Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

BETTWS Y COED A'R AMGYLCHOEDD.

CAERNARFON.

COEDPOETH.

CERRIG Y DRUIDION.

CAERGYBI.

--'-'<. LLANDINORWIC.

LLANDRYGARN.

LLANDUDNO.

------.-----SARNMEILLTYRN.

-.------'-----------TALYSARN,…

TREFDRAETH, MON.

TREMADOG.

TREFDRAETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TREFDRAETH. CrNGHERDD. Nos Fawrth, y 15fed cyfisol, cynnaliwyd cyngherdd yn Ysgoldy Wladwriaethol y plwyf uchod. Y llywydd ydoedd y Parch. Jenkin Davies, curad llafurus y lie, a Mynyddog ydoedd prif arwr y cyfarfod, yr hwn, fel arfer, a ogleisiai glustiau y gwrandawyr gyda'i arabedd dihafal nes creu gweniadau i chwareu ar bob wyneb. Aed trwy waith y cyfarfod fel y canlyn yn laf, cafwyd annerchiad gan y llywydd, ac nid yn ami y cawn ei fath mewn cyfarfodydd o'r un natur. Yr oedd yn wirioneddol dda, byawdl, ac i bwrpas, ac nid yn gynnwys- edig o ryw sothach diwerth fel ag a geir yn ami gan lywyddion cyngherddau. Yn 2il, can gan Miss Owen, yr Ysgoldy; 3ydd, can gan Mr J. Owen, isddiacon Malltraeth; 4ydd, can gan Mr W. Hughes, Tynewydd, Llangristiolus 5ed, can gan Mynyddog 6ed, glee; 7fed, can gan Mr H. Owen, yr ysgolfeistr; bfed, can gan Mr Jones, Llanfaelog; 9fed, can gan Mynyddog. Wedi y rhan gyntaf, ac yn y cyfwng rhyngddi a'r ail, cafwyd ystori flasus gan Mynyddog. Dylasem grybwyll fod deu- iwdiau ar yr harmonium a'r crwth gan y Meistri Owen a Hughes, yn cael eu shwareu ar ddechreu pob rhan. Yr oedd p. ail ran o'r programme fel hyn:-CAu gan Mr J. Owen can gan Mr H. Owen san gan Mr W. Hughes; can gan Mynyddog glee a deuawd yn dra hwyliog gan Mr Jones a Miss Jones can gan Mr W. Hughes can gan Mynyddog; ac yna, wrth derfynu, cafwyd" God Save the Queen," a phawb yn uno. Cafwyd cyng- herdd da yn mhob ystyr. Yr oedd yr ystafell yn llawn o bobl, a phawb yn ym- ddwyn yn deilwng o drigolion goleuedig Cymru, gwlad y g8.0. Dymunwn grybwyll fod y dyn ieuangc Mr W. Hughes yn meddu ar dalent gerddorol a llais. Y mae ganddo allu i dynu 8ylw y gwrandawyr ac yr ydym yn credu y gellid ei fedyddio fel Mynyddog yr ail. Baan y caffom y fath gyngherdd boddhaus etto.-H.

Family Notices

Y PRIF FARCHNADOEDD SEISNIG.

IPHIF FARCHNADOEDD CYMREIG.

Advertising

BANGOR.