Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD LLANDDEWI-BREFI.…

CYFARFOD CYSTADLEUOL BRYMBO,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD CYSTADLEUOL BRYMBO, NADOLIG, 1875. BEIRNIADAETH AR Y PRYDDESTAU TESTYN, CELL Y CONDEMNEDIG." Wele o'm blaen unarddeg o bryddestau, pe'r edrychwn arnynt gyda'r un amcan ag y gwna'r mwnwr wrth anturio; edrych y mae ef am drysorau cuddiedig, ac nid am geryg diwerth a cblai. Diau fod yn y sypyn hwn amryw drysorau o werth. Pa fod bynag am hyny, ni bydd i ni ddirmygu i bed digalondid, ond yn hytrach roddi pob cefnogaeth allwn ei hyfforddi yn gyd- wyb^dol. Wrth ddarllen pryddest yr un a tilw ei hun Tosturiol," yr ydym, beth bynag am y farddoniaeth, yn canfod addysgiadau gwerthfawr er gochel y prif lwybr i'r gell, sef trwy y diodydd meddwol a chwmni drwg. Un ar fryg Gwyllt."—Mae ganddo ef ambell wreichionen o farddomaeth; er hyny, mae ganddo le i gynnyddu ac add- fedu mewn barn. Nid da y llinellau hyn ODd ah oddiwrth y nef mae Duw'a arwain I whd y pctngf e) dd mawr, y cri a'r ochain. Na, nid yw Duw yn arwain neb oddiwrth y net, fet y dywed ef. Hefyd mae ei acen yn hollol ddrwg yn yr ail linell. Defnyddia a thrawsffurfia eiriau i gyfarfod a'i anallu —" trgwyddolder am "tragwyddoldeb," •' dorlen am <c dorian." Os cymmer ef I ofal i arfer ao astudio barn deg a rheolau corfaniaeth, yr wyf yn meddwl y gellir bardd o hono os yn un ieuangc. Un o'r ddau."—Pryddest fer, gyffrous, ond nid yw yn taludigon o sylw i deddfau mydryddiaeth. Dr. M'Donald."—Pryddest wir ragor- ol; ei chaniad yn beraidd, ei harddull yn feistrolgar, ac o farddoniaeth glasurol. Cymmer yr awdwr ddau wrthddrych, sef yr un a gondemniwyd ar gam, a'r un euog. Arweiniodd hyny yr awdwr galluog hwn i i drafod hanesion y ddau, yn lie desgrifio teimladau y condemniedig yn ei gyssyllt- iad a'r gell. Pe cymmerasai ei arwain gan siriad y testyn, buasai y bryddest yn fwy wrth ein bodd. Desgrifia foreu y dienyddiad yn gyffrous ac effeithiol,a hyny mewn ychydig o eiriau. Ab Owen."—Mae yn canu yn ystwyth a didrafferth er hyny ychydig o belydrau awen sydd i'w canfod. Rhydd ei hun yn gaeth mewn ffeithiau o hanes y condemn- iedig, yn lie portreadu y dychymygiad o'i gyflwr. Ab Maelor."—Pryddest fer, heb ynddi ddim yn neillduol i'w feio nac i'w ganmol." Ei phrif ddiffyg yw diffyg awen. Yn y Gell."—Anystwyth a diawen; ond rhaid i ni gadw ein gair. Pwy wyr beth a ddichon ddyfod o'r awdwr hwn ? Mae'n rhaid fodrhywbeth ynddo. Rhodded gais etto unwaith neu ddwy i edrych beth ddywed ei feirniaid am dano. Marah."—Pryddest wir ardderchog. Y mae ei chynllun yr hyn fuasem yn ddisgwyl gan brif-fardd, a hwnw wedi ei weithio yn farddonol a meistrolgar. Gwrthddrych y bryddest yw benyw an- ffodus yn lladd ei baban. Desgrifia ei chydwybod euogyny modd mwyaf cyffrous a gwir effeithiol,ac y mae ei iaith yn goeth, ac yn cydweddu a natur ei destyn. "Huw Llwyd."—Pryddest dda, llawn o deimlad. Mae Huw yn arfer canu. Ceir ei linellau yn drefnus a chanadwy. Math o ymsongerdd effeithiol ydyw, ond heb rhyw lawer o dan. Didymus." Mae yn y gan hon brofion o lafur, dysg, a medr ond nid yw mor farddonol ag y buasem yn dymuno. Er byny, ni fuasai raid i'r awdwr wrido pe yr argreffid hi fel y mae yn y gystad- leuaeth. "Un na fa yn y fan."—Coledda yr awdwr hwn gryn feddwl o'i bryddest. Wel, fe allai ei bod yn ganolig. Beth bynag am hyny, mae ei gweadaeth yn llyfn, heb lawer o ddarluniadau arni; y saerniaeth yn weddol, ond trom a difywyd yr ydym yn ei chael, a'r achos o hyny yw diffyg awen. "Dr. McDonald" ywyr ail oreu, a "Didymus" yndrydydd,ond saif "Marah," fel y cawr Goliath,yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na'r oil o'i gydymgeiswyr, ac efe bia y wobr. IOLO TREFALDWYN.

CYFARFOD CYSTADLEUOL EG. LWYSIG…

FFESTINIOG.

Advertising

ABERYSTWYTH. S

[No title]

Advertising