Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

HIRAEL, BANGOR.

LLANGEFNI, j

LLANEDI.

' FORT H A J-TH WY-

Advertising

GWRECSAM A'R AMOTLOHOEDD.!

RHYL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHYL. TORI TYWAROHBN GYNTAF Y RHYL WINTKR GARDENS io AQuARium.-Yr oedd dydd Mawrth yn ddiwrnod mawr yn Rhyl. Yr oedd y trigolion yn disgwyl am dano ers talm, a phan ddaeth yr oedd yma gyn- hwrf yn foreu,-dysithriaid yn dyfod o bob man, a'r seindyrf yn dhwarem.. Ar ol cyrhaedd y Royal Hotel, yr oedd yno dyrfa fawr wedi cyfarfod er mwyn ymffurfio yn orymdaith l fyned trwy y dref. Am banner awr wedi unarddeg, dyma yr orymdaith yn cychwyn, yn gynnwysedig o'r seindyrf, gwahanol gymdeithasau cyfeillgar, y tan ddiffoddwyr &'u peiriant, bywyd-fad, y cynghor trefol, cerbydau o j Kinmel, Ruthin Castle, a Bodrhyddan, cyfarwyddwyr y cwmni, plant yr ysgolion, a lliaws o foneddigesau a boneddigion yn eu cerbydau ac ar eu traed. Fel hyn y daethpwyd trwy y dref. Arglwydd R. Grosvenor oedd wedi ei benaodi i dori y dywarchea; ond o herwydd marwolaeth sydyn yn ei deulu, ac afiechyd ei briod, nid eedd yn alluog i fod yn bresennol. Yn ei absennoldeb cyflawnodd W. C. West, Ysw., Rhuthjn, y gorchwyl yn hynod 0 y serchus. Ar ol tori y dywarchen, plan- wyd pump o goed gan y boneddigesau canlynol:—Mrs Hughes, Kiamel; Mrs Rowley, Conwy; Mrs J. Churt n, Mrs J. E. Middlehurst, a Miss Butterton. Ar ol i'r gwasanaeth hwn fyned heibio, ni a aetbom i'r pavilion oedd wedi ei godi ar y cae, er mwyn cly* ed areithio. Darllenodd y cadeir- ydd lythyrau oddiwrth y boneddigion canlynol y rhai nad allent fod yn bresen- nol, oil yn dadgan eu ffafr i'r cwmpeini, ac yn ewyllysio pob llwyddiant i'r gwaith. Arglwydd Grosvenor, Arglwydd Penrhyn, Syr Pyers Mostyn, Syr R. H. Cunliffe, Y Gwir Anrhydeddus W. E. Gladstone, Arglwydd Esgob Llanelwy, Cecil Raikes, Ysw., Arglwydd Mostyn, G. O.Morgan, Ysw., Ed. Peel, Ysw., R. Musprat, Ysw., T. Dale Ysw., a lliaws ereill. Y cadeir- ydd a sylwai eu bod wedi cael pobpeth yn eu plaid hyd yn hyn-wedi cael y tir yn hynod o rad-Ile da, a manteisiol, a diwrnod braf i ddechreu ar y gorchwyl. Yr oedd ef yn edrych arno o sefyllfa arian- ol, ac yr oedd yn sicr y byddai, wedi ei gorphen,. yn talu yn dda nid yn unig i'r cwmpeini, ond hefyd i fasnachwyr y dref a phawh, gan y byddai yn siwr o dynu lluaws o ymwelwyr i'r lie, nid yn unig yn yr haf, ond y gauaf hefyd. W. C. West, Ysw., a ddangosodd ei fecldwl y byddaiy He yn hynod lwyddianus, ao hefyd y byddai yn werth mawr i'r dref fel lie o addysg y gallasai y trigolion ddyfod iddo am awr neu ddwy pan y byddent segur. p Gallent ynddi gae! pob manteision i ed- rych ar greaduriaid yn eu helfen eu hun- ain. Ar ol ychydig eiriau oddiwrth Mr Hughes, Kinmel, a Chadben C. Rowley Conwy, y Dr. Butterton a siaradodd vn bur obsithiol am y sefydliad. Ar ol banllefau o gymmeradwyaeth i'r boneddigesau, terfynwyd y cyfarfod. Am ddau yr oedd "luncheon," yn y Royal Hotel, ao am chwech yn yr hwyr, cafwyd cynghcrdd mawreddog yn y "pa- vilion, pryd yr oedd y cantorion canlynol yn cymmeryd rhan :-Miss Carina Clelland, a Miss Edith Clelland, Llundain Mr George Baton, St. Helens Mr Hudson Lister, o Cathedral Man- chester Eos Bradwen, Mr J. O. Sturge, a Mr T. M. Ferneley, Llundain, gyda y berdoneg. Yr oedd pob pelh yn hynod lwyddiannus, a'r dref wedi ei gwisgo yn ardderchog. Fel y sylwoddW. C. West, ysw., nid oes amheuaeth nad oedd yr am- gylchiad yn agor cyfnod newydd yn hanes Rhyl.-Alpha.

LLEYN.

EISTEDDFOD LLANELLI.

Family Notices

| MACHYNLLETH.