Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

NEWYDDION CYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NEWYDDION CYMREIG. BLAENAU FFESTINIOG. Cyitghei-dd.- Nos Fawrth, Tachwedd lOfed, yn yr Assembly Boom, cynnaliwyd cyngherdd mawreddog gan y Barlwyd brass band dan arweiniad eu hathraw medrus, Mr W. R. Jones. Llywyddwyd yn fedrus gan y Parch. Samuel Owen, jLanygrisiau. Cyfa?f'od Llenyddol Chicarel Mri. Hol- land.-Y mae yr uchod ar y rhiniog, ac y mae yna ddeuddeg o ymgeiswyr am y gadair. Y testyn ydyw rhiangerdd, heb fod tros 60 llinell.—Ymadawiad Bardd.— Drwg genyf hysbysu ein bod wedi gorfod ymadaw a, chyfaill ieuangc talentog, J. Griffiths (Ap Ceinwen). Aeth adref i Fon. -Gohebydd. BODEDERN, MON.—Ychydig o newydd- ion sydd yn cael eu cofnodi o'r lie uchod yn ngholofnau Llais y IV7ad, er fod yma gylchrediad mawr i'r papyr teilwng a chlodwiw hwnw. Os byddwch mor hy- naws a chaniattau i'r nodyn hwn ym- ddangos yn y rhifyn nesaf, bydd y wlad yn hysbys o ddau ddigwyddiad lied bwysig a gymmerasant le mewn cyssylltiad a Bodedern yn ystod yr ychydig ddyddiau diweddaf. Y cyntaf ydoedd dirwyo yr overseer i ddwy bunt a'r costau, mewn canlyniad i un o'r campau mwyaf baw- aidd (ag ydynt yn rhy iynych, ysywaeth, yn hynodi y blaid Radicalaidd) mewn cys- sylltiad a chofrestriad etholwyr y plwyf; ond teg ydyw crybwyll nad oedd y bai yn gorphwys ar yr overseer o gwbl, eithr ar benboethiaid ag sydd ar bob achlysur yn dangos mwy o sel ddalbleidiol nag o farn, doethineb, a phwyll. Yr ail ddigwyddiad ydoedd ymweliad yr aelod anrhydeddus dros sir Fon, sef Mr Richard Davies. Cynnaliwyd y cyfarfod mewn llofft ystabl, a chymmerwyd y gadair gan bregethwr Methoaistaidd, byrdwn can yr hwn ydoedd creu teimladau cas a dryllio y lingc fodd- haol sydd rhwng y tenantiaid a'r meistr- adoedd tir. Gwelwyd amser pan y llwyddasid i wneud hyn, ond y mae peth- au wedi newid erbyn heddyw. Gwyr y tenantiaid pwy yw eu cyfeillion, yn fcghyda'r rhwymedigaeth sydd arnynt i gydtfurfio a'u meistr tir yn eu barn yn nglyn a phyngciau politicaidd o leiaf, canys dall yw pob dyn na wel fod lies y uaill yn lies y Hall hefyd. Dyn helpo y llefarwr, gan hyny, oblegid nid oedd ei holl hyawdledd (?) yn y cyfeiriad hwnw amgen na chwipio hen geffyl marw. Siaradodd yr aelod anrhydeddus mewn ysbryd boneddigaidd, a thra gwahanol i'r dull a gymmerasai yn Lianerchymedd. Dichon mai yr achos o hyn ydoedd absen- noldeb Morgan Lloyd a'r Apostol Hedd- Wch, y rhai oeddynt yn cynnal ei freich- lau yn Llanerchymedd. Annerchwyd y cyfarfod hefyd gan Mr T. Lloyd, Llywen- an. Gwaith hwn ydoedd gorganmol Mr Richard Davies a darostwng Cadben l-<n Ilrc-1An /1- — ^arem Wybod gan Mr T. Lloyd pa beth ydoedd y campau drwg y cyfeir- lai attynt yn ei awgrymiadau, a pha awd- urdod sydd gan T. Lloyd i farnu buchedd neb, a pha gyssylltiad sydd rhwng hyny a pholitics ? Condemniai ef Cadben Bulkeley hefyd yn ofnadwy am nad all siarad Cymraeg. Ai tybed y buasem yn dyweud newydd wrth Mr T. Lloyd pe yr hysbysem ef na fedr ef ei hun ddim siaraA na Chymraeg na Saesneg yn ddealladwy ? Adroddodd pregethwr y Bedyddwyr ryw stori lied wirion yn y cyfarfod, ond iris gwyddom yn ein byw pa gyssylltiad sydd rhyngddi a'r achlysur. Cyn terfynu, gofynaf pa le, yn enw pob rheswm, y gallai fod cyssondeb yr aelod dros Fon, yr hwn yn Llanerchy- medd a gondemniai yr offeiriaid a gym- merasant ran yn yr etholiad diweddaf, ond na weinyddai gymmaint ag un gair o gerydd ar y pentwr man bregethwyr oedd- ynt yn ymryson am gael dyweud rhyw- beth er mwyn clywed eu llais eu hunain yn nghyfarfod Bodedern ?--Ecleynt. CAEIRNARFON.-Nos Lun diweddaf cyn- naliwyd cyngherdd mawreddog yn y Guild Hall, Caernarfon. Y boneddigion o dan nawdd pa rai yroeddy cyngherdd oeddynt Lewis Lewis, Ysw., Maer, a Cadben Verney. Hefyd ar yr esgynlawr yr oedd James Rees, Ysw., y cyn-faer. Yr oedd hysbysleni mawrion wedi eu lledaenu trwy y dref ac enwau y rhai canlynol arno i wasanaethu :—Llew Llwyfo, Mr Sauvage, Miss Jones (Ruthyn), Eos Eryri, Miss Roberts (Lerpwl), Mr Roberts (organydd, Bethesda), Mr Howell Williams (violin), Mr J. Williams (harmonium), Mr Walter Davies (cornet), yn nghyd a chor Engedi, yr hwn a fu yn fuddugoliaethus yn Eis- teddfod Bangor. Yr oedd y neuadd yn orlawn cyn pen chwarter awr wedi iddi gael ei hagor. Yr oedd Llew yn cwyno ei fod wedi cael anwyd trwm, ond er hyny dangosodd mai efe oedd y cadben. Canodd Mr Sauvage yn ardderchog, a chawsom ddeuawdiau gan Llew a Sauvage dair gwaith, a cbawsant encor bob tro. Ar gais bloeddiadau y dorf canasant Betti Wynn," yr hon a dderbyniwyd mor frwd-I frydig yn Eisteddfod Bangor. Canodd Misses Boberts a Jones, ac Eos Eryri yn swynol iawn, ac hefyd yr un modd y chwareuodd Mri. Williams a Davies ar eu hofferynau. Chwareuodd Mr Roberts, Bethesda, y Grand March," yr hon a gyfansodclodd gogyfer a'r cyngherdd hwn, a chafodd dderbyniad gwresog. Cawsom ein siomi yn ddirfawr yn nghor Engedi; canu yn farwaidd iawn a ddarfu iddynt, yn enwedigyn y darn "When His loud Voice," ond am Seren Unig," Isalaw, darfu iddynt dori i lawr ar ei chanol, ac wedyn ail ddechreu. Traddododd Alavon ddau englyn campus i'r Llew a Sauvage. Terfynwyd y cyngherdd trwy i Cadben Vorney gynnyg pleidlais o ddiolchgarwch i'r cadeirydd, ac eilwyd hyn gan Mr Rees, y cyn-faer.—Gwrandaivr. CAPEL CURIG.—-Llaivenydd Priodasol.- Bu yn yr ardal hon nid ychydig o lawen- ydd a rhialtwch dydd lau, y 12fed cyfisol, ar yr achlysur o uniad Mr W. E. Parry, managex y Capel Curig Slate and Slab Company, a Miss Davies, Bryntyrch Hotel, yn nglan ystad priodas. Dathlwyd dydd eu priodas yn deilwng, a dyrnai y mag- nelau drwy'r dydd. Gwelid banerau yn chwyfio yn yr awel mewn amrywiol fanau, ac ymrysonai gweithwyr llech-chwarel y Rhos mewn dangos parch i'w manager teilwng a haeddbarch. Dymunwji hir oes a phob dedwyddwch i'r par ieuangc hwn.-B. COLWYN.—Olierwydd annghydwelediad rhwng offeiriad y plwyf a'r YmneullduwY11, codwyd yma ysgol Frytanaidd ychydig flynyddau yn ol. Cafwyd addewidion rif y gwlith at ei chario yn mlaen ond erbyn hyn gondns yw cofnodi fod y baich o'i chario yn mlaen yn gorphwys ar bedair ysgwydd ac nid annaturiol ydyw y drych- feddwl sydd wedi meddiannu y sawl sydd dan y baich o daflu yr ysgol ar y dreth. Er mwyn cael gwybod meddwl y treth- dalwyr ar y matter yma cynnaliwyd cyfar- arfod nos Wener, y 13eg cyfisol. Yn absennoldeb y Parch. J. D. Jones, ethol- wyd Mr Frost, o Minydon, i'r gadair lyw- yddol, yr hwn a'i llanwodd yn anrhyd- eddus. Cafwyd araeth gall gan Mr Jeff- reys, yr hwn oedd ddigon pleidiol i fyned dan y bwrdd ysgol os gallai y blaid wrth- wynebol ei ddarbwyllo fod hyny yn angen- rheidiol, ac na fedrid gwneuthur ydiffyg i lyny gyda'r gyfundrefn wirfoddol. Dad- leuai Mr Boberts, Ship Hotel, yn wresog nad oedd angen am fwrdd ysgol, ac yr oedd yn hyderus y gellid gwneuthur pob diffyg i fyny heb dreth. Siaradwyd hefyd gan Mr R. Evans, Church Walks, a Mr Owen Williams, Shop. Gallwn gasglu oddiwrth un o'r areithiau mai Colwyn ydyw y lie mwyaf anwybodus, budr, a meddw, yn yr holl Dywysogaeth. Yn mha le yr oedd gwroldeb y Colwyniaid pan ddywedid hynyna am danynt ? Onid oedd yna gymmaint ag un a'r gwroldeb angen- rheidiol i ofyn i'r llefarwr brofi ei bwngc ? Pleidleisiodd 24 yn erbyn bwrdd ysgo,, a 4 o blaid.- Un oedd yno. COLWYN BAY.—Nos Fawrth, y 10fed cyhsol, cynnaliwyd cyfarfod yn Mission Chapel y lie uchod, i'r dyben o gael gwy- bod ai dymunol i drigolion Lilandrillo fyddai ymuno ag Eirias neu Colwyn er mwyn ifurflo un dosbarth bwrdd ysgol. Cymmerwyd y gadair gan y Parch. Ven- ables Williams, fic-sr y plwyf, ac y mae yn ddiamheu fod yr oil oedd yn bresennol yn falch o'i weled yn edrych mor dda ar ol ei gystudd. Bu tippyn o ddadl rhwng y cadeirydd a Mr Roberts, Ship Hotel, ond bu raid i'r olaf dewi oherwydd nad oedd ganddo ddim tir i sefyll arno, ac hefyd yr oedd yn amlwg fod y Parch. V. Williams yn analluog i gario ysgol ymlaen oher- wydd y fath wrfchwynebiad, ac wedi pen- derfynu cael bwrdd ysgol i'r plwyf, ac wedyn dyna ben. Cafwyd araeth hir- wyntog (ond feallai mai byrwyntog ddylai fod oherwydd ei mynych intervals-lor "appla/use," mae yn debyg), gan Mr Jeffrey Thomas, prif amcan yr hwn ydoedd seboneiddio y cadeirydd. Ar ol llawer o siarad hollol ddibwynt, rhanwyd y ty, a chafwyd yr oil o'r trethdalwyr, yn bersoniaid a ffarmwyr, yn bleidiol i un- iad, oddiethr Mr Matthew, y Groes, a Mr Roberts, Ship Hotel, yr hwn sydd yn wrthwynebwr cadarn i'r bwrdd ysgol. Ychydig flynydclau yn ol bu yma helynt chwerw, a safodd y Parch. J. D. Jones y pryd hyny fel cawr yn erbyn y bwrdd, ond wele ef yn awr yn mysg ei ddifenwyr gynt. Consistency, frodyr ond rhydd i bawb ei farn, a rhydd i minnau lefaru; felly cewch glywed oddiwrthyf etto.-Sion Owan Jack. HENDU, PONTARDULAIS. Mae Budd Gymdeithas Adeiladu Barhaol Pont- ardulais, newydd gynnal ei chyfarfod cyffredinol biynyddol yn yr Ysgoldy Cenedlaethol uchod. Nid oedd yr aelodau wedi dyfod yn nghyd mor lluosog ag y disgwylid, er fod cynnulliad lied dda yn bresennol, ac yn eu plith ddau o gynnrych- iolwyr y wa&g, nid amgen—gohebydd y Llanelly Guardian, a gohebydd y bytvys- ogaeth, yr hwn hefyd oedd yn cynnrychioli eich newyddiadur chwi, Mri. Gol. Cym- merwyd y gadair gan B. J. Letcher, Ysw., manager gwaith Alcan yr Hendu, yr hwn a draddododd araeth alluog ar sefyllfa lewyrchus y gymdeithas, a'r budd sy'n deilliaw oddiwrth ymuno a hi, fel y gallo pob un ddyfod yn berchen ar ei dy ei hun. Darllenodd Mr D. Rewbridge, yr ysgrif- enydd, gyfrifon y gymdeithas, a derbyn- iodd yr aelodau y mynegiad yn Ilawen, wrth weled fod sefyllfa mor lewyrchus ar y gymdeithas. Yn ystod y flwyddyn ddi- "veddaf bu cynnydd o 155 yn y cyfranau; rhoddwyd y swm o 1,0050p, yn echwynion ar dai; a gosodwyd 7 t y cant o log 2 gyferbyn a'r cyfranddalwyr. Ail-etholwyd y pedwar cyfanvycldwr oedd yn myned allan o swydd; ac etholwyd Mr D. Evans, O. M., Gorslas, a M. D. Jones, C.M., Hendu, yn gyfrif-ymchwilwyr am y flwyddyn ddyfodol. Mae y manteision a rydd y gymdeithas hon i bersonau sydd yn awyddus am berchenogi tai, neu dderbyn Hog da am eu harian, yn awr yn eglur, a gobeithio y gwna pawb yn gyffredinol werthfawrogi y cyfleusdra hwn, trwy vmuno a hi. LLANDECWYN. — Mae yn meddiant Mr William Owen, Maes-y-llan, Llandecwyn, ddwy iar, y rhai a gyd-ddeorasant, un ar bump a'r llall ar saith o gywion, a phan welodd yr hon oedd a phump fod gan y llall saith, fe aeth yn ymladdfa cydrhyng- ddynt yn y fan, yr hon a barhaodd nes gorfod i'r hon oedd a saith roddi un i'r llall, nes oedd ganddynt chwech bob un. Maent yn awr tua chwech wythnos oed, ac yn dyfod yn mlaen yn rhagorol. Mae yr hanesyn bychan yma yn hollol wir oherwydd yr wyf yn eu gweled bob dydd.- Gohebydd. LLANRUG.- Y Seindorf Bi-es.-Gall-ti fod lluaws yn medJwl fod y seindorf uchod wedi rhoddi eu telynau ar yr helyg (fel y byddys yn arfer dyweud), ond y mae yn dda genyf hysbysu eu bod hwy etto wedi ailymaflyd yn eu hofferynau. Yr achos o'r distawrwydd ydoedd fod y foneddiges hynaws a charedig, Mrs Duff, o Glan y Bala, wedi bod yn wael am amser maith, a bod yr ystafell lie byddai y seindorf yn ymarfer yn agos i'w phalas. Ond yn awr, mae Mrs Duff wedi ein gadael, ac wedi myned i ffordd yr holl ddaear, a'i lie nid edwyn ddim o hcni mwy; ac y mae yn golled fawr i'r seindorf ar ei hoi, gan y byddai yn rhoddi arian lawer at eu haddysgu. Hefyd byddai yn rhoddi an- rhegion iddynt, fel y mae gan bob un o honynt rhywbeth yn gyssegredig i gofio am Mrs Duff; ac ar wyliau y Nadolig ers pan oedd hi yn Glan y Bala byddai yn rhoddi swper blynyddol iddynt. Ac nid i'r band yn unig y byddai yn cyfranu, ond i lawer o blant amddifaid a gwragedd gweddwon o Lanberis a'r cyffiniau. Hefyd yn yr hospital y mae y golled yn anadfer- adwy braidd ar ei hoi. Heddwch i'w llwch hyd ganiad yr udgorn diweddaf.— Oliver.

DAMWAIN ANGEUOL I GYMRO YN…

[No title]

MACHYNLLETH.

[No title]