Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

CYMDEITEAS Y DADGYSSYLLTIAD…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMDEITEAS Y DADGYSSYLLTIAD YN AMCANU YSBEILIO Y PLWY- FYDD GWLEDIG. FONEDDIGION,-Nid wyf yu ameanu yn y llythyr dilynol ddyweud un gair a fyddo yn ymylu ar droseddu eich rheol o gau allan o'ch newyddiadur bobpeth a dtiedda i godi dadleuaefch grefyddol. Fy amcan yw sylwiyehydig ar amcanion cymdeithas y dadgyssylltiad, a'r dull beiddgar y c8fn- oga ysbeilio y plwyfydd gwledig o'u medd- iannau a Ohymru o'i hen waddoliadau erefyddol. Enlyn ei ohynddrychielwyr o amgylch (t blwyf i blwyf, gan awgrymu mai eu hamcan yw ysgafnhau beichiau yr amaefch- wyr a'r4tir-feddianwyr byeiiain, trwy gym- laeryd y degwm (ni chlywais air am y gwaddoliadau eglwysig ereill o'u geueuau yn y plwyfydd gwtedig) oddiar yr offeir- laid, a'i drosglwyddo iddwylaw y plwyf- olion eu hunain at ostwng y tretlii neu addysg." Y mae yn ddiau fed yr addewidion aw- grymiadol hyn yn dra effeithiol i eunill cymmeradwyaeth y rhai na wyddaii t. ddim am hawliau yr eiddo eglwysig; ond y maent yn annheg i'r eithaf yn agents eyflogedig y gymdeithas, y rhai a ddylent wybod amcaaion eu cyflogwyr. Amean y gymdeithas yw dadgyssylltn yr Eglwys oddiwrth y wladwriaeth, a'i aadwaddoli, gan belled ag y gall berswauio y seaedd i wneud. Ond beth ydyw dad- gyasylltu yn ei effaith ar yr eiddo •glwysig ? 1. Effaith neu ganlyniad dadgyasylltu yr Eglwys oddiwrth y wladwriaeth fyddai trosglwyddo ei holl eiddo hi, yn ddegwm, tir, adeiladau, neu anneddau, ac arian yn y funds, i ofal nifer bennodol o ddirprwy- wyr, y rhai a eisteddent yn Llundain, a byddai raid i bob dyn dalu ei ddegwm, neu rent, ardreth, a llog i'r rhai hyny, heb gyfnewidiad o un geiniog yn y swm. 2. Byddai gan y dirprwywyr hyu hawl i werthu y degwm, tir, tai, a phob math eiddo eglwysig, a throi y cyfan yn arian, pe gwelent yn ddoeth. 3. Effaith dadwaddoliad fyddai rhanu yr holl eiddo yna, sef y degymau, tir, tai, to eiddo arall, yn ddwy ran, megys; un ran i ofal dirprwywyr, neu gyfeisteddfod o ddirprwywyr eglwysig yn eistedd yn Llun- dain, a*r rhan arall i aros dan ofal y dir- prwywyr gwladol. 4. Felly effaith dadgyssylltiad a dad- waddoliad fyddai trosglwyddo yr holl eiddo eglwysig i ofal dirprwyaeth yn iJundain, fel na byddai yn aros fel eiddo plwyfol gymmaint ag un geiniog o hono. Gallai y dirprwywyr eglwysig, ar ol traethu hawliau personnel offeiriad y plwyf, gym- meryd y gweddill at wasanaeth eglwysig yn y man y mynent; a gallai y dirprwy- wyr gwladol wneud yr un peth wrth gyf. arwyddyd ysenedd. Nid yw cymdeithas y dadgyssylltiad yn cydnabod un hawl blwlJ- fol mwy na hawl eqlwysig yn y degwm a'r tiroedd eglwysig; hawliant y cyfatltlil eiddo i'r holl genedl. Y maent mor awjdcliLs i ysbeilio y plwyt ag ydynt i ysbeilio yr Eglwys. Dyma amcan-gyfrif o faiat yrysbeiliad, yn ol cyfrif Mr Gladstone. Cyfauswm gwerth yr holl eiddo eglwysig, pe gwerthid yr oil am y llawn bris, meddai Mr Glad- stone, yw oddeutu 120,000,000p. Hawl-1 iau personoi yr offeiriaid, lleygwyi*, nodd- wyr, bywioliaethaa, a gwaddoliadau di- weddar 90,000,000p. Felly, gwedi dad- gyssylltu, byddai gan y dirprwywyr oglwysig 90,000,000p, at gyfarfod a phob fofynioH a ohynnal eu gwasanaeth; a yddai gan ddirprwywyr y llywodraeth (os gallent:droi yr eiddo-yn arian 30,000,000p at gyfurfod eugofynion hwythau, a gwneuthur yr hyn a welid yn dda ag ef. Byddai llog blynyddol Ty ^worvyti y three per ctni yohydig dsoi 000; 06,01, Troai* I hyn yn elw personol mewn rhyw ffurf neu j gilydd (pe ei rhenid yn gyfartal) o naw ceiniog a thair ftyrling y pen yn y flwydd- yn. Byddai yr elw felly yn ddigon i wraig dlawd dalu am ei thri phlentyn yn union yn rhai o ysgolion byrddau ysgol rhai manau o Gymru am un wythnos. Ni fu erioed y fath ffug ag addewidion y dad- gyssylltwyr. Cymmerwn engraifft etto o'r plwyf hwn. Telir yn y plwyf hwn rhwng y vicarial, y rectorial tithe (degwm y ficer ar commiss- ioners) ac ardreth tir 450p. Nid oes ond 80p o hwn yn myned allan o'r plwyf yn bresennol; ond o dan gyfundrefn y dlid- gyssylltiad elai o hono o leiaf 370p heb obaith ceiniog yn ol oherwydd ni byddai rhan Llangwm yn ol rhif y boblogaeth ond 39g 17s 60, tra y byddai elw Birming- ham dros 9,750p. Cymmerwn olwg ar Gymru etto. Clywais rai o'r dadleuwyr dros ddadgyssylltiad yn achwyn fod yn agos i hanner eiddo Eglwys Cymru yn cael ei gludo dros Glawdd Offa. Braidd y mae hyn yn wir, ond etto y mae Ilawer gormod o wir ynddo, ac y mae eglwyswyr Cymru yn prysur ennill yn ol ranau helaeth o'r cyfryw. Dywedir i ni ar awdurdod y Liverpool Mercury, yr Herald Cymraeg, a'r Faner, fod yr eiddo eglwysig oil yn Ngbjmru odcleutit gwerth 400,000p yn y flwyddyn, ac fod yr offeiriaid Cymreig yn cael oddeutu ei hanner; ond o dan gyfundrefn y dad- gyssylltiad ni byddai rhan wladol Cymru dlawd ond prin 40,000p tra yr elai dinas Llundain ag oddeutu 130,000p, sef mwy na chymmaint dair gwaith na'r oil o Gymru. Y mae pum punt o bob deg o eiddo yr Eglwys yn Nghymru eisoes yn myned i i Loegr," meddai un o ddadleuwyr gwlatl- garol y dadgyssylltiad, tra yr ydoedd ef ei hun yn estyn dwylaw halogedig i ysbeilio Cymru o bedair o'r pump gweddill. Maddeuwch i mi, foneddigion, feithder fy llytbyr, oherwydd y mae gwladgarwcb yn gystal a chyfiawnder yn cael ei aberthu yn gyfaugwbl yn y symmudiad beiddgar hwn. Y mae genym ni, fel cenedl, gystal hawl i'r eiddo eglwysig at gynal crefydd Crist, a meithrin addysg, moesau, a rhin- wedd, ag sydd gan un tjrfeddiaiiwr yn y wlad i'w ystad. Nid y tirfeddianwr, ni i yr amaethwr, ac aid un llywodraeth wlad- ol ar y ddaear, a'i piau, ond y tiriafurwr, y llaw-weithiwr, y tlawd, yr amddifad, a'r weddw, i ddarparu gweinyddiaeth grefydd- ol iddynt yn rhad ac am ddim. I roddi crefydd, dysg, rhinwedd, ac elusengar- wch y rhoed ef, gan ein hynafiaid ni eiu hunain, y rhan fwyaf o hone, cyn i Rufain Babaidd ddarostwng ein heglwys nac i Iorwerth y cyntaf ddarostwng ein gwlad.—Ydwyf, foneddigion, yr eiddoch eiddoch yn gywir, ELLIS BOBHETS. Persondy Llangwm, Corwen.

AT RHYSTYD.

LLITH 0 ARDAL MAELOR.

|LLOFFION CYMREIG.

LLANGWM, GER CORWEN.I I

... HY:

PENGLOG DYNES WEDI EI FALURIO.

._----__.-._-__------_-; ALr-…

Family Notices

Advertising

LLANAELHAIARN A'I HELNTION.