Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

- MES-URAU Y-LLYWODIRAETH

\DYDDLYFR Y PACKMAN.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

DYDDLYFR Y PACKMAN. Yr wyf yn analluog i fyned o'r tj ers pythefnos, oherwydd i ddannedd m&n ac anweledig yr oerfel gnoi fy nhraed. Y mae yfed yn helaeth o'r te pnr yn eu gwella yn ardderchog Oherwydd methu ymweled a thai fy nghwatnei iaid, nis gallaf y tro hwn fviie( I tu cefn i leui dirgelion. feeuluaid«i,a be i- i i ais yn oreu ysg iienurhai SYLWADAF ar eiddo rhai o'ch gohebwyr yn y rhifyn diweddaf o'r LLAIS. 1. Am Gwas Mr Punch." Dywed ei fod yn cyhoeddi Can newydd yr Arch- fardd." Nid yr Archfardcl John Evans ydyw awdwr y llinellau cocosaidd a ys- grifenodd G. Mr Punch, a ffolineb mawr oedd ceisio cael spoH dwl ar draul yr Archfardd. Dymuna attebiad i'w ofyn- iadau. Dyma fi yn atteb. 1. Pa un ai y sawl sydd yn lladratta yn y nos, ai yr hwn sydd yn lladratta yn y dydd yw y gonestaf ?" Atteb Lleidr y nos, wrth gwrs, canys y mae mewn tywyllwch. 2. Y person cyntaf, os ya amddifad o ddiflfygion yr ail. S. 11 Pa sawl hoelen oedd yn mhedolau meirch Pharoah?" Gofyniad dwl os na ddichon G. Punch brofi bodoldeb y peth (y pedolau). 4. "Pa le yr oedd Moses pan ddiffoddodd y gan- wyll oedd ganddo ?" Atteb: Dwl etto, nes y profir bodoldeb y peth (y ganwyll), yr hyn nis gellir, canys nid oedd canwyll- au mewn bodolaeth y pryd hwnw. 5. "Pa sawl gwaith yr edrychodd Jonah faint oedd hi o'r gloch," dcc., ? Atteb Dim rhith o synwyr. Pa gloch ? Pwy yw yr hi? ai darn menywaidd o'r gloch ? Yn ol y geiriad, gofyna faintiolaeth rhywbeth a gyfenwir yn hi, a hono yn perthyn 1 ryw gloch Bosh! 6. "Pa beth a wnaiff dyn wedi iddi fyned i'r pen ftrno ?" Atteb Pwy, neu beth yw yr iddi ? Ni ddywedir pa nen. Y mae yr iddi yn myned i'r pen arno" yn hymbyg. 7. Pwy y mae pawb yn ofni ? Pwy feddyliech chwi, ond John y Packman ? Gofynaffinnau, Pwy yw,! yr ysgrifenydd dwlaf ? Atteb: Gwas Mr Punch, am y proffesa fod yn was i Punch, ac efe yn rhy analluog i ys- grifenn un frawddeg Bwnsyddol. 2. Am John Jones, Llundain. Treul- iodd John a minnau rai oriau gyda'n gilydd yn Eisteddfod Brymbo, y Naefolig, ac addawodd ysgrifenu llythyr i'r LLAIS ar yr eisteddfod fel y dylai fod, ond annghof- iodd. Dywed John fod eisieu dal lladron llenyddol, a'r rbai sydd yn cynnorthwyo gormod ar uchelgais ffyliaid a'u gosod ar lwyfan y cwrdd fel awdwyr, a hwytbau heb allu odli na dyfeisio." Purion, John. Ond yn mha le y mae'r lladron hyn ? a phwy sydd yn cynnorthwyo gormod ar ffyliaid ? a phwy yw y ffyliaid hyny ? A oedd lladron yn Mrymbo ? Os oedd,paham na fuasai John yn dywend wrthyf yno fel y, gallaswn eu dal a'u cospi ? Sylw da, a, gwirioneddol oedd gan John ar gyfansodd- iadau Brymbo. Dydd da i ti John, a chofia fi at Mrs Jones. 3. Am Ohebydd Gwrecsam, &e. Y mae'r gohebydd hwn, nid yn unig yn an- wireddus,ond yn gableddus. Pethchwithig yw clywed un na fedr ganu awdl, cywydd, englyn, na phryddest, ynrhyfygn rhoddi barn arnynt. Ne suter ultra crepidam. An- wiredd yw y cyfan ysgrifenodd ynnghylch cyfansoddiadau Brymbo; ac y mae'r ffaith iddo ddyweud yn 3 rhifyn diweddaf fod John Jones yn dyweud celwydd yn lled- grybwyll yr hyn a ellir ddisgwyl oddiwrtho yn y dyfodol. Shame. 4. Am Un oedd yno" (Conwy). # Dy- wed hwn i'r Cadeirdraw Evans, Birken- head, areithio ar Undodiaeth crefydd natur, a rheswm, ac Ysgrythyr." Ceisiodd hwn gyfieithu gair Seisnig, a ehredodd mai yr un peth yw unoliaeth ac undod- iaeth Ond dichon y daw'r bachgen i ddeall pethau yn well cyn hir. 5. Am Craig y Foelallt." Dywed y Graig fod Mrs Crawshay, ac amryw ben- boethiaid ereill, am losgi cyrpk ein cyfeill- ion yn lie eu gadael i bydru mown myn- wentydd, ond fod hyny yn baganiaeth remp, ac yn groes i natur ddynol. (Rhwng cromfachau, nid ydym ni yn Llanrwst yn arferyd noun i gualifio noun arall, ond arferwn adjective.) Ond pa- ham y gelwir hwy yn benboethiaid, ac y dywedir fod hyny yn groes i natur ddynol? A oes gan y Graig rywbeth uewydd ar y mater, fel i'm hargyhoeddi fod claddu yn well na llosgi ? 6. Am Alarch Gwyrfai. Gwelais yr Alarch dydd Sadwrn, ac wedi iddo brynu pwys o de pur Llanrwst, a thalu yn cnest am dano, dangosodd i mi ei lythyr yn y Llais mewn attebiad i Avaon Peris, a gof- ynodd, Onid yw hwn yn llythyr rhag- orol, John ?" Ebe fi, yr wyt yn debyg iawn i dy frodyr ar lyn y Bala. Yno y mae pob Alarch Yn addoli ei bardd ddelwei him," Barn yr hen Backman parchus am dy attebiad yw ei fod yn arddangosiad teg o honot. Ceisia di gadw yr hunanoldeb yna o'r golwg, a gellir gwneud rhywbeth o honot wedi hyny. Dydd da i ti, Alarch. 7. Am Llygadog. Da genyf dy fod ti ac ereill yn Llanfihangel, yn cydymdeimlo a'r hen Backman parchus yn ei ofidiau, ond y mae'r cyfan drosodd. Nid gwir i mi fwytta gormod o gyflath hen wraig Pwllycrochan; ond cododd tipyn o ysbryd arnaf i chwareu jokes diniwed. Nid oedd yr hen wraig wedi yfed te erioed o'r blaen, ac wedi iddi dalu am bwys o'r te pur, dywedais wrthi am ferwi y cyfan yn y crochan, a thaflu y dwr ymaith, a bwytta I y gweddill fel bwytta bresych, a hyny fu. Wei, nid oedd dim drwg yn yjoke. Deuaf heibio i ti yn fuan. Bydd a'r arian yn barod am y te, canys nis gallaf werthu ychwaneg o de pur Llanrwst heb dalu i lawr.-Yr eiddoch yn sylwgar, Llanrwst. JOHN Y PACKMAN.

BETHESDA A'R AMGYLCHOEDD.

GWRECSAM A'R AMGYLCHOEDD.