Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

HENAINT AXAMSEHOL.

Y SRWGNACUWU EISTEDDFODOL.

"BLWYDDYN NEWYDD DDA."

.LLON-ANNERCH

BRYNIAU CYMRU.

Y BWTHYN CLYD.

F F Y D D.

i EIN HAMGUEDDFA LENYDDOL.

GUTYN PJSRIS.

Advertising

HYNAFIAETHAU PLWYFOL MON.

_._._--__--BANGOR.

------M--CAERNARFON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

M-- CAERNARFON. Dyddian Llun a Mawrth cynnaliodd y Methodistiaid Calfinaidd eu cyfarfad misol yn nghapel Moriah. Treijliwyd dydd Llun, y rhan fwyaf o hono, i ymdrin a gwahanol achosion amgylchiadol y corph. Cafwyd seiat hefyd am naw o'r gloch boreu Mawrth. Pregethwyd yn y gwahanol oed- faon gan y Parchn. J. Williams, Bangor; T. Roberts, Jerusalem; P. Jones, Llan- llechid R. Ellis, Ysgoldy; J. P. Davies, M.A., Talysarn; ac Owen Thomas, Liver- pool. Cafwyd gweinidogaeth rymus, ac amlygiadau helaeth fod y genadwri a dra- ddodid yn cael effaith briodol ar lawer. Nis gwelsom fwy cynnulleidfa, nac yn wir gymmaint,mewn addoldy erioed ag ydoedd yn nghapel Moriah nos Fawrth. Nos Lun, y 4ydd cynsol, rhoddodd Mr Edward Hughes, ironmonger, swpper dan- teitbiol i'w holl wasanaethwyr, yn rhifo oddeutu ugain. Wedi bwytta o honynt hyd ddigonedd, cliriwyd y byrddau, a chafwyd math o gyfarfod adloniadol, pryd y cymmerwyd y gadair gan Mr Hughes, a'r arweinyddiaeth gan Mr R. M. Pryce, yr hwn a aeth trwy ei waith yn ganmol- adwy. Cymmerwyd rhan yn y c yfarfod gan yr oil o ddynion ieuangc y sefydliad, trwy ganu amryw o ganeuon Mri. Sankey, &c. Chwareuwyd ar yr offerynau gan y Mri. Hughes, ieu., a Miss Haigh. Wedi rhoddi tair banllef o ddiolcbgarwch i Mr a Mrs Hughes, ymwahanodd pawb wedi cael mwynhad cyffredinol. Diamheu y bydd yn ddrwg gan amryw o'ch darllenwyr glywed am farwolaeth ddisymwth Mr Ricbard Jones, iionmonger, ail fab ein cyd-drefwr parchus, Mr Ellis Jones, yr hyn a gymmerodd le ddydd Mercher. Ychydig amser yn ol, yr oedd enw y firm wedi newid, ac adnabyddid hi yn awr wrth yr enw Ellis Jones a'i Fab, ond buan y torodd angeu y cyssylitiad, fel nad oes ond yr enw cyntaf yn aros. Bu farw yn yr oed- ran cynnar o 29ain mlwydd oed. Cym- merodd yr angladd, yr hwn oedd yn un hollol breifat, le ddydd Gwener, ac yn y drefn a ganlyn :-Cerbycllaf yn cynnwys Dr. John Williams, Parch. Mr Joes, Twthill; Mr T. L. Owen, London-house (yr undertaker); a Mr T. Morris. Yna yr elorgerbyd a'r pall-becirers; cerbyd yn cynnwys tad yr ymadawedig (Mr Ellis Jones), Mr John Rae, a Mr R. D. Wil- liams. Claddwyd ef yn mynwent Llan- beblig. Claddedigaeth Mrs Edwards y Ficerdy a gymmerodd le ddydd Merchor yn y drefn a ganlyn Cerbyd yn cynnwys Dr. Rees, Mri. T. L. Owen, R. R. Williams, &c., undertakers. Yna yr elorgerbyd. Cerbyd laf yn cynnwys y Parch. H. T. Edwards, Parch. R. Edwards, Waenfawr, a'r Parch. Mr Edwards, Penmachno. 2il etto, preifat, yn cynnwys J. Owen, Ysw., Ty. coch. 8ydd etto, Mr W. H. Owen, Plas Penrliya, a Mi T. Owen, P-thyddgaeri 4ydd etto, Mr D. Morgan,Bryngwyn Hall, a Mr T. Griffith, Clynnog. Claddwyd hi yn mynwent øglwys Llangaffo, MOD. Gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parch. R. Edwards, Waenfawr, ac yn yr egiwys gan y Parch. Canon Wynne Williams a'r Parch. Mr Jones, curad. Ni welwyd tref Oaernarfon yn arddangos mwy o barch ar ddydd angladd neb yn ein tref nag ar ddydd angladd y ddiweddar Mrr Edwards. Addawa Mr W. S. Hayden gyngherdd yn y Guild Hall, nos Lun nesaf, yn eael ei gynnorthwyo gan ei ddisgyblion, a'r elw i fyned er budd y tfawd. Well done, Mr Hayden. Pwy fydd y nesaf i'w ddilyn? Gwyn ei fyd a ystyrio wrth y tylawd. BRAWDLYS CHWARTEROL.—Cynnaliwyd y brawdlys cnwarterol ddyddiau Iau a Gwener, y 6ed a'r 7fed cyfisol, Arglwydd Newborough yn y gadair. Yr oedd yn bresennol ddydd Iau y rhan fwyaf o ynadon y sir elai yn rhy faith i'w henwi. Ym- driniwyd a gwahanol achosion amgylch- iadol y sir y diwrnod cyntaf, a'r ail ddi- I wrnod profwyd carcharorion, pryd yr oedd yr ynadon canlynol ar y faingc: Ar- glwydd Newborough (yn y gadair), Dr. Miliar, yr Anrhydeddus T. J. Wynn, Mr J. P. de Winton, Mr B. T. Ellis, Mr Owen Evans, Mr Jones-Parry. Wrth annerch y rheithwyr, dywedodd ei ar- glwyddiaeth fod yno bedwar o achosion i'w gosod ger eu bron, ond nad oedd gan- ddo ddim byd neillduol i'w ddyweud. Un ydoedd y cyhuddiad o ladratta 2p yn erbyn meddyg cynnorthwyol yn Llanberis, o'r enw Walter W. Winston, yr hwn, ar ol ymdrafodaeth faith a manwl, a daeth yn rhydd o dan y cyhuddiad. Erlynwyd gan Mr J. H. Roberts, ac amddiffynwyd yn wir alluog gan Mr J. B. Allanson, Caernarfon. Profwyd yr hwn a gyhuddid o dy-doriad yn y Llewelyn Arms, Dol- yddelen, yn euog, a dedfrydwyd ef i ddeunaw mis o garchariad gyda Ilafur caled; a'r un a gyhuddid o ladratta es- -gidiau, &c., i saith mlynedd o benyd- wasanaeth. Y mae yn ymddangos i'r carcharor hwn fod mewn pedwar neu bump o wahanol garcharau, ac yr oedd yn garcharor yn Dolgellau pan ddygwyd y cyhuddiad preseunol yn ei erbyn. Prof- wyd Ann Hughes, Llandudno, yn euog ar y cyhuddiad o ladratta llwyau, &a., gwerth oddeutu pum' swllt, eiddo Mr Hamilton R. Price, Arvon Villa, a dedfrydwyd hi i dri mis o o garchariad gyda llafur oaled. Erlynwyd gan Mr Llewelyn Jones, Conwy a Llandudno. Y BLAID RADICALAIDD.-Prawf amlwg o ddirywiaeth yn mysg y Radicaliaid yw yr hyn a ymddangosodd mewn un newydd- iadur yn nglyn a chyfarfod o'r blaid a gynnaliwyd yniv Market Hall, Penygroes, nos Sadwrn, y laf cyfisol. Yn rhestr y donioledigion ar y llwyfan, gwelsom enw- au rhyw lafnau o glercod disylw, a rhyw las hogiau o siopwyr. Dyn a'u helpo, os y rhai yna yw y colofnau sydd yn dal Radicaliaeth i fyny, ni fuasai waeth iddi fod ar lawr mor llawer. Dyna engraifft arall o wywdra y blaid galw am gyn- nrychiolydd o sir arall i'w hannerch. Pa le yr oedd eu cyn-aelod, tybed ? Ond rhaid ymattal y tro hwn rhag myned a gormod o'ch gofod. BUDD-GYNGHERDDAU MISS M. J. JONES.— Da genym ddeall fod y gantores addawol hon (sef Miss Jones, Rhuthyn, fel yr adna- byddir hi fwyaf hwylus), yn myned i gyn- nal cyfres o fudd-gyngherddau, cyn ei hymadawiad i'r Royal Academy of Music, Llundain. Cynnelir y cyatafyn Ninbych, dan nawdd prif ddynion y wlad, pryd y bydd yn cael ei chynnorthwyo gan Mr D. Gordon Thomas, Bangor; Mr W. W. Thomas, Caernarfon; a'r crythor addawol, Mr Howel Williams, Castle Square. Yr offerynwr fydd Mr J. H. Roberts, A.R.A.M. (Pencerdd Gwynedd), athraw presennol Miss Jones. Rhwydd hynt iddi i ennill clod trwy'r byd ben-bwy-gilydd.- Llyg- adoq. GWLEDD.—Nos Fawrth, yrwythnos cyny ddiweddaf, o'i haelfrydedd anrhegodd Mr Chenery, postfeistr, Caernarfon, holl weis- ion y llythyrdy a'r swyddfa wefrebol & swper ardderchog. Wedi i bawb ddiwallu eu heisiau a'r danteithion rhagorol oedd- ynt wedi eu parottoi ar eu cyfer, treul- iwyd y gweddill o'r hwyr mewn canu, ad- roddiadau, darlleniadau, &c. Traddododd Mr Chenery araeth ragorol ar ddechreu v cwrdd, a'r un mocld y daifu iddo adrodd dernyn clasurol. Cafwyd darlleniad gan Mr Fergus, a chaneuon difyrns gan Mri T. Jones, G. Williams, H. Owen, R. Mor- gan, W. Roberts, ac R. Jones. Canwyd geiriau a gyfansoddwyd gan Meigant go- gyfer a'r wledd, gan Meistri J. D. Jones, Meigant, R. Jones a W. Roberts. Wedi araeth effeithiol ganMrChenery, ynyrhon y gobeithiai eu cyfarfod, un ac oIl, ynywlad sydd well, ar ol gorphen yr yrfa ddaearol, cynnygiwyd ac eiliwyd diolchgarwch i Mr a Mrs Chenery am eu caredigrwydd gwas. tadol tuag atynt oil; ac ar banner nos ym- wahanodd pawb wedi eu mawr foddhau. —Oair o'r Tivr.