Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

- MES-URAU Y-LLYWODIRAETH

\DYDDLYFR Y PACKMAN.

BETHESDA A'R AMGYLCHOEDD.

GWRECSAM A'R AMGYLCHOEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWRECSAM A'R AMGYLCHOEDD. Prydnawn dydd Sadwrn, cafwyd cyfar- fod adloniadol yn y Temperance Hall, dan lywyddiaeth Mr Low. Yr oedd yr ystafell yn orlawn. Cymysgedig ydoedd y program o Gymraeg a Saesneg, ac yn llawn mwy chwaethus na'i ragflaenoriaid, ond y mae digon o le i wella etto. TYBACCO."—Dydd Llun, traddodwyd darlith ar y testyn uchod gan Mr Fotber- gill. Yr oedd dymuniad taer ar i bawb, yn ysmocwyr neu beidio, ddyfod i wrando y ddarlith, yr hon oedd yn rhad. Dyfyn- odd o farnau amryw feddygon enwog er dangos y drwg o ddefnyddio tybacco, a chadarnhau ei osodiadau. Ac er iddo ddyweud yn arw yn erbyn yr arferiad o ysmocio, ychydig oedd yr effaith a gafodd, oherwydd yr oedd colofnau o fwg i'w gweled yn dyfod o oneuau llawer gyda'u bod wedi gydael yr ^stafell. TORI FFENESTlu.-Mae rhai pobl—os teilwng o'r enw-nad ydynt yn ymhyfrydu mewn dim ond gwneud drwg. Yr wyth- nos ddiweddaf, talodd nifer o honynt ym- weliad a'r dref hon, gan aflonyddu ar y trigolion, trwy dori ffenestri, cicio dorau, a gwahanol gampan drygionus ereill. Pa le yr oedd yr heddgeidwaid, tybed, na fu- asent yn clywed y fath dwrw ? Ond waeth heb son am heddgeidwaid, pan y mae, rhai o honynt yn methu ffeindio eu ffordd gartref. Yr wythnos o'r blaen, torwyd i mewn i fasnachdy oedd a fewn llai na deg llath i'w gorsaf. GWLEDD.-Rhoddodd Mr Walker, y dar. llawydd, wledd o ddanteithion breision i'w weithwyr, 150 mewn nifer. Wedi i bawb gael eu digoni, a chlirio y byrddau, caf- wyd noson hynod ddifyrus, set areithiau doniol a chaneuon melodaidd. Ymadaw- odd yr oil wedi eu llwyr foddhau. YR OFFEIRIAD PABAIDD.-Mae y b6d hwn yn parhau i aflonyddu ar fwrdd y gwarch- eidwaid, ac yn gadarn dros ei fympwyon ei hun, ond mae y bwrdd yn penderfynu troi clust-fyddar atto.. Y CYNGHOR TREFoL.- Y mno hwa wedi bod yn hynod o law-drwm gyda thori gwaith allan, ac wedi bod yn lIed hael gydag arian y trethdalwyr. Ond rhwng helaethrwydd y gwaith y maent wedi gymmeryd i'w wneud-symian mawrion o arian i'w talu, llogau trymion yn cael eu gofyn, a chwynion trethdalwyr anfodd- og-gellir dyweud fod "llestr" y eyng- hor mewn dyryswch, a chydag anhawsder nid bychan yn gallu ymsymmud yn mlaen. Y GENHADAETH DREFOL.-Dydd lau, ymgynnullodd nifer o foneddigesan a bon- eddigion yn ystafell y Banc Cynnilo, i y8. tyried a threfnu pethau mewn cyssylltiad a'r genhadaeth drefol. Wedi cryn siarad penderfynwyd dwyn y gwaith yn mlaen fel arferol, yr hyn oedd benderfyniad hynod ddoeth oherwydd, os oes angen cenhadon yn rhywle, Gwrecsam ydyw y fan. MEDDWDOD.—Am feddwdod ac afreol- eidd-dra, a gwneud dinystr gwerth lOp yn Dderwen Ddu, anfonwyd un John Ed- wards, neu Jack y Baiter," i garchar am chwe' mis gyda llafur caled. EGLWYS NEWYDD.—Dydd Mercher yd- oedd y diwrnod yr hir ddisgwylid am dano, sefadeg agoriad yr eglwys Lehod. Mae hwn yn un o'r adeiladau mwyaf prydferth a welsom braidd erioed, er nad yw yn fawr iawn, ond ffoledd fuasai codi adeilad enfawr pan nad oedd angen am hyny. Gelliy dyweud am hwn ei fod yn gywrain a chadarn ei wneuthuriad* ac yn gyfleus ei gynllun, yn cynnwys yr hyn y gallesid disgwyl iddo fod, ac wedi costio 1,500p. Cymmerwyd rhan yn y gweith- rediadau gan Arglwydd Esgob Llanelwy, yr Archddiacon Wiekham, y Ficer Howell, y Gwir Barchedig Esgob Alford, y Parch! G. Jones, y Parch. J. Dixon, a'r Parch. J. H. Gibbon, Bolton. Yr oedd y cynnull- iadau yn lluosog anarferol, y gwasaBaeth yn rymus ac effeithiol, y gwrandawiad yn astud, ae, yn ol pob ymddangosiad, fod yr had da yn cael dyfnder daear. t Yr oedd swm y casgliadau ar y diwedd yn 35p 13s. Yr un dydd cafodd gweisioii y llythyrdy eu gwledd flynyddol yn yr Argyle Dining Rooms, Hope-street. Enos.—Parhau i sefyll allan y mae glowyr y parthau hyn, heb mi argoel. dy- fod i gyttundeb; ond y mae rhai 0 honynt