Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
INODIAU TEITHIOL. |
I NODIAU TEITHIOL. Oblegyd ansawdd anffafriol y tywydd y diwrnodiau diweddaf hyn, nid wyf wedi bod yn alluog i ymweled ond ag ychydig leoedd, yn mhlith pa rai y saif Dolyddelen, pa le a gyrhaeddais ddydd Mawrth, a chan fy mod yn clywed fod yno gyngherdd i gael ei gynnal er budd i'r Telynor Dall, nos Fercher, penderfynais aros er mwyn cael gwledd yn y ffordd hono. Nos Fercher a ddaeth, ac ar ol myned i'r ysgoldy cenedl- aethol, mi a'i gwelwn yn orlawn o bobl. Yr oedd Elis o'r Nant yn llenwi y gadair, a'r swydd bwysig o arweinydd. Y mae Elis yn un pur ddoniol, ond ni a'i clyw- som yn fwy felly na'r noson bon. Gellir dywedyd am Elis o'r Nant fel y dywedodd un am Twin, ei fod yn cael ei "hynodi mewn arabedd naiunol, pertrwydd parod mewn ymadroddiou, duehan miniog mor llyn^ed a'r ellyn, yn brathu at y gwaed." Dyma englyn a wnaed iddo gan eich go- hebydd, Moelwynog Wyllt: Gwir enwog arweinydd,—^ohebydd Gwiuiog, ac hanesydd, Elis o'r Nant auwyl sydd Yn dirion fwyn gadeirydd." Yr oedd yr Ehedydd Elen, neu fel y mae yn fwy adnabyddus, y Telynor Dall, yn ei hwyliau gor .eu, ac yn canu hefo'r delyn a'i lais yn hynod dda. Canedd gyda Llew Ogwen "Yteiiiwr a'r crydd," yn bur ganmoladwy. Dyma englyn iddo yntau etto gan yr un I Mor hudol mae'r EhedyddHyn canu Acceuiou tra chelfydd, A'i ddoniau a'i seiniau sydd Ganeuon fel gwiu newyed." Yr oedd amryw o enwogion y gymydog- ZIY aeth yn cymmervd rhan, sef Alawydd Eryri, Eos Ceiig, Crych Elen, Mair Wil- liams, ac Ap Machno, yr oil o ba rai a wnaethant eu rhan yn bur gymmeradwy. Y mae Crych Elen yn dyfod yn bur adna- byddus, nid yn unig i Dolyddelen, ond hefyd i Gymru oll, fel bardd a chyfansodd- wr. Efe ydyw awdwr Y golomen wen," a'r Llongddrylliad." Fel hyn y canodd Moelwynog Wyllt iddo Cryeb E¡"'n gorwych eilydd-a'i ddawti B^rddouol dihyabydd, A'i f-twl diint cawn tel y dydd A'i ganu'u myn'd ar gyuuydd." Diolch i bobl Dolyddelen, y maent am gael eu cyfarfodydd yn hollol yn Gymraeg; ond pa fodd bynag, nid y lleiaf yn mysg y cantorion oedd Mr Robert Ralph Egar, Sais o Lerpwl, oedd yn digwydd bod yn bresenol yn y pentref, ac ar gais amryw, cydsyniodd i roi ei wasanaeth. Gan fod yno amryw o'r Alban a lleoedd ereill, pa rai nad allent ddeail Cymraeg, yn gweith- 10 ar y rheiltfordd, yr oedd gwasan- aeth Mr Egar yn bur gymmer- adwy, ac yn wir canodd ei ddwy gan, 11 Far-away in bonnie Scotland," a I Passing the time away," yn ardderchog. Creodd ddifyrwcli mawr trwy ddwyn enw I Ells o'r Nant i mewn i'w gan Passing the time away." Drwg genym orfod cof- nodi nad aeth y cyfarfod yn mlaea. mor ilwyddiannus ag oedd wedi dechreu gan i'r amser deng munud ddyfod, pryd y galwydar eich gohebydd Moelwynog Wyllt i allllierch y cyfarfod. Ond pa fodd bynag, nis gallasai, gan i rhyw ddau neu dri wrth y drws ddechreu curo eu traed, yr hwn orchwyl a gymmerwyd i fyny gan bawb, am rhyw reswm neu gilydd, ac er holl ymdrech y cadeirydd, nid oedd modd dys- tewi y bobl, am, meddai un wrthyf, eu bod wedi dyfod yno i cael clywed canu ac nid areithio." Er gwneul pethau yn waeth, dyma'r ysgolfeistr yn dyfod ar y llwyfan, ac yn ceisio, yn nghanol llefau o i lawr a fo," gan y bobl beidio eistedd ar y desciau ysgrifenu, ond nid oedd i ddim pwrpas gan na chymmerwyd y sylw lleiaf o hono. Pa iodd bynag, ar ol i'r dorf ddystewi ychydig, cafwyd dau neu dri o eiriau gan Moelwynog Wyllt, acynaaeth- pwycl yn mlaen gyda'r program, pa un oedd yn bur amrywiol. Oni buasai am y cynhwrf a gymmerodd le, buasem wedi treulio noson hyfryd a chael cyfarfod pur dda. Yn wir yr oedd y canu yn ar- dderchog, ond fod yr holl guro traed a gwaeddi wedi cymmeryd lie, yr hyn a'i gwnaeth yn un o'r cyfarfodydd canu mwy- af ystormus a fa erioed ar fy rhan i fod ynddo. Yr oedd Moelwynog Wyllt wedi bwriadu adrodd englynion i'r cantorion. PENMACHNO.—Nid oes dim o bwys yn aflonyddu ar y lie hwn. Nos Sadwrn di- weddaf cynnaliwyd yma gyngherdd mawr- eddog, pryd y gwasanaethwyd gan amryw enwogion, ac yn eu plith Mynyddog, pa un fel y clywais oedd yn llawn liwyl i gyd. Cafwyd cyfarfod pur lwyddiannus. Y mae gan bobl Penmachno un arferiad bur ddrwg y maent yn hynod hoff o sefyll ar hyd y bont 'L'r cornelau. Y mae yn hawdd gweled nad yw yr heddgeidwad byth yn gwaeddi yma move on," fel yn y trefydd mawr. Gwylied Uangciau Penmachno, y mae un bn rdd wedi bygwth gwneud can arw iddynt. LLANRWST.—Drwg genyf hysbysu eich lluaws ddarllenwyr nad oedd corph Richard Jones, a foidwyd yn afon Conwy, hyd nos Sul diweddaf wedi dyfod i'r amlwg. Y mae pob poth sydd yn ddichonadwy wedi es wneud er ceisio dyfod o hyd iddo, ond y mae hyd yn hyn wedi profi yn hollol aflwyddiannus. Clywais fod ei bet a'i oriawr wedi eu cael, ac y mae cryn bryder yn cael ei ddangos gan y bobl mewn perthynas i pa Ie y gall ei gorph f.)d. Yn wir, dyma ydyw yr unig beth sydd i'w glywed yn y He ac am filldiroedd o gwm- pas.-AII)h(t.
LLOFFION O'R DEHEUDIR.
LLOFFION O'R DEHEUDIR. CWMRHONDDA.—Lladron o Ferthyr yn Nb -eorci. Ddydd Llun diweddaf, yn beddlys Treherbert, o flaen Mr Gwilym Williams, cyhuddwyd wyth o fechgyn Gwyddelig bychain, y rhai a ddywedent iddynt ddyfod o Ferthyr, am ladratta naw swllt a deg ceiniog, perthynol i un Mr Thomas Phillips, o'r lie hwn. Cyhudd- wyd hwynt hefyd o gardotta. Ymddengys iddynt wylio yr erlynydd yn dyfod allan o'r Red Cow gyda chwrw, ac iddynt lad- ratta y swm a nodwyd allan o'i law.! Patrick Eton, bachgen bychan, un o'r wyth, a ddywedodd mai bachgen o'r enw Harrington, yr hwn oedd yn un ttr bym-J theg oed, a ladrattaodd yr arian. Ded- frydwyd Harrington i bythefnos o garch- ariad gyda llafur caled; James Eton a ddedfrydwyd i gael ei gospi a g\vialen fedw, ac oherwydd fod y lleill mor fych- ain, cawsant eu rhyddhau ar yr ammod iddynt beidio gwneuthur y cyffelyb waith draelrefn. BRYNMAWR.-Dydd 1fawrth diweddaf, cynnaliwyd trengholiad yn y Black Lion Inn, o flaen Mr William Lewis, ar gorph plentyn byeban i Thomas Mitchel, tanwr nwy. Yr oedd ei rieai wedi bod yn y Blaina ac ar eu dychweliad, rhoddodd y fam y plentyn yn ngofal geneth feclian, yr hon yn uniongyrchol a waeddodd allan Y mae y plentyn wedi marw." Dy- chwelodd y rheithwyr ddedfryd o Farw- olaeth naturiol." CASNEWYDD.—Gwrandawyd ar gyhudd- iad rhyfedd o greulondeb tuag at anifeil- iaid yn y dref hon, ddydd Llun diweddaf. Gwysiwyd perclieno» buwch am ymddwyn yn greulawn tuag atti, trwy beidio mab- wysiadu moddion i'w godro yn ystod ei dygiad o Neyland i'r dref hon, a dedfryd- wyd ef gan y faingc i dalu dirwy a chost- au, yn cyrhaedd i wyth punt. CWMDWYFRAN, GER CABRFYRDDIN.—N08 Fawrth cyn y diweddaf, torodd tan dyeh- rynllyd allan mewn beudy yn yr amaethdy uchod, perchenog 'yr hwn ydyw dyn ieu- arTfC-01 enw Richard Davies, diweddar o Rhiwsonucha, ger Llanwenog, pryd y llosgwyd saith o wartheg a bustach i rarwolaeth, a niweidiwyd ereill yn dost, ond y mae yn llawenydd genym hysbysu yr achubwyd mwy o anifeiliaid nag a gollwyd, trwy fawr ymdrech y cymmydog- 10-n, pa rai a ddaethant yno mewn pryd, a diffoddwyd y tan cyn llosgi yr adeiladau ereill a'r ydlan. Diofalwch gyd? ehan- wyll ydoedd yr aehos o'r trycbineb ar- swydus hwn. Y mae yn dda genynl hys- bysu fod amryw o gyfeillion Hr Davies wedi arddaug03 eu cydymdeimlad tuag atto mewn gweithred, ac mi a obeithiaf yr efelychir hwy gan lawer yn yehwaneg. CENDL.—Damwain.—Dydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf, fel ag yr oedd geneth o'r enw Jane Williams yn cynnorthwyo mewn trimio glo yn mhwllfa Pwllygarn, perthynol i Gwmni Haiarn Nantyglo a'r Blaenau, aeth ei phen rywfodd rhwng y tryc a'r screen, a derbyniodd niwed mawr. Gweinyddwyd arui gan y meddyg Parker, ac y mae yn dda genym bysbysu ei bed yn gwella yn dda.—Marivolaeth dclzsi/vi- mwth. Boreu ddydd Mercher eanlynol, fel yr oedd dyn o'r eaw John Taylor yn gweithio wrth y peiriant golchi yn Nglyn Ebbwy, syrthiodd i'r llawr yn farw. Yr oedd y trangcedig yn driugaiu ond tair mlwydd oed, ac yn un a fawr berchid gau bawb a'i hadwaenai. DOWLAIS.—Oynbaliwyd cyngerdd mawr- eddog yn un o ysgolion newyddion y He hwn, nos Lun cya y diweddaf, dan uawddj cymdeithas Jenyddol y lie; cymmervvydl rlian yn y cyugherdd gan y brodyr ean- lynol: Eos Morlais, Mynyddog, Mrs D. T. Evans, Eos Cymru, Mr D. Bowen, a Glee Party Dowlais, o dan arweiniad Mr John Evans (Eos Myrddin). Cafwyd cyug- herdd da, a ehynnulleidfa fawr. Yr elw yn myned i drysorfa Odyddion y lie. LLANELLI.-Dyit wedi bilddi.-Nos SAD- wrn diweddaf, oddeutu unarddeg o'r gloch boddodd dyn ieuangc o'r enw John Milner, o'r lie hwn, wrth groesi dros y Dock New- ydd. Cwympodd i lawr rhywfodd, :ac fel y bu yn anffodus iddo, druan, nid oedd neb yn y fan a'r lIe ar y pryd, i estyn cyn- northwy iddo. Cafwyd ei gorph yn mhen ychydig oriau o fewn ychydig latheni i'r man lie y syrthiodd. Dydd Mercher can- lynol, ymgasglodd lluaws yn ngbyd i'w hebrwng i dy ei bir gartref. Yr oedd yn un a fawr berchid gan bawb a'i hadwaenai. PONTYPRIDD.—Yn llys yr beddgeidwad, yn y dref hon, dydd Sadwrn diweddaf, cy- huddwyd dyn o'r enw Roland Phillips, o Graig y bargoed, o ladratta trowel perth- ynol i un Thomas 0'Neil,ond profwyd nad oedd y cyhuddedig yn bwriadu cadw y trowel, a rhyddhawyd ef.—David Roberts a gyhuddwyd gan ei wraig, Susannah Roberts, o wneuthur ymosodiad arni. Rhwymwyd ef i gadw heddwch am chwe' mis.-Wiiliam Williams a William Tho- mas a gyhuddwyd gan David Jenkins, Pandy, o wneuthur ymosodiad arno. Dirwywyd y ddau i ddeg swllt a'r hugain yr un a'r costau. MERTHYR.—Dam. wain angeuol.—Cy far fyddodd dyn ieuangc o'r enw Daniel Da- vies, llafurwr, a damwain a brofodd yn angeuol iddo, dydd Iau diweddaf. Yr oedd y trangcedig yn gweithio yn mhwll y Tynel, Cwmbargoed, ac wrth y gorchwyl o ddyfod a'r tryciau at y screen. Yn fuan ar ol iddo fyned at ei waith, am bump o'r gloch yn y boreu, torodd un o'r tryciau yn rhydd, a cheisiodd y trangcedig roddi brag ar yr olwyn, ac wrth geisio gwneud hyny, tarawyd ef yn ei ben, gyda'r fath nerth nes ei ]add yn y fan.-Da)-lith, Nos Lun diweddaf, yn yn nghapel y Ta- bernacl, yn y dref hon, traddododd y Parch. J. R. Kilsby Jones ei ddarlith ar- dderchog ar y diweddar "David Williams, Llanwrtyd." Yr oedd yr elw yn myned i gynnorthwyo dyn ieuangc mewn afiechyd blin, yr hwn a gyfarfyddodd a damwain ddifrifol yn y gwaith ers tua dwy flynedd yn ol, a'r hwn sydd yu analluog i wneud dim oddiar hyny hyd yn awr. Cafwyd elw da.. YNYSCEDWYN.—Ychydig ddyddiau yn ol bu farw hen wraig o'r enw Mary Thomas, yr hon oedd yn byw yn Penrhiwfoses, ger gorsaf y lie hwn, yn yr oedran patriarch- aidd o gant a chwe mlwydd oed. Yroedd yn enedigol o Llandebe, sir Gaerfyrddin. Dywedir iddi gadw meddiant llawn o'i synwyrau hyd o fewn ychydig ddyddiau i'w marwolaeth, ac yr oedd yn yr Eglwys y Sabboth diweddaf cyn eu hangeu, a cherddodd yr holl ffordd yno ac yn ol, tua dwy filldir o ffordd, heb gynnorthwy neb. YSTRAD RHONDDA. Damwain. Yn mhlith digwyddredau amrywiol y He hwu, 9 1 y mae y ddamwain ddifrifol a gymmerodd le yma nos Wetilr diweddaf, yn un o'r rhai hynotaf y clywsom hanes am dani. Yr oedd bachgenyn ieuangc pedair-ar- ddeg mlwydd oed, o'r etrw David Morgans, Gelli, gynt o Bontrhydygroes, swydd Ceredigion,yn myned o'r ty i efail y cwmni, pellder o oddeutu triugain llath, pryd y syrthiodd i fchwarel oedd tua banner y ffordd rhwng y ddwy restr. Bu farw ar amrantiad, wedi syrthio i'r dyfn- der o tua phymtheg Hath. Cafwyd ef yn mhen oddeutu awr yn ngwaelod y chwarel, rhwng dwy gareg, ac yr oedd ei waed a'i ymenydd wedi rhedeg allan ur hyd y ceryg. Gadawodd y ty tuag wyth o'r glocb. y boreu hwnw mewn iechyd ar- dderchog. Yr oedd yn ddyn o gymmeriad da, ac yn cael ei fawr barchu gan bawb a'i hadwaenai. HIRWAUN.- -Nos Fercher cyn y diweddaf, traddododd yr enwog Robyn Ddu Eryri ei ddarlith odidog ar Ddyledswydd pawb i wneuthur daioni," yn nghapel Bethel, yn y He hwn. Llywyddwyd gan D. E. Wil- liams, Ysw., Y.H. Ein barn yw mai dy- ledswydd pawb yn mhob ardal yn Nghym- ru yw mynu clywed y ddarlith ardderchog hon o eiddo yr enwog fardd. IEUAN AWST.
[No title]
DIANGC GYDA CHARWA.-Dywed y new- yddiaduron Americanaidd: Mrs M'KOII- zie, nith i Syr Hugh Allan, perchenog Llinell Agerlongau Allan, a ddiangodd o Montreal i New York gyda Mr Brydges, peirianydd ieuangc, mab i'r cyn-brif gyf- arwyddwr perthynol i ffordd haiarn y Grand Trunk, Canada. Daliwyd hwynt yn New York; ond rhyddhawyd hwynt drachefn, am fod yr heddynad yn haeru fod eu daliad yn orthrymus ac annghyf- reithlawn. Ymddangosai Mrs M'Kenzie yn bur edifeiriol, ac addawai ddychwelyd i'w charfcref ond nid oedd ei hedifeirweh yn ddwfn iawn, yn ol pob tebyg, canys di- angodd ymaith wedi hyny yr un dydd gyda Mr Brydges. Y mae yr achlysur wedi pari cryn gyffro yn Montreal. Y mae ei phriod yn berchellog llongau cyfoethog, nc wedi bod yn briod ers pedair blynedd.
1; . YNT CLERIGOL MON.
1; YNT CLERIGOL MON. Ddydd Sa Iwrn traddododd Arglwydd Penzance, fel Deon yr Archau, ei ddyfarn- iad yn achos y Parch. W. Anwyl Roberts, yr hwn a gyhnddasicl o fecldwdod. Cofus gan ein da, lienwyr i'r achos gael ei drafod o flaen diiprwyaeth yn Mangor, pryd y tyhiwyd fod y dystiolaeth yn ddigoDol i gyiiawnlr u trosglwyddiad yr achos i lya yrArchnu. Yr eedd y cyhuddedig yn ficer J.11 • ddyfnan a Llanfairmathafarn- eitbaf, Mem, a chyhuddid ef o feddwdod ar bedwar achlysur yn Mangor, Beau- maris, a'r gymmydogaeth. Arglwydd Fenzance, wrth gyhoeddi ei ddyfarniad, a ddesgrifiai yr achos fel un o anhawsder a phryder m.^wr. Yr oedd pedwar am- gylchiad ar ba rai y priodolid meddwdod i'r diffynyd 1, ac yu anffodus yr oedd y dystiolaeth yn dra annghysson. Nid oedd dadl na ddylid cadarnhau cyhuddiad 9 fath yr un gerbron y llys gyda gradd mawr o sicrwydd, oblegid nid yn unig yr oedd cymmeriad a sefyll fa y cyhuddedig yn ddibynol ar y dyfarniad, ond hefyd yr oedd yii d ra anliawdd cyfarfod i'r cyfryw gyhuddiadaM os na roddid dyddiad pen- nodol. O'r podwar cybuddiad,nid oedd onn dau yn dw., It dim tebyg i ddyddiad pou- nodol, ac ar y prawf nis gailwyd profi i un o'r cyfryw ar unrhyw ddyddiad neill- duol, ac felly yr oedd cryn radd o ansicr- wydd o bartl] y eyhuddiadau ar y cyeh. wyniad. Yna aeth y barnwr dysgedig yn mlaen gydag adolygiad maith ar y tystiol- iaethau ar bob oehr, ac ar y terfyn dat- ganai ei farn nad oedd y eyhuddiadau wedi eu profi yn erbyn Mr Bobertn. Gallasai fod y eyhuddiadau wedi eu profi, ond wedi hyny ar y llaw arall, yr oedd prawf cadarnbaol yn erbyn y fath bender- fyniad. Felly, ystyriai ei argl wydd nad oedd y cyhuddiad wedi ei brofi mor glir ag i alluogi y llys i wneud penderfyniad o zD I yn ei erbyn. Bwriwyd yr achos allan, heb wneud unrhyw archiad o barth y costau.
"''*'""------... LLANWDDYN.
LLANWDDYN. CYMDEITHAS Y BOBL IEUAINGC.—Noa Iau Chwefror 24ain, cynnaliwyd cyfarfod o'r natur uchod yn yr Ysgoldy Genedlaethol, yr hwn a lywyddwyd gan y Parch. T. Henry Evans, ficer. Wedi agor y cyfar- fod yn y dull arferol, cawsom feirniadaeth y llywydd ar y testynau canlynol :-Cân, "Y Llwynog," un-ar-bymtheg yn cystadlu goreu T. Jones (Cymro Wddyn). "Casgl- iad o ofergoelion ac ysbrydion plwyf Llanwddyn," dau yn cystadlu, eithr T. Vaughan, Bryngwyn, ennillodd y wobr. Grammadegu, tri ymgeisydd, ond nebyn deilwng o'r wobr. Canwyd a darllenwyd gan E. Gittin, Llwyn y rhiw; J. Evans, Lletty'r Eos E. Jones, ysgolfeistr; W. Gittins, Glyndu W. Owen, Ffordd; ac E. a H. Parry, Nant-yr-iar, y rhai a aeth- ant drwy eu gwaith yn feistrolgar. Mewn gair, yr oedd pob peth o'r dechreu hyd y diwedd yn arddangos talent a medrus- rwydd anarferol. Drwg genyf orfod dyweud nad oes dim ond un cyfarfod o'r natur uchod i gael ei gynnal yma eleni. CYFARFODYDD CAMAMSEROL.-Nod fy saeth y tro hwn yw dwsin neu ychwaneg o ddyn- ion sydd ya casglu at eu gilydd i adeilad tu uchaf i Bont y Llan, i'r dyben o feistr- oli rheolau yr iaith Gymraeg. Gellir eu canfod weithiau yn aros mor hwyr a deg o'r gloch y nos ac ychwaneg ambell i noson. Diwygiad yn hyn o dditifyg a lwyr foddlonai lawer heblaw-Albionfryn.
Family Notices
GEN KDIGAETHAU. ChwefrlJr 21, pri ,d Mr John Jones, labrwr, AbramV lane, Dinbych, ar fab, Chwefror 22, priod Mr J. 0. Jones, drajer, Cerig-y- draidioD, ar fab. Chwefror 26, gwraig Mr R. Thomas, Commercial Traveller, f istyll Nevin, ur feich. PRIODASAU. Chwefror 24, yn eglwys Christ Church, Sefton-park Liverpool, y Parch. Wilfred Ieveson, M.A., George unig fab Mr J >hn Jones, M wnglawdd, A Miea Sarah' Anne, rnerch euerigaf Mr John Thomaa, IlYsioavvr, BirkeDhead. Chwefror 24, gan y Parch. J. WilliamR, yn EglWys St. Mary, Beaumaiis, Mr 0. Hughes, shipbuilder Bangor, ft Miss Lydia Griffichs, Mc-na Terrace, Amlwch. Chwefror 29, yn eglwys btwvfol Beaumaiia, gau v Parch. R. H. Willliame, vicer, Mr J. H. Roberts "M A* cyfreithiwr, Llangefni, A Mrs Mary Jane, gweddw M Prichard Owen, MOD. M ARWOLAETHAU. Chwefror 24 yn 20 Newstead Ruad, Lerpwl, ya77 mlwydd oed, Mr ihotaas Evans, gyut o'r Garth, Baogor. 9 Chwefror 21. yn 12 mlwydd oed, ar ol byr evstuda Margaret Jones, anwyl ferch Mr Owen ac Anne T,,n Bodfibrdd, Hen E^wys, Mon. neS' vys, Mon. (Ihef rot lq, Mrs Mwy Jones, priod y diweddar Mr Evan .Tone8, Larneddi, Betheada, yn 76 mlwydd oed. Chwvfror 19. yn 59 mlwydd oed, Sarah, *nwyl briod Mr Richard Lewis, Parc-isaf, Llanrhaiadr Mochnant Chwefror 24, Mr William Owen, ger Parys Lodire Am! well, yu 72 mlwydd oed. Chwefro; 23, Mr RSchard Roberts, merchant Heol-v- bont, Aberystwyth. Ctiwefror 23, Mr Evan Roberts, B^gillt, yu 70 mlwydd oed Chwefror 23, vn 35 mlwydd oed, Hugh Mortimer Roydfc-p, Ysw., Eldon Vi!la, i>inbjcli. Chwefror 14, t\!r B. A. Scout field, HeuDan Amtfood Wiiitland. Co wrfror 22, ar ol dioddef bir gystudd, Mr W. Storv C 'ppy, Dinhvcb, yn 60 wlwydd oed. Cuwefror 18, Mr John Henry Treweek, Ty Cach Amlwch, yn 5S mlwydd oed. Chwefror 27, yn High street, P.»rtand<»c, Jane gwraig Mr J 1. Hughes, o'r Rhyl, yu 30 mUydJ 1)8
I..--.'--.---. j DYDDLYFR…
yr hwyr, eroesawir ef gan aelwyd ddi-din, ac absenoldeb yr lion a gymmer- odd i fod yn ymgeledd gymhwys iddo. YrngeIedd gymhwys yn wir! A rhaid iddi Mrs o flaen ei henw Ni fuasai j^tteddiges o ddysg yn gwneud hyn. Dyma Ughyngbor i'r wraig dlawd hon Aros- weh gartref, gofalwch am eich priod a'ch Pknt, a thaflwch yr ysgrifeli o'ch llaw. Mae myned o un ty i'r Hall i werthu to P&r, yn llwybr effeithiol i adnabod dynion; ac y mae adnabod dynion yn sicr o orfodi dyn i weddio am gael ei waredu rhagddynt. 0 pn nodwedd arbettig rhai o fy nghwsmer- laId yw Anwadalwch. Pe caffent Qlwg ar dduwies Sefydlogrwydd, dychrynent i farwolaeth, canys y mae yn beth mor wa- hanol i ddim a weJsant erioed. Heddyw, I Y tnaent y peth hwn, yfory byddant y peth arall, drenydd yn rhywbeth gwabanol, a. thradwy byddant yn ddim. Y mae ceiliog y gwynt yn mhob teulu, ac y mae anadl SWybedyn yn awel ddigon cref i'w droi i bob cyfeiriad. Y mae anwadalwell neu gyfnewidiad lliw yn perthyn yn reddfol i'r chameleon, ond nid i ddyn. Yr ydych yn cofio y ddadl yn ngbyicb y chameleon. Dywedai un mai glas ydoedd, arall mai gwyrdd, ac arall mai du, a therfynwyd y ddadl fel hyn,— I marked it wt:ll,twas black as jet,- You stare but, airs, rye got it yet, And can produce it.' 'Pray, sir, do; I'll lay my life th; thing is blue.' And I'll be bound, that when you've seen The reptile, you'll pronounce him green.' Well, then, at oncn to end the doubt,' Replies the man, I'll turn him out: And when before your eyes I've set him, If you don't find him black, l'it eat him," He said then full before their sight Produced the beast, and, lo -'twas white Dyna fel y mae gyda lluaws o fy nghws- Eaeriaid, yn gymdeithasol, gwleidyddol, a chrefyddol. Gallech feddwl eu bod raor sefydleg heddyw a'r mvnyddoedd oesol ond yfory byddant fel pluen yn ddilywodr- aeth yn yr ystorm. Fy nghwsmeriaid anwyl, nid creaduriaid i fod yn deg-anau yn llaw amgylchiadau y bwriadwyd chwi i fod ond rhaid i bob amgylchiad blygu o flaen yr ewyllys. Gallwch, ond i chwi ewyllysio, droi j dymhestl gynddeiriocaf yn beroriaeth nefolaidd. Dichon y bydd i rai o'm cwsmeriaid ddigio, a gwrthod prynu ychwaneg o'r te pur, ond nid yw byny o Un pwys genyf. Digied a ddigio, nis gall neb ymddiried mewn dynion ansefydlog, canys y maent yn anwastad yn eu holl ffyrdd. Nodwedd beehadurus arall yn rhai o'm cwsmeriaid yw rhagrith-bod yn ddau- Wynebog. Pechod cas iawn yw hwn etto, ac y mae yn ddigon i drawsffuifio pob dyu yn feudwy. Eisteddwn mewn parlwr yn Llandudno yr wythnos ddiweddaf, ac yn siarad a mi yr oedd gwraig y ty. Pan Welodd hi ryw foneddiges yn dyfod at y ty gofynodd i mi ei hesgusodi am funud tra y buasai yn siarad &'r hen genawes oedd yn dyfod yno gyda'r bwriad i aros trwy y prydnawn. Wedi iddi fyned at y drws, cyfarchodd yr ymwelydd fel hyn 0! y mae yn dda genyf eich gweled. Paham na fuasech yn dyfod yn nghynt,a dyfod a'r plant auwyl gyda chwi—y fath blant prydferth. Deuwch i'r parlwr yr ydych Wedi gwlychu, ond nid oes gwahaniaeth ond yr wyf fi yn myned oddicartref yn union. Deuwch i mewn, a gwnewch eich hunan yn gysurus." Na, rhaid i mi fyned, nid oes genyf amser i aros, diolch i chwi," ebe hono, a ffwrdd a hi. Dych- welodd gwraig y ty attaf, a dywedodd,— "Hen genawes farus a diddysg yw bona. Daw yma bob amser erbyn ciniaw; a phan ddaw hi i'r parlwr, bydd gwaith wythnos i lanhau ar ei hoi hi a'i phlant- plant hyllaf a mwyaf dilywodraetb a Welodd dyn erioed. Yr wyf yn diolch iddi fyned." Ebe fi, wrtbi,—" Yr wyf o'r farn eich bod wedi darllen barddoniaeth Tom Hood, a'i fyfyrio, a'i weithio allan yn eich ymddygiadau, yn enwedig y darn hwnw a elwir Truth in Parenthesis, sef y gwirioneddrhwngeromfachauo." "Naddo John, ni welais y dernyn erioed,adroddwch ef i mi, canys yr ydych yn adroddwr mor rhagorol" ebe hi. "Wel," tbe fi, yr oedd dynes o'r enw Mrs Skinner wedi talu ymweliadâ boneddiges, ac wrth ei derbyn hi, rhagrithiai y wraig ond pan yn siarad rhwng cromfachau. Dyma y pennill cyntaf I really take it very kind, This visit, Mrs Skinner; I have not seen you such an aga (The wretch has come to dinner !) Your daughters, too,—what loves of girls What heads for painters' easlea Come here and kiss the infant, dears,— (And give it, p'rhaps, the measles !) Neidiodd y wraig fach ar ei tbraed yn wallgofus, gan ofyn os oeddwn am ei hin- sultio yn ei thy ei hnn. H Dim," ebe ii, ii ond yr ydych chwi wedi fy sarhau i trwy ragrithio. Dydd da i chwi; dyma fi yn myned, ac yn ysgwyd y llwch oddi- Wrth fy nhraed yn arwydd o farn ddis- gyna arnoch am eich rhagrith." Fy nghwsmeriaid! y mae un gwyneb yn ddigon i ddyn, a dau yu ormod. Tafiwch l'agrith ymaith, a bydd well yn onest a di- dderbynwyneb; ac ond i chwi wneud hyny, mi a werthaf de pur Llanrwst i chwi dair ceiniog y pwys yn rhatach. At Ohebydd Gwreesam Y ffol tra y i tawo a gyfrifir yn ddoefch." | At Twr y Dderi: -.A. wyt ti yn meddwl dy fod yn gwybod cymmaint a mi am af- iechyd dynion, a minau wedi bod yn feddyg, ac yn gwerthu pills ? Gad ti bethau fel hyn i ni, y meddygon; ac os yw pobl Ceredigion yn afiach, dywed wrthynt fOIl y "tê pur" yn gvyella pob afiechyd. At John Jones, Llundain Yr wyt wedi derbyn punnoedd o arian y dysteb, ac wedi eu cadw at dy wasanaeth. Os na fydd i ti eu d<mfon i mi yn unioa, dywedaf yn y Llais dy fod wedi eu cadw. At Fethodistiaid y Bontnewydd: Gwnaethoch dro ffol i gau y dyn pwysig hwnw o'ch eystadleuaeth. Gadeweh iddo gystadlu yn eich cyfarfod nesaf, a chewch ganfod ei eiddilwch. At yr holl fyd Prynwcli de pur Lian- rwst. Llanrwst. JOHN Y PACKMAN.