Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

----.----------"-'"-----,,-,,-_._---NODION…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION 0 GEREDIGION. Yr ydwyf, ers ugeiniau o flynyddau meithion wedi aros uwch y byd a'i anni- bendod yn fud a distaw, ond beliach nis gallaf fod felly am fy mod yn credu fod yr hyn a wn o werth i'r byd ei wybod. Nid yn ami y clywais gymmaint o ganmol ar un peth ag a glywais ar lythyrau Gor- onwy yn y Western Mail ar grach a thwyll Eisteddfodau Ceiniog Capeli Cymru. Yr oedd y cyfryw gynnulliadau wedi troi stymog pob dyn o sylw a chwaeth a'i gwyneb allan. Buwyd yn gobeithio y gwnai y ffrewyll a'r fflangell les i gefn yr ynfyd, ond, ysywaeth, y mae y Nadolig nesaf mor orlwythog o'r Eisteddfodau Ceiniog hyn ag erioed. Mae un yn Llan- gybi ag Eos Glan Teifi yn feirniad un arall yn Bwlchylian, ag Aeronian, ac Aer- onydd yn feirniaid un arall yn Ystrad a Grannellian yn feirniad ac un arall yn Cilcennin ag 'un o lasgrythiaid yr ardal yn meddwl am feirniadu. Nid yw holl wobrau y pedair hyn ond rhyw bymtheg punt, a'r pedair o fewn cylch pum milltir i'w gilydd. Beth yw eu dyben ? Mae'n amlwg nas gall y fath feirniaid, y fath wobrau, y fath destynau dichwaeth, a'r fath ffug o bob- peth, wneud unrhyw lesiant meddyliol. Mae'r oil mor amddifad o athrylith a bon- au bresych. Nid yw y cyfarfodydd hyn ond meithrinfa a nythle i driciau isei a thwyllodrus. Gwyddom am aelodau pwyll- gorawl yn cynnyg gwobrau, cynnyg testy ii- au, cynnyg beirniaid, ac yn ilwyddo i ennill y gwobrau ar y testynau o dan feirniadaqth y beirniaid hyn. Gwyddom am feirniaid yn cystadlu ac yn dyfarnu y gwobrau i'w cynnrychion eu hunain, ac yn derbyn y gwobrau hyny yn benuchel^ a digywilydd. Nid yw hyn yn annioddeiol yn yr ysgerbydau llygtedig hyn, a hyn yw y breintiau sydd yii tporl fod llawer o len- orion ieuaingc dibroliad yn cael eu hudo. i ymwneud a hwynt. Gadawaf i'r pre- gethwyr a'r offeiriaid a duwolion y ddwy blaid i benderfynu y pa gymmwysder sydd mewn cadw y fath gyfariodydd mewn lle- oedd o addoliad a hyny ar y Nadqjig Mae yn iechyd i gael edrych dros ben y Lilipwtiaid llenyddol hyn at rai of greater magnitude" ag sydd yn proffesu pethau uwch a rhagorach. Cynnaliwyd Eisteddfod Gadeiriol yn 1873 yn Aberaer- on. Cynnaliwyd yr un sefydliad am y flwyddyn 1874 yn Talsarn. Aeth y ddwy hyn heibio yn weddol dawel a llewyrchus, a chafwyd rhai cyfansoddiadau gorchestol yn y gystadleuaeth. Mae dyddiau ei llwyddiant wedi eu rhifo, oherwydd y mae cynnen, cenfigen, ac annghariadoldeb wedi gwneud eu nyth yn y gwersyll. Myn Aberaeron mai ganddi hi mae yr hawl i'r wyl am 1875, oherwydd mai yno y gan- wyd y sefydliad, ac iddynt roddi gwahodd- iad cyhoeddus iddi i ddychwel ar ddydd yr wyl yn Talsarn. Mae Llanbedr yn hawlio hon, neu yn benderfynol o godi opposition shop. Mewn gair, mae y goods yn y ffenestr gan Xdanbedr, ac yn ddi- ddadl y maent o'r neu-est fashion. Nid hyn yw unig ofid Aberaeron, ond y mae pregethwr yn agos i Lanaytli wedi ffromi yn aruthr na chawsai ryw "fraint" yn Aberaeron, ac yn ei chwerwdod wedi datgan ei freudclwyd i gael eisteddfod spite yn Llanarth. Felly, y mae gan yr ardal hon dair eisteddfod gadeiriol o fewn tair mill- dir a'r ddeg i'w gilydd, yn gwahodd Miss Ceredigion i'w cefnogi. Mae Llanbedr yn sicr o lwyddiant, oherwydd y mae ganddi holl ddylanwad boneddigion penaf yr ardal a Major Young. Mae Aberaeron yn myned i gael digon o arian i gael ys- gol newydd i osod y cloc a brynasant y llynedd yn ei le ar dalcen y Town Hall. Mae Llanarth yn son am osod Prifysgol Aberystwyth uwcblaw bod mewn angen gofyn ceiniog byth mwy at ei thraul, yn nghyda sychu'r selar deirgwaith cyn yr eisteddfod a theirgwaith wedi'r eistedd- fod. Mae rhywrai yn sicr o gael eu cneifio. Mae rhywrai yn sicr o gael eu gwerthu i sicrhau y llwyddiant hyn. Attal gwobrau" "peidio etc talu ar ol eu dyfarnu," "colli y cyfansoddiadau," sydd stimulants a arferir yn ami yn y parthau hyn i gyffroi ychydig ar drysorfeydd eis- teddfodau mushroom a idd- Anfonais un o'r Jacks yma i lawr i Llanbedr prydnawn heddyw er mwyn cael copi o'r Llais a'r Western Mail, ac yn mhen ychydig fynudau dychwelodd a'r ddau i mi, yn nghyda llawer o newyddion. Y gred gyffredinol yn Llanbedr yw nad oes dim awydd yn y tylawd na'r treth- dalwyr am weled dechreu y tylotty newydd, ac fod yr awydd am weled ei ddechreu yn gyfyngedig i rai sydd yn meddwl gwneud ceiniog yn o lew oddiwrtho. Yr oedd y crydd mewn gofid oherwydd clywed o hono fod y menyn a'r cig moch wedi gostwng yn Morganwg. Yr oedd wedi pallu gwerthu ei stock am bris da yr wythnos o'r blaen. "Serve him right "—medd y gof, "oherwydd nid cyfiawn cyfyngu gwerthiad nwyddar i godi y farchnad mewn prisiau." Clywais hefyd fodboneddwr o Lanbedr yn gwneud twrw mavr yn nghylch tystiol- aeth ei frawd niewr. yspryd a swydd, o berthynas i ystadegai llysoedd cofrestrol y sir. Mawr y twrw t wnaeth y ddau hyn 1 y llynedd o'r blaen. Yr oedd ganddynt gannoedd o ennill, ond, tybsd,—pa le yr oeddynt adeg yr etholiad ? Y gwir yw, nid oeddynt ond fel y French ai-iay,- all on paper," ac nid mewn unman arall. Gallaf sicrhau yr agents, Jones a Harris, nad oes ganddynt y cyfle lleiaf o wybod pwy yw eu hetholwyr. Mae screw circle y bialcl Eadicalaidd mor annioddefol fel y mae ei harswyd ar bawb yn ddiwahan- iaeth. Mae pob scriw yn boenus, ac y mae'r etholwyr yn gwybod hyny. Os ydyw y brodyr am ddeall teimladau ac adnabod personau yr etholwyr, ymae'n rb aid iddynt geisio ennill eu bymddiried ac nid cy- hoeddi bygythion, a gwasgar anwireddau disail ar hyd y sir. Haerent cyn yr ethol- iad ddiweddaf fod eu henniilion, er ethol- iadcyntafE. M. Richards, yn gannoedd. Trwy ychwanegu y rhai hyn at y rhai or- fodwyd gan y landlords Ceidwadol i fyned yn groes i'w cydwybodau, ac ychwanegu yr oil at fwyafrif E. M. Richards ar E. M. Vaughan, tystient fod ganddync fil o fwy- alrif. Yn lie hyny profwyd eu bod yn y lleiafrif o dros ddau cant. Os haerid pethau mor bell oddiwrth wirionedd pan oedd mantais i wybod y gwir, pa fodd y gall y mwyaf teyrngarol gredu pan nas gellir gwybod dim gyda sicrwydd. Nidyw yr oil ond guess work wedi ei wneud ar yr un rheol a breuddwyd gwrach yn ol ei hewyllus." Nid ydyw yr holl ystadegaeth, frodyr, ond hydleuyrn i geisio denu y rhai sydd yn rhodio yn y tywyllwch i'r ffos Radicalaidd. Dyna farn y Cardies, dy- wedasant hyny y llynedd, a bwriadant ddyweud hyny yn eglurach yn y etholiad nesaf. Gallaf eich sicrhau fod oes y bry- gawthian a haeru mewn perthynas i wleid- yddiaeth wedi darfod rhaid i'r etholwyr bellach wrth brofion a gweithredoedd syl- weddol. Mor fuan ag y ca amaethwyr Ceredigion ryw ddaioni oddiar law Radi- caliaeth, neu rhyw brawf o'u dymuniadau da tuag attynt, byddant yn fwy parod i wrando ak eu Ilais. TWR y Ddeei.

OLION Y MEIEW.

LLITH DAFYDD EPPYNT.

[No title]