Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ST. DAVID COLLEGE, LAM PETER. AS ASH-WEDNESDAY falls on the 1st of Marih, the festival of St, David will be cele- brated this yeur on the 29th lDst., by a service and ser moo in the Collage Chapel, at 11 o'clock, a.m., fol- lowed by luncheon iu Hall. All Graduates and members of the College are in- cited to attend, ani those gentlemen who accept the invitation are requested to communicate with the Bursar hi ooce. February 19tb, 1876. 401 TELERAU GWERTHIAD LLAIS Y WLAD." pob oopi unigol yw Un Geiniog, neu Geiniog a Dimai gyda'r- post. Osbydd rhai o'n derbynwyr yn dewis ei gael yn rheolaidd drwy y llythyrdy, anfonir ef ddynt hob nos Iau am Is. 7-le. y chwarter, 2 8s. Be. yrhanner blwyddyn os telir yn mlaen llaw. Telerau y gwerth- ad i ddosWrthwyr ydynt :-NAW CEINIOG Y DWSIN gyda'r Rheilffordd, neu DDEG OEINIOG y Dwsin drwy'r llythyrdy. Pob archebion, talibldiiu, &c., i'w cyfeirio at Mr K. W. Douglas. DOSBARTHWYR YN EISIAU. Caram glywed gyda thread y post oddiwrth y rhai a ddymunenfc gael eu pennodi yn ddoabartbwyr LLAlb Y WLAD. CAnt yr elw arferol, a chan ein bod wedi DYBLU MAINTIOLI Y PAPYR, y mae hTOt, vaghyda'r pris iael yn sicrhau ■W GYLCHREDIAD ARUTHROL. Anfoner ya ddioed at y Perchenog, Mr. K. W. DOUGLAS, Bangor.
. AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. "Fv MEDDWL yw testyn yagrif unjo'n gohebwyr; a'n barn yw, ei fod yo druenus o dlodaidd 08 bernir ef yn el annbeilyngdo 1 ei gynnyrch. GWYLIWsL-lieblaw nad oes uemawr ddim o ddyddor- deb yn eioh ysgrif, bu i chwi esgouluso aufon i ni eich cyfeiriad yn gyfinwn. CABIWR TE.-Rhy chwedleuol o dibwynt. 4.LLTDB Einos.—Ymdrechwn ddefnyddio yr englynion yn fuan. CwMMWD.—Er eich bod wedi anrhydeddu eich pennill- ion" A phenawd, nis gallwn yn eiu byw amgyffred ar ba destyn neu destynau yr ameenweh ganu. Nid yw j gwt y ceisiwch ei ff*fr yn perthyn i'r swyddfa hon. Y MntWBNTYDD yw testyn ysgrif un o'n gohebwyr, ond yn benaf ymdrina ft chladdfa Penlan, Pwllheli. Y mae yn yr ysgrif y eyfryw gyfeiriadau personol nas gallwn ddefnyddio ein colofnau yn gyfrwng eu cy- hoeddiad. Nis gwyddom ai mewn ysma'dod y dy- inun-ii yr ysgtifenydd ddodia-d enw person adnabydd- us o'r swyddfa hon wrth gwt ei ysgrif. TRBBOR MAI.—Hyfforddiwa ofod i'r rhan gyntaf o'r cywydd aonerch yo ein nesaf. cywydd aonerch yn ein nesaf. IOAM TRICHRUO.—Heblaw ei fod yn wallus mewn cyng- hanedd, nid oes unrkyw deilyagdod oieddyliol yn eich englyn i'r Cyttar." Diswi MAWRTH.—Yn ein nesaf. Gadewch i ni glywed oddiwrthych yn amlach. Musico.-Niii gallesem gael eich ysgrif i mewa i'n rhifyn hwn. Tafolwn hi yr wythnos nesaf. SleN ELLIS.—Yn aroa am ein sylw. Dlfwi ORWIG.-Nis gallwn gyhoeddi barddoniaeth eebonyddol, ond fel hysbyaiad. ROMULOS AUGOSTOLIRK.—Byddai yn sirbad ar synwyr cyffredin a gwastraff ar ofod drafod pwngc mor chwerthinllyd a Llenladrad y Telegraph oddiar yr Herald Gytnraeg." Ni raid i gyfoethugion meddyliol fyoed i ladratta carpin tylotty llenyddol. DIFFTG GOKOD.—Oherwydd diffyg gofed, mewn can- lyniad i hysbysiad maith a geir yn ein rhifyn hwn, gorfyddir i ni ohirio ymddaogosisd amryw ysgrifau pwysig ydynt eicoes wedi eu eysandi. MLws LLAW.—J.W.P., Llwynog Llwyfo, Un o Lan- bedr. H., Cyffdy, Alltud Eifion, Trebor Mon, Glan Beiriont HuRh Jones, R. M on Williams, Eos Crispin, Broglo, J. Ivor Parry, Hebog, Gwr o Leyn, Hywel &c.
TROAD Y LLANW.
TROAD Y LLANW. Tread y llanw politicaidd yw yr hyn y mae Radicaliaid wedi bod yn natariol ddyheu am dano ers tymhor maith dyna destyn eu myfyrdod y dydd a'u breudd- wydion y nos end er y cyfan, lied h wyr- frydig yw y llanw i fabwysiado eu be- wyllys fel ei ddeddf. Oddiar yr etholiad cyiffredinol diweddaf, y mae mynych eis- teddle wedi ei gwaghau gan angeu neu aches arall; ac wrth ymwreysu i bob brwydr gldewai llygaid Radioaliaeth yn y gobaith am adeonill rbyw gjmmaint o'r tir colledig, ond rywfodd yr oeddynt yn parbau fel plantos i erlyn yr enfys, gan dderbyn llawer codwm creulondros geu- lanau aflwyddiant. Nid oes dim i'w wneud ond llyngcu'r wermod, ymg\ mmodi a. siomedigaeth, ac adnewyddu gobaith yn y dyfedol. Wedi krofi o honynt yn fynych chwerw- dod siomiant, geudeb eu prophwydoliaeth- au, ae antefydlogrwydd eu cestyJI awyrol, rhyngodd bodd i ffawd daflu gwen fynedol ar yr achos ma wr" sydd yn ymgyr- haedd at baradwyso cyfiwr cymdeithafc drwy droi y byd a'i wyneb yn isaf. Yn nychweliad Mr Jacob Bright, y mae y Radicaliaid wedi sicrbau y fuddugoliaeth bwysicaf a goronodd eu hymdrechion gor- phwyll oddiar yr etholiad cyffredinol, ac na warafnner iddynt eu gorfoledd a'u crechwen eithafol ar achlysur sydd mor amheuthyn iddynt ers Ilawer dydd. Ar fin boddi, y mae pob gwelltyn yn galon- ogol, ond nid yw yn dilyn y prawf y gwelltyn diweddaraf hwn yn foddion i gadw "yr achos mayr,, ar wyneb eigion aflwyddiant, tra na.d yw ar un cyfrif yn debygol o dori asgwrn cefn y eamel Ceid- wadol. Gan seilio eu crediniaeth ar gan- lyniad etholiad Manchester, myntumia y Radicaliaid fod y llanw gwleidyddol ar droi; ond pan gymmerir golwg bwyllog ar yr amgylchiad, ceir nad oes y sail ddistadlaf i'r fath dybiaeth ffuantus. Yn y lie cyntaf, yr oedd Manchester mor ddiarhebol am ei thueddiadau Radical- aidd, fol mai prin y tybid yn briodol af- lonyddu ar ei chynnrychiolaeth gan y blaid hono hyd etholiad 1868, pryd y syn- wyd y Ceidwadwyr gan ddyrchafiad eu bymgeisydd, Mr Birley, ar uchaf yr ethol- restr. Yn etholiad 1874, ychwanegwyd y syndod hwn yn nyehweliad y ddau ym- geisydd Ceidwadol a bwriad allan yr hen gynnrychiolydd Radicalaidd,Mr J. Bright. Yr oedd hwn yn Ilwyddiant pwysig yn un o'r lleoedd mwyaf Radicalaidd yn y deyrnas; ond pan ystyrir iddo gael ei sicrhau yn nghanol digofaint cyfiawn y wlad at Weinyddiaeth Mr Gladstone, nid oedd yn brawf terfynol fod yr Ethiop poli- ticaidd wedi cwbl newid ei liw mwy na'r llewpart ei frychni. Hyn a brofwyd i raddau yn nghanlyniad yr etholiad ddi- wedd yr wythnos ddiweddaf, ond nid oes y rhithyn distadlaf o sail i'r dybiaeth ei fod yn arwyddocad o unrhyw gyfnewidiad yn marn boliticaidd y wlad. Yn ystod y segurdod deddfwrol sydd ne- wydd ei derfynu gan adgynnulliad y Sen- edd, nid oedd'y Radicaliaid wedi bod yn esgeulus o'r cyfleusdra i wenwyno meddyl- iau etbolwyr drwy y camliwiadau mwyaf dybryd a diegwyddor, a dilys mai i weith- iad y surdoes phariseaidd hwn, yn benaf, y mae Mr Jacob Bright yn ddyledus am adfeddiant o'i sedd a Radicaliaeth ei llyg- eidyn o lwyddiant mynedoi. Ond nid i hyn yn unig y gellir priodoli yr aflwydd- iant Ceidwadol. Daeth marwolaeth y cyn-aelod, Mr Callender, ar wartbaf y blaid Geidwadol gyda sydynrwydd dinystr- iol i'w hachos, a hyny pan oeddynt yn gorphwys ar eu rhwyfau yn dawel a di- gyffro. Yn y cyfamser, yr oedd y Radi- caliaid wedi bod yn gweithio yn ddyfal, gan roddi ar lawn egni bob gewyn er ad- ennill eu tir colledig. Pan udganwyd i'r frwydr, yr oedd y Ceidwadwyr yn an- mharod, a chollwyd maith amser mewn ymrafael o barth y dewis-ddy,n fel ymgeis. ydd, tra yr oedd Mr Jacob Bright eisoes ar y maes, a'i gefnogwyr ar lawn gwaitb. Wedi hir gloffi rhwng y naill ymgeisydd a'r Hall, penderfynwyd ar un cymharol ddinod yn mherson Mr Powell, gan yr hwn nid oes unrhyw ddylanwad Ileal, a'r hwn hefyd a yrthiodd i'r amryf- usedd a geisio ennill y bleidlais Wyddelig. Fel hyn, nid oedd y frwydr yn cael ei hymladd ar dir cyfartal, a buasai bren yn wyrthiol cael goruchafiaeth Geidwadol o dan y cyiryw amgylchiadau. Etto, y 0 dengys yr etholrestr fod y ddwyblaid yn parhau yn ddigon cyfartal mewn nerth i gyfiawnhau y Ceidwadwyr i fyned i frwydr yn hyderas pa bryd bynag y gelwir ar- nynt ac ond iddynt oMu am geisio ym- geiswyr teilwng, ni phryderwn am eu llwyddiant. Yn y cyfamser, na ddannoder i'r Radicaliaid eu tameidyn amheuthyn o lwyddiant, ae na aflonydder ar heddweh eu breuddwyd gwag am droad y llanw. 0
"GWEITHREDIADAU Y SENEDD.
"GWEITHREDIADAU Y SENEDD. TY Y CYFFREDIN, dydd Iau.-Cymmer- odd yr aelodau newyddion eu seid dros Huntingdon a Leominster.—Mr, Disraeli mewn attebiad i Syr A. Mills, a ddywed- edd y byddai y cyfarwyddiadau a roddid i'r ddirprwyaeth frenhinol gyda golwg ar gaethwasiaeth fod o nodwedd hynod o eang, ac yn cynnwys ystyriaeth pa uu a oedd deddfwriaeth ymherodrol pellach yn aogenrhtiliol, ai ynte deddfwriaeth gyda golwg ar bwnge y gaethfasnach yn gyff- redinol.—Gofynodd Mr Disraeli am gan- iattad i ddwyn mesur i mewn er galluogi ei Grasusaf Fawrhydi y Frenhines i wneuthur chwanegiad at ei theitlau ym- herodrol, yn dal perthynag a'r Goron Ym- herodrol a'i threfedigaethau. Yr oedd y cyfnewidia.d a fwriadai hi ei wneud yn dal cyssylltiad ng India. Pan drosglwydd- wyd Ymherodraetli India at Goron Lloegr, bu y mater hwn dan ystyriaeth ond ni ddygwyd un cynnygiad yn mlaen y pryd hwnw i chwanegu teitl Indiaidd at y rhai yr oedd y penadur yn eu meddu o'r blaen. Er y pryd hwnw yr oedd y dyddordeb yn y wlad hono wedi ychwacnegu yn fawr, a'r wybodaeth a fedd y Saeson am dani yn awr wedi chwanegu yn fawr wrth y peth oedd y pryd hwnw. Yr oedd ofe yn credu y byddai i fesur o'r nodwedd hwn yoddi boddhad cyffredinol i'r bobl yn India, yn gyetal ag yn Mhrydain Fawr, gan y byddai hynyyn selio y penderfyniad o eiddo y wlad hon i gynnal i fyny Ymherodraeth Indiaidd, ao- ar yr un pryd yn attebiad digonol i'r gwleidyddion tramor hyny a ddywedent nad oedd yr India ond baich i'r Llywodraeth, a mwy o ddychryn na dim arall i'r wlad hon.- Mr Lowe a obeithiai mai canlyniad yr ymdrafodaeth a fyddai rhoddi y pwngc i'w ail ystyriaeth gan y Ty.Siaradodd am- ryw o blaid y mesur, ac ereill yn ei erbyn. —Mr Bright a ofynodd a oedd y Llywodr- aeth yn meddwl egluro i'r Ty both yr oeddynt ar fedr ei wneud cyn yr ail ddar- lleniad o'r mesur.—Mr Disraeli a ddy- wedodd, os rhoddai efe yr hysbysrwydd hwnw i'r Ty, na byddai y Ty yn pasio mesur yn rhoddi gallu i'w Mawrhydi i chwanegu pa cleitl hynaga ddewiso hi ei hunan, ond byddai y pryd hwnw yn cael ei rhwymS i gymmeryd y teitl a fernid yn oreu iddi gan y Ty. Ar y cynnygiad am ail ddarlleniad mesur y llongau mar- sandiol, gwnaeth Mr Rathborne araeth yn ei erbyn.—Siaradodd Mr A. Peel, Dr. Ke- nealy, Mr E. Smith, Mr Piimsoll, ac ereill, yn gefnogol i Mr Rathborne.-Syr Charles Adderley a ddywedodd ei fod wedi ei ffurfio i gyfarfod a. drwg cenedlaethol mawr, yr hyn yr oeddynt oil yn ei gydnabod, a'r ddadl yn unig oedd gyda golwg ar y modd mwyaf boddhaol o ymwneud a'r drwg hwnw.—Wedi sylwadau pellach gan rai o'r aelodau, darllenwyd y mesur yr ail waith. Ty YR ARGLWYDDI, dydd Gwener.—Yr Arglwydd Ganghellydd a ddygodd i mewn fesur cysyllfiedig a cheques arianol croes- edig; ac addawodd, pan fydd y mesur yn cael ei ddarllen yr ail waith, egluro yr amgylchiadau oedd yn ei wneud yn ang- eurheidiol.- Sicrhaodd hefyd, mewn at- tebiad i gwestiwn o eiddo Arglwydd Bro- dorick. nad oedd gan y llywodraeth un bwriad i ddiddymu brawdlys farnol swydd Surrey. rry Y CYFFREDIN,dydd Gwener.Oherwydd llwgrwobrwyaeth, hysbyswyd fod etholiad Mr Hurst, dros Horsham, yn ddirym. Ni chymmerodd nemawr ddim o bwys le yn y Ty, oddigerth eglurhad Arglwydd San- don ar ofyniad Mr Henry Richard o barth defnyddiad yr holiadur eglwysig mewn ysgolion byrddol. Ty YR ARGLWYDDI, dydd Llun.—Yr unig bwngc a gymmerwyd i ystyriaeth oedd ffaeledd y cadwyni y Serapis yn y Piraeus, tra yr oedd Tywysog Cymru ar y bwrdd. Ty Y CYFFREDIN, dydd Llun.- Y prif bwngc oedd y ddadl ar y cyfranau yn Nghamlas Suez. Cwynai Mr Lowe fod y pryniad wedi ei wneud a'r arian wedi eu talu cyn cael cydsydiad y Senedd, a'u bod yn awr yn rhwymedig i gario y drafod"eth i derfyniad. Cwynai hefyd o barth telerau y Mri Rothchild, ac ystyriai y pryniad mewn ystyr fisnachol yn un dra diud, ac nad oedd y dylanwad politicaidd a ennillid o nemawr bwys. Mr Gladstone hefyd a wnaeth araeth amleiriog a hir- wyntog yn yr un cyfeiriad. Wedi i amryw ereill draethu eu barnau, cyfododd Mr Disraeli, yn nghanol y brwdaniaeth mwy- af, ac mewn araeth fer ac effeithiol- chwalodd yr holl ffug resymau i'r gwynt, a phasiwyd y penderfyniad gyda banllefau o gymmeradwyaeth cyffredinol. Ty YR ARGLYWDDI, dydd Mawrth.—Yr Arglwydd Ganghellydd a gynnygiodd fesur yn gwneud cyfnewidiadau yn mesur y breintebau a basiwyd yn y senedd-dymhor diweddaf, yr hwn a ddarllenwyd ywaith gyntaf. Hysbyswyd na byddai y dirprwy- wyr i archwiiio i ddamweiniau ar y rheil- ffynld yn alluog i wneud eu hadroddiad hyd ar ol y Pasg. Cymmerodd ychydig drafodaeth le ar effeithiolrwyddllawddryll Martini-Henry. Ty Y CYFFREDIN, dydd Mawrth.—Pwngc pwysicaf yr ymdrafodaeth oedd y cylch- lythyr caetbwasiol, ac arweiniwyd yn yr ymosodiad ar y llywodraeth gan Mr Whitbread, a chefnogwyd ef gan Mr Forster. Amddiffynwydy llywodraeth yn effeithiol gan y Twrnai Cyffredinol a Mr Hardy, a gohiriwyd y drafodaeth.
YMOSODIAD ANGEUOL TYBIEDIG…
YMOSODIAD ANGEUOL TYBIEDIG GAN DDAU HEDDGEIDWAD. Nos Sadwrn elowyd dyn o'r enw Patrick M'Kenna yn ngharchardy Collingwood Dock, Lerpwl, dan y cyhuddiad o fod yn feddw ac afreolus, ac yn ddilynol aed ag ef i garchardy Cheapside. Cafwyd fod y dyn wedi ei niweidio, a gorchymynodd ceidwad y carchar ar iddo gael eu gludo i ysbytty Brownlow Hill. Dydd Sul gwaethygodd yn ddirfawr, a gwnaeth adroddiad i'r perwyl fod ei afiechyd i'w briodoli i niweidiau a dderbyniodd gan ddau heddgeidwad perthynol i'r dref. Pan ddaetli yr ynad cyflogedig ac ereill i'r lie i'r dyben o gymmeryd- ei dystrolaeth, yr oedd wedi gw telu i'r fath raddau fel nas gallesid gwneud hyny, a bu farw. ychydig cyn unarddeg o'r gloch. Gwneir ymcbwiliad trwyadl i amgylchiadau mar- wolaeth y truan.
Y MARCHOGWR MEDRUS.
Y MARCHOGWR MEDRUS. NEU JACK BRIMMIJEM. FONEDDIGION,-Gan eich bod mor gar- edig a cbymmeryd i mewn i'r Llais ambell i linell oddiwrthyf, megys un o gerrig atteb y wlad, yr wyf yn anfon i chwi air o banes peth tra rbyfedd a welais ddoe ar ffordd fawr y sir rhwng Pig y Nant a Chwm Cae du. Fel yr oeddwn yn llusgo i fynu yr allt hono yn Ued flin, a'm peccynllyfrau ar fy ngwar, clywn drwst carlamiad meircb yn gyru ar fy sawdl, a braidd y gellais neidio o'r ffordd cyn i wr o ym- ddangosiad hyf, gwyneb-agored, pender- fynol, ond a rhyw dipyn o haner gwen gellweirus ar ei wefus, a direidi yn nghil ei Jygaid, ddyfod heibio, gan farchogaeth par o geffylau. Rhwymasid y ddau yn nghyd fel mewn-gwedd aredig, a thaflesid hilyn lied laes dros y ddau, a marchogai y gwr gan ledu esgeiriau a sefyll a'i droed ar bob un. Ond er fod hilyn dros y rhan uchaf o'r ddau geffyl, gwelwn fod un yn wyn, neu wedi bod ya wyn unwaith, a'r Hall yn llwyd-oleu, neu rhyw beth rhwng hyny a du, ac heb fod yn Hiw neillduol yn v bvd. .1 Yr oedd y ceffyl gwyn yn lied isel ei gas (condition), ei gefn yn gul, a'i esgyrn yn ymwthio allan trwy'r croen bron ond yr oedd digon 0 fettle ynddo. Peth arall tra hynod oedd fod y ceffyl llwyd-oleu yn taflu 11 aid a budreddi ar yr hen geffyl gwyn yn ddibaid; ond nid oedd y baw yn dangos fawr ar y gwineu. Sylwais fod y ceffyl gwineu mewn eyflwr pur dda, ei groen yn llyfn a llathr, a'i aelodau yn lied ystwyth ond yr oedd ei flew yn dechreu ymeatyn, fel pe buasai wedi newid porfa yn ddi- weddar, ac heb gael llawer o geirch. Hefyd, sylwais fod dau friw cas ar ei lin- iau, fel pe buasai wedi cael codwm hyllyn ddiweddar; ac er fod ol amryw fathau o blaster, saim, a liedr wedi ei losgi, pitch, cwyr crydd, a phethau ereill ar goesau yr anifail, yr oedd yn dal i waedu, ac yn peri gradd o ofid i'r march, ac yn ei gloffi. Synais yn fawr wrth weled golwg o'r fath yn nghanol gwlad, a chan fod hen wr yn tori cerrig yn ymyl y ffordd o fewn ychydig latheni i mi, troais atto a gofyn- ais iddo, Pwy yw y gwr dyeithr acow sydd yn marchogaeth mewn dull mor an- nghyffredin, a'i droed ar bob ceffyl ?" 0," meddai yntau, Jack Brimmijem y byddwn ni yn ei alw. Y mae circus, neu fath o arddangosfa campau, yn perthyn i gwmni Dr Dialedd ae ereill, ar ei ffordd trwy y wlad hon yn bresenol yn performio, neu chwareu campau, bron bob nos; a rhai da iawn ydynt. Gwelais un o honynt yn rhoddi rholyn o berson braf, boddlon, siriol, elusengar, a hynaws, mewn math o gas gwydr, ac yna yn tanio pistol yn ei ymyl, acyn sicr i chwi, dyma sarph fawr wenwynig, a'i cholyn allan, yn ymddangos yn ei le ar funud, nes oedd gwallt pawb yn sefyll. Gwelodd Hugh, fy mrawd, Jack yna yn rhoddi haner dwsin o Fethodistiaid llyfndew, boddlawn, arianog, dan y glass, ac yn taflu llian drosto am ryw hanner munud ac yn sicr i chwi, dyna fo yn ei dynu, a pha beth oedd dan y gwydr ond y Methodistiaid yn rhwym draed a dwy- law, a phlisman yn eu dal a beiliaid yn myned a'u harian a'u dillad ymaith. Meddai Jack ryw noson wrth y bobl: Yr oeddych yn tybied eich bod chwi yn bob] ryddion; edrychweh ar eich gyddfau, hreichiau, ac aelodau, ac mewn munud dyma bob un a'i ben mewn aerwy fel eidion, a'i orddyrnau mewn handcuffs fel Bob Ribbyn,'a'i draed mewncyffion fel Paul a Silas. Ni wn i ddim sut y mae efe yn gwneud, end y mae rhai yn dyweud mai codi'r gwr drwg y mae, ereill yn dyweud mai rhoi peth dros eu llygaid nhw mae o, a'r lleill yn dyweud mai sleight oj hand ydyw yiewbl.PDrachefn dodai hanner cant neu ychwaneg o amaethwyr dan y cas gwydr, ac mewn eiliad, wrth iddo symud y gorchudd, gwelid gorymdaith o ddynion mewn cotiau llaesion a gwasgodau ^wyn- ion, a'u hetiau am eu penau, a rholiau o bapyrau dan eu cessail, yn cychwyn o amgylch y cAs gwydr. Yr oedd enwau y personau rhyfedd hyny ar eu parseli papur, yn mysg y rhal y gallaf enwi Mri Bright, Richard, Chamberlain, Bradlaugh, Butt, Kenealy, Dilke, Arch, Odger, Mor- gan, Jones, a rhif o ledrithion meingoes, aflunaidd, fel creaduriad ar hanner eu ffurfio, yn ymlusgo ar eu holau. Ym- ddangosent fel nyth iar a'r wyau yn dechreu deor; ambell gyw ag ychydig o blu arno, y llall bron yn noeth, ereill a'r pigau trwy y plisg, ac wyau ereill wedi marcio. Y "Blaid Fawr Ryddfrydig"lleisiai Jack Brimmijem, Dyma'r dynion i roddi trefn ar y byd." A thybiwn fy mod yn gweled pob un o'r orymdaith yn rhoddi wingc ar Jack wrth fyned heibio, a di- flanent mewn congl dywyll, lie yr oedd hen wr tew yn eistedd a phwrs aruthrol o aur yn agored wrth ei ochr." "Wel," meddwn, I ba beth y mae Jack Brim- mijem yn cymmeryd dau geffyl fel y*& dano ?" Meddai yntan, Y mae y eOffYI: gwyn yn perthyn i hen gwmni parcbus y Pengryniaid gynt, ond fed hwnw wed newid llawer yrwan. A phe, baasa genych ehwi amser i edrych, y mae enw "Cymdeithas Rhyddhad Crefydd" ar hilyn yr hen geffyl gwyn, ac enw "X Blaid Fawr Ryddfrydig" ar y llall, m y mae Jack Brimmijem yn medru reidio'r ddau, a chael tal gan y ddau. Y mae saith neu wyth hefo'r circus i gyd yn y wlad yma yrwan ac y mae gan y cwm- peini yn Brimmijem gan mil o bunnatt wrth gefn. Ni chymmer y cwmni neb i mewn i chwareu yn y circus os na bydd ef .1 yn ddyn reit dalentog mewn tafod a dwrn. Gan fy mod yn cael difyrweh wrth wran- daw ar yr hen forthwyliwr cerrig gonest yn dyweud ei stori, hwyrach y caiff rhyw un ddifyrwch yn ei ddarllen yn Llais U Wlad.-Yr eiddoch yn ddiffuant, Huw Y LLYFRGLUDYDD.
DYDDLYFR Y PACKMAN.
DYDDLYFR Y PACKMAN. Dim ond gair yr wythnos hon, gan fod y te pur yn gwerthu mor dda. Camgy- sodwyd fy nodiad at ohebydd clasurol Gwrecsam. Fel hyn y dylasai fod Yr wyf wedi gwella o'r gout; ac y mae y te pur yn gwella pob math o lunacy. Os ydwyt yn amheu, danfon am bwys o hono." Nid yw yr hen Backman yn meddwl marw am dipyn etto—nes cael y dysteb, a bydd yn ddraen yn ystlys pob recsyn gohebydd- ol, cyn ac ar ol marw. Yn Lerpwl. JOHN Y PACKMAN.
NAWDDOGAETH FREINIOL I ARDDANGOSFA…
NAWDDOGAETH FREINIOL I AR- DDANGOSFA EISTEDDFODOL GWRECSAM. Deallwn gyda boddbad fod ei Mawrhydi y Frenhines wedi amlygu ei bwriad o fod yn noddes i'r arddangosfa gelfyddydol a. gynnelir yn nglyn ag Eisteddfod Genedl- aethol Gwrecsam. Derbyniwyd llythyr oddiwrth Syr Thomas Biddulph yn cyf- Iwyno yr hysbysrwydd derbyniol gan Ar- glwydd Raglaw y sir. Hyderir hefyd y Ilwyddir, drwy offerynoliaeth yr hen wron Syr Watcyn, i sicrhau presennoldeb Ty- wysog Cymru yn yr eisteddfod.
LLOSGIAD MELINFA YN OLDHAM.
LLOSGIAD MELINFA YN OLDHAM. Ychydig wedi hanner nos Sadwrn, tor- odd tan allan yn Melinfa Chapel, Old- ham. Er gwaethaf holl ymdrech y tan-ddiffoddwyr lleol, aeth y rhan benaf o'r adeilad yn garnedd o ddinystr. Yr oedd masnnch yn cael ei chario yn mlaen yn y felinfa gan bedwar o wahanol bersonau, ac yn cynnwys swm enfawr o eiddo. Cyfrifir fod y golled yn cyrhaedd deuddeng mil o bunnau.
BODDIAD PERSON YN AFON GONWY.
BODDIAD PERSON YN AFON GONWY. Gofidus genyf hysbysu fod dyn parchus o'r enw Richard Jones, wedi boddi yn afon Gonwy nos Lun. Yr oedd y trangcedig yn dychwel ar hyd llinell y rheilffordd oddiwrth ei waith, fel plate-layer, o Bettws ycoed, a thrwy rhyw ddamwain ysgubwyd ef ymaith gan y llif mawr oedd yn yr afon, a suddodd. Er fod pob ymgais yn cael 4 gwneud er ceisio dyfod o hyd i'w gorph, y mae hyd yn hyn wedi profi yn anllwydd- iannus. Yr oedd Richard Jones yn hen wr parchus, ac yn ngwasanaeth cwmni y London and North Western ers amser maith, pa rai a wasanaethodd yn ddiwyd. Y mae cryn bryder yn cael ei ddangos gan y bobl, a phawb yn gweithio gyda chychod a phethau ereill er ceisio eael hyd i'w gorph. Yr oedd ei wraig wedi marw ers amser, ac felly nid oes ond ei blant, pa rai sydd mewn oedran, i alaru am ei golli.-Alpha. f, -r-
BANGOR.
BANGOR. "ANFFAELEDIGRWYDD EGLWYS RHUFAIN." -Nos Lun diweddaf traddodwyd darlith Seisnig alluog ar y testyn uchod yn addoldy newydd y Bedyddwyr, gan Mr J. Taylor, Rhyl. Cymmerwyd y gadair gan y Parch. W. H. Bishop, gweinidog y lie. Yr oedd cynnulliad lied luosog wedi dyfod yn nghyd, a chawsant eu boddhau yn fawr. Elai yr elw at ddileu dyled y capel. DIRWEST.—Cynnaliwyd cyfarfod dir- westol tra liewyrchus nos Wener, y 18ted cyfisol, yn hen gapel Hirael, pryd y caf- wyd areithiau pwrpasol i'r pwngc gan y llywydd, y Farch. J. Williams (M.), Parch- J. Evans (W.), Parch. J. Parry (A.), ac amryw ereill o gewri dirwestol y ddinas. CYFARFOD ADLONIADOL. Cynnaliwyd cyfarfod difyrus, nos Fercher diweddaf, mewn cyssylltiad a'r Ragged Sohool, Hirael, dan lywyddiaeth Mr J. D. Wil- liams, Normal College, pryd y cafwyd amryw ganeuon gan y personau canlynol: Mr E. Myrddin Jones, Miss J. Jones, Mr J. R. Hughes (Ap Llwyfo), ac amryw ereill rhy luosog i'w henwi, pa rai wnaethant eu rhan yn ihagorol. Diau Y teilynga athrawon yr ysgol hon glod mawt