Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
ENGLYNION
ENGLYNION A gyfansoddwyd wrth edrych ar yr eira. yn cuddio'r domeo. Y domen wen ei whyneb,-gan eira Gwneir hoa yn ddisgleirdeb, A cheu dros ei thrychineb Hollol yw y fantell wieb. Pan ei ceir heb yr eira-yr un un Yw yr ben fudreddfa Eira ni ddug anwir yn dda A'i hen nodwedd ni newidia. Rhagrithiwr, celwr tywyll cilon,-ry gu Eira gwdn-ddichellion- Na ddaw i'r goleu ddirgelion Anharddwch a hacrwch hoa. Ond yr un modd pall dtddo-len ei dwyll Gwelwn y dyu drwyddo- Ar ei wynb ardeb o Wir greithiau'r hell ragrithio. ALLTOD EIFION. Ar yr eira, nos Sadwrn, y 18fed cyfisol.
Y FELLTEN.
Y FELLTEN. Y fforchog, folltiog fellten,-a wylltia, Trwy eiltydc* y wybren Hwylia o'i hol, uwch heulwen, Gerbyd N af hyd garbed nen. Aberllefenni. TREBOR MAWBDWY.
Y CREFYDDWR DEFNYDDIOL.
Y CREFYDDWR DEFNYDDIOL. BUDDUGOL. Beth yw llusern glaer athrylith, Ouid rhodd y Nef ei hun ? Ei gwaith penaf yw goleuo Moiiant Duw er llesiant dyn Nid yw'r aur ac Did yw'r arian Sy'n nghilfichau'r mynydd mawr, Heb eu troi i'r cylah defnyddiol, Yn ddim gwell na llwch y llawr. Nid yw crefydd y crefyddwr 7n ymloewi yn ei gwaith Ond i'r graddau bo'o ddefoyddiol Yn ei bywyd, yn ei hiaith Mae 'r defnyddijl gyda chtefydd O'r un anian a'r Duw-ddyu Gan astudio llesiant ereill Tora 'i maes u'i gylch ei hun. Chwilia beuuydd am gyfleustra I gael dyn i lwybrau'r Nef, Cariad dwfn at Dduw a dyoion Sydd yn Ilanw'i galon ef Mae ei fywyd ef yu ddiogel Trwy farwolaeth fawr y Groes I gael ereill i'r un nodifa Llwyr abertha ddyddiau 'i oes. Os yn codi i areitbio Ar ogoniant gras ei hun, Ceisia'i wneud i ddwyfol amcau— Cadwedigaeth ei gyd.ddyn; Neu yn datgan am ddysgleirdeb Llusern dwyfol Brenin Net, Dwyn ei llewyrch idd eia hyrnyl Er ein llesiant a woa ef. Trina friwiau yr aoafns Nid & dwylaw brysiog, trwm Ni lettyodd yn ei fynwes Oer deiraladau calon blwtn Cydymdeimlad sy'n dyferu Droa ei wefus bur i'r cl.vy Pe bai angen, er y cyfanu Calon, torai 'i hun yn ddwy. Defnyddioldeb syn prydferthu Bywyd y crefyddwr iawn, Hwn sy'n llenwi yr adwyau Gan ei wneud yn fywyd Ilawn Gwelir hwn a'r wyneb natiir- Yn y llysiau, yn y dail Y defnyddiol yw y cyntaf, Ynta.u'r prydferth ydyw'r ail. Upper Bangor. RRCDDLANTDD.
TRI ENGLYN
TRI ENGLYN Ar enedigaeth meroh i Mr Evan Thomas", goruehwyliwr Chwarel y Llechwedd, Ffestiniog. Am eni gem wen a gwy1-a thegwch Gyfoethoga breswyl, Geneth ardderchog: anwyl, 0 mae 'n hawdd canu mewn hwyl. Lysti eueth dlos, dyner,—A'i gwyneb Yn dadganu hoffder, Eilun bach ry delyn bdr Evan Thomas fewn tymher. Yn hdnaidd donnau einioes-cll fiwsig Gwefusau fel ceirioes, A'i gofal gerchog gwiw-foes 4 ga'i thad bryduawn-gwaith oes. CYFFDT.
---. PRIODASGERDD.
PRIODASGERDD. Sef llioellau a gyfanseddwyd ar briodas fy nghyfaill Mr William Evans, Clwtybont, il Miss Ellen Owens, DrJU, Llangydwaladr, M6o. Mae'r hogiau'n myn'd o hyd, o hyd I gefofor mawr trafferthion hyd, Wrth gwmpawd sereb.: Mor sydyn y mae'r oil yn myn'd— Pob hen gyfaill, pob hen ffrynd, Wrth 'wyllys march. Mae'r dyn sydd yn ymdrechu byw Ei hunan, raegis llestr heb ly w Ar donaii'.r aig; Ni wyr ef am elfenau serch, Nia gwyr am ddim ond 'atormydd erch Heb gwmni gwraig. ABturiaist titbau, Wiiiiam, gwP, Yn ilaw,n tua'r cenfor hwn Wrth gwmpawd serch Ae ar y fordaith hon trwy'r byd Yr awel fyddu'n deg o hyd, Heb stermydd erch. Dy gilon bron a aeth yn dan, Pan welaist gyntaf wyneb gldn Dy Ellen Ion Nid rbyfedd < ti wneuthur brys I roddi am ti tryner fya Y fodrwy gron. Eich hoes a fyddo'n hwy na hir, A'ch nen a fyddo byth yn glir, Heb awel groes; A bydded ar eich haelwyd glyd Ddigonedd o gysuron byd, Ar hyd eich hoes. A fchryaor Raflfach chwi eich dau, Sef crefydd bur-nid sylwedd gau Yn feddiant byth A'eh meddwl rudo drwy eich hoes At haeddiant TTH fa ar y groes A'i hedd dilyth. DKIXIOIiFRYIf.
BEDDARGAPH
BEDDARGAPH Mrs C. Robert's, diweddar briod Mr W. G. Roberts, gynt u'r Quee.n's Hotel, Llandudno. Yoaa yr wyt yn mro hedd,—dy orchudd Yw'r dywarchen laswedd Ciara anwvl, cloi rhiuwedfl Nid ein j byd A llaw fcidd. — T, TuDtro JONES.
AMLWCH.
AMLWCH. Y Sabboth diweddaf, bu y Parch. Sam- uel Davies, cadeirjdd talaeth Gogledd Cymru, yn pregethu yn ngbapel y Wes- leyaid yn y lie uchod i gyanulleidfaoedd parcbus. Pregetbodd yn y boreu oddiar Aetam xii. 5, Gweddi ddyfal." Pregeth bwysig, a hynod felns. Am chwech o'r gloch, pregethodd oddiar Matt. xix. 16- 22. Odfa fawr oedd hon-un deilwng o urddas y pregethwr. Gellir dyweud nad oedd nemawr i enaid yn y Ile heb fod yn teimlo mai da ydoedd iddynt fod yno. Cafodcl y pregethwr nerth o'r uchelder i draddodi y genadwri fawr, a chofir am y pregethau gwerthfawr hyn am flynydd- oedd. Dylasem ddyweud fod Mr Davies wedi rhoddi annerchiad i'r Ysgol Sab- bothol yn y prydnawn, pryd y canwyd rhai o emynau Sankey gan y plant, o dan arweiniad medrus a galluog Meistri Owen Williams a Daniel Jones, llywydd ac ys- grifanydd yr ysgol. Prysured yr adeg i'r cadeirydd parchus dalu ymweliad a'r lie hwn etto.—Grufydcl Bach. Mae yma ddisgwyliad mawr yn y lie hwn am yr adeg y cynnelir eyfarfodvdd diwygiadol yn nghapel y Wesleyaid, sef yr wythnos gyntaf yn Ebrill, pryd y dis- gwylir i wasanaethix y poblogaidd Barch. Robert Jones, Llanasa; hefyd, am gyfar- fod y Groglith yn yr un capel, pryd y dis- gwylir y Parchn. William Evans, Tre- garth, a Hugh Jones, Caernarfon, i was- anaethu. Mawr ddisgwylir hefyd am Dr. W. Bees i ddarlithio yn addoldy yr Anni- bynwyr.—Betti Ellis. -J,
CAERGYBI.
CAERGYBI. CYFARFODYDD ADPYWIADOD.—Gellir ys- tyried ein tref wedi ei breintio yn neillduol ar gyfrif ei bamrywiol gyfarfodydd e'r nodwedd hwn yn yr wythnosau diweddaf hyn gyda phob enwad crefyddol, ac y bydd y gwaith graslawn a wnaed trwyddynt yn fendigedig am hir amser yn y tir, ac yn destyn mawl i engyl y nefoedd dros fyth. Yr wythnos ddiweddaf ymgymmerodd yr Annibynwyr Tabernacl Newydd,a Bedydd- wyr Seilo, ger Llaingoch, a chael cyfres o bregethau adfywiadol, a choronodd Duw eu llafur gyda llwyddiant a benditb. Cafodd yr Annibynwyr weinidogaeth rymus y Parchn. E. Thomas, Llanfair- fechan, D. Griffith, Dolgellau, a T. Jones, Penmorfa. Yr oedd a fyno Duw a chario dylanwad y genadwri i galoniuy bobl gan y cawn i 29 gynnyg eu hunain am aelod- aeth yn y gwahanol oedfaon. Cafwyd cyfres o gyfarfodydd gweddio bob nos yr wythnos flaenorol, a chyfarfodydd eyffelyb am ddau o'r gloch prydnawn yr wythnos y pregethid yn y Tabernacl newydd a chyn- nelid yr oedfaon pregethwrol yn yr Hen Dabernacl. Cafwyd annerchiadau cam- pus, ac annogaethau daionus i'r saint ac i'rdychweledigion gan y Parchn. W. Lloyd (A), W. Griffith, (A), R. Thomas (B), a H. Jones, (M.C.), a chan y gweinidogion dy- eithr, a dechreuwyd y gwahanol oedfaon gan y Parchn. 0. Hughes, R. Jones, H. Jones (M.C ), H. Hughes a J. Bartley, (W). Yr un wytbnos drachefn, cynnal- iodd y Bedyddwyr a nodwyd gyfres o hregethau eyffelyb yn yr addoldai Seilo (B), a Betbphage (M.C.) pan y cafwyd gweinidogaeth nerthol ac effeithiol y Parchn. A. Williams, Garn; R. Thomas, o'rdref hon, a Mr W. Hughes, o Amlwch. Arddelodd Daw y weinidogaeth yn nych- weliad deg o ddycbweledigion i fyddin y Gwaredwr. Cafwyd annerchiadau ac an- nogaethau taerion a thanllyd yn y gwa- hanol oedfaon gan y Parchedig J. R. Davies, y gweinidog, Mri. J. Ellis, cenadwr y morwyr Joseph Jones (Ioio Mon), &c., a chanwyd rhai o emynau efengylaidd Mr Sankey gan Mr D. W. Jones (Seiriol Wyn). Duw a gynnalio y dychwel- edigion a nerth digonel i ddal gafael hyd d range. TEMLYDDIAETH DDA,-Da genyf hysbysu fod Temlyddiaeth Dda yn gwisgo gwedd newydd mewn Ilwyddiant yn ein tref. Ceir yma dair cyfrinfa, y rhai a fu am lawer o amser yn dra aitewyreh-yn rhifo ych- ydig o aelodau ac yn wrthddrychau dyg- asedd y tafarnwyr, ac yn sorod yn ngolwg y meddwon, ond da genyf weled fod pethau wedi cyfnewid, yn lie bod yn dlawd mewn af-lodau, yn salw yn nghyfrif yr sfradloniaid, y maent yn rhifo eu cannoedd aeloda-u sobr a ffyddlon, a'u gweithred- iadau'n blodeuo, a'u dyfodol yn dra go- beithiol. Duw a daeno ei aden dewglyd dros y meddwon a ddiogelwyd ac a chwanegwyd eu rhif.- Trebo)- Mon, Ysg. St. Seiriol.
LLANDINORWIG.
LLANDINORWIG. Mae yr Eglwys yma fel pob Eglwys weithgar arall yn dal i fyny yr hen arfer fendigaid sef addoliad arbenig ar y Gra- wys ac y mae pawb o'r gynnulleidfa yn teimlo yn dra diolchgar i'r Parch. D. 0. Davies am ofaJu am weinidogion dieithr ¡ bob wythnos, oblegid mae yn unol a ¡ chwaeth pob dyn gael newid yehydig ar y I doniau i draddodi y genadwri uweh eu j penan. Nos 17-erchsr diweddaf cawsom bregeth wir dda gan y Parch. William Jones, curad Caernarfon.—Dymagyfarfod cystadleuol Cylchwyl Llenyddol Eglwysig Eryri wrth ein drysau, dim un gair o son amdano gan neb. Ai tybed y caiff y sefydl- iad daionus yma farw ? Ai tybed nad oes olynyddion teilwng i'r gweinidogion sydd wedi ymadael ? Os nad oes, gwell fyddai i'r lleygwyr godi fel un gwr a myned a'r cyfarfodydd yn mlaen. FFOltDD HAIA.RN.-Nos Sadwrn diweddaf a'r nos Sadwrn blaenorol, cyanaliwyd cyf- arfodydd i ystyried y pwysigrwydd o gael ffordd haiarn i'r ardal yma. Cawsom y cyfarfod cyntaf fel yr hen ganu hwnw, "Dim yn ei ddechreu, a dim yn ei ddi- wedd ond am y cyfarfod diweddaf mae braidd bob peth wedi ei orphen ynddo ond penderfynu pa un ai o Fangor ai ynte o Bontrhyddallt y bydd hi i ddyfod. Y mae pwyllgor wedi ei ethol, fel y dywedir, o ddynion callaf yr ardal; ac wedi i'r rhain orphen eu gwaith, bydd dechreu ar yr anturiaeth .-Gohebydd.
LLANEGRYN.
LLANEGRYN. Cynnaliwyd eyngherdd yn y lie uchod nos Iau, y 9fed eyfisol, gan Eos Morlais, yn caal ei gyanorthwyo gan Mr G. F. Wil- liams, Llwyngwril; Mr G. A. Williams, Llaoegryn cor o Lwyngwril, yn nghyda'r Glanmatthew a'r Ceunant Glee Parties. Llywyddid yn hynod o fedrus gan Evan Rowlands, Ysw., Bryngwyn, a chwareuid ar yr harmonium gan Mr Edwin Jones, Towýa. Canodd yr Eos fal arfer, ac felly ni raid iddo ef wrth ganmoliaeth. Gwnaeth Mr G. F. Williams yn nghyda Mr G A. Williams eu rhan yn ganmoladwy, ac aeth y cor trwy ei waith yn hynod o dda. Am y ddau Glee Party aethant drwy eu gwaith yn well na'r disgwyliad. Elai yr elw at belaethu capel y Methodjstiaid yn y lie. Clywais fod yr elw o gwmpaa ugain punt. Yr oedd yn un or cyngherddau goreu a gawsom erioed.—Egros,
YSGOL Y VOELGRON, LLANGIAN.
YSGOL Y VOELGRON, LLANGIAN. DARLLENIADAU CEINIOG. —Cymmerodd un o'r cyfarfodydd poblogaidd a phleserus hyn le yn yr ysgoldy uchod nos Iau, yr 16ag o'r mis hwn. Aethpwyd trwy y pro- gram, yr hwn oedd yn un inaith iawn ac amrywiol yn rhagorol o dda. Cafodd y Parch. D. Hughes ein teilwng weinidog ei pthol yn unfrydol i'r gadair, yr hon a lanwodd yn ganmoladwy er mawr foddhad i'r cynnulliad lluosog. Yr arweinydd yd- oedd Mr G. W. Jones, ein hysgolfeistr gweithgar ac egniol, i ddiwydrwydd pa un y priodolir cyflwr llewyrchus yr ysgol. Yr oedd yr holl ddarnau yr aethpwyd trwy- ddynt yn y cyfarfod hwn yn ddifyrus ac adeiladol, ac encoriwyd y rhan fwyaf o'r caneuon a'r dadleuon, &c. Yn mhlith y rhai penaf a gymmerasant ran yn ngweithrediadau y cyfarfod, yr oedd cor y Nant, dan arweiniad Mr R. Griffith Llanbedrog Choral Society, dan arweiniad' Mr H. Jones; Llanbedrog Brass Band, Voelgron School Glee Party, Misses K. M. Pitts, G. E. Jones, M. E. Jones, M. Thomas, E. Hughes, K. Hughes, J. Jones, M. Jones, M. Williams, Mrs Jones, School-house; Misses Roberts (Llinos Lleyn); Griffiths, Senar; Messrs Row- lands, Griffiths, W. T. Jones, Ll. G. Jones, J. Maurice, T. Williams, C. Wil- liams, &c. Wedi canu yr Anthem Genedl- aethol a diolch i'r llywydd, ac ereill fu mor garedig a chynnorthwyo i gario y cyfarfod yn mlaen gyda'r fath lwyddiant, aeth pawb adref wedi eu llwyr foddloni. Y mae yr elw i fyned i gael llyfrau i blant yr ys- gorl.—Moclijn
MAENTWROG.
MAENTWROG. Dydd Llun diweddaf, Mawrth 20fed, agorwyd Ysgol Wladwriaethol newydd yn Tynant, pen uchaf i'r plwyfhwn a'r nos Sadwrn blaenorol, cynnaliwyd cyfarfod cy- hoeddus yno er egluro telerau yr ysgol, ac annog y rhieni i ddanfon eu plant yn gyson iddi, prvd y pasi-vvyd yn frwdfrydig benderfyniadau o ddiolchgarwch i Mr Oakeley am adeiladu yr ysgoldy ac addaw cynnal yr ysgol yn gwbl ar ei draul ei hun ac hefyd i'r Parch. R. Killin, y rheithwr, trwy ymdrechion doeth a pharhaus, yr hwn y caed ysgol i'r ardal bellenig hon. Diau fod yn hyfryd gweled cydweithrediad mor unol a chalonog rhwng yr yswain, y rheithor, a'r plwyfolion i gyrhaedd yr am- can clodwiw, heb foichio y plwyf a dirfawr gostau trymion drethi y bwrdd ysgol. Mor ddiolchgar y teimlir yma yn awr am na wrandawyd ar gais y llefarwyr bum mlynedd yn ol, y rhai a geisient hudo mor ddeniadol! Yn wir, nis gallwn lai na synu a rhyfeddu, pan feddyliom am eu dywediadau y pryd hyny yn wyneb y ffeithiau a welir yn awr yn Ffestiniog a phlwyfydd ereill sydd dan faich y bwrdd. Darllenwyd yr engl nlon canlynol o waith T. ab leuan yn lied hwyliogyn y cyfarfod I nos Sadwrn.—Liangc o'r Llwyn. Oakelev enwog i'n clau weivi-a ddaeth, Mt/n ddewr am ein nod<!i Ytawain b'raf, heb eisieu'a bri, A dawn i waaad diioni. Yn ein plwyf meithrina'n plant-Ag addysg Wiw-ddoeth er eu Ilwyddiant; Da yn wir fu'r ben* Dy Nant, O'i golli cafwyd gwelliant. Yma rhed annyagedig,-wele dyn Ail i dwr uchelfrig Neu ysgol hyd freiniol frig 0 nodded tra mawreddig. Yr hen amaethdy a chwalwyd i waeuthur lie i'r yagoldy.
PORTHMADOC.
PORTHMADOC. Pwngc y dydd yn y porthladd hwn yw pwy fydd tri aelod etholiadol Bwrdd Lleol, neu swyddfa'r glanhau, yn lie y tri glanhawyr sy'u myned allan. Shon Gareg Wen a gvnnygia fod tair i fod y tro neaf-un o'r Prenteg, y Hall o Pentre'r- felin a'r llall o Morfa Bychan. Ei reswm yw mai merehed SY'n glanhau tai oddi- mewn, ac mai hwy ydynt gymhwysaf i lanhau'r ystrydoedd, a bod Dafydd y saer a Lewis y clogs i'w oadw rhag siarad. Go ddoniol, Shon! Y goleuni yn parhau ya dywyllwch y bwrdd yn gweled mai da oecld-marelied Trawsfynydd yn cynnyg opposition i'r lampau mewn canwyllau brwyn y bwrid yn gwrthod. Lliw ffasiwn newydd ar y dwfr y cwmni'n dynwared plaau'r Aipht -yn ei droi'n goeh; y trigolion yn yfed, o hono. Marched Penycei yn pender- fynu myned i bydew Bethlehem i nol dwr. FFAIR PENMORFA.—Cynnaliwyd y ffair hon ddydd lau, yr 16eg cyfisol. Bochan ydoedd o ran poblogrwydd ychydig o anifeiliaid, a'r rhai eorniog yn hytrach yn is; ceffylau mewn galwad mawr ac yn rj- rhaedd prisiau da; yr amaethwyr yn ofni i'r byd dori. Pawb &'i fys lie bo'i ddolur, chwedl William, Blaen-y-pennant. Bardd Ystradllyn yn dewino fod y moch yn codi; cynnyg codi ffair i'r perwyl wrth y dwr yn Pencae newydd; y cymmydogion yn gwrthwynebu ac yn ei gynghori i fyned i'r llyn i bysgotta; yntau yn goraedd myued. -Dyllitan Hebog.
Y LLYWYDD A'R LLEFARWR.
Y LLYWYDD A'R LLEFARWR. (GAN CORFANYDD.) PENNOD III. Pan y gelwir cyfarfod cyhoeddus yn nghyd, fe ddylai pob symudiad at hyny fod mewn ysbryd uniawn a theg tuag at- torn ein hunain, a phawb a fyddo yn dwyn cyssylltiad a, hyny. Wrth ysgrifenu neu argraffu unrhyw ffurf o wahoddiad i rhyw I y gyfarfod a fwriedir ei gadw neu ei alw, y peth cyntaf i'w hystyried ydyw, pwy yw y personau sydd yn cymmeryd dyddordeb, neu a budd ganddynt yn nyben y cyfryw gyfarfod. Yn ail, a ddylid galw y cwbl o'r person au hyn neu ynte rhyw ddosparth penodol i ddyfod i'r cyfarfod. Wedi pen- derfynu hyn, rhaid tynu allan gynllun i'r gwahoddiad yn ol hyn. Er esiampl, os cyfarfod trefol a fydd, hyny yw, o'r oil o'r trigolion, yna gwahoddir yr holl drigelion gwrywaidd sydd mewn oed, mewn rhyw ddull mwyaf destlus a boneddigaidd dde- wisem. Megis at y pendefigion, bonedd. wyr, clerigwyr, ac ereill o'r trigolion, yn ol fel y byddo yr amgylchiad. Os trigolion y dref a'r hall amgychoedd cyfagos a fwriedir i ymgynull, myaeger hyny, gan dynu y gwahoddiad allan yn ol y eynllun y penderfynir arno. Etto, os cyfarfod fydd i rhyw ddosbarth, plaid, neu sect, myneger hyny yn bennod- ol. Er esiampl, os rhyw blaid grefyddol, gymdeithasol, neu farsiandiol, hysbyser hyny. I ba ddybep bynag y gwelir nn- rhyw gyfarfod, rhaid ei enwi mewn dull pendant a phennodol. Weithiau, yn lie bod y eynllunwyr yn^galw^ y cyfarfod yn uniongyrchel eu hunain mai mwy dymunol fyddai ganddynt ofyn i rhyw swyddog megys yr uchel sirydd neu faer y dref wneud hyny, yna rhaid tynu allan ddeiseb y gwahoddiad yn y dull mwyaf llednais, gan ei chyfeirio at y swyddog hwaw yn nglyn a'r holl deitlau sydd ddyledus iddo, gan erfyn arno yn barchus alw cyfarfod ar rhyw ddyddiad buan i'r dyben a nodwyd. Yn yr erfyniad a gyfeirir atto, rhaid nodi yn gywir bobpeth yn nghylch y dyben a'r persoilau a elwir. Mae hyn yn bwysig, oblegid bydd rhaid i'r swyddog hwnw alw y cyfarfod yn ol telerau y ddeiseb, heb newid dim yn y geiriad, ond yn unig drwy ganiattad y rhai a fyddant yn galw y cyf- arfod. Ar ol penderfynu cael cyfarfod cyhoedd- us, anghenrhaid yw cael cyfarfod rhag- barottowal yn gynnwysedig o'r personau hyny a gychwynont y symudiad, i'r dyben o ragdrefnu y penderfyniadau neu y mesurau a roddir o flaen y cyfarfod, ac hefyd i gynllunio pa fodd i ddwyn y cyf- arfod yn mlaen mewn trefn a gweddeidd- dra.; megys pwy fydd y llywydd yn y prif gyfarfod, ae i ysgrifenu y penderfyn- iadau a phwy fydd i'w cynnyg a'u heilio. Hefyd i dynu allan unrhyw ysgrifau ereill a allont fod eu heisieu, ao i ddewis ysgrif- enwyr &'r pw.yllgor,—mewn gair, i drefuu pobpeth perthynol i'r gweithrediadau fel na byddo coll amser o ddechreu y cyf- arfod hyd ei ddiwedd. Ond rhaid gwnisuthur hyn mewn modd fel na byddo un rhwystr ar neb a fyddo yn y cyfarfod gynnyg newidiad neu WGII- iant arnynt mewn cyfarfod rhagbarotoawl o gynllunwyr y prif gyfarfod, yn nghyda. rhai ereill a ddewisont alw attynt i'w cytt" northwyo. Mewn cyfarfod o'r fath bydded y nifer cyn lleied ag y bo, rhaid cadw yn fanwl at reolau pendant a berthyn i ddadleuaeth deg. Er i'r nifer fod yn fychan, etto cynnwysa yn gyffredin y dyn, ion mwyaf gweithgar a gwybodus ac Y mae yn anhawdd cadw dynion felly weith- iau o fewn y terfynau angenrkeidioh Cyfeiliornad dybryd fyddai tybied, am fod y cyfarfod yn fychan, y dylid bod yn llai gofalus i'w gadw yn fanwl yn 01 rheolau dadleuaeth. Fel y gwyr pob un a sylwodd, y mae cyfarfodydd bychain yn anhaws i'w llywodraethu na chyfarfodydd mawrion, a'r canlyniad yw fod banner yr amser yn cael ei wastraffu. Felly, rhaitt cofio, fel y dywedwyd yn y dechreu, nial trefn yw rheol gyntaf na.tur." Yn awr, dychwelwn at WAITH A DYLEDSWYDD Y LLYWYDD. Er mwyn egluro y modd y dylai y llywydd ymddwyn wrth lywyddu y cyfar- fod, a dyledswydd y siaradwr wrth lefaru, a'r dorf wrth wrandaw, cyngharwn y dar- Ilenydd i fyned i mewn i un o uwchlysoedd barn, pan fyddo un nen ychwaneg o'r prif farnwyr yn eistedd, ac yna caiff gynllua perffaith o'r modd y dylai pob cyfarfod cyhoeddus gael ei ddwyn yn mlaen. Yno y barnwr sydd yn llywyddu pobpeth yn ol eyfreithiau hen reolau pendant; dadleu- wyr yr un modd, rhaid iddynt hwythau siarad yn ol rheolau pendant, onide geilw y barnwr arnynt i gadw njewn trefn. Weithiau, bydd y dadleuwyr yn ymres- ymu am y pwngc neu y rheol o drefn gyda'r barnwr; ac er i'r ddadl fyned yn wresog, a'r barnwr braidd yn cael ei orch- fygu, etto unwaith y dywed efe pa fodd y rheola, rhaid plygu i'w benderfyniad. Y mae y dadleuwr yn ymostwng i awdurdod ei arglwyddiaeth. Ond er hyny, ceir dynion, fel y dadleuwr Dr.'Kenealy yn achos Tichborne, nad ydynt yn malio dim mewn lledneisrwydd a boneddigeiddrwydd, a mynant eu ffordd er gwaethaf pawb a phobpeth, ie, hyd y nod at sarhau y barn- wr neu y llywydd. Ceir llawer o fath Dr. Kenealy yn mhob cymdeithas; ond yn gyffredin y maent yn derbyn eu gwobr gan ddynion call, fel y cafodd yntau, drwy eu bwrw ymaith, yn warth a dirmyg, fel rhai anaddas i fod mewn unrhyw gytn- deithas o ddynion synwyrlawn a, gwedd- aidd. Yn y Senedd, y cadeirydd sydd yn llywyddu yr aelodau, a'i air ef sydd derfyn ar bob dadl yn nghylch trefn a rheolau y Ty. Er y gall unrhyw aelod ymresymti y peth gydag ef yr un modd a'r dadleuydd gyda'r barnydd, etto rhaid i bob un a gyfyd i siarad gyfeirio ei holl araeth atto ef fel cad. iiydd y Senedd, ac nid at neb arall. Yu Nhy yr Arglwyddi, er mai yr Arglwydd Ganghellydd sydd yn eistedd ar y sach wlan i lywyddu, etto nid yw efe byth yn penderfynu yn nghylch rheol- au y Ty, ond yr aelodau oil sydd yn gwneud hyny. Rhaid i bob cynnygiad a roddir yn Nhy y Cyffredin gael ei eilio nen ei gefnogi; ond yn Nhy yr Arglwyddi, nid oes angen am gefnogwr, ond cynnygiwr yn unig. Y sach wlan," ar ba un yr eistedd yr Arglwydd Ganghellydd i lywyddu, sydd ar lwyfan yn gyfagos i'r orsedd lie yr eistedd y Frenhines. Trwy rhyw ffug rhyfedd a dyeitkr, nid ystyrir y fan ya rhan o Dy yr Arglwyddi. Felly, os ewyllysia yr Ar- glwydd Ganghellydd siarad, y mae yn symmud i lawr oddiar y sach wlan, ac yn myned o flaen y faingc lie yr eistedd y duciaid, ac yn mhon hono cyfarcha yr arglwyddi yn lie oddiar y sach wlan. Hyd nes y daw ein Uythyr nesaf, cynghorwn y darllenydd i ddarlien y pennodau canlynol o Actau yr Apostolion 22, 23, 24, 25, a 26, yn mha rai y caiff weled, y drefn o ddwyn cyfarfodydd yn mlaen mewn llys barn, yr hyn hefyd a ddylai fod yn gyn- llun pob cyfarfod lie byddo llywydd.
Advertising
THE HAIR.—For 40 years Mrs S. A. ALLEN'S WORLD' HAIR RESTORE a has received the commendation and favour of the public. It has acquired the highest place that can be obtained for any moderate enterprise, and contributed to the adornment of tens of thousands of persons, who have the proof of its serviceable character. (t will positively renew and restore the original and natural colour of grey, white, and faded Hair. It will strengthen and invigorate the Hair, stop its falling, and induce a healthy and luxurant growth. No other pre- paration can produce- the same beneficial result. Sold by all Chemists and Perfumers, in large bottles, 6s. Depdt 114 and 116, Southampton Row, London. The reason why so many are unable to take cocoa is that the varieties commonly sold are mixed with starch, under the plea of rendering them soluble; while really making them thick, heavy, and indigestible. This may be easily detected, for if cocoa thickens in the cup it proves the addition of starch. Cadbury's Cocoa Essence is genuine; it is therefore three times the strength of these cocoas, and a refreshing beverage, like tea or coffee, COUUHS, ASTHMA, BRONCHITIS, DIFFICULTY OF BREATHING, are speedily cured by Keating's Cough Loaenges (recognised and recommended by the Medical Faculty). No other remedy is half so effective. One Lozenge alone gives relief. They contain no Opium, Morphia. nor any violent drug, and may be taken by the most delicate* OU'3 or two at bed time ensures rest when troubled by the throat. The proprietor receives constantly the most gratifying letters from those who have obtained great benefit from their use. Keating's\ Cough Loaenges, prepared by Thomas Keating, St. Paul's) Churchyard, are sold by all chemists in boxes, Is 1$' and 2s 9d each.