Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

HENAINT AXAMSEHOL.

Y SRWGNACUWU EISTEDDFODOL.

"BLWYDDYN NEWYDD DDA."

.LLON-ANNERCH

BRYNIAU CYMRU.

Y BWTHYN CLYD.

F F Y D D.

i EIN HAMGUEDDFA LENYDDOL.

GUTYN PJSRIS.

Advertising

HYNAFIAETHAU PLWYFOL MON.

_._._--__--BANGOR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BANGOR. SEFYDLU G W-ETIVIDOL A GWYL TALIAD DYLED. —Dydd Sul a dydd Llun diweddaf, cyn. naliwyd cyfarfodydd ar yr achos uchod yn nghapel Ebenezer (A). Cymmerwyd rhan yn y gwahanol gyfarfodydd gan y brodyr canlynol: Parch. W. Griffiths, Caergybi; Parch. M. D. Jones, Bala; Parch. J. Thomas, Liverpool; Parch. Thomas Rees, Abertawe. Cafwyd yn ystod yr a'rser annerchiadau byrion ond pwrpasol gan amryw weinidogion a blaenor- iaid gwahanol eawadau y ddimas a'r cylch- oedd cyfagos. Cafwyd cyfarfodydd lluosog-, a phregethau grymus, a phob rhagolwg y bydd i'r bugail newydd, sef y Parch. D. S. Davies, Iwyddo yn ei gylch newydd,i ennill llawer yn aelodau o Eglwys Dduw. Felly dymuawn rwyddineb iddo. YR WYTHNOS WBDDIO.—Yr oedd yr wyth- nos ddiweddaf, fel arferol ar ddechreu y flwyddyn, wedi ei noilldue gan eglwysi y ddinas hon i weddio ar yr Arglwydd am lwyddiamt ar ei deyrnas. Deallwn fod hyn wedi creu awydd i amryw ymuno YI1 aelodau mewn eglwysi. ErN DARLLENVA.-Mae yn debyg nad oes un tref o'r bron yn Nghymru wedi ei breintio a. darllenfa fwy cyfleus a harddach na'r un sydd yn ein dinas. Cedwir ynddi newydd- iaduron y wlad yn lied gyson; mae ynddi dros bum' cant o gyfrolau o weithiau prif ddynion yr amser a fu. Un peth ydwyf yn ei weled ya ddiffygiol ar y ddarllenfa hon ydyw, na buasai ynddi ychwameg o lyfrau Cymreig; nid oes oddigerth pedwar neu bump o lyfrau Cymreig ynddi o gwbl allan o'r pum' cant. Ai tybed y byddai yn ormod i ni efyn i dri- golion haelionus y ddinas hon gymmeryd hyn i sylw.Pen y Bongc.

------M--CAERNARFON.