Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
- ABERDYFI.J
ABERDYFI. J 'Gyda'theimlad pruddaidd y cotnolaf farwolaeth ein hybarch beriglor, y Parch. John Williams, M.A. Dioddefodd gysfcudd maith yn amyneddgar, ac ehedodd ei ysbryd at yr Hwn a'i rhoes y Sabboth cyn j diweddaf. Ganwyd a magwyd ef yn Ystrad Fflur, Ceredigion, ac yr ydoedd yn frawd i'r Parch. E. Williams, Edeyrn. Dewisai gael ei gladdu yn mynwent bro ei enedigaeth, ac hebryngwyd ei weddillion yno. gan amryw o'i berthynasau ddydd Gwener, a chladdwyd ef yn mhresennoldeb torf o drigolion y faugre ddydd Sadwrn. Ymsefydlodd yn Aberdyfi flynyddau lawer yn ol, fel olynydd i'r Parch. Benjamin Morgan, pan nad oedd yr eglwys ond yehydig mewn nifer, a'r hyn a delid iddo ond bychan. Gweithiodd Mr Williams, modd bynag, yn egniol, ac ennillodd barch yr. oil o'r plwyfolion. Gwelir hefyd yn Aberdyfi luaws o bethau ag y bu Mr Wil- liams yn foddion i'w codi, rhai tra byddo careg ar gareg o honynt, fyddant yn g6f- golofnau o'i ddiwydrwydd. Ystyriodd hefyd y tlawd, ac os bydd i'w olynydd ddilyn ei esiampl yn hyn, ni fydd raid iddynt wrido. Fel pregethwr yr oedd yn un a ganmolid gan bawb, ac fel ysgolhaig gellir ei restru yn uchel. Yr oedd ei ar- ddull bob amser yn syml, a cheryddai yn Ilym unrhyw rwysg. Ni fynai er dim a ehefnogi y defodau a arferid mewn eglwysi cymmydogaethol. Dyn ydoedd na fydd rhaid i Ddyfi wrth ei well, a thaer obeith- iwn ar i'w olynydd fod yn gyffelyb iddo. Heddwch i'w lwcb, a Duw a gysuro ei weddw dirioa a chýmmwynasgar .-Idwal.
BANGOR.
BANGOR. CYMDEITHAS GRISTIONOGOL GWYR lEU- ,UNGO.-Cynnaliodd y gymdeithas uchod wledd o de a bara brith nos Wener diwedd- af, y 14eg cyfisol, yn yr ystafell berthynol iddynt, ac ymgynnulloddlluawsyn nghyd. Yr amcan oedd i roddi mwy o annogaeth i'r gymdeithas fyned yn mlaen, drwy ei bod ers ychydig amser mewn cyflwr pur isel. Siaradwyd yn gryf iawn o'i phlaid gan amryw foneddigion ac er ei wneud yn gyfarfod difyrus, cafwyd canuacar- eithiau fel y canlyn :—Yn gyntaf, cafwyd ton gynnulleidfaol, ac yna aed yn mlaen drwy i Mr Humphreys, llyfrwertbydd, Eos Maelor, Mr Foulkes Jones, a Mr Parry, assistant, roddi eu cynnorthwy, ac yr oedd ynt oil yn haeddu canmoliaeth uchel. Yna eafwyd araeth for, yn dangos pa fodd yr oedd sefyllfa y gymdeithas yn bresenol, gan Mr Williams, y cadeirydd, a darllen- wyd gweithrediadau y flwyddyn ddiweddaf gan Mr Edwards, yr ysgrifenydd. Yna cafwyd araeth gan Mr H. Davies, P. 0., yn dyweud mai amcan y gymdeithas oedd dwyn yr ieuenctyd yn nes at grefydd. Cafwyd araeth drachefn yn hynod deiml- adwy gan Mr R. Williams, y trysorydd, yn dangos mai Did sect yw y gymdeithas hon, ond ei bod fel yn nefoedd ar y ddaear, yn derbyn yn groesawgar Eglwys- wyr ac Ymneillduwyr, megys y mae'r net heb Beet ynddi. Yna cyfansoddodd Eryr Berw englyn byrfyfyr ar Paul a Silas yn y carchar. Meddyliodd y pwyll- gor y buasai yn rhaid iddynt roddi i fynyy gymdeithas hon drwy ei bod mor isel, ond cynnygiodd H. 0. Hughes iddynt ei chario yn mlaen; fod yn resyn i gymdeithas mor odidog a hon farw. Cyttunwyd a'r cyn- nygiad gan y dorf yn unfrydol, a diamheu y ceir ei gweled mor flodeuog ag erioed. Terfynwyd trwy uno yn yr hen don gynnulleidfaol French," a gweddi i ofyn bendith ar fy gymdeithas i ddwyn yr ieu- enctyd yn nes at Dduw. Dymunwn lwydd- iant iddi.-Ap Llechid.
CAERGYBI.
CAERGYBI. DIFYRWCH.—Nos Wener, y 14eg cyfisol, talodd cwmni o Christy's Minstrels ymwel- iad a'r dref hon, a buont yn dangos eu galluoedd i chwareu gwahanol gampauyn y neuadd drefol. Cafwyd cynnulliad hy- nod luosog. PREGETHU.—Mae math o gyfarfodydd adfywiadol wedi bod yn cael eu cynnal yn rhai o gapelau y dref yma drwy yr wyth- nos ddiweddaf.—Cybi.
CAERNARFON.
CAERNARFON. • Nos Lun, y lOfed cyfisol, rhoddodd Mr HaydeD, yn cael ei gynnorthwyo gan ei bapits, gyngherdd da yn y Guild Hall. Cafwyd cvnnulleidfa weddol, a chanu da iawn, a chanu sal iawn Lefyd. Elai yr elw at gynnorthwyo y tlawd. Sibrydir fod y Gwynedd Glee Society a chor Moriah yn bwriadu myned i gystadlu i Rhyl yn Mawrth nesaf. Nos Fawrth, yr lleg cyfisol, talodd y Buckley Minstrels ymweliad d'il tref, ond ni chafodd neb werth eu harian. Disgwylir gwyl gerddorol o radd uchel yma nos Llun, y 24ain cyfisol, gan y Gym- deithas Philharmonaidd, dan arweiniad MrW. I'arry, yn cael eu cyunorthwyo gan Mynydjog, Aliss Jackson, Lerpwl; Miss Eraser, a Mr J. Watts ar y cornet. Deallwn y byddant yn perfformio un o brif ddarnau eisteddfod ddyfodol Gwrec- fftm, f y mae yma gor undebol wedi ei ffurfio o dan arw-einyddiaeth Llew Llwyfo. Deall- wn fod yma dipyn yn helaeth o'r rhinwedd hwnw a elwir cariad brawdol yn cael ei arddangos gan yr aelodau, y rhai ydynt o'i yn perthyn i wahanol gorau ereill ein tref. Diamheu fod amldra corau yn an- dwyo cerddoriaeth yma. Dyna fy marn unplyg i ar y mater. Pa fath reswm sydd mewn bod chwech o gorau mewn tref o faint Caernarfon, heblawy coram eglwysig? Ai nid ellid cael un cor o tua 150 o oreuon ;yr oil o'r corau ? Ond y mae yma rhyw deimlad drwg yn bodoli rhwng y cantorion a'u gilydd, a hyny o achos rhyw ychydig lestri gweigion sydd yma yn cadw trwst. Y mae cor Engedi wrthi yn llafurio yn galed hefyd, ac yn benderfynol o gadw i fyny yr enw da y mae wedi ei ennill. Cynnelir nodachfa (bazaar) yn fuandan nawdd prif foneddigesau y sir a'r dref, er budd eglwys St. Dewi. SWPER I DENANTIAID GERDDI BYTHYN- WYR CAE GAREG, yr hwn sydd gae wedi ei osod yn lotiau eyfleus i weithwyr y dref ac ereill, er dybenion garddwrol, y rhai a osodir yn flynyddol am ychydig sylltau, gan Mr R. J. Davids, C.E.Caernarfon, yr bwn sydd yn parhau i gymmeryd dyddor- deb yn y peth, ac yn neillduol yn llwydd- iant y tenantiaid, pa rai a wahoddwyd ganddo i swper a barottoisid yn y New- borough Arms ar nos Lun, y lOfed cyfisol, pryd y gwobrwywyd perchenogion y gerddi oedd wedi eu trin oreu. Ar ol clirio y byrddau, rhoddodd Mr Davids y gwahanol lwngcdestynau, yn cael eu dilyn gan iechyd Mr Assheton Smith. Yfwyd hwy gyda brwdfrydedd mawr. Yna cyflwynodd y cadeirydd, Mr Davids, y gwahanol wobrwyon laf, Mr Moses Williams, Mountain-street; 2il, Sergeant Harper 3ydd, Mr Joseph Radford; 4ydd, Mr Wil- liam Mann. Yr oedd y gwobrwyon yn gynnwysedig o arfau neu gelfi garddwr- iraeth. Rhoddwyd 2s 6c o wobr i Mr W. Thomas. Ar ol rhanu y gwobrwyon, an- nerchodd y cadeirydd y gwyddfodolion mewn araeth dda, gan eu hannog i ym- gyrhaedd at berffeithrwydd. Cynnygiodd Sergeant Tilley ddiolchgarwch iddo, yr hwn a dderbyniwyd gyda chymmeradwy- aeth, ac yna ymwahanwyd. YSGOLION MORWROL.—Da genym allu gwneud yn bysbys fod un-ar-bymtheg o ddisgyblion Mrs Edwards wedi myned yn t,Y llwyddiannus drwy eu harholiad fel cad- beniaid neu mates yn ystod y flwyddyn 1875. Dywedir fod digon o ddynion i gyf- lenwi llynges gyfan wedi pasio o'r ysgol hon yn unig er pan sefydlwyd hi. Y mae rhai o'r ysgol hon yn brif swyddogion ar rai o'r llestri mwyaf a hirddaf a groesodd y cefnfor erioed. Hir oes iddi. Y FOUNTAIN.-O'r diwdd, y mae pedair lamp wedi eu gosod o gylch y Fountain, a thair o honynt wedi eu goleuo. Beth am pedwaredd ? Y mae lie i ofni fod bwrdd ysgol Caer- 0 narfon yn myned fwy yn ol nag yn mlaen, oblegid swm a sylwedd yr hyn a wnaed ers amryw droion yw—DIM. DAMWAIN.—Rhyw ffordd neu gilydcl, dychrynwyd caseg Mr R. Williams, Bruns- wick Buildings, pan yn d'od i lawr gallt Penyclip, Bontnewydd, ac ymaith a hi a'r cerbyd yn erbyn y bont, gan falurio y siafftiau ac un olwyn, a thaflu Mr Wil- liams a'i gyfaill allan o'r cerbyd, a der- byniocld y blaenaf amryw archollion ar ei dalcan, ond y mae yn gwella yn foddhaol. -Llygadog.
FFESTINIOG.
FFESTINIOG. CYNGHERDD.-Nos Lun, y 17eg cyfisol, cynnaliwyd cyngherdd yn yr Assembly Room, er budd i wraig weddw ú Tany- grisiau,yr hon sydd.wedi cael eihamddifadu o'i gwr ers dwy flynedd yn ol. Y llywydd ydoedd Mr R. Owen, Rhiw; y cyfeilydd, Mr R. R. Owen a'r cantorion, Mri 0. R. Owen, Evan Jones, Dinas, John Griffiths, a chor y Rhiw, dan arweiniad Mr John Griffiths. Yr oedd y cor yn canu hen alawon Cymreig yn dra medrus. Hefyd cafwydgwasanaeth y Barlwyd Brass Band, o dan arweiniad Mr Richard Edwards. Ni raid i'r band hwn wrth lythyrau can- moliaeth; chwareuodd yn ardderchog. Pe cawsai y band uchod ychydig o nifer yn rhagor attynt, mae yn ddiddadl y buasent yn sefyll ar y blaen trwy Gymru. Maent eisoes yn ennill tir ar y rhai sydd yn yr ochr yma. Ewch yn mlaen,fechgyn, a mynwch gael gweled y gellwch rwygo yr awyr gyda cherddoriaeth. CAPEL BETHESDA.Saif y capel prydferth uchod cydrhwng Bethania a Congl-y-wal. Fe'i hadeiladwyd gan y Methodistiaid Calfinaidd,yn y flwyddyn 1869,a chostiodd y pryd hyny 2,300p, a rhifai y gynnull- eidfa tua 300, ac erbyn heddyw mae ei ddyled wedi dyfod i lawr i 51p, ac y mae y swm yna a rhagor wedi ei addaw; a chyn pen y mis o leiaf, gall y gynnulleidfa a phawb arall waeddi Y ddyled o'i a dalwyd." Mae cyfeillion Betuesfla ar y blaen gyda casglu at bob achc s da, ond mae casgliad y tlodion yn llai o lawer yn Bethesda a thrwy y sir. DAMWAIN.-Ar y 12fed eyfisol cynxmerodd daaiwain le yn chwarel Cloddt- Ganol. Fel yr oedd dyn o'r enw John Morris, Pengwern, yn dilyn ei alwedigaeth arferol, yn bur ddisymmwth, disgynodd darn o graig ar ei draed, ac amddifad- wyd ef o un o honynt yn y fan, trwy ei thori ymaith yn wastad a'r fferau, a buwyd am hanner awr gyda phob ymdrech yn ceisio rhyddhau y troed arall. Yr oedd rhai cannoedd o bobl wedi ymgynnull i'r lie er ceisio ei ryddhau. Trwy fod y plyg mor fawr, yr oedd yn an- hawdd ei godi i fyny, ond trwy fedrusrwydd ei gydweithwyr, malnriasant ranau o'r plyg gydag arfau, a chafwyd ef yn rhydd, ond wedi ei falurio yn arswydus. Trymaidd iawn oedd ei glywed yn gruddfan, ac yn ocheneidio yn y fath gaethiwed. Cludwyd ef adref, ac ofnir na eha ef adferiad i'w iechyd. Duw a gysuro ei wraig a'i anwyl blant yn ngwyneb yr amgylchiad.-Hebog.
LLANGEFNI.
LLANGEFNI. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH CHWAER DEMLYDDOL.—Dydd Mawrth, Ionawr lleg, claddwyd y rhan farwol o'r hen chwaer, Mary Jones, Well-street, yr hon oedd yn fwyaf adnabyddus wrth yr enw" Mary Jones Bach." Hyd o fewn ychydig flyn- yddau yn ol arferai gymdeithasu a, ac addoli y duw Bacchus, a hyny ir fath raddau nes niweidio ei chysuron a'i ham- gylchiadau. Ond, o drugaredd, trwy offerynoliaeth Miss Owen, Bryngwallen, cafwyd hi i ymuno mewn glan briodas ag urdd y Temlyddion Daionus yn y dref hon, a chadwodd ei bymrwymiad hyd y diwedd. Fel Temlyddes yr oedd yn un o'r rhai mwyaf gweithgar, diwyd, a selog, a'i phrif bwngc ydoedd pleidio a chan- mawl yr achos dirwestol; a llawer tro y buodd ei hymddiddanion melus a'i hat- tebiadau ffraeth, yn cynhesl1 ac yn byw- iogi cyfarfodydd yn y gyfrinfa. Ni fodd- lonodd ar roddi ei phwys ar diirwest, daeth yn aelod hoffus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, ac mae genym hyder cryf a sail sicr i obeitbio ei bod wedi ymddiried ei hunan yn gyfangwbl i'r Ceidwad. Yr oedd ei chladdedigaeth yn un o'r rhai parchusaf a mwyaf anrhydeddus a wel- wyd yn ein tref ers blynyddoedd. Yn unol a tjjaer ddymuniad yr ymadawedig, trefn- wyd pobpeth gan y Temlyddion, pa rai a ffurfiasant yn orymdaith hardd (ond pruddaidd) bob yn ddau, gan wisgo eu hurdd-wisgoedd, ar ba rai yr oedd nodau galar wedi eu rhoddi, o flaen yr arch hyd at y gladdfa. Yn dilyn yr oedd lluaws mawr o'ichydnabyddion. Gweinyddwyd y seremoni angladdol gan y brawd teml- yddol Hugh Roberts (A.), yr hwn a aeth drwy y gwaith pwysig yn ddifrifol ac effeithiol yn ol ei arfer. Ein chwaer anwyl o'i char a hunodd,—yn Ei Duw ymddiriedodd Am hyn Efe &'i mhvnodd-o'r cwynaw, Yr hoff wir hylaw a'n tir ffarweliodd. UN O'R BRODYR.
LLANFECHELL.
LLANFECHELL. Y NADOLIG A'zt EGLWYS.-Cafodd eglwys y lie uchod ei gwisgo yn hynod ddestlus a gweddas gogyfer ä:r Nadolig sydd wedi myned heibio, odditan arelygiaeth y Pareh. J.R. Edwards a'ifoneddiges. Clywaisamryw yn dyweud nas gwelsant mo honi erioed wedi ei gwisgo mor dlws. Y mae yn werth dyfod o gryn bellder i'w gweled. Y mae yn deilwng o sylw fod Eglwyswyr y lie hwn wedi treulio y Nadolig yn hynod o lwyr a phriodol. Yn gyntaf oil, oddeutu chwech yn y boreu, cawsom orymdaith drwy heol- ydd y pentref tan ganu hymnau priodol i'r amgylchiad. Wedi dychwelyd, aethom i'r eglwys i gynnal plygain, yr hwn a dreuliwyd yn benaf mewn canu carolau. Am 11 o'r gloch, yn yr un man, cawsom wasanaeth, pregeth, a chymmun. Yn yr hwyr, drachefn, cawsom wasanaeth a chanu carolau. Dywedir gan yr ardalwyr na chlywsant well canu carolau erioed yn Llanfechell. Cyn terfynu fy sylw ar y cyfarfodydd hyn, yr wyf yn dymuno dy- weud fod clod mawr yn ddyledus i'r oil o'r rhai oedd yn bresennol am eu hymddygiad gweddus ynddynt, ac wedi myned allan o honynt. Nos GALAN A DYDD CALAN.—Nos Galan, oddeutu 8 o'r gloch, rhoddodd y Parch. J. R. Edwards, a'i foneddiges wledd o'r fath fwyaf danteithiol i Eglwyswyr ac ereill yn y plwyf hwn. Dywedir fod oddeutu 50 yn bresennol ynddi, a'r rhai hyny yn gyn- nwysedig o bob dosbarth yn yr ardal. Wedi gwneethur cyfiawnder a'r ddarpar- iaeth, cafwyd areithiau gan amryw, ac yn eu plith, Mr Parry, Tynymynydd Mr W. Owen, Rallt; a'r Parch. J. R. Edwards, yr hwn a draddododd araeth bur gynnwys- fawr ac i'r pwynt. Tuag un-ar-ddeg o'r gloch, aeth pawb i'r eglwys i gadw gwyl- nids yr hen ilwyddyn, ac i wylied dyfodiad y newydd i fewn. Y modd y treuliwyd y watchnight ydoedd, trwy ddarllen rhan o'r gwasanaeth a chanu carolau hyd hanner nos, ac yna chantiwyd 7Te Deum gan y cor yn swynol dros ben, yn cael eu dilyn yn fedrus ar yr organ gan Mrs Edwards, Rectory. CLWB DILLAD.—Y dydd Sadwrn canlyn- 01: sef dydd Calan, cafodd aelodau Ysgoi Sul yr Eglwys eu cyfraniadau o'r { clwb. yn ngyda bonits o geiniog am bob Sul y buont yn bresennol yn nghorff y flwyddyn. Hafyd, cafodd pob un o honynt an porthi hyd ddigon a the a bara brith yn y fargen. Yna rhoddwyd orange a sweets i bob un o honynt ar eu hymadawiad. Rhanwyd iddynt hefyd, gan y Parch. Mr Edwards, rhoddwr y wledd, swm lied dda o bres mewn rhedegfeydd. Cyni diweddu, dyledus yw cydnabod yn ddiolch- gar y boneddigesau fu yn arlwyo y gwa- hanol wleddoedd mor fedrus.—Llwydrudd. #
LLANDINORWIG,
LLANDINORWIG, CYNGHERDD.—-Nos Iau, y 13eg o'r mis presennol, cynnaliwyd cyngherdd yn ys- goldy Llandinorwig, dan lywyddiaeth Mr H. D. Pritchard, Deiniolen S.B. Gar- monydd ac Eos Marchlyn oedd prif enwoerwydd y cyngherdd yma. Yn ystod y cyfarfod, cymmerodd cystadleuaeth le ar don i gor o feibion. Fel y mae yn wybyddus i laweroedd o ddarllenwyr y Llais, cor Pone y Rhiwlar fyddai yn ennill bob amser yn yr ardal yma,ond y noswaith yma yr oedd Mr 0. T. Owens a Mr E. W. Edwards wedi parottoi ar eu fcyfer, a llawenydd oedd i bawb oedd yn bresennol gael clywed y feirniadaeth ddiduedd gan Garmonydd, yr hwn a gyhoeddodd y cor oJaf yn fuddugol. Da genyf hysbysu fod yr elw yn cyrhaedd dros ugain punt, pa rai oedd yn myped at gynnorthwyo .Thos. Parry, Ebenezer, yr hwn oedd wedi bod yn analluog i ddilyn ei alwedigaeth ers misoedd. Digon yw dyweud fod pawb wedimyned trwy eu gwaith yn ardderchog. Da genyf hysbysu fod Temlyddiaeth Dda ar gynnydd yn yr ardal yma, ar ol maith nychdod. Hefyd,y mae yma beth newydd hollol, sef ysgol Sul i blant tlottaf yr ardal. Mae hono ar gynnydd eyflym.- R. ap Prys. CRFAKFOD Y PLANT .-Cynneliry cyfarfod- ydd hyn yn gysson ddwy waith bob wythnoa, un dosbarth i'r bobl ieuaingc, a'r dosbarth arall i'r plant lleiaf. Nos Iau, y 6ed cyfisol, gwahoddwyd aelodau y gymdeithas hon i'r ficerdy, He yr ydoedd t6 a bara brith, &c., wedi ei barottoi ar eu cyfer. Trwy haelioni a charedigrwydd Mrs Davies, Blue Poris, yr oedd Christmas Tree hardd, yn orlwythog o deganau, anrhegion, &c., wedi ei threfnu erbyn yr achlysur. Oafwyd difyrwch nid bychan wrth i Mr Griffith Ellis, Mr Edwards, Misses Hughes (Hafotty), Miss Kate Davies, &c., ranu y teganau, &c., trwy fwrw coelbren. au. Wedi talu diolehgarwch gwresog i'r cyfeillion all, a chanu emynau, &c., o dan arweiniad Mr John Roberts, blaenor diwyd a llwyddiannus y canu, aeth pawb adref wedi cael boddhad mawr yn nheparti y Band of Hope."r- Gohelydd.
LLANWDDYN.
LLANWDDYN. CYMDEITHAS Y BOBL IFUAiNmo. — Nos Iau, yr wythfed cyfisol, yn hen Ysgoldy adgywiriedig y lie hwn, cafwyd cyfarfod difyrus er diwyllio meddwl y td ieuangc. Agorwyd y cyfarfod gydag araeth alluog gan y llywydd, y Parch. T. H. Evans, ficer y plwyf. Sylwodd ar wrthddadleuon y rhai a wrthwynebhnt gyffelyb gyfarfodydd, a gwasgarodd eu gwrth-resymau fel niwl y boreu. Elai yr elw oddiwrth y gym- deithas at drysorfa yr ysgol ddyddiol.— Wddyn.
LLITHFAEN.
LLITHFAEN. TEMLYDDIAETH DDA.—Ar nos Fawrth, yr lleg cyfisol, cynnaliodd Temlwyr Da y lie uchod gyfarfud cyhoeddus, yn yr hwn y cafwyd annerchiadau odiaethol o dda gan y brawd R. H. Williams (Plenydd), a'r brawd 0. N. Jones (T.U.Y.), Aberdar. Yn y gyfrinfa a gynnaliwyd ar ol y cyfar- fod cyhoeddus, derbyniwyd deuddeg o aelodau newyddion i'r urdd. Y mae golwg lewyrchus iawn ar Demlyddiaeth yn y lie bywiog hwn, ao wedi bod felly er pan sef- ydlwyd Temlyddiaeth yma gyntaf, oddeutu pedair blynedd yn ol. LLAWENYDD PRIODASOL--Dydd Iau di- weddaf, sef y dydd yr oedd Mr Farer, prif oruchwyliwr gwaith sets Llanaelhaiarn, yn priodi, goleuwyd y pentref hwn yn ys- blenydd. Yr ydoedd y Liverpool House a'r Liverpool Terrace, ynnghyda'r Victoria Terrace yn ymddangos yn ardderchog. Yr oedd y canwyllau yn y ffenestri, yn ym- ddangos mor afrifed a s6r y non.-Medda Nhw.
LLANWENLLWYFO, MON.
LLANWENLLWYFO, MON. Traddodwyd pregeth gan berson y plwyf yn yr eglwys hon, boreu Sul diweddaf, o blaid y National Lifeboat Institution, a chasglwyd y swm o bum' punt—cyfraniad hardd a cbanmoladwy oddiwrth blwyf mor fychan. Y mae'r gymdeithas hon yn haeddu mwy o sylw a chymhorth nag y mae yn ei gael yn gyffredinol, yn enwedig gan ei bod yn ymddibynu yn hollol ar roddion gwirfoddol.
PRIFYSGOL ABERYSTWYTH.
PRIFYSGOL ABERYSTWYTH. Ennillwyd exhibitions gan y personau can- lynol yn arlioliad diweddaf y setydliad uchod: —1. T. B. Wat kins, Llanelli, lOp. 2. T. E. Ellis, Cynlas, Bal i, 10p.; 3. W. Hobley, CaernarfoB,10p. Hefyd ennillwyd gwobr o 5p gan W. Rh) s Wilhams, Caernarfon.
PORTHDINORWIG. '
PORTHDINORWIG. Nos Sadwrn, y 15fed cyfisol, cynnal' III iwyd cyngherdd mawreddog yn yr Ysgol' dy Cenhedlaethol, yr elw i gynnorthwy0 < dyn tlawd yn yr ardal sydd mewn cystudd. t Llywydd y cyfarfod oedd Mr Roberts, Tý t Mawr. Prif arwr y cyngherdd i fod oedd t Llew Llwyfo, ond nid ymddangosodd, a bit ] yn dipyn o ddyryswch i drefn y cyfarfod' Ond, yn ffedus, daeth y boneddigesau ieU' I aingc a'r cor undebol, dan arweiniad Mr 1, P Williams, allan yn wir gywrain. Can-vfyj ? darnau clasurol Cymraeg a Saesneg. Nii wyf yn cofio i mi glywed gwell treble yn ft oes; yr accen yn dda, yn enwedig y pfP lais, a'r lleisiau ereill yn weddol dda. A Cynghorwn y cor i ganu mwy o Gymraeg. ? Cyn gadael hyn, dymunwyf wneud sylw 0 un peth sydd yn ein plith fel cenedl | sydd yn anesgusodol o feius, sef aberthn 1 J geiriau er mwyn y gerddoriaeth, yn U0 gwneud i'r gerddoriaeth ystwytho meifl* trefn i roddi mwy o rym a theimlad i'r geiriau. Clywais y Parch. J. Mills (hedd- j wch i'w lwch) yn dyweud mai skeleton yw r y d6n, a bod y datganwr i'w gwisgo gian, &c., h.y., gwneud y geiriau yn eglut j a darluniadol, yn fwy felly nag wrth ej C darllen neu adroddiad o honynt. Credw fod pob un oedd yn gwrandaw ar BOO 11 Gwynedd a Mrs M. Jones Williams, -a cael esboniad ar y geiriau yn a thrwy J I gerddoriaeth. Chwareuydd yr harmonic. oedd Mr James Morris, nai i'r anfartf$.| Nicander. Chwareuwyd deuawd ar y be^ | doneg gan Misses Jones a Davies yn dr" galluog, a Mr Wyatt, ieu., ar yr un offeryO, yn feistrolgar iawn. Cafwyd unawd !■ Miss Davies yn rhagorol, a phedwara^ gan Miss M. Jones Williams a'i chyfe$' f ion yn gampus. Yna cdn gan Miss & Williams, yn hynod dda. Dangosai y fbt:i lawer iawn o symledd a mwynder, dirj > gwylltineb gormodol yn yr "Halelujab- Yr oedd yno rywun yn dynwared ceiliof a chyfarth fel ci, gan aflonyddu. Os allan pwy ydoedd, caiff ei enw ei argraP^ yn mhob newyddiadur Cymraeg a Saes^ trwy'r deyrnas. Mae tybiaeth pwy ydy^j ond er ei waethaf ef ac amryw ereill caftf? !| cyngherdd da iawn.-Gwrandawr. <
YSGOLDY VOELGRON, LUlNGIA^'I!
YSGOLDY VOELGRON, LUlNGIA^'I! Cynnaliwyd cyfarfod difyrus ac adeil»4' [ ol dros ben yn y lie hwn nos Iau diwedd^' Ionawr 13eg. Cariwyd ef yn mlaen ddull Penny Readings. Cynnwysai ddull Penny Readings. Cynnwysai J program amrywiaeth helaeth o gW'; dadleuon, caneuon, a darlleniadan, aethpwyd trwy yr oil o honynt yn gam]^' Etholwyd y Parch. D. Hughes, Llangi^j i'r gadair, a chymmerwyd rhanyn nyg1^ y cyfarfod yn mlaen gan g6r y Nan^> J y cyfarfod yn mlaen gan g6r y Nan^> J Llanbedrog Choral Society, y VoelgrJ J Glee Party, Mri Pritchard,Bodlondeb; t W. Jones, yr ysgolfeistr (yr hwfl ø I chwareuai yr harmonium); Hugh Jous: Llanbedrog; Robert Griffith, Pandy, hefyd Mrs Jones, Misses Pitts a G«v[ Jones, ac amryw o blant yr ysgol. Ca j y rhan fwyaf o'r cantorion encores brwdfrydig (ac nid heb haeddu). Yr ot a y cynnulliad yn lluosog ac ymddyga^j yn hollol weddus, ac aeth pawb adref eu llwyr foddloni, gan ddymuno cyf^ cyffelyb iddo etto yn fuan. cyffelyb iddo etto yn fuan.
Advertising
f W, VALUABLE DISCOVERY FOR THE HAIR.—If is turning grey or white, or falling off, use The y1 I can Hair Renewer," for it will positively restore case Grey or While hair to its original colour, tf1 „ P leaving the disagreeable smell of most Restorefs_ makes the hair chartniDgly beautiful, as well$e moting the growth of the hair on bald spots, whe,,O, Too glands are not decayed. Ask your Chemist fof MEXICAN HAIR RHNB-WER," prepared by HENRY LUP, 493 Oxford Street^ London, and s Id by Cbe and Perfumer8 everywhere at 3. 6.1 pet bottle. |
LLANGOED.
LLANGOED. YMRYSONFA AREDIG. Cynnaliwyd ymrysonfa Hchod mewn maes pertbynth Mr Arthur Morris, Wern Ffarm, ar 11 13eg cyfisol, pryd yr ymgynnullodd un-af; bymtheg o aradrwyr gyda'u hofferynau j dori y cwysau, pa rai ydoedd bum' mod" fedd wrth saith modfedd. Wedi rhanu yr ymgeiswyr yn ddau ddosbarth, cawn fod deg yn y cyntaf, a chwech yn yr ail, yn ol dye 1 farniad y beirniaid, y rhai sydd yn sefyll fel j y canlyn cyntaf. 1. Hugh Davies, gwas Bodcylchad; 2. WilliaS1 Owen, gwas Dr. Brisco Owen, Haelfre; *■ 3-4. Rhanwyd y ddwy wobr uchod rhwng. Robert Davies, gwas Cyfynys, ac Owe11 l ,Tones,gwas Plas Llandegfan 5. OwenS, mab Brynfelin, Llandegfan; 6. Seth. I Lewis; 7-8. Rhanwyd y ddwy yma etto rhwng Henry Davies, gwas Brynpoetb, A gwas Rhos Llansadwrn. GwneuthurvYl yr aradr, 1, 2. 3, HughRoberts,gof, Sling] P 4, 5, 6, Gof Cwm, ger Dinbyeh 6. G. Llanbedr; 7. Gof Stor, Llanfair P.G. Yll yr ail ddosbarth 1. Robert WilliamSi gwas Ffordd-deg; 2. Thomas WilliamSi h gwas Cefn, Llaniestyn; 3. John EvanS, gwas Rhos Newydd; 4. William Davies] gwas Rhos Cors; William Thomas-1 Gwneuthur yr aradr, 1, 2, 3, 4, ydoedd j! Hugh Roberts, Sling. Beirniaid, Richard Owen, Ty Ceryg, Llangoed; Robert Wil, liams, Danfron, Penmon a WilliaJØ i Stewart, Wern, Llanddona.-Un oedd yoo, O.Y.—Am y p^r o geffylau goreu gwobf jj wywyd Roberts, Ffordd-deg. f