Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

LLANGEFNI A RADICALIAETH.

"~LLANRUG.

BUDD-GYMDEITHAS ADEILADU BANGOR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BUDD-GYMDEITHAS ADEILADU BANGOR A GOGLEDD CYMRU. Cynnaliwyd cyfarfod blynyddol y gym- deithas hon yn Mangor, ddydd Gwener, y 7fed eyfisol, Dr. John Richards, y llywydd, yn y gadair. Yr oedd presennoldeb yr aelodau yn fychan, ac yn cynnwys a gan- lyn:—Mr John Lloyd, Bronderw Mr John Parry, Mr John Pritchard, Mr Hugh Williams, Edge Hill; Mr Thomas Williams, Caederwen; Mr Zachariah Roberts, Mr Richard Dorkins, Mr Eardley, Mr McDer- mid, Mr John Lloyd, ieu., ysgrifenydd. Y llywydd a agorodd y cyfarfod drwy alw ar ir ysgrifenydd i ddarllen pedwer- ydd adroddiad blynyadol y gymdeithas, pa an oedd fel y canlyn Wrth gyflwyno eu pedwerydd adrodd- iad blynyddol, medd y cyfarwyddwyr hyf- ry(I web mawr mewn llongyfarch yr aelodau ar y llwyddiant annghyffredin a ddilynodd weithrediadau y gymdeithas yn ystod y flwyddyn ddiweddaf ac yn fwy neillduol ar ganlyniad ennillfawr trafnidiaeth y pedair blynedd, yn eu galluogi i gyhoeddi breint- wobrwy (bonus) o ddeg'swllt y gyfran i'r holl aelodau am dair blynedd. Y mae y gymdeithas yn awr mewn eyflawn weithrediad o dan y ddeddf seneddol newydd. Y mae y rheolau newyddion a dderbyniasmt gydsyniad yr aelodau yn Chwefror diweddaf, ac o ba rai y mae pob aelod wedi derbyn copi, heblaw breintiau ereill, yn cyfleu man- teision mawrion ar aelodau mewn angen am echwyniadau i'r pwrpas o adéiladu neu brynu eiddo anneddol; a chymmet y cyfarwyddwyr y cyfle hwn iannog yr aelodau i alw sylw ein cyfeillion i'r haws- derau a gynnygir yn awr er cael echwyn- iadau—gan fod y telerau yn awr wedi ,eu hestyn i 20 mlynedd, a'r costau yn nglyn ag arwystl echwyniadau (mortgd'*ge)"'We'di eu gostwng yn bwysig. iNfae masnach y gymdeithas wedi cyn- nvddu yn dra phwysig yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, gan nad oes dim llai na 130 o aelodau newyddion wedi eu cofregtru, ac y mae y gymdeithas yn awr yn gynnwysedig o 360 0 aelodau budd-soddol, a. 33 echwyn- iadol-yr oil yn 393. Y mae y gweddill mawr oedd ar law ar derfyn y flwyddyn ddiweddaf, yn nghyd a'r holl dderbynTadau yn ystod yr un bresennol, wedi eu hech- wyna yn ennillfawr$tr sicrwydd rhagorol, a chyrhaedda y cyfanswm a ecfi^ynwyd felly y swm t) 4,929p ar ba un y derbynrwyd y swm o 211p 4s mewn llog (pre7nittm). Cyfanswm yr hyn sy'n ddyledus i'r gymdeithas am echwyniadau arwystliadol yw 8,750p 18s 7c, am ba un y mae gan- ddyat sicrwyild gwerth 14,365p. Nifer'y cyfranau a archwyd yn ystod y flwyddyn oedd 1,220, a thynwyd yn o); 395 o gyfranau. Y cyfanswm a delir yn awr yw 2,725p, yn cynnrychioli y swm o 27,250p mewii cyfalaf. "Cyrhaedda y tanysgrifiadau a dder- byniwyd i 2,474p 7s, a'r swm a dynwyd yn 01 1,060p 7s 6c, ar ba un y talwyd 127p 10s 3c 0 log. Y cyfanswm sydd yn awr yn ddyledus i'r aelodau yw 7,618p, yr hyn sydd gynnydd o 1,436p 10s ar gyfanswm y flwyddyn ddiweddaf. Derbyniwyd hefyd l,268p 5s 2c mewn ad-daliadau am echwyniadau, allan o ba un yr oedd 406p 168 9c yn ddyledus am log a dirwyon. Traul y cydgorphoriad, rheolau new- yddion, pass books, a sel, a gynnyddasant yn fawr gostau y flwyddyn. Ni bydd i'r costau hyn, pa rai a gyrhaeddant dros 40p, ddigwydd eilwaith. Gadawodd der- by niadau y gymd eithas y n ystod y flwyddyn ddiweddaf, ennill clir o dros 200p, ac y mae cyfanswm yr ennill gweddill yn 517p 2s 7 c. Mewn cydymffurfiad a'r rheolau, y mae y cyfarwyddwyr wedidodi o'r neilldu y drydedd ran o'r swm hwnw, sef 175p, i'r gronfa gadwrol, pa un sydd yn awr yn cyrhaedd 325p, a'r ddwy ran o dair gweddill'ar gyfer breintwobrau (bonus) i'w rhanu rhwng yr aelodau a ddaliasant gyf- ranau anechwyniadol am dair blynedd, a chynnyrcha y swm (338p) freint-wobr o ddeg swllt y gyfran. Bydd i'r freint- wobr ar gyfranau tanysgrifiadol gael eu rhoddi i gredyd pob aelod, ac i gael ei dalu pan fydd y cyfranau wedi eu eyflawn dalu i fyny neu eu tynu ymaith-bydd i'r rhai ar gyfranau wedi eu talu i fyny gael eu talu gyda'r 116g ddydd Mawrth, yr lleg o Ionawr, yn swyddfa y gymdeithas, o banner awr wedi chwech hyd wyth o'r gloch yr hwyr. Y pedwar cyfarwyddwr a ymneilldu- ant ydynt Meistri Thomas Pritchard, John Slater, William Francis Williams, a John Lloyd, ieu., ond y maent yn gym- hwys i ail-etholiad. Rhaid i enwad (nomination) am gyfarwyddwyr gael ei anfon i mewn i'r cyfarwyddwr gweithredol ar neu cyn y 31ain o Ragfyr, mewn cydymffurfiad a'r rheol 16. Cym- mer yr etholiad le yn y cyfarfod blynydclo I Cyssyllta y cyfarwyddwyr adroddiad ya arddangos cynnydd blynyddol tra boddhaol y gymdeithas, pa un a obeith- iant a brawf yn ddyddorol i'r aelodau. Ychwanegant hefyd adroddiad o rwymedigaethau a meddiannau y gym- deithas, yn nghyda chyfrif o dderbyniadau a thaliadau, ac hefyd gyfrif y golled a'r ennill, mewn trefn i'r aelodau allu gwybod cywir sofyllfa y r,iiideithii s. 'Lin Richards, llywydd." Y Llywydd, wrth gynnyg mabwysiad yr adroddiad, a sylwoda nad oedd ganddo ddim yn neillduol i'w ychwanegu, gan fod yr adroddiad yn llefaru drosto ei hun. Yr oedd bob amser wedi bod yn llawen wrth weled yr aelodau yn y cyfarfodydd blyn- yddol hyo, ond nid erioed gymmaint felly ag ar yr achlysur presennol. Nid oedd wedi rhoddi iddynt ond areithiau yn flaenorol, ond yn awr yr oedd yn rhoi iddynt arian, gan fod yno freint-wobr (bonus) o lOa y gyfran. Yr oedd yr adroddiad yn dangos eu bod wedi cael blwyddyn dra llwydd. iannus; ae er fod y flwyddyn ddiweddaf wedi tod yn un dra dinystriol mewn cylch- oedd masnachol yn gyffredinol, yr oedd yn amlwg fod pobl yn y gymmydogaeth hon mewn cyflwr llwyddiannus, oblegid gellia bob amser gymmeryd cymdeithasau adeiladu ac ariandai cynnilo fel safon gywir i fesur sefyllfa y dosbarth gweithiol Y flfyddyn ddiweddaf yr oedd ganddynt 2,000p. mewn llaw, yr hwn swm nid allent. ei cchwyna, ond yr oedd y swm hwn, yn nghyda holl dderbyniadau y flwyddyn ddiweddaf, yn awr wedi ei echwyna gan y cylarwyddwyr arsicrwydd o'r dosbarth blaenaf. Nid oedd yr adroddiad yn hys- bysu un ffaith bwysig, sef eu bod wedi gwrfrfrod nifer mawr o geisiadau am aelodaeth. Yr oeddynt yn gwrthod yr oil nad oeddynt yn gywir gydffurflol a rheolau y gymdeithas,obiegid-o'raychwyn yr oedd y cyfarwyddwyr in*- -beiiderfynol o fyned i mewn am fasnachddyoglac ennillfawr, ya hytrach na masnach fawr. 0 berthynas iV onnillion, pe buasent wedi rhoddi y pum' punt y cant a delid yn nghyda'r freint-wobr (bonus) o ddeg swllt, gwnelai 5p 5s y cant i'r gymdeithas ei ennill o'r dechrea ond yr oedd y gronfa gadwrol yn cyrhaedd 325p. Modd bynag, pe buasai yn 3381) ^wnelsai hyny yr ennill yn gyfartal a 7p 10s y cant yn y flwyddyn. Meddyliai ef, a barnu oddiwrth y pedair blvnedd- diweddaf.osbyddai i'r gymdeithas fyned yn mlaen mor llwyddiannus yn y dyfodol ag y gwnelsai yn y gorphenol, y deuai yn gymdeithas fawr a defnyddiol. Terfynodd drwy obeithio y byddai i lawer i or dynion ieuaingc a ennillent gyflogau mawrion dalu 2s 6c y mis i'r gymdeithas. Yr oeddym oil yn greaduriaid darostyng- edig i ddylanwad arferiad, a phe buasai iddynt ddechreu cynnilo, deuent yn ddar- bodus, yn lie gwario eu harian ar wrth- ddrychau difudd. Cynnygiai ar i'r adrodd- iad, fel y'i darllenwyd, gaer ei fabwysiadu. Eiliwydyeynnygiad gan Mr John Lloyd, a chariwyd ef. y Yr ysgrifenydd a ddywedai fod y swydd o ynaddiriedolwyr wedi ei diddymu oddiar y pryd y corphorwyd y gymdeithas/ac nis gweddai i gyfarfod o'r fath fyned heibio i'r achlysur heb gyflwyno penderfyniad o ddiolchgarwch i'r boneddigion a weithred- asant yn garedig fel ymddiriedolwyr, sef Colonelf Vincent Williams a Mr J. W. Hughep, am eu gwasanaeth gwerthfawr i'r gymdeithas yn ystodyblynyddau diweddaf. Nid oedd yn sefyllfa gyda llawer o ddyled- swyddau, ond yr oedd yn un gyda llawer iawn o gyfrifoldeb. Yna cynnygiodd Mr John Pritchard ar fod i ddiolchgarwch yr aelodau gael ei gyflwyno i Colonel -Vincent Williams a Mr John William Hughes, am eu gwasanaeth gwerthfawr fel ymddiriedolwyr y gym- deithas. Eiliwyd y cynnygiad gan Mr Thomas Williams, a chariwyd ef yn unfrydol. Ar gynnygiad Mr McDermid, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Dr. Richards a'r cyfarwyddwyr am y dyddordeb mawr a gymmerasant yn llwyddiant y gymdeithas. Wrth gydnabod y bleidlais, dywedai y llywydd fod y cyfarwyddwyr yn cymmeryd dyddordeb mawr yn y gymdeithas, ac nis gwelsai efe erioed gorph o ddynion a weithredent gyda'r fath gyssondeb. Gwnelent hyny yn gydwybodol, oherwydd eu bod yn awvddus am weled yr arian yn cael eu budd-soddi yn briodol. Nid oedd ganddo ef un pryder mewn dyweud fod y cyfarwyddwyr yn ddynion cwbl gyfarwydd a masnach, ac yn deilwng o ymddiriedaeth yr aelodau. Ail-etholwyd y pedwar cyfarwyddwr ymneillduedig heb wrthwynebiad, ac ar gynnygiad y llywydd, yn cael ei eilio gan Mr Lloyd, hyn., pennodwyd Mr Hall (Old Bank) a Mr Pugh (National Provincial Bank) yn auditors. Y Llywydd a gynnygiodd bleidlais o ddiolchgarwch i Mr John Lloyd, ieu., ys- grifenydd, gan sylwi fod y gymdeithas yn dia dyledus iddoam ymoddgalluog a theil- wng gyda pha un y dygai yn mlaen waith y gymdeithas. Nis gallasent gael ysgrifenydd mwy galluog, gonest, ac effeithiol na Mr Lloyd, ac yr oedd ganddo ef lawer 0 bleser mewn cynnyg y bleidlais o ddiolchgarwch. Eiliwyd hyn gan Mr John Parry, a phas- iwyd y bleidlais yn unfrydol. Mr John Lloyd, wrth ddychwelyd ei ddiolchgarwch, a Idywediii ei bod yn dra hyfryd iddo ef deimlo ei fod yn mwynhau ymddiriedaeth y gymdeithas. Yr oedd yn cymmeryd dyddordeb mawr ynddi, ac nid esgeulusid unrhyw ymdreeh ar J ei rap ef i'w gwneud yn un o'r sefydliadau mwyaf blodeu ig o'r fath yn NgJiyinru. Ond Did efe oedd yr uuig berson a deimlai dros Iwyddiant y gymdeithas. Yr oedd y cyfar- wyddwyr yn ddynion mwyaf teilwng 0 ymddiried, pa rai a gynnrychiolent bob dosbarthau a barnau, ac yn mha rai y gorphwysai eyflawn ymddiried yr aelodau. Gallai ddyweud ar eu rhan, nad oedd ond ychydig o gymdeithasau a allent ymffrostio mewn prasennoldeb mor gysson ar ran y cyfarwyddwyr a'r un hon. Yn .v,tod eu holl gyfarfodydd a gynnaliwyd y flwyddyn bon, yr oedd llawn tair rhano bedair wedi eu presennoli. Yr oeddynt hefyd yn dra gochelgar o barth echwyniad yr arian. Yr oeddynt yn ystod y flwyddyn ddiweddaf wedi rhoddi allan 5,000p, ac yn dal sicr- wydd 0 6,600p am yr aiian hyny. Yr oedd hyn yn dangos fod y cyfarwyddwyr yn ofalus am ddyogelwch yr arian a fudd- soddid. Gallasent fod wedi eangu y las- nach yn ddirfawr pe buasent wedi cym- meryd cyfranau taledig i fyny, ond yr oedd wedi eu gwrthod yn hollol, yn ogymmaint ag y gellid cael digon o arian i gyfarfod a'r gofynion am echwyniadau drwy y taliadau misol arferol, pa un oedd yn fwy ennillgar na'r arferiad 0 gymmeryd cyf- ranau taledig, a thalu pump y cant arnynt yn uniongyrchoL Yna terfynwyd y gweithrediadau.

COLOFN YR AMAETHWYR. !

LLANFECHELL. t

-RHOSTRYFAN."I

Y PRIF FARCHNADOEDD SEISNIG.

PRIF FARCHNADOEDD CYMREIG.

LLITH MR PUNCH.,."If