Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
---.._._-LLOFFION O'R DEHEUDIR.
LLOFFION O'R DEHEUDIR. RHYMNI.—Ymosodiad arswydits. -Nos Sadwrn diweddaf, oddeutu banner awr wedi un-ar-ddeg o'r gloch, cyffawnwyd un o'r ymosodiadau mwyaf beiddgar a chreu- lawn ar gorph dynes a dau fachgenyn, y rhai oeddynt yn preswylio yn Plantation Street, Rhymni. Ymddengys fod dyn o'r enw Samuel Teague (Gwyddel), yncydfyw 4 dynes o'r enw Anne Morgans. Nos Sad- wrn yr oedd y dyn yn bur drwm o dan ddylanwad diodydd meddwol, a dechreu- odd gweryla gyda John, mab ieuangaf y ddywededig Anne Morgans. Ofnoddybach- ger, y buasai Teague yn gwneud ymosodiad arno, ac er mwyn amddiffyn ei hun gaf- aeludd mewn pocer; ond cyn iddo allu gwneud un defnydd o bono, fe'i tarawyd i lawr, ac wedi hyny derbyniodd amryw ddyrnodiau ar y ddwy ochr i'w ben gyda'r pocor a gymmerasid o'i law. Gwnaeth bachgen arall o'r enw Richard, yn nghyd a'i iam, eu goreu i amddiffyn y lleiaf ond yn y fan, cymmerodd Teague afael mewn rhaw, gyda pha un y torodd fraich y ddJues anffodus, gan roddi iddi archoll mawr, oddeutu pedair modfedd,o hyd, i ba un y gallesid gwthio dau fys. Deffro- wyÚ y cymmydogion gan y trwst, a galwyd dau heddgeidwad i'r lie, y rhai agymmer- asant Teague yn garcharor. Dydd Llun dygwyd y carcharor o flaen yr ynad, Mr Laybourne, yr hwn a ohiriodd yr achos hyd drannoeth i gael ei drafod yn ynadlys Tredegar. FFYNNONTAF.— Dydd Mercher, cynnal- iodd Mr Rees drengholiad yn y lie hwn ar gorph dyn o'r enw J. Jones, crydd. Ym- ddengys fod y trangcedig wedi gadael ei gartref tua saith o'r gloch y nos Lun bla enorol, gyda'r bwriad o groesi camlas Morganwg ond ni chyrhaeddodd y truan ben ei siwrnai, a boreu drannoeth gwjjaethpwydymchwiliad am dano, prydy caed ef yn y gamlas, a'i wyneb yn isaf, y tu ol i'r Castle Inn. Dychwelwyd ded- fryd o cafwyd wedi marw." Yr oedd yn 48 mlwydd oed, a gadawodd weddw a phlant i alaru ar ei ol. NEW TREDEGAR.—Boreu dydd Llun cyn y diweddaf, digwyddodd amgylchiad o'r fath fwyaf difrifol ar y mynydd rhwng y He hwn a'r Deri. Ymddengys fod dyn o'r enw ilenry Davies, glowr, a weithiai yn un o byllau y lie hwn, oherwydd attal- iad y gwaith wedi myned y dydd Sadwrn blaenorol yn nghyfeiriad y Deri. Rhyw- bryd yn ystod y nos, wrth ddychweiydtuag adref, un ai cwympodd i lawr neu gor- weddodd gyda'i wyneb i waered, a chan fod y noson yn un ystormus, a'r gwlaw yn disgyn yn genllifoedd, fe'i gorchfygwyd gan nerth y dymmhestl, a mygodd i farw- olaeth, o'r hyn lleiaf dyna y dyfaliad mwyaf cyffredinol o barth ei angeu. Yn y cyflwr hwn y cafwyd ef ddydd Sul, wedi oeri yn mreichiau marwolaeth. CASNEWYDD.—Ymddengys fod y dref gyflym-gynnyddol hon yn debyg o ddyfod yn enwog ar gyfrif y lliaws damweiniau a ddigwyddant ynddi, oherwydd nid oes wythnos yn pasio heb ryw ddamwain neu gilydd yn cymmeryd lie ynddi. Nid oedd yn yr wythnos a basiodd ddim llai na thair damwain wedi cymmeryd lie mewn llongau yn y porthladd, trwy ba rai y derbyniodd morwyr niweidiau anaele. Bu dau o honynt feirw, ac y mae y try dydd yn gorwedd yn y meddygdy. Cymro o'r enw William Davies oedd un syrthiodd ef o'r rhaffau, a bu farw yn mhen ychydig amser. Morwr arall, nad yw ei enw yn adnabyddus, a gymmerwyd i'r meddygdy mewn cyilwr dideimlad o ba un ni ddad- ebrodd. Germaniad ydoedd y llall, ond y mae ef yn fyw ond fel y dywedwyd y mae yn anobeithiol o fyw, a gellir dyweud mai prin y mae diwrnod y myned heibio nad oes damwain neu gilydd yn cymmeryd ile yma. J CAERDYDD. Ddydd Iau diweddaf gwnaeth dyn o'r enw John Williams ei ymddangosiad yn llys yr heddgeidwaid yn y dref hon, i atteb y cyhuddiad a ddygid yn ei erbyn gan heddgeidwad o werthu petroleum yn Roath, heb fod gan- ddo drwydded i hyny. Dadleuai ei gyf- reithiwr mai nid hawker ydoedd, er ei fod yn gwaeddi allan yn yr heolydd fod gan- ddo y cyfryw olew ar werth. Y pender- fyniad y d'aethpwyd iddo ydoedd taflu yr achos allan oherwydd eu bod o'r farn mai nid pedlar cyffredin ydoedd Williams a'u rheswm dros feddwl felly am dano ydoedd fod ganddo geffyl a throl. Mewn canlyn- iad, cafodd Williams ddiangc yn llogell- rydd oddiwrth bob dirwy y tro hwn. MASNACH Y DEHEUDIR.- Digon marw- aidd ydyw masnach o bob math yn y De- heudir yma yn bresennol. Y mae y rhy- buddion am ostyngiad yn y pnsiau ar ddechreu 1875 yn llenwi mynwesau y eweithwyr a digalondid. Y mae gostyng- iad o ugain punt y cant yn ostyngiaa mawr, ac ofnwyf fi yn wir na iydd i r glo- wyr mewn llawer man ei dccroyii, a i canlyniad fvdd. ceir rhagor o strikes yn ein gwlad. En cyfarfod mawr gan lowyr Glynnedd }rr wythnos ddiweddat, pryd yr annerch^yd y cyfarfod gan Mr Halliday, yr hwn a ddadleuai yn gryf dros uncieb y wlowyr a dyweclal, os na fuasai y glowyr 4 r yn glynu at eu hundeb, y buasai yr hur yn mhen deuddeng mis etto mor isel ag yn yr hen amseroedd isel gynt. Deallwyf fod Mr Halliday, yr wythnos hon etto, i aimeroh glowyr Merthyr a Dowlais, a bod Mr Abraham i aniierch glowyr Troedyrhiw a'r cyffiniau. BLAENAFON.—Nos Wener cyn y di- weddaf, cyfarfyddodd dyn o ddarllawydd yn y King's Arms Inn, o'r lie hwn, a" damwain ddifrifol, pan yn clyfod i lawr y grisiau o dafarn y Winning Horse, tua naw o'r gloch. Yr oedd mor dywyll o achos nad oedd y llusernau uwchben y drws wedi eu goleuo, fel y cwympodd i lawr ar y palmant, a thorodd ei goes mewn amryw fanau. Cyfodwyd ef i fyny, a chymmerwyd ef i'r King's Arms, pryd y daeth Dr. Ball atto, a da genyf ddeall ei fod yn dyfod yn mlaen yn rhagorol hyd yn hyn. GYFEILLION, GER PONTYPP.IDD.-Nos lain, y 3ydd cyfisol, tra yr ydoedd dyn o'r enw Henry Marslyn, stoker, perth- ynol i weithiau y Great Western, wrth ei orchwylo osod y peiriant mewn cywair priodol i godi dwfr, llithrodd ei droed, a chwympodd i dwll sydd wrth ochr y fly- wheel, yr hyn a brofodd yn angeuol i'r truan anffodus. Gadawodd briod a dau o blant bychain i alaru ar ei ol.—Y Divymyn Goch.-Y mae y clefyd hwn wedi gwneud difrod anferth ar fywyd plant yn y gym- mydcgaeth hon yn ddiweddar. Y mae un teulu wedi claddu cymmaint a phedwar o blant yn ystod tairwythnos o amser. Duw fyddo yn noddfa iddynt yn eu hadfyd. Gobeithio y try pethau yn well yn fuan. ABERYSTWYTH.—Dydd Llun, yr wythnos ddiweddaf, cafwyd dyn o'r enw James Swither, 23 mlwydd oed, wedi boddi yn agos i'r Promenade Sun, yn y dref hon. Yr oedd y trangcedig yrt wr priod, a chan- ddo bedwar 0 blant. Ar y trengholiad a gynnaliwyd, dywedodd Mr William Ho- wells, porter gyda'r Manchester and Mil- ford Railway Company, iddo weled y trangcedig yn dyfod 0 gyfeiriad y Fox Vaults, oddeutu chwech o'r gloch boreu ddydd Llun, ac i'r trangcedig ofyn iddo sut yr oedd, a gofynodd yntau iddo beth oedd y matter arno, oherwydd tybiai fod y trangcedig yn ddyryslyd ar y pryd, pan yr ymddangosai mewn sefyllfa gyffrous iawn, ac yr oedd yn myned a'i wyneb at y mor. Dychwelwyd rheithfarn o Caf- wyd wedi boddi." Dyma y trydydd sydd wedi cyfarfod a dyfrllyd fedd yn Aberys- twyth er mis Medi diweddaf. ABERYSTWYTH.—Gweithred Ysgeler.-— Nos Iau diweddaf, rhwng chwech a saith o'r gloch, fel yr oedd Mrs Morris, priod Mr John Morris, paentiwr, yn byw yn y Queen's Hoad, yn ymwisgo ar y llofft, saethwyd bwlet ati trwy y flenestr, yr hwn a aeth heibio iddi i'r ochr arall i'r ystafell. Dychrynodd Mrs Morris yn fawr fel y gellid disgwyl. Ni wyddus hyd yn hyn pwy ydyw y person a gyflawnodd y weithred ofnadwy, na'r hyn a'i cynhyrfodd i wneud hyny. Cyffrowyd yr holl gym- mydogaeth gan y weithred. ABERTAWE. Nos Wener diweddaf cafwyd y pleser 0 wrandaw ar y gantores enwog Miss Edith Wynne, yn cynnal cyngherdd ardderchog yn y Neuadd Gerddorol, yn cael ei Ghynnorthwyo gan Madame Patey, Mr Patey, Mr William H. Cumming, ac amryw gantorion ereill; ac yn wir yr oedd y canu yn ardderchog. Cafodd Madame Patey a Miss Wynne y gymmeradwyaeth uchaf gan y dorf liosog, ac yr oeddynt yn gwir haeddu hyny, a gellir dyweud fod Miss Wynne yn glod mawr i'w gwlad enedigol. LLANELLI.—Y mae yn eithaf tebyg yr eir yn mlaen gyda'r CarmartheD shire Railway yn bresennol, oherwydd deall- wyf fod y cyfranau wedi ei cymmeryd i fyny agos oil. Fe fydd yn foddion pan y delo i ben i agor i fyny ugain milldir 0 wlad yn cynnwys digonedd o 16 a mwn haiaril, a gwna les mawr i borthladd y dref, oblegid fod ei gwir angen yma. DOWLAIS.—Y mae yn hyfrydwch mawr genyf hysbysu fod y sefyll allan oedd yma yn mhlith y teilwriaid wedi terfynu, gan iddynt ymgymmeryd a dechreu gweithio ar ytelerau a wrthodasant pan aethant allan oddeutu tri mis yn ol, gan ddangos doethineb mawr yn ngwyneb y fath amgylchiadau cyfyng sydd yn wynebu arnynt mewn masnach; a gobeithio y cawn ddysgu yn mhob man edrych ar ddeddfau masnach a llafur cyn rhoddi naid o'r badell i'r tan, ys dywedir. CWMBHONDDA.—Dydd Llun diweddaf, o o fiaen yr ynadpn yn Treherbeit, cafodd dyn o'r enw Richard Richards, Heol Fach, ei gyhuddo 0 herwhela yn nghoed Tyntila. Yr oedd Richard wedi teimlo chwant treio ei law ar saethu, ac fel llawer ereill yn credu fod "gwylltfilod y mynydd, a physg yr afonydd yn fsddiant i bawb 0 blant yr hen arddwr Adda yn ddiwahaniaeth. Dick yn ffustio llawer, ac yn trafeilio trwy'r llwyni, ond o'r diwedd dyna drwst adepydd cyffylog yn y coed, a'r eiliad nesaf dacw fe yn y golwg, a dryll Dick yn ayfeiriedig atto. Bwm," ebe'r dryll, ac 1 lawr a'r aderyn. Mae'n debyg i Richard, yn ei lawenydd, armghofio mai herwhela yn ei lawenydd, armghofio mai herwhela yr oedd, canys yn ei wylltineb bloeddiodd nes yr oedd craig Llwynpia yn diaspedain, Dead 0 Yn anlwcus iawn i Richard, digwyddodd gwr y Star Inn, tafarndy ger- llaw y coed, glywed yr ergyd, ac fel y brenin gynt ffromodd yn aruthr aeth i'r coed a chafodd Richard yn y weithred 0 godi'r gyffylog oddiar y ilawr. Gorfu i Richard fyned 0 flaen ei well a chospwyd ef i dalu deg swllt a'r costau, am ladd aderyn na wyr neb pwy oedd ei berchen. DINAS, GER PONTYP-RIDD.-Bore-a dydd Sul diweddaf deuwyd 0 hyd i gorph bachgenyn pum' mlwydd oed yn yr afon Rhondda, ger y lie hwn. Mae yn ym- ddangos fod y bychan wedi gadael ty ei rieni yn Llwynpia ddydd Sadwrn, a buwyd yn chwilio am dano trwy yr holl ardal y noson hono, a boreu Sul cafwyd ef. Yr oedd y dwfr wedi ei gario am agos i ddwy filldir 0 Ifordd. IEUAN AWST.
PENYGROES A'l SEFYLLFA.
PENYGROES A'l SEFYLLFA. FONEDDIGION,- Y mae llawer o gwyno wedi bod yn mwrdd gwarcheidwaid Caer- narfon oherwydd prinder dwfr yn y lie uchod, yn enwedig at wasanaeth y bobl sydd yn y tai a safant yn agos i orsaf y ffordd haiarn, ac a adnabyddir wrth yr enw Tai y Station." Erbyn hyn y mae Miss Margaret Williams sydd yn cadw masnachdy yn y lie wedi cloddio pydew ac wedi cael cyflawnder 0 ddwfr at wasan- aeth yr holl dai yn nghymmydogaeth y station, ac wedi gosod sugnedydd (pump) hylaw at godi y dwfr. Felly nid oes dim angen am ddim chwaneg 0 draul na thra- fferth at gael dwfr yn y fan yma. Fe fu- asai yn dda pe buasai tippyn o draul yn cael ei roddi at symmud cytiau moch a safant yn ochr y ffordd fawr, ac mewn ychydig 0 latheni i ddrysau tai, yn niweid- beth ac yn gasbeth. Beth ydyw yr achos fod y rhai yma yn cael eu goddef ynMhen- ygroes, pryd pan y mae ereill yn Groes- Ion wedi gorfod cael eu symmud ? Go- beithio y bydd i'r awdurdodau gymmeryd sylw o'r rhai hyn yn fuan, a gwneud yr un fath yn Mhenygroes ag y gwneuthant yn y Groeslon. BODWIN-FAB.
Y GWYDDEL A'I GARWRIAETH.
Y GWYDDEL A'I GARWRIAETH. CHWILIO AM FFORTIWN. Xn Llys yr Achosion Cyffredin, Dublin, dygwyd cynghaws yn mlaen gan un Anne Carroll, morwyn, yn erbyn John Farrelly, siopwr, o Bray, Iwerddon, am dori am- mod priodas, a gofynai am 500p. 0 iawn. Amddiffyniad y diffynydd ydoedd na ddar- fu iddo addaw priodi yr achwynes, ac na wnaed hyny ond yn unig ar y telerau fod yr achwynes yn feddiannol ar ffortiwn. Dadleuai y diffynydd ei achos ei hunan, a chroesholai yr achwynes. Gofynai iddi pwy ydoedd Leo. (Chwerthin.) .| Yr achwynes Yr wyf yn meddwl mai bardd ydoedd. Y diffynydd: Dywedasoch wrthyf fi y byddai i chwi gael swm da 0 arian ar ei ol: Yr achwynes Na, ddywedais i ddim o'r fath beth. Y diffynydd: A ydyw efe yn unrhyw beth i chwi ? Yr achwynes Yr ydoedd pan yn fyw ond chwi a wyddoch mai bardd ydoedd, ac nid oedd dim arian yn dyfod i mi ar ei ol. (Chwerthin.) Y diffynydd a gyfaddefai wrth y rheithwyr mai edrych am arian yr yd- oedd, ac mai dyna y rheswm paham y bu dim carwriaeth rhyngddo a'r eneth. Buasai yn priodi yr achwynes pe buasai ganddi ffortiwn. Yr oedd wedi cymmeryd arno ei bod yn disgwyl swm mawr o arian ar farwolaeth y boneddwr hwn. Nid oedd ef yn ei adnabod, modd bynag ac nid ydoedd ei dad yn gwybod am y garwr- iaeth oedd rhyngddo ef a'r achwynes. Buasai ef yn ei phriodi, modd bynag, pe buasai ganddi lOOp., neu hyd yn nod 50p. Y swm a gafodd hefo'r eneth a briododd ydoedd 50p. Nid oedd ganddo dy na busnes yn Bray. Rheithiwr: Pa faint o ffortiwn a fu- asech yn ei gymmeryd liefo'r achwynes ? Y diffynydd: Buaswn yn foddlon ar 50p. Mr Hamill, Q.C.: Pa beth a ddaeth o'r 50p. a gawsoch gyda'ch gwraig ? Y diffynydd: Wei, yr wyf wedi talu llawer am ddillad, a llawer am ddillad gwelyau, a llawer hefyd mewn cyfreithio. (Chwerthiu.) Dyfarnodd y rheithwyr o blaid yr achwynes, ac fod i'r diffynydd dalu 40p. oiawn.
[No title]
Y CEILIOG A'R PERL.—Fel yr oedd ceil- iog yn crafu ar domen, mewn buarth fferm, i chwilio am ymborth i'r ieir, dig- wyddodd iddo droi i fyny berl disglaer a syrthiasai yno trwy ryw ddamwain. Holo ebe fe, "yr ydych chwi yn rhyw- beth gwyeh iawn, mae'n ddiau, i'r rhai a allant eich prisio ond rhowch i mi ron- yn 0 haidd o fiaen holl berlau y byd. Yr Addysg :—Nid oes dim yn wir werth- fawr i un onis gall ei ddefnyddio ond gwaith ffol ydyw diystyru dim, yn unig am nad ydym yn ei ddeall,Chive(Itait Msop, gan Glcm Alun, OJ .1 ':1 i
-------_! LLITH DAFYDD EPPYNT.
LLITH DAFYDD EPPYNT. HEN BENNILLION.—Byddai canu pen- nillion gyda y clelyn yn un o brif ddify- wch y Cymry gynt, sef eynllwyddo 0 Buri- taniaeth ddwyn pendrymdod i'r wlad, gan yru gwedi hyny y werin bobl a'u prif ddi- fyrwch mewn potio a meddwi, a sectydda, canys rhaid i'r dclynoliaeth wrth ddifyr- wch, a dylid dewis y diniweidiaf a'r puraf. Wele rai pennillion :— Addoidi, Sion, i wario swllt, A t I'r tf gwyn &'r td gwellfc, Y cwrw gwan a'r cyfri gwyllt, f Os yfi hwn cei dalu 'n hallt. 'V' '.) Mae genyf dwcca byr bach, A llafn main a gwaiu goch, Ac iddo 'n gadarn amgara gwych, A'i garu yn bur o gorn bwch. Ond i cbwi ddysgu byw yn gynnil, Fe all y ddafad fyn'd yn ddwytil; Ond os byddwch byw yn afrad, Fe all y ddwyfil fyn'd yn ddafad. Dyma finnau blin ei drafel, Sydd yn ail i frenin Babel, 1 Nid oes unman i'w drafaetio, Creigiau, moelydd, bryniau, bronydd, Mor na mynydd na bum i yno. At rhyw ddiwrnod o'r cyobauaf, Yn rhodio draw, yn fy mraw, <, Ofni gwlaw oedd arnaf, A ben mynydd Luawr aneiri, Gwelwn SSionyn gyd & Siani. Hen wraig o ymyl Rhuthin, ^eth i'r afon i olcbi pwdin Tra bu hi 'n siarad a'i chym'dogion, Fe aeth y uwdin gyd &'r afon, A'r hen wraig yn tori chalon. Mi iif i Lan San' Sior y bore, Nr prydnawD i Abergde, 'i, A chyd &'r nos i blwy' Liannefydd, Gyd a. mwynder a llawenydd, I roi cic i'r hen geiliogwydd. (-ru- Nid af i garu byth ond hyny, ■ • r A nghydymalth gyd a myfi, lihag ofn iddo droi yn ffalsiwr, Dwyn fy mwyd oddiar fy nhrensiwr Dyna 'r cast a wnaeth o neithiwr. IVIae'n y Bali lfawd i wert"' Ym Mawddwy berth i leohu Mae'n Llyn Tegid ddw'r a gro, Yn Llundaia G')| pedoli; Ae yn Ngliasteli Dirips Brflij, Farcutan wedi boddi. Llawer gwaith yn yr eira gwyn Y bum i'n syn fylyrie, Prun a wnawn i drtigio'm tad Ai troi fy nghariad heibio.; .»• Gwell i mi Wi digio nhad Yw troi fy nghariad heibio. :• Mae nhw'n dweud yn sir Foo, Fy mod i'n hangmon meddw r Ni welodd undyn yn fy safn Erioed 'run dafn o gwrw; A thra bo'r frau yn gwneud ei usth, Ni fyddaf byth yn feddiv. Mi iif oddiytna i'r Hafod lom, Er bod yii droni y siwx-na', J Mi gaf yno ganu caingc Ae eiste ar faitigc-, y simd(lt', Ac ond odid dyna'r fan Lie byddaf dan y bora'. Sian fwyn, Si,tu fain, Siau gain, Sian gu, Sian gymmwysi ymgomio Sian beraidd lais, Sian barodd lu, Sian fwyngu heini hono A thra bo uchel hediad brfin, Ni ollynga i Sian yn ango'. Mae nhw'n dwedyd fy mod i Yn caru Begi Bwgan Ni fum erioed ar lawr ei thy, Ar fedr caru'r.faeden Ni rois erioed mo'm bryd na'm serch Ar weflau merch mor aflao. Mi af oddiyma o gam i gam I d £ modryb Ann fyrth Khobed, rfi I geisio peth o'i burym da I bobi bara peillied — Bendith Duw i modryo Ann, Ces lawer darn cwppaned. GWEHELYTH CAMARCH SANT-Sef ol- rheinir ei achau yn ol mor belled a Brychan, anno 400. Tair prif welygordd Saint Ynys Brydain y sydd, nid amgen, cyntaf, gwelygordd Bran ap Llyr Lied- iaith ail, gwehelyth Coel Godebawc, ac, o hono y tarddodd gwelygordd Cunedda Wledig; trydydd, gwehelyth Brychan Brycheiniog, yr hwn oedd fab i Anllecli Goronawg ap Gormach ap Carberi, yr hwn Anlleeh ydoedd frenin yn y Werddon, yn briod ag un March, neu fel y'i gelwir hefyd Marchell, ferch Tewdnc, brenin Morganwg a Gwent a Garth Mathrin. Y Marchell hon ydoedd fam y Brychan rhagddywededig, ac efe a gafodd yn gyf- oeth yn mraint ei fam, nid amgen Garth Mathrin, a enwes efe ar ei enw ei hun yn Brecheiniawc. Brychan a briodes dair gwaith, 0 ba rai y cafodd liaws o feibion a merched, y rhai oeddynt oil o dueddfryd grefyddol, ac aethant yn saint ar Ynys Brydain, gan lanw y wlad ag eglwysi, bangorau, ysgolion, &c.; ac yn achos hyny y gelwir gwehelyth Brychan yn un o dair gwynfydedig welygordd Ynys Bryd- ain. Enwau y plant nid amgen—ond cym- mer ormod 0 le i'w cyffeu yma. Yn ol yr hen Frutian, safai llys Brychan ar lan afon Isgaer, ger Aberhunddu, olion pa un a erys etto. Isgaer a elwir yn bresennol Yscir, yn tarddu yn Merthyr Cynog, yn syrtbio i'r Wysg yn Aberyscir. Un o ferched y Brychan hwn ydoedd Gwladus, yr hwn a briodes Gwynllyw filwr (Cunlais) ap Glywys, ap Tegid, yr hwn oedd deyrn ar dalaeth a elwid Gwynllwg neu Glew- yseg. yn gorwedd rhwng afonydd Wysg a Rhymni, a'i lys yn y lie saif yn bresennol, St. Woolos, yn Nghasnewydd-ar-Wysg. O'r briodas hon, sef eiddo Gwynllyw a Gwladus, cafwyd amryw o blant, ac yn eu plith nid amgen, yn gyntaf, Cattwg Sant, neu Cattwg Ddoeth, prif ddyn ei oes; yn ail, Camarch Sant, i ba un y mae Eglwys Llan-gaxnarch wedi ei chys- segru. Un 0 ferched ereill Brychan yd- oedd Mechell, yr hon a briodes Ynyr o Gaergarwch. Hi oedd fam Noa fam Dewi Sant. DAFYDD EPPYNT.