Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

GYFLAFAREDDIAD YN LLE d; RHYFEL.

Y DEHEUDIR.

EISTEDDFOD 1877.

CHWAETH GERDDOROL BLAENAU…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CHWAETH GERDDOROL BLAEN- AU FFESTINIOG WEDI CODI. FONEDDIGION.-Fe allai y caniattewch i mi ddyweud gair ar bwngc y penawd. Ychydig wythnosau yn ol bu dau ohebydd yn ymgyndynu ar glawr eich newydd- ly iadur o berthynas i'r pwngc uchod, pa rai a alwent eu hunain Cerddor-" a Dis- gybl." Pa fudd bynag a dderbyniodd eich lluaws ddarllenwyr oddiwrth eu- gwaith yu dwyn y mater i sylw, da genyf ddwyn tyst- iolaeth nad aeth eu gwaith yn gwbl ofer yn yr ystyr ymarferol yn y gymydogaeth bobl- ogaidd yma, oblegid bu amryw o gerddor- ion orr dosbarto y sonia Cerddor am danyht yn cymhell eu gwasanaeth yn ddi- weddar, a chlywais ar awdurdod dda mai hynod anmhoblogaidd fuont, yn gymmaint felly, ;fel y dywedir mai pump o bersonau fu mewn un o'u cyngherddau, yn mha rai, yn hyijrach na chanu i'w gilydd, y cau- asant yr adeila.d i fyny ac a ddychwelas- ant i'w cartrefi i gusanu gofidiau am ddar- fod iddynt ymgymmeryd a'r fath antur- iaeth. Gwel eich darllenwyr fod chwaeth yr ardal yn y cyfeiriad hwn wedi codi raddau lawer er pan y cawsoch air ar y pwngc o'r bl aen. Bravo, boys! Parhewch i ymddwyn yn gyffelyb am ychydig droion, a rhydd eich gwaith y fath argraff ar fedd- yliau y tramps begerllyd a ddeuent yma gynt yn amlach na phob wythnos, fel na ddeuant yn hir etto ar draws y wlad i'ch temtio gyda'u gwaa bethau; a sicrhaf chwi pe yr elai y Cymry am unwaith i'w tiriog- aethauhwygydaphethaullawer mwy sylw- eddol na dim a ddygant hwy i'w oanlyn, y cawsent eu hwtio yn y fan. Wrth ddi- weddu, rhag y gall fod llawer o'r rhai a fynychant eu cyngherddau yn teimlo chwithdod ar ol gadael eu hen lwybrau, dymunwn alw eich sylw at y Ddarllenfa eang a chyfleus sydd mewn rhan o'r As- sembly Rooms, yn yr hwn y darperir llyfr- au ar bob cangen o wybodaeth yn mron, a chewch eu mwynhau yn y lie, a chyflawn- der o dan i'ch cynhesu ar nosweithiau hir- ion ac oerion y gauaf, a hyny am y tal rhesymol o swllt y chwarter. Hefyd, ar y telerau hyn, cewch fenthyg unrhyw lyfr i fyned adref gyda chwi am wythnos, ond dangds eich tocyn i Mr neu Mrs Woods, yn y lie. Gellir cael y toeynau gan Mr Humphrey Jones, Market-place, a Mr R. Richards, B.S., Llwynygell, a chan amryw o'r pwyllgor. Os derbyniweh yr awgrym, byddweh ar eich ennill. Treiwch y scheme i ymwrthod A gwag bethau yr ydych chwi, yr ieuengctyd, yn arbenig yn agored iddynt. W ILBERFOROE.

AT ALED 0 FON.

LLITH MR PUNCH. cx ?