Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

--------SAETHU I FFENESTR…

[No title]

Advertising

.tLOFFION CYMREIG.

HYN A'R LLALL, YqA AC ACW.

"PAKCH I'R HWN Y MAE PAUGH…

CRYNNODEB WYTHNOSOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

rhoddi cyfrif o'r modd y treuliasid yr ar- iao, ac oheiwydd y duil bwngleraidd yn mha un y dygid yn mlaen y cofrestriad tra yr oedd efe yn ysgrifenydd. Cyflwyn- odd Mr W. J. Parry gyfriflen am y flwyddyn bresennol, ac yn sicr ddiyon dadlenai sefyllfa dorcaloaus i'r eithaf ar, bethau yn nglyn a'r achos gwywedig. Dangosid fod y swm pwysig o 149p. yn ddyiedus i'r trysorydd, ac y byddai yn ofynol cael 350p. yn ychwanegol tuag at pyfarfod a threuiion y flwyddyn ddyfodol. Yn ddiweddar clywsom gryn lawer am yr arddangosiad aruthrol a fwriedid i gym- meryd lie tua'r Nadolig, ond y mae y coffr Eaaicalaidd mor lawn o wegni, a gwa- hoddiadau yn cael eu bwrw ymaith gyda'r fath ddiystyrwch diseremoni o bob cyf- eiriad, fel nad oes tebygolrwydd yr aflon- yddir ar heddwch y gymdeithas yn treulio ei gwyliau mewn astudio y moddion goreu i dalu ei dyledion. Anfynych y byddwn yn cael gorchwyl; hyfryttach na chofnodi taledigaeth parch i'r rhai y mae yn ddyledus ac ar y cyfrif hwnw y mae yn ddywenydd genym gyfeirio ein darllenwyr at adroddiad mewn colofn arall o'r gweithrediadau yn nglyn a, sylfaeniad colofn goffadwriaethol y i meddyg dyngarol a'r gwladgarwr diffuant, Dr. Pierce, Dinbych. Ychydig o'r frawd- oliaeth feddygol yn Nghymru sydd wedi cyrhaedd enwogrwydd hafal iddo ef yn y gelfyddyd bwysig ond nid yn y cyfeiriad hwnw y rhed prifwreiddyn ei boblogrwydd. Nid yw ef yn un a dyra olud er mwyu cynnyrchu rhwd yn nghoffrau erlntach- rwydd, ond y mae ei galon fawr agored yn geidwad allwedd ei logell, fel y gwyr miloedd o ddeiliaid cyfyngder yn brofiad- 01. Y mae efe drwy ei haelioni dihafal' wedi adfer gwrid i ruddiau llawer ang- henus, a chysuro a chynnorthwyo y weddw a'r amddifaid yn nydd trallod. Drwy ei ymddygiadau haelionus a dyngarol tros- glwyddodd urddas arbenig ar y faeroliaetb ei dref fabwysiedig; a bydd yr annibyn- iaetli a'r dewrder anmhleidiol a amlygodd yn ystod y trengholiad pwysig yn nglyn a damwain fythgofiadwy Abergele, yn destyn edmygedd ei gydgenedl am lawer o amser i ddyfod. Anfynych y bu teyrnged o barch yn cael ei thalu gyda mwy o briodoldeb na'r golofn goffadwriaethoi er aprhydedd i'r Dr. Evan Pierce, ac y mae ei enw yn haeddianol o gael ei fytholi gan law y cyhoedd. Nid heb gryn briodoldeb y mynych gy- feirir at Lerpwl fel Prif-ddinAs y Cymry, oblegid y mae y dref bwysig hon yn cyn- nwys yn mron gymmaint ag ambell sir o'n cydgenedl. Naturiol ddigon, gan hyny ydyw teimlo pryder gyda golwg ar eu ham- 9YIehiadau crefyddol; ac y mae yn Ilawen genym weled fod yr ymchwil undeboi a Syflawnwyd gan y gwahanol enwadau I Y cyfeiriad hwnw, wedi ei ddwyn i der- tyniad mor foddhaol. Bernir yn gyffredin fod ein cydwladwyryn dyfod yn ddiystyr o'u crefyddoldeb nodweddiadol mor fuan ag y croesont Glawdd Offa ond y mae y gyfryw farn fyrbwyll yn ymddangos yn dra amddifad o sail yn nglyn a Chymry Lerpwl. Yn ol adtoddiad yr ymchwilwyr a gyflwynwyd mewn cyfarfod cyhoeddus ychydig ddyddiau yn ol, ceir mai nifer y Cymry yn y dref ydyw 26,480, ac all an o'r ttifer hwnw nid oes ond 2,985 yn esgeul- Uso moddion crefydd. Yn sicr, y mae y ffeithiau hyn yn dra chysurol, ac yn brofion diymwad y gall ein crefyddoldeb 4wfnwreiddiol herio dylanwad anfoesol- deb y trei fmawrion. < Ychydig o drefi. sydd mor ddyledus am, eIllwyddiantmasnachol i berson nnigol ^8 ydyw Birkenhead i'r diweddar Mr Laird; ac nid ydyw y trigolion ond yn Oracanu talu teyrnged brin yn yr ymdrech It Wnant yn bresennol i adeiladu iddo gof- Solofn. Cynnaliwyd cyfarfod dylanwadol hyrwyddo yr amcan nos Lun, o dan vWyddiaeth Mr Edward Mills, pryd y Psnderfynwyd yn unfrydol ar ffumo try- tuag at yr hon y tanysgrifir yn h'ael- tonus eisoes. Dyn y bobl yn hytrach na PMaid ydoeddMr Laird, er yn Geidwadwr diysgog, ac y mae yn dda genym weled Pob plaid ac enwad yn ddiwahaniaeth yn tyfod yn mlaen i wneud eu rhan tuag at blarhydeddu ei goffadwriaeth a bytholi ei enw. Yrnddengys mai pobpeth ond cymmod- la.wn ydoedd teimladau y Tywysog Bis- tna.rc a'r Count Arnim tuag at eu gilydd eu gwahanol gyssylltiadau swvddogol; ac yn ofer y dadleuai yr olaf ei ddieuog- j^ydd yn ngwyneb y cyhuddiadau a %gid i'w erbyn. Cyhoeddodd y llys eu ^yfarniad yn yr achos ddydd Sadwrn, a ^dfrydid y Count i dri mis o garchariad, hwn amser y tynid allan y rnis y mae 6lsoes wedi ei dreulio yn y ddalfa. Methid ? Pbrofi y cyhuddiadau pwysicaf yn ei er- «Xn> a dyfernid iddo gael ei garcharu ar Sail ei euogfarniad o gelu ysgrifan swydd- 5§ol, ond rhyddheid ef o wneud unrhyw ^efiiydd annghyfreithlon ohonynt, Nid %w dyfarniad y llys wedi rhoddi bodd- lonrwydd i'r naill blaid na'r Ilail ac y mae y Count eisoes wedi appelio yn erbyn y ddedfryd, yr hyn a achlysura i'r achos gael ei ail brofi. Yn ol yr hysbysrwydd diweddaraf a dderbyniwydd, ymddengys fod pedwar cant o Chineaid, dau foneddwr, a meddyg y llestr, yn ol pob tebygolrwydd wedi colli gyda'r llytbyrlong Japan. Cym- merodd y llesfcr dan ar yr 17eg cyfiso), ac wedi methu o'r dwylaw iesfceirio rhwysg y fflamau, gadawyd hi i'w thynged y dydd: canlynol. Y mae rhai o'r dwylaw a'r teithwyr wedi cyrhaedd i Hong Kong. Digwyddodd ffrwydriad dinystyriol yn f ngweithfeydd y Meistri Hides yn Sheffield nos Fawrth. Drwy ffrwydriad berwedydd, chwythwyd yr adeilad yn ysgyrion, a chafodd nifer mawr o bobl eu hysgaldio a'u llosgi. Ofnir fod amryw o fywydau wedi ei.colli drwy y ddamwain arswydus, a gwneir ymchwiliad yn mysg y malurion am gyrph unrhyw weithwyr anffodus a allant fod wedi cyfarfod a'u hangeu. Hysbysir fod y Tywysog Alphonso, mab y gyn-Frenhines Isabella, wedi derbyn an- nerchiad oddiwrth nifer o brif bobl His- paen, yn datgan eu crediniaeth mai adfer- iad y frenhiniaeth ydyw yr unig foddion i derfynu amgylchiadau galarus y wlad ar hyn o bryd. Mewn attebiad, dywed y Tywysog mai efe ydyw unig gynnrychiol- ydd y frenhiniaeth, ond gwrthyd weitbredu heb gydsyniad y Cortes.