Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

LLETTY'R AWEN, Xlt TYWYDD…

DAitLUN MEN Y vV*

.; YR HEN GELYNEN WERDD.

, , Y DYN DICHELLGAR.

YR ADSEINIAU.

PBAWF COUNT ARNIAI.

) YNYS MON.

LLOFBUDDIAETH ABSWYDUS YN…

_._-TAN DYCHRYNLLYD MEWN ME…

Advertising

--CREFYDDOLDEB Y CYMRY YN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CREFYDDOLDEB Y CYMRY YN LERPWL. Ychydig amser .yn ol penderfynodd y gwahanol gynnulleidfaoedd Cymreig yn Lerpwl wneud ymchwiliad o dy i dy yc mysg eu cydwladwyr er cael allan pa nifer oedd heb fod yn arfer mynychu lleoedd o addoliad. Bellach y mae y gorchwyl wedi ei gyflawni, a'r noson o'r blaen cynnaliwyd cyfarfod yn addoldy y Tabernacl, Nether- field-road, er derbyn yr adroddiad. Lly- wvddid gan Mr John Roberts, yr hwn a ddywedai eu bob wedi cyfarfod a'u gilydd i gydlawenhau yn nghyflawniad gwaith mawr a phwysig, sef ymchwiliad cyffred- inol i sefyllfa grefyddol Cymry Lerpwl a Birkenhead; ac yr oedd y gorchwyl wedi ei gyflawni mor gyffredinol, manwl, a llawn ag y goddefai amgylchiadau a natur y gwaith. Nid oedd i'r gwaith yr # ymgymmerasid ag ef am- canion politicaidd, ac ni ymdrechid ymgyrhaedd at fanteision sectarol, ond tramwyasant y rhanbarthau iselaf o'r dref i geisio y rhai hyny oeddynt trwy eu hesgeulusdra neu dlodi neu annuwioldeb, wedi myned yn gwbl ddiofal am freintiau crelydd a fwynhasant yn eu cartrefi yn Nghymru. Ceid clywed yn y cyfarfod pa, ffrwyth a fu i'r ymchwiliad, a gweJed hefyd y ffeithiau, y ffigyrau, a rhifedi y bobl byny oedd yn cynnrychioli y genedl Gymreig yn Lerpwl, a'r rhai nad ydynt yn mynychu lleoedd o addoliad. Hyderai yr edrychant ar yr ymchwiliad hwn yn sylfaen i weithgarwch dyfodol, ae na fydded iddynt gael eu digaloni gan fawredd ac aruthredd y gwaith. Wedi i'r cadeirydd wneud amryw sylwad- au buddiol pellach, cyflwynwyd i'r cyfar- fod yr ystadegau canlynol :-Enwadau yn mynychu lleoedd o addoliad—Methodist- laid Calfinaidd gwrywod, 3317; benyw- od, 3440; plant dan bymtheg oed, 2005. Wesleyaid: gwrywod, 1123; benywod, 1153; plant, 704. Annibynwyr: gwryw- od, 947; benywod, 1075; plant, 584. Bedyddwyr: gwrywod, 703; benywod, 724; plant, 459. Eglwys Loegr gwr- ywod, 244; benywod, 234; plant, 63. Cwbl: gwrywod, 6334; benywod, 6626; plant, 3815. Cyfanswm, 16,775. Aelodau yr Ysgol Sabbothol Methodistiaid Calfinaidd: gwrywod, 2236. benywod, 1718; plant, 1717. Wesleyaid: gwryw- od, 661; benywod, 496 plant, 495. An- nibynwyr gwrywod, 587 benywod, 489; plant, 416. Bedyddwyr: gwrywod, 393; benywod, 320; plant, 313. Eglwys Loegr: gwrywod, 39; benywod, 27; plant, 8. Cwbl: gwrywod, 3916 benyw- od, 3050; plant, 2949.. Cyfanswm, 9915. Y rhai a addawsant fyned i le o addoliad gwrywod, 400; benywod, 454; plant, 193. Cyfanswm, 1047. Y personau sydd yn myned i le o addoliad ac yn addaw myned i'r Ysgol Sabbothol: gwrywod, 241; ben- ywod, 221; plant, 85. Y plant sydd yn mynychu lleoedd o addoliad Seisuig, rhieni pa rai sydd yn myned i'r capeli Cymreig-—Enwadau (Seisnig)—Eglwys Loegr gwrywod, 981; benywod, 1328; plant, 794. Wesleyaid gwrywod, 279 benywod, 406 plant, 256. Bedyddwyr: gwrywod, 302; benywod, 292; plant, 131. Presbyteriaid: gwrywod, 218; benywod, 215; plant, 186. Anni- bynwyr gwrywod, 153; benywod, 175; plant, 109. Wesleyaid cyntefig: gwr- ywod, 93; benywod, 113 plant, 107. Pabyddion gwrywod, 19 benywod, 31 plant, 7. Undodiad gwrywod, 12; ben- ywod, 11; plant, 4. Enwadau ereill: gwrywod, 115 benywod, 134; plant, 72. Cwbl: gwrywod, 2172; benywod, 2705; plant, 1666. Cyfanswm, 6543. Yn myned i'r Ysgol Sabbothol:—Eglwys Loegr gwrywod 204; benywod, 216; plant, 589. Wesleyaid: gwrywod, 108 benywod, 109 plant, 215. Bedyddwyr gwrywod, 89; benywod, 52; plant, 62. Wesleyaid cyntefig: gwrywod, 24 ben- ywod, 19 plant, 61. Pabyddion 1 fen- yw; plant, 5. Undodiaid; neb. Enwad- au ereill: gwrywod, 5 benywod, 8 plant, 15. Cwbl: gwrywod, 570; benywod, 557; plant, 1210. Wedi addaw myned i le o addoliad gwrywod, 35 benywod, 21; plant, 28. Personau yn myned i le o addoliad, ac yn addaw dilyn yr Ysgol Sabbothol:—gwrywod, 3 benywod, 10; plant, 5. Y crynnodeb sydd fely canlyn :-Per- sonau yn myned i leoedd o addoliad: gwr- ywod, 6334 benywod, 6626; plant, 3815. Yn myned i leoedd Seisnig o addoliad gwrywod, 2172; benywod, 2705 plant, 1666. Heb fyned byth i le o addoliad: gwrywod, 1158; benywod, 1084; plant, 743. Mewn sefydliad.au cyhoeddus, 537. Cyfanswm or niferoedd yn nghyd 26,840. Traddodwyd amryw areithiau dyddorob ac annogwyd ar fod i'r gwahanol enwadau ddyfalbarhau yn y gwaith da a gychwyn- asant.

[No title]