Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

- ABERDYFI.J

BANGOR.

CAERGYBI.

CAERNARFON.

FFESTINIOG.

LLANGEFNI.

LLANFECHELL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANFECHELL. Y NADOLIG A'zt EGLWYS.-Cafodd eglwys y lie uchod ei gwisgo yn hynod ddestlus a gweddas gogyfer ä:r Nadolig sydd wedi myned heibio, odditan arelygiaeth y Pareh. J.R. Edwards a'ifoneddiges. Clywaisamryw yn dyweud nas gwelsant mo honi erioed wedi ei gwisgo mor dlws. Y mae yn werth dyfod o gryn bellder i'w gweled. Y mae yn deilwng o sylw fod Eglwyswyr y lie hwn wedi treulio y Nadolig yn hynod o lwyr a phriodol. Yn gyntaf oil, oddeutu chwech yn y boreu, cawsom orymdaith drwy heol- ydd y pentref tan ganu hymnau priodol i'r amgylchiad. Wedi dychwelyd, aethom i'r eglwys i gynnal plygain, yr hwn a dreuliwyd yn benaf mewn canu carolau. Am 11 o'r gloch, yn yr un man, cawsom wasanaeth, pregeth, a chymmun. Yn yr hwyr, drachefn, cawsom wasanaeth a chanu carolau. Dywedir gan yr ardalwyr na chlywsant well canu carolau erioed yn Llanfechell. Cyn terfynu fy sylw ar y cyfarfodydd hyn, yr wyf yn dymuno dy- weud fod clod mawr yn ddyledus i'r oil o'r rhai oedd yn bresennol am eu hymddygiad gweddus ynddynt, ac wedi myned allan o honynt. Nos GALAN A DYDD CALAN.—Nos Galan, oddeutu 8 o'r gloch, rhoddodd y Parch. J. R. Edwards, a'i foneddiges wledd o'r fath fwyaf danteithiol i Eglwyswyr ac ereill yn y plwyf hwn. Dywedir fod oddeutu 50 yn bresennol ynddi, a'r rhai hyny yn gyn- nwysedig o bob dosbarth yn yr ardal. Wedi gwneethur cyfiawnder a'r ddarpar- iaeth, cafwyd areithiau gan amryw, ac yn eu plith, Mr Parry, Tynymynydd Mr W. Owen, Rallt; a'r Parch. J. R. Edwards, yr hwn a draddododd araeth bur gynnwys- fawr ac i'r pwynt. Tuag un-ar-ddeg o'r gloch, aeth pawb i'r eglwys i gadw gwyl- nids yr hen ilwyddyn, ac i wylied dyfodiad y newydd i fewn. Y modd y treuliwyd y watchnight ydoedd, trwy ddarllen rhan o'r gwasanaeth a chanu carolau hyd hanner nos, ac yna chantiwyd 7Te Deum gan y cor yn swynol dros ben, yn cael eu dilyn yn fedrus ar yr organ gan Mrs Edwards, Rectory. CLWB DILLAD.—Y dydd Sadwrn canlyn- 01: sef dydd Calan, cafodd aelodau Ysgoi Sul yr Eglwys eu cyfraniadau o'r { clwb. yn ngyda bonits o geiniog am bob Sul y buont yn bresennol yn nghorff y flwyddyn. Hafyd, cafodd pob un o honynt an porthi hyd ddigon a the a bara brith yn y fargen. Yna rhoddwyd orange a sweets i bob un o honynt ar eu hymadawiad. Rhanwyd iddynt hefyd, gan y Parch. Mr Edwards, rhoddwr y wledd, swm lied dda o bres mewn rhedegfeydd. Cyni diweddu, dyledus yw cydnabod yn ddiolch- gar y boneddigesau fu yn arlwyo y gwa- hanol wleddoedd mor fedrus.—Llwydrudd. #

LLANDINORWIG,

LLANWDDYN.

LLITHFAEN.

LLANWENLLWYFO, MON.

PRIFYSGOL ABERYSTWYTH.

PORTHDINORWIG. '

YSGOLDY VOELGRON, LUlNGIA^'I!

Advertising

LLANGOED.