Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD LLANDDEWI-BREFI.…

CYFARFOD CYSTADLEUOL BRYMBO,…

CYFARFOD CYSTADLEUOL EG. LWYSIG…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD CYSTADLEUOL EG. LWYSIG MACHYNLLETH. BEIRNIADAETHAU ELIS WYN 0 WYRFAL. PRYDDEST AR "Y FEDYDDFAN." Daeth dau gyfansoddiad i law o deil- yngdod canolig, wedi eu llaw-nodi Tudur Aled" Un am dreio ei law." Tudur Aled. Y Mae Tudur Aled" yn myned at ei destyn yn uniongyrchol, ac yn ei ddilyn yn dda hyd y diwedd. Ymddengys fel un yn deall ei bwngc. Ei wendid ydyw newid y mesur yn llawer rhy sydyn mewn darn mor fyr, ac anystwyth- der rhai o'i linellau. Nid oes dim llawer o bereidd.dra mewn cyfansoddiad anwas- tad o'r fatb. "Un am dreio ei law."—Y darn gwaelaf o'r ysgrif nesaf yw y ffugenw, sef, Un am dreio ei law." Gresyn na byddai gan ysgrifenwyr ddigon o chwaeth i ochelyd pethau mor blentynaidd. Nid yw yr awdwr hwn yn myned at ei destyn mor uniongyrchol a'i gydymgeisydd, ond y mae ei gyfansoddiad yn fwy perffaith mewn mydr ac iaith, ac y mae ei syniad- aeth yn llawn mor briodol a'r eiddo yntau. Y penderfyniad mwyaf cyfiawn a allaf fi ddyfod iddo yw cymmeradwyo rhanu y wobr yn gyfarfcal rhwng y ddau. ENGLYNION-" YR AREITHFA." Daeth pump ymgeisydd yn mlaen ar y testyn hwn. Stanley" yw y gwanaf y tro hwn. Y mae y ddwy linell a ganlyn yn llawer rhy hen i'w gosod mewn englynion yn bre- sennol,— Jolud a nerth ein gwlad ni Y baradWys ysbrydol." Heber" (No. 2).-Lled gyffredin ydyw. yr englynion nesaf. Nid yw y llinell hon yu bddefol,— Yno yn abl hwy wynebant." Heber" (No. 1). Y mae ymgais cyn- taf Heber" beth yn well. Nid oes yn- ddynt wallau o bwys, ac nid oes ynddynt ychwaith ddim llawer o ragoriaeth. "Ymgeisiwr am y goreu.Daw yr awdwr hwn i fyny yn ail dda. Pwy yw'r nesaf i Parnassus." Y mae I pedair llinell tdda iawn yn yr onglynion hyn. Dyma y rhai goreu yn ddiau, a a haedd int y wobr. Y mae yr oil o'r englynion yn dangos gallu lied dda i gynghaneddu yn eu hawdwyr. A da genyf ddwyn tystiolaeth i eglarder a chywirdeb sillebol y llaw- ys irifau oil. OHWE' PHENNILL YR YSTWYLL." Daeth pum' cyfansoddiad i law ar y testyn hwn. Y mae yr oil o honynt yn darllen yn rhwydd, ac yn dra diwall mewn iaith a mydr, ac yn dyfod i fynu a safon cystadleuaeth cyfarfod llenyddol yn dda. Nid oes ond ychydig o wahaniaeth rhyngddynt. Cyn belled ag y mae y gwahaniaeth i'w gael, safant fel y canlyn: —" Ab Gwyrn."—Yn waelaf. "Ithel. Yr hwn nid yw ar y testyn yn nesaf. Cadwgan."—Yehydig yn well. Ym- geisydd."—Yn ail. Alun."—Yn oreu. Nid yw pennillion "Alun" yn gwbl lan oddiwrth wendidau, ond darltenant yn rhwydd, bywiog, a, Iled flasus, ac y maent yn cyfiawn deilyngu y wobr.—Yr eiddoch yn gywir, ELIS WYN 0 WYRFAI.

FFESTINIOG.

Advertising

ABERYSTWYTH. S

[No title]

Advertising