Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

- ABERDYFI.J

BANGOR.

CAERGYBI.

CAERNARFON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAERNARFON. • Nos Lun, y lOfed cyfisol, rhoddodd Mr HaydeD, yn cael ei gynnorthwyo gan ei bapits, gyngherdd da yn y Guild Hall. Cafwyd cvnnulleidfa weddol, a chanu da iawn, a chanu sal iawn Lefyd. Elai yr elw at gynnorthwyo y tlawd. Sibrydir fod y Gwynedd Glee Society a chor Moriah yn bwriadu myned i gystadlu i Rhyl yn Mawrth nesaf. Nos Fawrth, yr lleg cyfisol, talodd y Buckley Minstrels ymweliad d'il tref, ond ni chafodd neb werth eu harian. Disgwylir gwyl gerddorol o radd uchel yma nos Llun, y 24ain cyfisol, gan y Gym- deithas Philharmonaidd, dan arweiniad MrW. I'arry, yn cael eu cyunorthwyo gan Mynydjog, Aliss Jackson, Lerpwl; Miss Eraser, a Mr J. Watts ar y cornet. Deallwn y byddant yn perfformio un o brif ddarnau eisteddfod ddyfodol Gwrec- fftm, f y mae yma gor undebol wedi ei ffurfio o dan arw-einyddiaeth Llew Llwyfo. Deall- wn fod yma dipyn yn helaeth o'r rhinwedd hwnw a elwir cariad brawdol yn cael ei arddangos gan yr aelodau, y rhai ydynt o'i yn perthyn i wahanol gorau ereill ein tref. Diamheu fod amldra corau yn an- dwyo cerddoriaeth yma. Dyna fy marn unplyg i ar y mater. Pa fath reswm sydd mewn bod chwech o gorau mewn tref o faint Caernarfon, heblawy coram eglwysig? Ai nid ellid cael un cor o tua 150 o oreuon ;yr oil o'r corau ? Ond y mae yma rhyw deimlad drwg yn bodoli rhwng y cantorion a'u gilydd, a hyny o achos rhyw ychydig lestri gweigion sydd yma yn cadw trwst. Y mae cor Engedi wrthi yn llafurio yn galed hefyd, ac yn benderfynol o gadw i fyny yr enw da y mae wedi ei ennill. Cynnelir nodachfa (bazaar) yn fuandan nawdd prif foneddigesau y sir a'r dref, er budd eglwys St. Dewi. SWPER I DENANTIAID GERDDI BYTHYN- WYR CAE GAREG, yr hwn sydd gae wedi ei osod yn lotiau eyfleus i weithwyr y dref ac ereill, er dybenion garddwrol, y rhai a osodir yn flynyddol am ychydig sylltau, gan Mr R. J. Davids, C.E.Caernarfon, yr bwn sydd yn parhau i gymmeryd dyddor- deb yn y peth, ac yn neillduol yn llwydd- iant y tenantiaid, pa rai a wahoddwyd ganddo i swper a barottoisid yn y New- borough Arms ar nos Lun, y lOfed cyfisol, pryd y gwobrwywyd perchenogion y gerddi oedd wedi eu trin oreu. Ar ol clirio y byrddau, rhoddodd Mr Davids y gwahanol lwngcdestynau, yn cael eu dilyn gan iechyd Mr Assheton Smith. Yfwyd hwy gyda brwdfrydedd mawr. Yna cyflwynodd y cadeirydd, Mr Davids, y gwahanol wobrwyon laf, Mr Moses Williams, Mountain-street; 2il, Sergeant Harper 3ydd, Mr Joseph Radford; 4ydd, Mr Wil- liam Mann. Yr oedd y gwobrwyon yn gynnwysedig o arfau neu gelfi garddwr- iraeth. Rhoddwyd 2s 6c o wobr i Mr W. Thomas. Ar ol rhanu y gwobrwyon, an- nerchodd y cadeirydd y gwyddfodolion mewn araeth dda, gan eu hannog i ym- gyrhaedd at berffeithrwydd. Cynnygiodd Sergeant Tilley ddiolchgarwch iddo, yr hwn a dderbyniwyd gyda chymmeradwy- aeth, ac yna ymwahanwyd. YSGOLION MORWROL.—Da genym allu gwneud yn bysbys fod un-ar-bymtheg o ddisgyblion Mrs Edwards wedi myned yn t,Y llwyddiannus drwy eu harholiad fel cad- beniaid neu mates yn ystod y flwyddyn 1875. Dywedir fod digon o ddynion i gyf- lenwi llynges gyfan wedi pasio o'r ysgol hon yn unig er pan sefydlwyd hi. Y mae rhai o'r ysgol hon yn brif swyddogion ar rai o'r llestri mwyaf a hirddaf a groesodd y cefnfor erioed. Hir oes iddi. Y FOUNTAIN.-O'r diwdd, y mae pedair lamp wedi eu gosod o gylch y Fountain, a thair o honynt wedi eu goleuo. Beth am pedwaredd ? Y mae lie i ofni fod bwrdd ysgol Caer- 0 narfon yn myned fwy yn ol nag yn mlaen, oblegid swm a sylwedd yr hyn a wnaed ers amryw droion yw—DIM. DAMWAIN.—Rhyw ffordd neu gilydcl, dychrynwyd caseg Mr R. Williams, Bruns- wick Buildings, pan yn d'od i lawr gallt Penyclip, Bontnewydd, ac ymaith a hi a'r cerbyd yn erbyn y bont, gan falurio y siafftiau ac un olwyn, a thaflu Mr Wil- liams a'i gyfaill allan o'r cerbyd, a der- byniocld y blaenaf amryw archollion ar ei dalcan, ond y mae yn gwella yn foddhaol. -Llygadog.

FFESTINIOG.

LLANGEFNI.

LLANFECHELL.

LLANDINORWIG,

LLANWDDYN.

LLITHFAEN.

LLANWENLLWYFO, MON.

PRIFYSGOL ABERYSTWYTH.

PORTHDINORWIG. '

YSGOLDY VOELGRON, LUlNGIA^'I!

Advertising

LLANGOED.