Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

HIRAEL, BANGOR.

LLANGEFNI, j

LLANEDI.

' FORT H A J-TH WY-

Advertising

GWRECSAM A'R AMOTLOHOEDD.!

RHYL.

LLEYN.

EISTEDDFOD LLANELLI.

Family Notices

| MACHYNLLETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

77 Ie Pwy yw'r nesaf i Parnassus," sef Mr Richard Davies, Cyfeiliog. Cystadleuaeth mewn darllen 1 Sam. iii. 3-10 yn Gym- raeg goreu o'r genethod, Marv Eilen Thomas, Catherine Rebecca Boberts, ac Elizabeth Davies, Eglwysfach goreu o'r bechgyn, Willie Johnstcoe a John Ed- wards, Eglwysfach. Cfwobrwywyd Willie Jarrett am adroddiad goreu gan fab, a Jane Evans gan fercb, o unrhyw ddernyn barddonol heb fod dros 80 llinell yn Gym- raeg. Dyfarnwyd y wobr i barti EosDyfi am ganu y ddn, Ellacombe" (585, casgK iad Mr Evans). Rhanwyd y wobr am y y llawysgrif ereu o "Jubilate Deo" rhwng Jane Evans a Willie Jarrett. Gwobrwy- wyd Willie Johnstone am yr attebion goreu i ofyniadau ar Erthygl VI ac Ar- ddodiad Dwylaw, a Willie Jarrett am ad. rodd yn oreu ddernyn barddonol yn Saes- neg. Cystadleuaeth mewn canu ton gyn- nulliadfaol yn ddifyfyr, pryd y rhoddwyd y wobr i barti Eos Dyfi, a derbyniasant uchel ganmoliaeth gan y beirniaid. Traethodau ar yr Eglwys a'r Wladwr- iaethgoieu- Mr M. Jones, Ysgoldy Cenedlaethol, Bangor, ger Aberystwyth (diweddar Ysgolfeistr Derwenlas, ger y dref hon). Gwobrwywyd Willie John- stone am yr attebion goreu ar Eirydd- inoth (Etynwlogy),, ac am y grammadeg difyfyr goreu a Laura Mary Hughes am y grammadegiad goreu o Matt. xxviii. 19, 20. Ennillodd Jane Evans y wobr am yr adroddiad goreu yn Saesneg o Erthygl VI. Beirniadaeth ar y chwe' phennill i'r "Ystwyll;" goreu, "Alan," sef, Mr Humphrey Tudor (Tudur Aled), Penlan, Llanwrin. Dyfarnwyd y wobr am ganu y d6n Hosamna," (540, Llyfr 14r Evans) i g6r Machynlleth. EunillbddMr John Lewis y wobr am ddarllen Gymraeg yn ddifyfyr, ac hefyd am ganu Y Ferch o'r Bc&r." Gwobrwywyd Mr David Davies (Dewi Glan Dulas) am yr araeth ddifyfyr oreu. Beirniadaeth ar y cyfieithiadau goreu, Mr Rees Evans. Rhoddwyd y wobr i barti Eos Dyfi am chantio Bene- dicite, Omnia Opera," Chant Rumbault. Cystadleuaeth mewn darllen Saesneg yn ddifyfyr; goreu, Jane Evans; ail oreu, Elizabeth Davies a John Edwards, Eg- lwysfach. Cystadleuaelh mewn sillebiaeth (apelUng bee); buddugol, Jane Evins. Beirniadaeth ar y bryddest Y Fedydd- fan;" rhanwyd y wobr, yn ol cynghor Elis Wyn o Wyrfai, rhwng Mr Humphrey Tudor (Tudur lied) a Mr Thomas Jones Didymus C-rlan Dyfi). IDyf*trnwyd Y, wobr i g6r Machynlleth am y datganiad o'r Anthem Nadolig, "A'r Gair a wnaeth- pwyd yn gnawd," ac hefyd o'r chorus, IC Then round about the starry throne." Terfynwyd y cyfarfod trwy dalu diolchgar- weH i'r beirniaid a'r llywydd, ac 3 n a ym- wahanwyd ar ol cann yr Anthem Geuedl- aethol.