Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
MEISTRI LOWE A'U CWM., ARABIAU MILLS, HUDDERSFIELD, GWNEUTHURWYR CYFFAETH I GEFFYLAU A OW ARTHEG. RHODDIR DRWY HYN RYBUDD nad yw Robert Ellis, Castle, Dinbych Robert Williams, Wellington-place, Wellington-street, Llanrwst; so- Enoch H. Evans, College-street, Lampeter, y rbai a watanaethasant ychydig amser yn ol fel Comn.ission Agente dros y Cwmni uchod, yn dal unrhyw gy, sylltiad i'r Cwmni dywededig, ac nad oes ganddynt awdurdod, 8.W12 modd ya y byd i wneud defnydd o'r enw mewn perthynaa ag unrhyw nwydd a ddichon iddynt gynnyg ar worth. -IM Bm of » CLARKE'S B 41 Pills is W WMBtttod to cur* *11 discharge* from the Urinary MUM Bi ittbw Iq, acqoired or constitutional, Gravel tilth* Back.—Bold in boxes, 6B* ttd each, by a&Qi|i|<Ust« andjpateQt medieine Vendors or sent to for 60stamp« by tli* Maker, J. J. CLABKB, CMfiMisg Chemist, High Street, Lincoln.—Wholesale Af*fitr. BABCLAT and Soiqs, London, and all the Whole- is" ent-31. G. Bughee and SOD, 8, 9 aad 10, Market fcireet, Holyhead. mWELTE CARTES de VISITE, 2s el J Six la 8d. Carte enlarged to 10 fncLui, l'i; Cabinet, SIt. and oarte with stamps Perfect and original returned free. London Photo-Graphic Co., 304, Regent Street, op- posite the Polytechnic, and 1, Norfolk Terrace, Bay* water W. F. a. D. rzmmn. Manager. TO THE CLERGY, PUBLIC SPEAKERS SINGERS, &C. A EE you troubled with Hoarseness. Hus- kiness. Weakness of the Voice, or any other de- ficiency in the vocal or respiratory organs for Public Speaking, or Reading, or Singing, &c. ? Try JONES' TREMADOC) AROMATIC VOICE GLOBULES, and en will be relieved at once. Sold in Boxes at la lid and 2a 9d. May be had of all Chemists, and from the Cambrian Pill Depot Tremadoc. DOSBARTHWYR YN EISIAU. Carem glywed gyda throad y post oddiwrth y rhai a ddymunent gael eu pennodi yn ddosbarthwyr LLAIS T WLAD. C&nt yr elw arferol, a chan ein bod wedi DYBLU MAINTIOLI Y PAPYR, y mae hyny, ynbyda/r pris isel yn sicrhau CYLCHREDIAD ARUTHROL. Anfoner yn ddioed at y Perchenog, Mr. K. W. DOUGLAS, Bangor. AT EIN GOHEBWYR. R. AP PBTS.—Gwelwch i ni ddefnyddio adroddiad oedd mewn llaw yn flaenorol. 0 barih y llythyr ar y gronfa, yr ydym wedi rboddi cyfran anarferol o'n gofod i ysgrifau ar y wrthddrych, ac y mae y wlad yn tanyBgrifio yn haelionus. IOBWBRTH.—Y mae i chwi groesaw i ysgrifenu unrhyw eglurhad, oe fteB a fynoch ä'r pwngc. DBBBYHIWS.-—Er nad ydych wedi gweled yn dda anfon i ni eich enw priodol, tueddir ni i atteb eich gofyniad, JH y frawddeg semi—"gydag angen." Trwstaneidd- tweh anfaddeuol V cyssodwyr a achlysurodd y fath dryblith. JOIKX JONKB (Llangefni).—Nid oes yn y llinellau nem- awr deilyngdod, ae y mae genym doraeth o'u gwell yn disgwyl ea tro. X. Y. i-—Yr oedd adroddiad arall wedi ei gyssodi pan gyrhaeddodd yr eiddoch chwi. Bydd yn dda genym Bgly wed oddiwrth3 ch yn fynych yn y dyfodol. DEISIOL OWBH.—Dan ystyriaetb. lays Y FOEL.—Nid ystyriwn yn ddoeth oddef i ych- waneg nagun ysgrifena yn yr aiddull a ddefnyddiwcb. Gadewch i ni gael rhywbeth a gafael ynddo. THOMAS Joires.—Lied ddiyni ydyw'r englynion. Diolch i chwi am eich teimlad earedig at y Llais. EliPTW.—Ymdrechwn ddefnyddio y llinellau yn rhai o'n rhifysau dyfodol. ALWBBTDD.—Ymddengys eich darnau barddonol o dro j dro. T. G.-Diolch i ckwi am eich'ysgrif afaelgar: ymddeng- 18 yn ein nesaf. IBTTAK GWTNANT.—Bwriadwn anfon un i chwi. Jomr OWEX.—Ymddygwn at y pennillion yn unol &'U teilyngdod. Yr ydycb yn afresymol o faith. DANIBII PIBBCB.—Edrychai braidd yn ddigrifol ail- argraff* yr nn peth er mwyn cyfnewid un gair. GLOBWLAS.—Gallwch wneud ei well gydag ychydig J'mdrecb. HTKAKABTHAU M ON.—Ymddengys parhad yr ysgrifau oar y testyn urhod yn ein nesaf. HTWEL.—Yr ydyehyn frenin mewn cymhariaeth ond efaUai n&s gallai ef yn well. LLWTHOG.—Nia ymddirfedasoch i ni eich enw a'ch cyfeiriad, ac heblaw hyny croniclir yr un ffeithiau gan ein gohebydd ffyddlon Ieuan Awst. Hu PAUU—Ofnwn nas gallwn wneud defnydd o'r ysgrif, oad cawn redeg drwyddi etto. ERFTL, mewn attebiad i gwestiwn a ofynwyd mewn rhifyn diweddar, a ddywed mai oedran y lloer ar y lSfed o Ebrill, 1829, oedd 16eg niwrnod. Jofyna oedran y lloer ar ddyddiad y croeshoeliad ? VXWK LLAW.—Y mae mewn Haw amryw ysgrifau a gftnt sylw dyladwy yr wythnos nesaf ac oherwydd prinder gofod y mae ymddaagosiad amryw sydd wedi ea cyssodi yn cael ei obirio. mmmmmmmm—m ———
- MES-URAU Y-LLYWODIRAETH
MES-URAU Y-LLYWODIRAETH Nid oes derfyn ar haerllugrwydd ambell aelod seneddol yn baldorddi anwireddau i glustiau anwybodusion Radicalaidd yn Nghymru, ac y mae yn iechyd i'n hawyr bolitieaidd gael ambell i frawd fel Mr Davies, Llandinam, yn ddigon gonest yn ogystal a diniwed i gydnabod fod rhyw faint o ddaioni a rhinwedd yn perthyn i'r eymmeriad Toryaidd, ac nad yw y gagen- dor rhwng Mr Disraeli a Mr Gladstone yn llawn cymmaint, wedi'r cyfan, a'r un a sefydlwyd rhwng Satan a Gabriel. Yn ddi- weddar cawsom adran o'r Monwysion yn tori allan mewn gorfoledd o dan athraw- iaeth wenwynllyd Mr Morgan Lloyd, yr hwn a hwtiasid gyda dirmyg haeddianol mewn llawer man pe meiddiasai sarhau synwyr a gwybodaeth cyffredin ei wran- dawyr a'r fath ysbwrial politicaidd. Ar derfyn y senedd-dymhor diweddaf, y w.t\vch Radicalaidd fawr a gyfodid ydoedd na wnelsai y Ceidwadwyr ddim amgen na lladd amser; ond wedi argraffiad llafnr enfawr y blaid, y mae cywair y ddn wedT 1 newid i raddau helaeth, a qhydnabyddir yn gyf/redinol bellach fod y lluaws mesur- au a gynuyrchwyd o nodwedd fendithiol i gymdeithas Brydeinig. Wedi ei ar- "yboeddi fod synwyr cyffredin yn bodoli oddiallan yn ogystal ag oddifewn i furiau St. Stephen, rhyngodd bodd i hyd yn nod Mr Osborne Morgan gydnabod fod mesur- au y llywodraeth "yn dda mor bell ag y maent yn myned," ac yr ydym yn dra sicr na chafodd gymmeradwyaeth ei gyd- wybod am fwy gwirionedd a draethodd yn Ngwrecsam. Y gwir syml ydyw, fod y Radicaliaid yn dechreu canfod o'r diwedd fod y bobl yn gwerthfawrogi a sylweddoli y bendithion cymdeithasol a dderbyn- iasant oddiar ddwylaw y Ceidwadwyr; ac yn gysson a dichell nodweddiadol eu cym- jmeriad, y maent erbyn hyn yn cydnabod y cyfryw, ond nid heb ofalu am briodoli y j cyfan iddynt eu hunain. Dywedant fod y Ceidwadwyr yn dilyn eu troed-olion liwy, ac os felly-yr hyn yr ydym ni yn bell o'i gydnabod-paham yr holl gollfarnu a chyngrheirio a chynllwyn yn eu berbyn ? Y ffaith yw mai hiraeth am awdurdod yn unig sydd yn aflonyddu ar heddwch y brodyr Radicalaidd, pa rai a ymgystadlant a'u gilydd mewn gwneud gwawd o honynt eu hunain ar allor annghyssondeb sydd ddigon amlwg i bawb a fyno weled, gan nad pa mor bwl ei dreiddgarwch. Mewn cyferbyuiad iachus i faldordd a gwegi y brodyr cochliw hyn, yrydym yn troi gyda boddhad at araeth gymmedrol a syl- weddol dyn o bwys a safle boliticaidd, yn mherson Mr Raikes, yr hwn a anercbodd gyfarfod dylanwadol yn Nghaer ychydig ddyddiau yn ol. Cyfeiriai Mr Raikes yn effeithiol at y gwahanol farnau a fodolent yia mysg y Radicaliaid o barth cyfanu gwa- hanol adranaa y blaid. Ceid Syr W. Har- court yn tystio fod y blaid yn ei chyfan- rwydd, ac annogai soddi bob mympwyon personol er ymuno mewn cydweitbrediad, tra yr oeddArdalydd Hartington or farn mai mewn bod yn llonydd yr oedd nerth y blaid ag y mae ganddo y gorchwyl an- obeitliiol o'i harwain. Yn y naill gyfar- fod llefid am estyniad yr etholfraint i'r siroedd, ac yn y llall am gyfiawnder i'r Iwerddon, pleidleisiau i ferched, a dym- chweliad yr Eglwys. Mewn gair, nid oedd derfyn ar y mympwyon ag y mynai Syr W. Harcourt eu soddi er cyrhaedd undeb. Dangosai Mr Raikes yn eglur ddigon fod amcanion cenedlaethol yn ddigon o gymhelliad i undeb yn mblitb y Ceidwadwyr, ac wrth lynu at yr amcanion canmoladwy hyn y maent wedi sicrhau iddynt eu hunain ymddiriedaeth y genedl. Hyd yma, y mae y Radicaliaid wedi cwbl esgeuluso ymwneud a pbyngciau pwysig a ymwnelant ag iechyd, cysur, a llwyddiant y werin; ond, fel y dangosai Mr Raikes, ymaflodd y Ceidwadwyr yn y gwaith yn galonog, ac y mae eu cyflawniadau eisoes yn dechreu profi yn fendithiol i wahanol ddosbarthau. Y mae deddfau llafur wedi eu hadgyweirio, ac nis gellir mwyach logi benywod a phlant dan oed i weithio eu h main i farwolaeth yn yr ymgais i ennill eu bara beunyddiol; y mae mesur y cym- deithasau cyfeillgar wedi ei gwneud yn ganmil anhawsach i segurwyr twyllodrus ysbeilio y gweithiwr darbodus o'i gynnilion caled, drwy ymddiriedaeth mewn cym- deithasau pwdr; ac y mae y mesur amaethyddol wedi gosod y tir-feddianwr a'r tir-ddeiliad ar lawer tecach seiliau i gydweithredu yn ddyogel yn niwylliad y tir. Nid yw y rhai hyn, fel y sylwai Mr Raikes, ond cyfran fechan o'r mesurau bendithiol yr ydym yn ddyledus i'r Ceidwadwyr am danynt; ac etto y mae ambell Radical yn meddu ar ddigon o haerllugrwydd i ddynodi yr eisteddiad di- weddaf fel senedd-dymhor diffrwyth." Ein cred ddiysgog ni yw, fod cyfang6rph y bobl yn gymhwys o'r un farn a Mr Raikes, nad oes un senedd-dymhor i'w gymharu a'r diweddaf yn y swm o waith a wnaed, a chanlyniadau gwerthfawr y ddeddfwriaeth."
\DYDDLYFR Y PACKMAN.
DYDDLYFR Y PACKMAN. Yr wyf yn analluog i fyned o'r tj ers pythefnos, oherwydd i ddannedd m&n ac anweledig yr oerfel gnoi fy nhraed. Y mae yfed yn helaeth o'r te pnr yn eu gwella yn ardderchog Oherwydd methu ymweled a thai fy nghwatnei iaid, nis gallaf y tro hwn fviie( I tu cefn i leui dirgelion. feeuluaid«i,a be i- i i ais yn oreu ysg iienurhai SYLWADAF ar eiddo rhai o'ch gohebwyr yn y rhifyn diweddaf o'r LLAIS. 1. Am Gwas Mr Punch." Dywed ei fod yn cyhoeddi Can newydd yr Arch- fardd." Nid yr Archfardcl John Evans ydyw awdwr y llinellau cocosaidd a ys- grifenodd G. Mr Punch, a ffolineb mawr oedd ceisio cael spoH dwl ar draul yr Archfardd. Dymuna attebiad i'w ofyn- iadau. Dyma fi yn atteb. 1. Pa un ai y sawl sydd yn lladratta yn y nos, ai yr hwn sydd yn lladratta yn y dydd yw y gonestaf ?" Atteb Lleidr y nos, wrth gwrs, canys y mae mewn tywyllwch. 2. Y person cyntaf, os ya amddifad o ddiflfygion yr ail. S. 11 Pa sawl hoelen oedd yn mhedolau meirch Pharoah?" Gofyniad dwl os na ddichon G. Punch brofi bodoldeb y peth (y pedolau). 4. "Pa le yr oedd Moses pan ddiffoddodd y gan- wyll oedd ganddo ?" Atteb: Dwl etto, nes y profir bodoldeb y peth (y ganwyll), yr hyn nis gellir, canys nid oedd canwyll- au mewn bodolaeth y pryd hwnw. 5. "Pa sawl gwaith yr edrychodd Jonah faint oedd hi o'r gloch," dcc., ? Atteb Dim rhith o synwyr. Pa gloch ? Pwy yw yr hi? ai darn menywaidd o'r gloch ? Yn ol y geiriad, gofyna faintiolaeth rhywbeth a gyfenwir yn hi, a hono yn perthyn 1 ryw gloch Bosh! 6. "Pa beth a wnaiff dyn wedi iddi fyned i'r pen ftrno ?" Atteb Pwy, neu beth yw yr iddi ? Ni ddywedir pa nen. Y mae yr iddi yn myned i'r pen arno" yn hymbyg. 7. Pwy y mae pawb yn ofni ? Pwy feddyliech chwi, ond John y Packman ? Gofynaffinnau, Pwy yw,! yr ysgrifenydd dwlaf ? Atteb: Gwas Mr Punch, am y proffesa fod yn was i Punch, ac efe yn rhy analluog i ys- grifenn un frawddeg Bwnsyddol. 2. Am John Jones, Llundain. Treul- iodd John a minnau rai oriau gyda'n gilydd yn Eisteddfod Brymbo, y Naefolig, ac addawodd ysgrifenu llythyr i'r LLAIS ar yr eisteddfod fel y dylai fod, ond annghof- iodd. Dywed John fod eisieu dal lladron llenyddol, a'r rbai sydd yn cynnorthwyo gormod ar uchelgais ffyliaid a'u gosod ar lwyfan y cwrdd fel awdwyr, a hwytbau heb allu odli na dyfeisio." Purion, John. Ond yn mha le y mae'r lladron hyn ? a phwy sydd yn cynnorthwyo gormod ar ffyliaid ? a phwy yw y ffyliaid hyny ? A oedd lladron yn Mrymbo ? Os oedd,paham na fuasai John yn dywend wrthyf yno fel y, gallaswn eu dal a'u cospi ? Sylw da, a, gwirioneddol oedd gan John ar gyfansodd- iadau Brymbo. Dydd da i ti John, a chofia fi at Mrs Jones. 3. Am Ohebydd Gwrecsam, &e. Y mae'r gohebydd hwn, nid yn unig yn an- wireddus,ond yn gableddus. Pethchwithig yw clywed un na fedr ganu awdl, cywydd, englyn, na phryddest, ynrhyfygn rhoddi barn arnynt. Ne suter ultra crepidam. An- wiredd yw y cyfan ysgrifenodd ynnghylch cyfansoddiadau Brymbo; ac y mae'r ffaith iddo ddyweud yn 3 rhifyn diweddaf fod John Jones yn dyweud celwydd yn lled- grybwyll yr hyn a ellir ddisgwyl oddiwrtho yn y dyfodol. Shame. 4. Am Un oedd yno" (Conwy). # Dy- wed hwn i'r Cadeirdraw Evans, Birken- head, areithio ar Undodiaeth crefydd natur, a rheswm, ac Ysgrythyr." Ceisiodd hwn gyfieithu gair Seisnig, a ehredodd mai yr un peth yw unoliaeth ac undod- iaeth Ond dichon y daw'r bachgen i ddeall pethau yn well cyn hir. 5. Am Craig y Foelallt." Dywed y Graig fod Mrs Crawshay, ac amryw ben- boethiaid ereill, am losgi cyrpk ein cyfeill- ion yn lie eu gadael i bydru mown myn- wentydd, ond fod hyny yn baganiaeth remp, ac yn groes i natur ddynol. (Rhwng cromfachau, nid ydym ni yn Llanrwst yn arferyd noun i gualifio noun arall, ond arferwn adjective.) Ond pa- ham y gelwir hwy yn benboethiaid, ac y dywedir fod hyny yn groes i natur ddynol? A oes gan y Graig rywbeth uewydd ar y mater, fel i'm hargyhoeddi fod claddu yn well na llosgi ? 6. Am Alarch Gwyrfai. Gwelais yr Alarch dydd Sadwrn, ac wedi iddo brynu pwys o de pur Llanrwst, a thalu yn cnest am dano, dangosodd i mi ei lythyr yn y Llais mewn attebiad i Avaon Peris, a gof- ynodd, Onid yw hwn yn llythyr rhag- orol, John ?" Ebe fi, yr wyt yn debyg iawn i dy frodyr ar lyn y Bala. Yno y mae pob Alarch Yn addoli ei bardd ddelwei him," Barn yr hen Backman parchus am dy attebiad yw ei fod yn arddangosiad teg o honot. Ceisia di gadw yr hunanoldeb yna o'r golwg, a gellir gwneud rhywbeth o honot wedi hyny. Dydd da i ti, Alarch. 7. Am Llygadog. Da genyf dy fod ti ac ereill yn Llanfihangel, yn cydymdeimlo a'r hen Backman parchus yn ei ofidiau, ond y mae'r cyfan drosodd. Nid gwir i mi fwytta gormod o gyflath hen wraig Pwllycrochan; ond cododd tipyn o ysbryd arnaf i chwareu jokes diniwed. Nid oedd yr hen wraig wedi yfed te erioed o'r blaen, ac wedi iddi dalu am bwys o'r te pur, dywedais wrthi am ferwi y cyfan yn y crochan, a thaflu y dwr ymaith, a bwytta I y gweddill fel bwytta bresych, a hyny fu. Wei, nid oedd dim drwg yn yjoke. Deuaf heibio i ti yn fuan. Bydd a'r arian yn barod am y te, canys nis gallaf werthu ychwaneg o de pur Llanrwst heb dalu i lawr.-Yr eiddoch yn sylwgar, Llanrwst. JOHN Y PACKMAN.
BETHESDA A'R AMGYLCHOEDD.
BETHESDA A'R AMGYLCHOEDD. Ar fy hynt telais ymweliad a'r lie en- wog uchod ychydig ddyddiau yn ol; ac er mwyn y vhai na fuont yma, gallaf ddy- wedyd ei fod yn lie mawr, ond yn bur wasgaredig. Pe buasai yr holl dai wedi eu hadeiladu yn gryno hefo'tt gilydd, a rhyw architect wedi bod yno yn cynllunio ychydig ar eu gwneuthuriad, nid oes dadl na fuasai y lie erbyn heddyw yn llawer mwy pwysig nag ydyw. Pa fodd bynag, fel y mae y mae hi, ac yn ddiau mae hyn yn anfantais fawr iddi. Y prif bentref, fel y mae, sydd yn gynnwysedig o un brif heol, pa un sydd yn cyrhaedd o'r naill ben i'r Ilall, ac yn hynod uniawn. Y mae yma siopau cyfieus, ac ymddengys yn gwneud mssnach dda. Yn yr heol hon y mae bron yr holl fasnach yn cael ei dn yn mlaen ac ar nos Sadyrnau a nos Luniau y mae'r heol hon mor llwythog o bobl, yn enwedig nos Sadwrn a Llun setlo, fel y mae yn orchwyl lied anhawdd cerdded trwy eu canol hwy. Y mae y trigolion yma wedi cynnyddu mor fawr ers ychydig fel y mae yma gryn brinder tai. Yn wir, hyn oeddwn i yn ei glywed bron yn mhob man yn y lie. Y mae yma faes da, pe byddai i rai o jerry-builders y trefydd mawr yna ddyfod i lawr. MERCHED BPTHESDA.-WEl, meddwcb, beth sydd i'w ddywedyd am y rheini ? Wel, y mae llawer i'w ddyweud, ond ni flinaf chwi ond ag ychydig. Fel y gall pawb feddwl, y mae yma fel yn mhob man arall rai da a drwg. Y rhai gwaethaf a welais yma oedd y rhai hyny oedd yn myned i'r tafarnau,ac yn aros yno yn hir, gan yfed rhai hefo eu gwyr, ereill hefo dynion ieuaingc. Gresyn o beth yw hyn. Ferched anwyl, peidiweh a cholli eich eym- meriad yn byn. Diwygiwch yn y peth hwn, sydd braidd y mwyaf anweddaidd y gall merch ieuangc ei gyflawni, heb son am y pechod o hono. Ond y mae ochr arall, pa un sydd yn llawer iawn mwy boddhaol, ac yn cynnrychioli dosbarth llawer mwy lluosog. Y mae merched Bethesda yn haeddu pob clod fel rhai am eu glanweithdra. Yr wyf wedi teithio llawer, a gweled llawer hefyd, ond yn wir ni welais erioed le mor lan, a'i gymmeryd at ei gilydd. Yma y gwelais y tai mwyaf cysurus, a glanaf a wela is yn un lie. Yn wir y mae marched Bethesda am y cyntaf i gadw eu tai yn lan. Y maent yn credu yr hen ddiareb, 11 Cleanliness is next to godliness." Y mae y,lle, fely sylwodd mas- nachydd yno, yn eymmeryd rhan o'i gref- ydd. Pa le y gallaswn gael dyn mwy hapus na gwr i un o'r gwragedd yma yn dytod adret oddiwrth ei waith, ac yn cael ty glan a chysurus, a'i wraig a'i blant gyda gwyneb Hawen yn ei groesawu ? Pe byddai pob man fel hyn, byddai golwg wahanol ar ein gwlad yn fuan. Nid y fi yw y cyntaf sydd wedi darganfod hyn, gan i mi ofyn i gyfaill yn Lerpwl oddeutu blwyddyn yn 61 yn mha Ie yr oedd wedi cael ei wraig ? A'i atteb oedd Yn Bethesda, a dyna y lie goreu yn Nghymru i gael gwraig dda, ac mi a'ch cynghorwn chwi i fyned yno pan y byddwch yn meddwl priodi." Ac yn wir nid wyf yn meddwl y gallwn wneud yn well am hyny. Edrychel1 merched Bethesda allan. Y B'UOYLFY MINSTRELS. Talodd y cwmni hwn ymweliad a'r pentref nos Fercher a nos lau, ond nid wyf yn meddwl iddynt gael llawer o groesaw, yn enwedig nos Idu. TREN I BETHESDA.-Os oes rlxywle yn N ghymru eisieu ceffyl tan a'i gerbydau i lusgo teithwyr yno, Bethesda yw y lie hwnw. Y mae yn rhyfeddod ei fod mor hir heb fyned yno; ond diolch, y mae arwyddion y ceir ef yn fuan, a goreu po gyntai hefyd, meddaf. Y mae y teithio yn y cerbydau yna o Fangor i Bethesda, yn ddigon o "dranspoit" agos i neb. Fel engraifft o hyn, mi fu'm i y tro di- weddaf dros awr yn myned yno—dim ond rhyw bedair milldir a hanner-ac yn briodol nid oedd ond deg i gael eu cario Ya Y cerbyd; ond, pa fodd bynag, yr oedd yno 'bymtheg o honom, fel yr oeddym yn cael ein gwasgu yn ormodol. Pe buasai y tren yn rhedeg yno, buasai pawb yn cael cligon. o le, yn talu llawer llai, ac yn mhen eu siwrnai mewn deg munud yn lie awr. Y mae y bobl o ddifrif am y tren o ddifrif yn awr, ac nid oes dadl na welir y cyfryw yma cyn pen hir, Y mae yma un peiriant yn awr, ipa un sydd yn llusgo y gwageni llechi o'r chwarel, ac yr oedd yno gynhwrf mawr pan ddaoth yno gyntaf,—pawb am y cyn taf yn myned i'w weled, acyn y nos y n Iluchio tan gwyilt i'r awyr. Ond tren bach i aros un mawr yw hwn. CYNGIIERDD YN Y RACHUB.—Nos lau, eyn- naliwyd cyngherdd yn ysgoldy Rachub, lie yr oedd amryw yn profi eu dawn, ac yn eu plith y Proffeswr Jones (fel y mae rhyw rai yn ei alw) yn taflu ei lais yn dda, ac yn ol ei eiriau ef, f < eisteddodd i lawr yn nghanoi taranau o gyrumeradwyaetb." Y DADGnSYLLTIAD.- Y mae cymdeithas y dadgyssylltiad am aflonyddu Bethesda. Pan yr oeddwn yno, yr oedd gair allan fod cyfarfod i gael ei gynnal, a rhai yn prophwydo cyfarfod llwyddiannu8 iddynt, ond nis gwn ai felly yr oedd. Yr oeddwn yn meddwl fod yr yegal brophwydol wedi darfod ers talm, yn enwedig ar ol distewi Dr. Cummings; ond ymddengys fod rhai o'i ddisgyblion etto yn fyw yn Beth- esda-un o honynt i'w gael yn mherson Gwil- ym Jones," yr hwn sydd wedi prophwydo y bydd sir Gaernarfon yn fuan etto yn nofio yn yr afon Ryddfrydig. Wei, wel, y mae Radical- iaeth yn cyffelybu ei hunan i bob peth agos. Hen gi ydyw gan Mr Caine, ond afon gan Gwilym! Beth etto, tybed ? Nid oes llawer o berygl, os bu rhai o edmygwyr yr "Hen gi yn cyfarth drosto yn Bethesda. Yr wyf yn sicr agos mai mewn cyfarth yn unig y derfydd, ac nad oes lawer o berygl iddo frathu. Nid yw pobl Bethesda a sir Gaernar- fon yn gyffredin mor wirion a dychryn wrth glywed ychydig gyfarth a rhedeg oddiwrth yr hen egwyddorion Ceidwadol.-ALPIR,&.
GWRECSAM A'R AMGYLCHOEDD.
GWRECSAM A'R AMGYLCHOEDD. Prydnawn dydd Sadwrn, cafwyd cyfar- fod adloniadol yn y Temperance Hall, dan lywyddiaeth Mr Low. Yr oedd yr ystafell yn orlawn. Cymysgedig ydoedd y program o Gymraeg a Saesneg, ac yn llawn mwy chwaethus na'i ragflaenoriaid, ond y mae digon o le i wella etto. TYBACCO."—Dydd Llun, traddodwyd darlith ar y testyn uchod gan Mr Fotber- gill. Yr oedd dymuniad taer ar i bawb, yn ysmocwyr neu beidio, ddyfod i wrando y ddarlith, yr hon oedd yn rhad. Dyfyn- odd o farnau amryw feddygon enwog er dangos y drwg o ddefnyddio tybacco, a chadarnhau ei osodiadau. Ac er iddo ddyweud yn arw yn erbyn yr arferiad o ysmocio, ychydig oedd yr effaith a gafodd, oherwydd yr oedd colofnau o fwg i'w gweled yn dyfod o oneuau llawer gyda'u bod wedi gydael yr ^stafell. TORI FFENESTlu.-Mae rhai pobl—os teilwng o'r enw-nad ydynt yn ymhyfrydu mewn dim ond gwneud drwg. Yr wyth- nos ddiweddaf, talodd nifer o honynt ym- weliad a'r dref hon, gan aflonyddu ar y trigolion, trwy dori ffenestri, cicio dorau, a gwahanol gampan drygionus ereill. Pa le yr oedd yr heddgeidwaid, tybed, na fu- asent yn clywed y fath dwrw ? Ond waeth heb son am heddgeidwaid, pan y mae, rhai o honynt yn methu ffeindio eu ffordd gartref. Yr wythnos o'r blaen, torwyd i mewn i fasnachdy oedd a fewn llai na deg llath i'w gorsaf. GWLEDD.-Rhoddodd Mr Walker, y dar. llawydd, wledd o ddanteithion breision i'w weithwyr, 150 mewn nifer. Wedi i bawb gael eu digoni, a chlirio y byrddau, caf- wyd noson hynod ddifyrus, set areithiau doniol a chaneuon melodaidd. Ymadaw- odd yr oil wedi eu llwyr foddhau. YR OFFEIRIAD PABAIDD.-Mae y b6d hwn yn parhau i aflonyddu ar fwrdd y gwarch- eidwaid, ac yn gadarn dros ei fympwyon ei hun, ond mae y bwrdd yn penderfynu troi clust-fyddar atto.. Y CYNGHOR TREFoL.- Y mno hwa wedi bod yn hynod o law-drwm gyda thori gwaith allan, ac wedi bod yn lIed hael gydag arian y trethdalwyr. Ond rhwng helaethrwydd y gwaith y maent wedi gymmeryd i'w wneud-symian mawrion o arian i'w talu, llogau trymion yn cael eu gofyn, a chwynion trethdalwyr anfodd- og-gellir dyweud fod "llestr" y eyng- hor mewn dyryswch, a chydag anhawsder nid bychan yn gallu ymsymmud yn mlaen. Y GENHADAETH DREFOL.-Dydd lau, ymgynnullodd nifer o foneddigesan a bon- eddigion yn ystafell y Banc Cynnilo, i y8. tyried a threfnu pethau mewn cyssylltiad a'r genhadaeth drefol. Wedi cryn siarad penderfynwyd dwyn y gwaith yn mlaen fel arferol, yr hyn oedd benderfyniad hynod ddoeth oherwydd, os oes angen cenhadon yn rhywle, Gwrecsam ydyw y fan. MEDDWDOD.—Am feddwdod ac afreol- eidd-dra, a gwneud dinystr gwerth lOp yn Dderwen Ddu, anfonwyd un John Ed- wards, neu Jack y Baiter," i garchar am chwe' mis gyda llafur caled. EGLWYS NEWYDD.—Dydd Mercher yd- oedd y diwrnod yr hir ddisgwylid am dano, sefadeg agoriad yr eglwys Lehod. Mae hwn yn un o'r adeiladau mwyaf prydferth a welsom braidd erioed, er nad yw yn fawr iawn, ond ffoledd fuasai codi adeilad enfawr pan nad oedd angen am hyny. Gelliy dyweud am hwn ei fod yn gywrain a chadarn ei wneuthuriad* ac yn gyfleus ei gynllun, yn cynnwys yr hyn y gallesid disgwyl iddo fod, ac wedi costio 1,500p. Cymmerwyd rhan yn y gweith- rediadau gan Arglwydd Esgob Llanelwy, yr Archddiacon Wiekham, y Ficer Howell, y Gwir Barchedig Esgob Alford, y Parch! G. Jones, y Parch. J. Dixon, a'r Parch. J. H. Gibbon, Bolton. Yr oedd y cynnull- iadau yn lluosog anarferol, y gwasaBaeth yn rymus ac effeithiol, y gwrandawiad yn astud, ae, yn ol pob ymddangosiad, fod yr had da yn cael dyfnder daear. t Yr oedd swm y casgliadau ar y diwedd yn 35p 13s. Yr un dydd cafodd gweisioii y llythyrdy eu gwledd flynyddol yn yr Argyle Dining Rooms, Hope-street. Enos.—Parhau i sefyll allan y mae glowyr y parthau hyn, heb mi argoel. dy- fod i gyttundeb; ond y mae rhai 0 honynt