Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

! TELERAU GWERTHIAD LLA-IS,…

DOSBARTHWYR YN EISIAU.

AT EIN GOHEBWYR.

RAPICALIAETH YN NGWRECSAM.

YR HEN GI RADICALAIDD YN CYFARTH…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR HEN GI RADICALAIDD YN CYFARTH YN MHENYGROiilS, LLANLLYFNI. Mr Caine, yr ymgeisydd seneddol aml- wrthodedig yn Llynlleifiad, a lefarai yn ddiweddar yn niEhyfarfod mawr Manoein- ion, gan alw ei blaid yr hen gi Radical- aidd yn ei eiriau ei han, The old Radi- cal dog.Cofier mai Radical yw Mr Caine o'r dosbarth cyntaf, ac mae'r enw a rydd ar ei blaid yn un priodol iawu, canys cyfarthwyr trystfawr ydynt. Na feied neb arnom ni am eu galw ar eu henw newydd-fedyddiedig. Yn Mhenygroes, ar y 3ydd cyfisol, cyf- arfu haid o'r cyfryw greaduriaid ffyroig. Yr oedd rhai o honynt yn hanner cyn- ddeiring, yn rhythu a dygyfarth nes oedd creigiau Eryri yn adsain. A chwibanwyd ar Mr Morgan Lloyd, A.S. dros sir F6n, i ddyfod dros y Fenai i'w hysio ar yr adeg farwaidd" hon ar Radicaliaeth. Mae'n wir i'r Gwron o Fadryn, R. Davies, A.S., ac ereill glywed y chwibaniad; ond ni ddaeth neb i'r lie ond Mr M. Lloyd, Mr Pugh, Mr Darbishire, a phregethwyr politicaidd Arfon. Nid ydyw areithiau diben y dosbarth olaf yn werth sylwi ar- nynt, canys nid ydynt amgen na bwriad allan o'r malais a'r chwerwder bustlaidd a gwenwynig sydd yn gorwedd fel hunllef yn mro eu calonau, oherwydd fod eu plaid yn gorfod eistedd yn nghysgodioa oeraidd y gwrthwynebiad. Mae'n wir fod Mr Lloyd wedi ei alw er melldithio y Toriaid, ond fel Balaam gyut, eu bendithio wnaeth, eanys addefodd fod pethau yn myned yn y blaen dan y Llywodraeth bresennoi gys- tal a'r un o'i blaen. Mae hyn yu ganmol- iaeth uchel iawn, ac ystyried mai o enau Radical y daeth. Mae yn wir yn fwy na allesid ei ddisgwyl gan un o ysgol eithafol Mr Lloyd. Mae'n llawenydd i ni, fel i Israel gynt, glywed fod Balaam yn eu mell- dithio ar fynyddoedd Abarim. Dywed fod y Toriaid yn hwylio y Hong yn lied hapus wedi i'r Rhyddfrydwyr barottoi pobpeth mor dda, ac fel hyny yn priodoli pob daioni yn y Ceidwadwyr i'r Bhyddfryd- wyr. Ond y mae yn gamsyniol iawn yn wyr. Ond y mae yn gamsyniol iawn yn ei ddallbleidiaeth. Dylasai gofio fod y Radicaliaid wedi hwylio y llong ar draeth- ellau dinystr, a'r cadben mawr Gladstone wedi tafiu y 11 yw o'i law; a diangc ymaith rhag iddi fyaed yn llong-ddrylliad at; greigiau andwyol Capharis. Elai Mr Lloyd yn mLcm. wedi methu cael dim bqi neiilduol yn y Llywodraeth bresennoi, ondyn unig eu bodyn Doriaid, i anrheithio hanesyddiaeth yr oesoedd aethant heibio, gan gloddio i fyny o feddau ebargofiant hen anwireddau enllibus, a'u hyrddia gyda nerth dialeddol yn erbyn y Weinyddiaeth bresennoi. Mae 'n rhaid fod cwynion yn brin iawn ar yr Radicaliaid y dyddiau hyn, neu ni buasent byth yn chwilio am ryw chwtdlau plentynaidd fel ag y maent. Nid oes eisieu ar y Ceidwadwyr fyned yn mhell- ach yn 01 na'r20 mlynedd diweddaf cyn cael digQn 0 garyn a defnydd areithiau yn erbyn y Radicaliaid. Yr amser yma, rhoddwyd trethi ganddynt ar geffyl cert a chi y dyn tlawd; ie, ac ar ei wn, fel na chaiff ladd bran na chwningen heb dalu deg swllt. f Maent wedi 11 wyddo drwy eu haerllygrwyd d i roddi trethi triphlyg ar y wlad, a beich- iau anhawdd eu dwyn; ond pa dreth dynasant ymaith ? Dim un, ond treth y matches. Mae Mr Lloyd, fel yr oedd prophwydi pan yn amser cyfyngder, yn rhag- ddywedyd am amser dedwydd i ddyfod ar ei blaid ddiymadferth, pryd y cant hwy etto esgyn grisiau byth-ddymua ol St. Stephan a, Ilawryf buddugoliaeth yn eu dwylaw. Dim ond yn mhen dwy flynedd neu dair etto—dim yn hwy- a bydd Cymru i gyd fel sir Fon; yua daw y Saeson i ddilyn y Cymry." Dyma bro- phwydoliaetli wynfydedig i'r Radicaliaid hir-siomedig—dim "ond tair blyned:, dim yn hwy nid yn unig fe ddaw y blaid Ryddfrydig i oruchafiaeth, ond fe ddaw y Cymry a'r Saeson oil yn Radicaliaid. Dylid ysgrifenu y brophwydoliaeth hou mewn llythyrenau aur a'i gludio ar dalceu pob Radical. Mae'n rhaid ei fod yn wr mawr, ya gyfarwydd a swynion y tynged- fenau, cyn y gallasai lefara mor ardderchog, pryd nad oes dim o'r goleuni lleiaf ar yr achos Rhyddfrydol o un cyf- eiriad. Mae tua deg sedd yn wag yn bresennoi, ond nid oes obaith i'r Radical- iaid ennill un o honynt. Ffeithian, Mr I Lloyd, ac nid prophwydoliaeth Mae oes prophwydoliaeth wedi myned heibio nid ydym ni mor blentynaidd a chredu eich prophwydoliaeth. SARPEDON. -L-

! DIENYDDIAD TRI 0 LOFRUDDION…

[No title]