano yn ei gyflwr cynhenid.. Dywed rhai am y modd a'r lie y cafwyd ef fel y canlyn :—Mai dyn, yr bwn a frathwyd gan gi cynddeiriog, a redodd i'r mynyddoedd o dan effaith y gwenwyn, ac* wedi bod yno ryw yspaid, iddo orwedd. wrth ochr careg fawr a chysgu, lie hefydi y breuddwydiodd os byddai iddo fwyta o'r gareg neu y maen hwnw y buasai yn sicr o gael ei adferyd i'w iechyd blaenorol. Yn fuan deffrodd, a gwnaeth brawf ar fwyta'r maen, a gwellliaodd yn holliach. Yn mhellach, dywedir i'r maen hwn gael ei dori yn fan ddarnau, ac i bawb trwy yr holl wlad gael darn o hono. Hefyd, dy- wed credinwyr y dyb hon mai mynydd beb fod yn mhell o Lanymddyfri, yn sir Gaerfyrddin, oedd y llanerch, yr hwn s. adnabyddir yn bresennol o dan yr enw Mallan, llygriad, meddant, o laithfaen. Ereill sydd yn ddigon hygoelus i ddy- weud mai y maen hwn oedd ar gorph yr Arglwydd Iesu yn y bedd, a priodolant ei rinweddau meddyginiaethol i rinwedd y corph fu yn gorwedd dano. Adroddir llawer ochwedlau ereillamymaenhwn, ond ni chaniata amser na gofod i ni eu cyfleu yma. Ond beth bynag am ei ddechreuad, y mae yn ddigon sicr ei fod yn feddygin- iaeth odidog at wellhau y gynddaredd, ac yn llawn mor sicr a byny ei fod yn prin- hau yn y parth hwn o'r wlad, fel mai gydag anbawsder y gellir ei gael mewn llawer man. A wnaiff Dafydd Eppynt neu Craig y Foelallt ddim sylw ar y pwngc ? CWMBREFI.
------..- --"--...-----'(.…
'(. EISTEDDFOD BANGOR. FONEDDIGION,-Caniattewch i mi longy- farch ein cyfaill gwladgar, Mr Richard Evans, Brynteg, Llandudno, -ar ei waith yn golchi ei ddwylaw yn eich rhifyn di- weddaf oddiwrth fudrwaith pwyllgor Eis- teddfod Bangor. Teimla pob dyn anrhyd- eddus fod ymddygiadau y Bangoriaid yn fotio ugeiniau o bunau o arian y genedl i'w cyfeillion eu hunain, yn warth i bob un a feddai lais yn yr achos. Buasai llawer yn ddiolchgar i Mr Evans pe cyhoeddasai restr o enwau y bradwyr hyn i lwyddiant yr eisteddfod, gael i'r wlad eu gochel mwy.—Yr eiddoch yn gywir, WM. ROBERTS, Frondeg, Portdinorwic. O.Y.—Pa bryd y ceir beirniadaeth ar y traethodau ar y Meistr a'r Gweithwyr ?— W.R.
Y BEIRDD CADEIRIOL.0;
Y BEIRDD CADEIRIOL. 0 FONEDDIGION,-Teimlaf yn ddiolchgar os byddweh mor garedig a chaniatau i mi hysbysu eich gohebydd Homo Wyn," trwy gyfrwng y Llais, fod pum' bardd cadeiriol na enwyd yn y rhestr a ym- ddangosodd yn Llais y Wlad, sef Cam Elian, Rhydderch Ab Morgan, Dyfedfab, Brynfab, ac Enis Ddu. Nid wyf yn cofio am un bardd cadeiriol arall yn awr. AB IRVON.
[No title]
JI Rhydd gohebydd neullduol y Western Mail adroddiad dyddorol o'i ymweliad a, John Frost, o enwogrwydd Siarteraidd. YNYS YR AROH.—Te Parti.—Dydd Sad- wrn diweddaf, anrhegwyd plant yr Ysgol Genedlaethol uchod a the a bara brith, &c., gan yr athraw, Mr John Powell, yr hwn sydd yn teilyngu clod nid bychan am ei garedigrwydd yn rhoddi y fath wledd, a'r oil ar ei draul ei hun. Daeth nifer liosog yn nghyd a chyfranogasant yn llawen o'r danteithion blasus ac ar ol i bawb gael eu gwala a'u gweddill, rhanwyd yn ei mysg amryw lyfrau gwerthfawr, i'r rhai oedd wedi bod yn yr ysgol yn gysson am 250 o weithiau yn ystod y flwyddyn, yr hyn sydd yn ofynol gan y Llywodraeth cyn y ceir arholi gan yr inspector. Gwein- yddwyd wrth y byrddau gan amryw o foneddigesau ieuaingc yn y gymmydog- aeth. Am saith yn yr hwyr cynnaliwyd cyngherdd yn yr un lie gan amryw gantor- ion adnabyddus. Yn eu mysg yr oedd Eos Beuno, a chanodd yr Eos yn wir dda, ac hefyd canwyd amryw ddarnau gan gor y lie. Yr oedd y canu yn bur dda drwyddo, a'r ystafell yn orlawn o wrandawyr. Y llywydd ydoedd Mr D, Rowlands, Ty'r Dewin.-R. Evans,