Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

NEWYDDION CYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NEWYDDION CYMREIG. BETHESDA.—Nos Lun, Rhagfyr 21ain, ydoedd y noswaith i gyflwyno anrheg ar- dderchog i Mr William J. Parry. Yr an- rheg ydoedd darlun hardd o bono ef a'i briod. Yn ystod y cyfarfod cafwyd amryw anuerchiadau dyddorol, a gwasanaethodd y ciiwareuydd enwog ar yr organ. Cafodd yr oil o'r gwyddfodoiion eu boddhan yn ddirfawr. yn yr oil o'r gweithrediadau.— Gohebydd. CAERNARFON. Llosgi i fanvolaeth.—• Dydd Sadwrn diweddaf cynnaliwyd treng- holiad ar gorph Mary Roberts, dynes 80 mlwydd oed, yr hon a fu farw y diwrnod cynt oddiwrth effeithiau llosgi. Yr oedd y drangcedig yn trigianu yn Boot Court, S ac ymddengys i'w dillad ddyfod i gyffyrdd- iad a'r tan. Nid oedd neb yn y ty gyda hi, ac yn ebrwydd derbyniodd y fath ni- weidiau drwy losgi fel ag i achosi ei marw- olaeth. Wedi gwrandaw y dystiolaeth, dychwelwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol."—Llysoedd yr Ynadon.—O flaen yr ynadon sirol ddydd Sadwrn, gwys- iwyd R. \V. Thomas, gwneuthurwr llechi ysgrifen, ar y cyhuddiad o ymgais at ddal gleisiad yn afon Seiont, ger Pontrhyddallt. Ymddengys fod y diffynydd yn nghwmni nifer o herwhelwyr, pa rai ydynt hyd yn hyn heb ddyfod i'r ddalfa. Dirwywyd ef i 30s a'r costau.—Dirwywyd Ben- jamin Thomas, Willian Thomas, a Robert Smith i lis yr un a'r costau, am drespasu ar dir perthynol i Mr Heywood Eaewn ymchwil am helwriaeth.—Methwyd Pfofi y cyhuddiad a ddygid yn erbyn Gri- ffith Jones o ladratta oriawr, perthynol i un Griffith Phillips, yn Llanberis.— 0 flaen yr ynadon bwrdeisiol ddydd Llun, ni ymdrinwyd ag achosion o nemawr bwys. Cafodd un Anne Dower ei hanfoll i garchar am fis am ladratta defnydd gwn oddiar Elizabeth Daniel; a rhwymwyd John Edwards i gadw yr bedd- weh tuag at Patrick Casey.—Elusenau Dy'gwyl Domas. Ar y dydd uchod anrhegwyd tua 70 o hen bobl Eglwysig y dref dros eu triugain oed a gwl6dd ragorol o de a bara brith yn nghyda mince pies, buncakes, &c., yn yr ysgoldy genedlaethol. Wedi i'r wledd fyned drosodd, anrhegwyd pob un a phar o blancedi gan y ficer, yr hwn a draddododd annerchiad pwrpasaf' ar yr amgylchiad. Yr oedd y drysorfa anrhegol wedi ei chodi drwy lafur canmol, adwy Mrs Rice Hughes, Coed Helen, Mrs De Winton, a'r Misses De Winton. Cym- *uerodd Mrs Edwards, Persondy; Mrs Voucher, Misses De Winton, Misses Gor- Roberts, Mrs Hughes, Mrs Trevor ftghes, Coed Helen, a boneddigesau ereill ran yn cyfarfod tra hyfryd. Ym- f ^8°Sai ^en cae^ eu mawr aswyr^ ^an Saredigrwydd eu cymmwyn- COLWYN.- Bedyddio Llais y Wlad.— chydIg amser yn ol, talwyd ymweliad -je Uch°d gan wr o lafarwr, yr hwn fJ n gwynfydedigrwydd y dde- cl o drochl mewn hyd yn nod bedyddio papur newydd. Dywedodd ar ei bregeth, Yr wyf yn dalld fod yma le garw am ddarllan papura newyddion. Y mae yna bapur a myn'd garw iddo a elwir Llais y JVlad, ond camenw dychrynllyd arno ydi hwna. Llais y Diafol ddyla fo fod. Yr ydach yn gwybod, y mhobol bach i, mai yr hen foy hwnw, y diafol, trwy ei lais hudolus, fu yr achos o'r cwymp, ond yr wyf yn ofni fod y Llais presennol yn arwain i drychineb alaethus arall, sef cwymp Rhyddfrydiaeth yn Nghymru." ^ten, meddwn innau, o waelod calon. Coflwch, foneddigion, fod eich papur wedi ei entro yn yr Index expurgatorius gan y gwr hwn.-Nid Six. FFESTINIOG.—Ymadawiad Bai-dd.-Mae ymadawiad Ogwenydd i'w fro enedigol wedi creu gofid nid bychan yn mynwes Nuaws o'i gyd ieuengctyd. Yr oedd yn athraw i lawer o fechgyn lien sydd yn codi yn awr yn ein hardal. Bu yma am- ryw flynyddoedd, ac y mae pawb o'i gyd- Habod yn teimlo galar ar ei ol. Rhwydd hynt i'r cyfaill "Ogwenydd" i ddringo llethrau gwybodaeth, ac i gerfio ei enw yn ddwfh ar serchiadau y miloedd yn eiardal enedigol.—E. Jones (Ap Devon). HENDU, PONTARDULAIS. Ymweliad a Rhufain.—Traddodwyd darlith ar y testyn uchod, nos Sadwrn diweddaf, yn nghapel y Methodistiaid yn y lie hwn, gan y Parch. T. Levi, Abertawe. Yr oedd y ddarlith yn Ilawn dyddordeb trwyddi, ac yn fwy felly o gymmaint a bod y darlithydd wedi gweled yr holl bethau y darfu iddo sylwi arnynt, pan oedd ar y daith yn y parthau hyny- Sylwodd lawer hefyd ar yr ofer- goeledd sydd yn ffynu yn y lie. Yr oedd cynnulliad lluosog wedi dyfod yn nghyd, ac ymddangosai pawb wedi eu llwyr foddloni.-Glan Llwchwr. LLANFAELoa.-Cynghenld.- N os Fawrth, y 15fed cyfisol, cynnaliwyd cyngherdd rbagorol yn ysgoldy prydferth y plwyf Uchod, tuag at drysorfa yr ysgol ddyddiol. fod yr hin yn hynod o anffafriol, etto, daeth cynnulliad mawr a pharchus yn nghyd. Llywyddwyd gan y Parch. Robert Williams, M.A., periglor y plwyf, yr hwn a agorodd y cyfarfod mewn araeth gyn- nwysfawr, briodol, ae addas, yn Gymraeg a Saesneg, gan egluro amcan y cyngherdd blynyddol hwn, sef er diwylliant a chyn- nydd mewn cerddoriaeth yn y gymmydog- aeth, ac er cynnortbwyo moddion arianol yr ysgol, yr hon sydd wedi bod o dan olyg- iaeth Mr W. J. Jones, yr ysgolfeistr, am y pedair blynedd diweddaf. Yr oedd y rhan gerddorol yn gynnwysedig o amryw glees, solos, &,c., pa rai a ddatganwyd yn effeith- iol ac mewn chwaeth dda, Miss S. E. Williams, Persondy, yn dilyn ar yr har- monium; Miss Brice, Maelog House, ac amryw foneddigesau ereill a ganasant am- ryw ddarnau yn hynod o darawiadol. Eos Llecbyd, enw yr hwn sydd mor adnabydd- us o ran ei alluoedd cerddorol, yn ngbyd ag Ap Morrus, bob amser yn ganmoladwy gan y dosbarth ieuangc, a roddent eu gwasanaeth yn rhad, a derbyniasant gym- meradwyaeth unfrydol y gynnulleidfa. Cymmerwyd rhan hefyd gan y Parch. James Smith, Amlwch; Mr a Mrs Owen Hugbes, Aberffraw; Mr John Hughes, Brynteg; Mr a Miss Rowlands, Ty Crist- ion; Miss Margaret Owen, a Mr H. Hughes, Bodedern; gyda chor Ileol Llanfaelog o dan arweiniad Mr W. J.Jones, Llanfaelog, cor Bryngwran o dan arweiniad Mr Ed- mund Davies, yn nghyd a chor Bryndu, pa rai a roddasant wasanaeth gwerthfawr. Trodd y cyngherdd allan yn berffaith lwyddiant. Ar ol i amrai bleidleisiau o ddiolchgarwch gael eu cynnyg, dygwyd y cyngherdd llwyddiannus i'w derfyn, trwy i'r holl dorf uno yn galonog yn yr anthem genedlaethol. M iltwn. LLANIESTYN, GER PWLLHELI.-Fel y sylwasom fis yn ol yr oedd yn mwriad Mrs Johnson, Llaniestyn, roddi gwledd i'r ysgolion dyddiol a Sabbothol, ac hefyd i'r rhai hyny sydd mor hynod garedig yn cynnorthwyo yn nygiad yn mlaen ein cyngherddau misol. Cariwyd y wledd allan yn wir anrhydeddus yn yr ysgoldy cenedlaethol (pa un oedd wedi ei addurno yn brydferth at yr amgylchiad), dydd Gwener, y 18fed cyfisol. Cafwyd cyflawn- der o de, bara brith, buns, oranges, &c. Yr oedd tua 150 yn mwynhau eu hunain uwch ben y danteithion. Gwasanaeth- wyd wrth y byrddau yn benaf gan Miss M. Jones, Miss M. Lloyd, Miss Wynne, Mr 0. J. Thomas, a Mr R. Evans. Yr oedd yn bresennol hefyd Mrs Johnson, Miss Poueley, y Parch. Mr a Mrs Hughes, Tydweiliog; Parch. Mr Jones, Llangwn- adle; a Mr i±;llis, Glasfryn. Yn yr hwyr cawsom gyngherdd, pa un a lywyddwyd gan y Parch. J. Rowlands, Bottwnog. Gwasanaethwyd ar yr harmonium gan Mr W. H. Jones, Cae Canol, a Mr G. Wil- liams, Llaniestyn. Gwnaeth Mr W. H. Jones, Eos Lleyn, a Mr J. Davies, eu rhan yn wir ganmoladwy. Cymmerwyd rhan helaeth hefyd yn y cyfarfod gan Mr J. Thomas, Mr E. Williams, Mr R. Evans, &c. Yr oedd y llywydd yn ei arddull yn fyr ac i'r pwrpas. Yn mhlith ereill ar yr esgynlawr yr oedd:—Y Parch. Mr Hughes, Tydweiliog; Dr. Owen, Mr Owen, Ty Mawr Mr Ellis, Glasfryn; Mrs Johnson, Miss Poueley, Miss Wynne, a'r Misses Thomas, Cefn Madryn.-Tudor. LLANYSTUMDWY. Cynnaliwyd cyng- erddarddercog yn Ysgoldy Gwladwr- iaetho;t y plwyf hwn, nos Wener, 18fed cy- fisol, gan y Carnarvon Philharmonic Choir, o dan arweiniad Mr W. Parry. Yr oedd y cyngherdd o dan nawdd H. J. Ellis Nan- ney, Ysw., a llywyddwyd yn fedrus gan y Parch. D. Edwards, periglor y plwyf. Chwareuwyd y cyfeiliant gan Mr J. Wil- liams, Caernarfon, gan fod Major Casson, Porthmadog, oblegid damwain ofidus, yn analluog i fod yn bresennol. Ar ol an- nerchiad byr gan y parchedig lywydd, aethpwyd trwy y program a ganlyn:— Cydgan, "hen shall they know," gan y Philharmonic Choir; Can, yn Gymraeg, gan Miss Lizzie Roberts Can, He that shall endure," gan y Philharmonic Choir; Can, gan Mr Newton; Cydgan, The Lord be a Lamp," (Benedict), Philhar- monic Choir Cydgan, Hallelujah," gan y Philharmonic Choir. Rhwng rhan I. a decbreu rhan II., cymmerodd cystadl- euaeth le mewn canu t6n gynnulleidfaol. Daeth dau barti yn mlaen,-un o Llanys- tumdwy, a'r llall perthynol i Griccieth. Dyfarnwyd y wobr i'r cyntaf: ond dy- chwelasant y wobr i gyllid yr ysgol. Pedwarawd, The Tar Song," Mr Jones a'i barti; Digrifgan, gan Mr Parry Morris Can, gan Miss Lizzie Roberts Can a chydgan, "Mae'r Gauaf wedi d'od," gan Mr W. Parry a'r cor; Cydgan, raithful and true," gan y Philharmonic Choir Can, gan Mr G. H. Evans, Clare College, York; Can, "Come into the garden, Maude," gan Mr W. Parry; Can a chydgan, Y Bwthyn Cu," gan Mr W. Parry, a'r cor; Digrifgan, gan Mr Parry Morris; Duw gadwo'r Frenhines, yr un- awd gan Miss Roberts, a'r oil yn uno yn wresog yn y gydgan. Nid rhaid i'r cor uchod, na'i arweinydd medrus wrth lythyrau canmoliaeth, oblegid y maent yn rhy adnabyddus i hyny trwy Gymru a Lloegr. Digon yw dyweud iddynt fymed trwy y cyngherdd yn wir gampus, er fod y darnau a ganasant y rhai mwyaf clas- uiol ac anhawdd. Heblaw gan y llywydd, cafwyd annerchiad pur bwrpasol gan Mr Robert Owen (Eryr Eifion), yr hwn hefyd a adroddodd yr englyn canlynol- Pur y seiniau p6r a swynol-yw'r gin Gan g6r gwir urddasol, YB denu pob cnawd dynol Yma'n awr heb ddim yn ol." Annerchwyd y gwyddfodolion hefyd gan Mr R. Roberts, a-W. Watkin, Ysw. Nis gallwn ddiweddu heb grybwyll am y dull syml, a'r llais peraidd gyda pha un y can- odd Miss Roberts, ac arddull wir ddi- grifol Mr P. Morris. Wedi talu diolch- garwch i'r cadeirydd, y cor, &c., ymwa- hanodd pawb, wedi eu llwyr foddloni; ac er fod y tywydd yn hynod anffafriol, yr oedd yr ysgoldy yn orlawn.-Gohebydd. PENMACHNO.—Cynnaliwyd cyfarfod cy- hoeddus gan y Temlwyr Da yn y lie uchod nos Sadwrn, Rhagfyr l9eg, pryd y dechreuwyd gan y brawd John Davies trwy ganu a myned i weddi. Llywydd- wyd y cyfarfod gan y brawd Lewis Richards, a chafwyd gair gan y brawd William Williams, a thon gan y cor o dan arweiniad John Jones. Cafwyd araeth gan y brawd Rice Hughes, a chtian gan y brawd Robert Evans. Areithiwyd hefyd gan y brodyr Robert Jones a Robert Owens, a'r Parch. William Jones, a bon- eddwr arall. Mae'n dda genyf ddyweud fod yr achos da hwn yn myned yn mlaen yn rhagorol yn y lie uchod.—J. P. R.

Family Notices

BEIRNIALD Y DYDDIAU PRESENNOL.

[No title]