Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

COF

DONALD A FLORA

rlL YR IESU YN WYLO UWCH BEN…

EIN HAMGUEDDFA LENYDDOLT"

YR YMRYSONGBRDD RHWNd BDMWNT…

-~ABERDYFI.I

Advertising

"!.«!!! BANGOR.

CONWY.'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CONWY. Mae y dref henafol hon wedi cael ei chwbl feddiannu y dyddiau presennol gan gwn. Mae yn anmhossibl myned gam ar hyd inrhyw heol heb fyned ar draws yr hiliogaeth hwn o anifail, a chael ei ddym- chwelyd ganddo. Maent yn wir yn at- talfaar y ffordd fawr, ac mae yn bryd gwneud rhywbeth i attal eu Iluosogiad. Ychydig fisoedd yn ol, fe wnaed gorcb- ymyn gan yr ustusiaid i'w cadw yn rhwym am fis, oherwydd fod un cynddeiriog wadi ymddangos yn eu plith. Ni welwyd yn Nghonwy fis difyrach ers amser maith, a dymuniad cannoedd yw i'r un peth gym- meryd lie etto. Llawer o ysgrifenu ac areithio sydd wedi bod, ac a fydd etto, mae yn amlwg, ar ddrygioni y fasnaoh feddwol; ond er y cwbJ, fel ag yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon yn y dref yma. Mae y fas- nach yn uchel iawn ei phen. Bydded i'r brodyr dirwestol yn y dref ymegnio er gorchfygu y gelyn. Drwg genyf hysbysu mai ychydig ydyw nifer y rhai sydd yn dyfod i'r cyfarfodydd dadleuol. Nis gwn beth yw y rheswm. Mae yn sicr o fod yn adeil adol ar gyfrif pwysigrwydd y pyngciau ac enwogrwydd yr areithwyr. Maent yn rhwym o fod yn fuddiol a liesol i bawb o bob oedran, ac yn gyfleusdra difyr i dreulio nosweithiau hirion ac oerion y gauaf yn lie cerdded yr heolydd. Nos Wener, yr 17eg cynfisol, yn y D<Jarllenfa, cafwyd araeth gan Proffeswr Evans, Birkenhead, ar Undodiaeth, crefydd natur, a rheswm ac Ysgrythyr." Cafwyd araeth alluog ar y pyngciau uchod, osd nid mor effeithiol a derbymol. Cafodd gynnulleidfa gryno, gan fod y mynediad i mewn am ddim- Nid )dwyf yn meddwl fod yma lawer o'i gredo yna yn N ghon wy.-D¿wygwr. Yn yr heddlys, ddydd Gwener diweddaf, cyhuddwyd un Grace Jones, o Fangor, am feddwi ac ymladd a gwraig arall o'r dref yma y dydd blaenorol. Dyfarnwyd iddi dalu 2s 6d a'r costau am ei dewrder. Y peth rhyfeddaf ydoedd gweled y wraig a gafodd ei churo yn talu drosti. Yr un noswaith talodd y Buckley's Christy's Minstrels ymweliad a'r l!e yma, ond ni chawsant gynnulleidfa mor luosog ag y maent yn gael yn gyffradin. Nos Galan, yn Ysgoldy y Methodistiaid, cynnaliwyd cyngherdd. Yn absennoldeb y Parch. R. Hughes, cymmerwyd y gadair gan Mr William Jones, Temperance. Canodd y cor, o dan arweiniad Mr Wm. Hughes, yn odidog, a chafwyd amryw ddarnau melus gan gor y plant, o dan ar- weiniad Mr Thomas Roberts. Cafwyd cyngherdd rhagorol. Yr oedd y canu yn dda anngbyffredin, yn enwedig yr Halel- lujah Chorus." Yn ychwanegol at y eanu, adroddwyd amryw ddarnau dyddorel. Rhoddwyd annerchiadau gan Meistri It. Stephen ac Edward Jones. Yr oedd y lie wedi ei orlenwi. Elai yr elw at ddi- ddyleds y capol. Terfynwyd y cyfarfod trwy roddi y diolchiadau arferol, ac ym- wahanodd pawb wedi eu llwyr foddloni. -Un oedd yno.

RHOSTRYFAN.

[No title]