Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

- ABERDYFI.J

BANGOR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BANGOR. CYMDEITHAS GRISTIONOGOL GWYR lEU- ,UNGO.-Cynnaliodd y gymdeithas uchod wledd o de a bara brith nos Wener diwedd- af, y 14eg cyfisol, yn yr ystafell berthynol iddynt, ac ymgynnulloddlluawsyn nghyd. Yr amcan oedd i roddi mwy o annogaeth i'r gymdeithas fyned yn mlaen, drwy ei bod ers ychydig amser mewn cyflwr pur isel. Siaradwyd yn gryf iawn o'i phlaid gan amryw foneddigion ac er ei wneud yn gyfarfod difyrus, cafwyd canuacar- eithiau fel y canlyn :—Yn gyntaf, cafwyd ton gynnulleidfaol, ac yna aed yn mlaen drwy i Mr Humphreys, llyfrwertbydd, Eos Maelor, Mr Foulkes Jones, a Mr Parry, assistant, roddi eu cynnorthwy, ac yr oedd ynt oil yn haeddu canmoliaeth uchel. Yna eafwyd araeth for, yn dangos pa fodd yr oedd sefyllfa y gymdeithas yn bresenol, gan Mr Williams, y cadeirydd, a darllen- wyd gweithrediadau y flwyddyn ddiweddaf gan Mr Edwards, yr ysgrifenydd. Yna cafwyd araeth gan Mr H. Davies, P. 0., yn dyweud mai amcan y gymdeithas oedd dwyn yr ieuenctyd yn nes at grefydd. Cafwyd araeth drachefn yn hynod deiml- adwy gan Mr R. Williams, y trysorydd, yn dangos mai Did sect yw y gymdeithas hon, ond ei bod fel yn nefoedd ar y ddaear, yn derbyn yn groesawgar Eglwys- wyr ac Ymneillduwyr, megys y mae'r net heb Beet ynddi. Yna cyfansoddodd Eryr Berw englyn byrfyfyr ar Paul a Silas yn y carchar. Meddyliodd y pwyll- gor y buasai yn rhaid iddynt roddi i fynyy gymdeithas hon drwy ei bod mor isel, ond cynnygiodd H. 0. Hughes iddynt ei chario yn mlaen; fod yn resyn i gymdeithas mor odidog a hon farw. Cyttunwyd a'r cyn- nygiad gan y dorf yn unfrydol, a diamheu y ceir ei gweled mor flodeuog ag erioed. Terfynwyd trwy uno yn yr hen don gynnulleidfaol French," a gweddi i ofyn bendith ar fy gymdeithas i ddwyn yr ieu- enctyd yn nes at Dduw. Dymunwn lwydd- iant iddi.-Ap Llechid.

CAERGYBI.

CAERNARFON.

FFESTINIOG.

LLANGEFNI.

LLANFECHELL.

LLANDINORWIG,

LLANWDDYN.

LLITHFAEN.

LLANWENLLWYFO, MON.

PRIFYSGOL ABERYSTWYTH.

PORTHDINORWIG. '

YSGOLDY VOELGRON, LUlNGIA^'I!

Advertising

LLANGOED.