Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

- ABERDYFI.J

BANGOR.

CAERGYBI.

CAERNARFON.

FFESTINIOG.

LLANGEFNI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANGEFNI. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH CHWAER DEMLYDDOL.—Dydd Mawrth, Ionawr lleg, claddwyd y rhan farwol o'r hen chwaer, Mary Jones, Well-street, yr hon oedd yn fwyaf adnabyddus wrth yr enw" Mary Jones Bach." Hyd o fewn ychydig flyn- yddau yn ol arferai gymdeithasu a, ac addoli y duw Bacchus, a hyny ir fath raddau nes niweidio ei chysuron a'i ham- gylchiadau. Ond, o drugaredd, trwy offerynoliaeth Miss Owen, Bryngwallen, cafwyd hi i ymuno mewn glan briodas ag urdd y Temlyddion Daionus yn y dref hon, a chadwodd ei bymrwymiad hyd y diwedd. Fel Temlyddes yr oedd yn un o'r rhai mwyaf gweithgar, diwyd, a selog, a'i phrif bwngc ydoedd pleidio a chan- mawl yr achos dirwestol; a llawer tro y buodd ei hymddiddanion melus a'i hat- tebiadau ffraeth, yn cynhesl1 ac yn byw- iogi cyfarfodydd yn y gyfrinfa. Ni fodd- lonodd ar roddi ei phwys ar diirwest, daeth yn aelod hoffus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, ac mae genym hyder cryf a sail sicr i obeitbio ei bod wedi ymddiried ei hunan yn gyfangwbl i'r Ceidwad. Yr oedd ei chladdedigaeth yn un o'r rhai parchusaf a mwyaf anrhydeddus a wel- wyd yn ein tref ers blynyddoedd. Yn unol a tjjaer ddymuniad yr ymadawedig, trefn- wyd pobpeth gan y Temlyddion, pa rai a ffurfiasant yn orymdaith hardd (ond pruddaidd) bob yn ddau, gan wisgo eu hurdd-wisgoedd, ar ba rai yr oedd nodau galar wedi eu rhoddi, o flaen yr arch hyd at y gladdfa. Yn dilyn yr oedd lluaws mawr o'ichydnabyddion. Gweinyddwyd y seremoni angladdol gan y brawd teml- yddol Hugh Roberts (A.), yr hwn a aeth drwy y gwaith pwysig yn ddifrifol ac effeithiol yn ol ei arfer. Ein chwaer anwyl o'i char a hunodd,—yn Ei Duw ymddiriedodd Am hyn Efe &'i mhvnodd-o'r cwynaw, Yr hoff wir hylaw a'n tir ffarweliodd. UN O'R BRODYR.

LLANFECHELL.

LLANDINORWIG,

LLANWDDYN.

LLITHFAEN.

LLANWENLLWYFO, MON.

PRIFYSGOL ABERYSTWYTH.

PORTHDINORWIG. '

YSGOLDY VOELGRON, LUlNGIA^'I!

Advertising

LLANGOED.