Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

- ABERDYFI.J

BANGOR.

CAERGYBI.

CAERNARFON.

FFESTINIOG.

LLANGEFNI.

LLANFECHELL.

LLANDINORWIG,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANDINORWIG, CYNGHERDD.—-Nos Iau, y 13eg o'r mis presennol, cynnaliwyd cyngherdd yn ys- goldy Llandinorwig, dan lywyddiaeth Mr H. D. Pritchard, Deiniolen S.B. Gar- monydd ac Eos Marchlyn oedd prif enwoerwydd y cyngherdd yma. Yn ystod y cyfarfod, cymmerodd cystadleuaeth le ar don i gor o feibion. Fel y mae yn wybyddus i laweroedd o ddarllenwyr y Llais, cor Pone y Rhiwlar fyddai yn ennill bob amser yn yr ardal yma,ond y noswaith yma yr oedd Mr 0. T. Owens a Mr E. W. Edwards wedi parottoi ar eu fcyfer, a llawenydd oedd i bawb oedd yn bresennol gael clywed y feirniadaeth ddiduedd gan Garmonydd, yr hwn a gyhoeddodd y cor oJaf yn fuddugol. Da genyf hysbysu fod yr elw yn cyrhaedd dros ugain punt, pa rai oedd yn myped at gynnorthwyo .Thos. Parry, Ebenezer, yr hwn oedd wedi bod yn analluog i ddilyn ei alwedigaeth ers misoedd. Digon yw dyweud fod pawb wedimyned trwy eu gwaith yn ardderchog. Da genyf hysbysu fod Temlyddiaeth Dda ar gynnydd yn yr ardal yma, ar ol maith nychdod. Hefyd,y mae yma beth newydd hollol, sef ysgol Sul i blant tlottaf yr ardal. Mae hono ar gynnydd eyflym.- R. ap Prys. CRFAKFOD Y PLANT .-Cynneliry cyfarfod- ydd hyn yn gysson ddwy waith bob wythnoa, un dosbarth i'r bobl ieuaingc, a'r dosbarth arall i'r plant lleiaf. Nos Iau, y 6ed cyfisol, gwahoddwyd aelodau y gymdeithas hon i'r ficerdy, He yr ydoedd t6 a bara brith, &c., wedi ei barottoi ar eu cyfer. Trwy haelioni a charedigrwydd Mrs Davies, Blue Poris, yr oedd Christmas Tree hardd, yn orlwythog o deganau, anrhegion, &c., wedi ei threfnu erbyn yr achlysur. Oafwyd difyrwch nid bychan wrth i Mr Griffith Ellis, Mr Edwards, Misses Hughes (Hafotty), Miss Kate Davies, &c., ranu y teganau, &c., trwy fwrw coelbren. au. Wedi talu diolehgarwch gwresog i'r cyfeillion all, a chanu emynau, &c., o dan arweiniad Mr John Roberts, blaenor diwyd a llwyddiannus y canu, aeth pawb adref wedi cael boddhad mawr yn nheparti y Band of Hope."r- Gohelydd.

LLANWDDYN.

LLITHFAEN.

LLANWENLLWYFO, MON.

PRIFYSGOL ABERYSTWYTH.

PORTHDINORWIG. '

YSGOLDY VOELGRON, LUlNGIA^'I!

Advertising

LLANGOED.