Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

CTP,TJLONDEB ARSWYDUS RHIENI.

; Y GAETHFASNACH AMERICANAIDD.

__-----[ HYN A'R LLALL, YMA…

[No title]

GWRTHDARAWIAD ANGEUOL AR Y…

--"-----___------_._---HUNANLADDIAD…

ACHUBWYD HI GAN El CHIGNON."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ACHUBWYD HI GAN El CHIGNON." Tra yr oedd boneddiges yn New York, yr hon a arferai wisgo chignon, yn myned yn mlaen gyda'i gorchwylion teuluaidd arferol, tybiodd ei gwr yn briodol wneuth- ur ymosodiad arni gyda bwyell. Yr oedd dull ei ymbsodiad yn benderfynol oherî- wydd, heb un math o rybudd na rhag- ymadrodd, tarawodd ei wraig ar ei phea gyda bwyell, nes y syrthiodd yn anymwy- bodol i'r llawr. Wedi hyny aeth at yr heddgeidwaid, gan roddi ei bun ifyny fel llofrudd, a chymmerwyd ef i'r ddalfa yn uniongyrchol; yn y cyfamser, galwyd meddyg i mewn i archwylio corph y wral. Rhyfedd ydyw dyweud, ddarfod i'r chignon fod yn offerynol, nid yn unig i droi ymaith awch y fwyell, ond hefyd i dori cymmaint ar rym yr ergyd, fel y diangodd..Y wraig ffodus heb ei niweidio, amgen na'i sy.fr- danu am ychydig amser. Pa beth a ddaw o'i chydmar annynol, nid ydyw etto yn hysbys; ond y mae un peth yn sicr, sef y bydd i'r wraig deimio parch bythol at yr hyn fu yn arbediad i'w bywyd, ac na phaid a gwisgo y chignon tra y bydd by*. Gall dulliau o wisgo newid a myned yn ol ac yn mlaen, ond bydd i chigncns fynkl gyda hi am byth." i I

Family Notices

.... --LLOFFION CYMREIG.

CRYNNODEB WYTHNOSOL.