Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

- ABERDYFI.J

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ABERDYFI. J 'Gyda'theimlad pruddaidd y cotnolaf farwolaeth ein hybarch beriglor, y Parch. John Williams, M.A. Dioddefodd gysfcudd maith yn amyneddgar, ac ehedodd ei ysbryd at yr Hwn a'i rhoes y Sabboth cyn j diweddaf. Ganwyd a magwyd ef yn Ystrad Fflur, Ceredigion, ac yr ydoedd yn frawd i'r Parch. E. Williams, Edeyrn. Dewisai gael ei gladdu yn mynwent bro ei enedigaeth, ac hebryngwyd ei weddillion yno. gan amryw o'i berthynasau ddydd Gwener, a chladdwyd ef yn mhresennoldeb torf o drigolion y faugre ddydd Sadwrn. Ymsefydlodd yn Aberdyfi flynyddau lawer yn ol, fel olynydd i'r Parch. Benjamin Morgan, pan nad oedd yr eglwys ond yehydig mewn nifer, a'r hyn a delid iddo ond bychan. Gweithiodd Mr Williams, modd bynag, yn egniol, ac ennillodd barch yr. oil o'r plwyfolion. Gwelir hefyd yn Aberdyfi luaws o bethau ag y bu Mr Wil- liams yn foddion i'w codi, rhai tra byddo careg ar gareg o honynt, fyddant yn g6f- golofnau o'i ddiwydrwydd. Ystyriodd hefyd y tlawd, ac os bydd i'w olynydd ddilyn ei esiampl yn hyn, ni fydd raid iddynt wrido. Fel pregethwr yr oedd yn un a ganmolid gan bawb, ac fel ysgolhaig gellir ei restru yn uchel. Yr oedd ei ar- ddull bob amser yn syml, a cheryddai yn Ilym unrhyw rwysg. Ni fynai er dim a ehefnogi y defodau a arferid mewn eglwysi cymmydogaethol. Dyn ydoedd na fydd rhaid i Ddyfi wrth ei well, a thaer obeith- iwn ar i'w olynydd fod yn gyffelyb iddo. Heddwch i'w lwcb, a Duw a gysuro ei weddw dirioa a chýmmwynasgar .-Idwal.

BANGOR.

CAERGYBI.

CAERNARFON.

FFESTINIOG.

LLANGEFNI.

LLANFECHELL.

LLANDINORWIG,

LLANWDDYN.

LLITHFAEN.

LLANWENLLWYFO, MON.

PRIFYSGOL ABERYSTWYTH.

PORTHDINORWIG. '

YSGOLDY VOELGRON, LUlNGIA^'I!

Advertising

LLANGOED.