Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

jftANES RASSELAS, I TYWYSOG…

Y DIWEDDAR TALIESIN 0 EIFION.

EISTEDDFOD TREGARON.

[No title]

IBEIRNIADAETH CADAIR LLANGEFNI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BEIRNIADAETH CADAIR LLAN- GEFNI. FONEDDIGION,—Wedi canfod o honof lith ei barchedigaeth o Lundain ar y pwngc uchod, y mae arnaf finnau, fel un o'r ym- geiswyr, flys traethu fy lien arno. Yn adroddiad eich gohebydd swyddogol o'r Eisteddfod, cyhoeddwyd sylwadau cyff- redinol (yn ol fy nhyb i y pryd hwnw) y beirniaid yn nghylch Goronwy—y bu yn destyn eisteddfodol o'r blaen-fod Gutyn Peris a Dewi Wyn yn ymgeiswyr, &c. Pan welais y sylwadau yna, Wel," meddwn wrth gyfaill, rhaid fod yn Llangefni feirniadaeth faith a chlasurol ar awdlau y gadair, gan fod y fath ragymadrodd gor- chestol yn perthyn iddi." Rhaid yn sicr," ebai yntau, bydd eich awdl wedi ei chlorianu yn deg; dadlenir ei rhagor- iaethau a'i diffygion i chwi, a thebyg y cawn yr hyfrydwch o weled yr holl feirn- iadaeth yn un o'r papurau nesaf." Ond Ow! Ow! dyma fi byth heb gymmaint a gair am fy nhri chan' linellau druain; ac erbyn hyn deallaf nad oedd yno feirniad- aeth o gwbl; ond mai rhagymadrodd dialw.am dano oedd, a hwnw yn gyfan- soddedig, mae yn debyg, gan y tragy- wyddol wasgarog ei hunan. Deallwch, Mri Gol., nad wyf fi jn haeru nac yn meddwi y fath beth, y gwnaed cam a'r naw ymgeisydd arall trwy ddyfarnu Edmygydd yn oreu; ond naeru yr wyf y dylasent oil fod wedi derbyn beirniad- aeth deg a chyflawn ar eu cyfansoddiadau, ac nid eu taflu o'r ffordd fel baw i domen heb wneuthur un sylw gwerth ei ail-adrodd arnynt. Y mae yn syndod i'r byd Cymreig ganfod dynion o safle Hiraethog a Hwfa Mon yn gwneud y fath feirniadaeth dila a phlentynaidd ag ydyw hon. Meddyliwch am y dyn sydd yn euog o drosedd yn erbyn llywodraeth Pryda-in- pan yr eistedda y barnwyr i benderfynu pa ddedfryd a roddir arno—yn yr adeg yna, pa beth a hidia y dyn mewn clywed y bu dynioa ereill yn yr un fan ag ef? Onid eisieu clywed sydd arno pa beth a ddaw o hono ef ei hunan ? Onid tebyg, Mri Gol., (ond, diolch, llai ei chanlyniad- au) ydyw sefyllfa ymgeisydd cadeiriol ? Pa beth oedd yr un o ymgeiswyr Mon yn ei falio mewn clywed Hwfa yn cyhoeddi y bu Goronwy yn destyn o'r blaen—fod Twm o'r Nant yn gynghanoddwr tlawd- I y bu tiewi Wyn yn Ilangc deunaw oed, &c. ? Onid eisieu clywed beirniadaeth ber- ffaith ar eu gweithiau oedd ganddynt ? A pha le y mae hono yw y gofyniad ? Yn y "feirniadaeth" ragymadroddol a gafwyd, dywedir:Ein cwyn benaf yn srbyn dwy neu dair o'r rhai goreu o hon- pnt, ydyw, eu harferiad o gymhariaethau mmhriodal yn fynych." Eithaf gwir, mae yn debyg, ond ni chymmerodd y beirniaid y drafferth o bysbysu y cymhar- :aethau byn er dangos eu diffygion i'w lawdwyr. Ie, Mri Gol., yr oedd ysbryd- aedd y ddau feirniaid yn gorwedd dan gymmaint cybfasau o ddifaterwch fel na wnaethant mor lleied a hysbysu yr awdlau oeddynt yn ddiffygiol o hyn! Ond y peth digrifaf oil yn nglyn a'r feirniadaeth hon ydyw, dyfarniad y gadair i "Edmygydd heb roddi cymmaint a chysgod o reswm pabam y mae yn well na'r ymgeiswyr ereill. Cawsom yn meirniadaeth cadair Lhnrwst ryw fath o reswm paham yrhag- orai Gethin ar y ddau ymdrechwr arall, sef ei fod ef yn gallu ymlwybro yn rhwydd- ach na hwynt dan gadwynau ha-iarnaidd Gorchest y Beirdd, &c.; ond O tylawd yn Llanrwst, tylotach o'r haner yn Llangefni. Ond Golchwch mor wyn a'r galchen, Moeh ydyw moch hyd Amen." Deallaf fod yna ben gewri cystadleuol ar faes Llangefni, llawer o honynt wedi eu bedyddio am flynyddoedd ^.gwlith Parnas- sus, a diamheu genyf fod yno ereill beb- law fy hunan, nad ydynt ond nowydd gu- sanu troed yr hen fynydd, ac nad ydynt megys ond newydd orphen pletbu eu breicbiau am wddw duwies brydferth yr awen. Am y dosbarth cyntaf a enwyd, efallai y cyfrifant hwy y feirniadaeth ryfedd bon yn sarhad arnynt; ond aiji y dosbarth olaf, ymaent yn sicr o'i chyfrif, nid yn sarhad yn unig, ond yn dramgwydd noeth, yr hwn a geisiwyd ei osod yn ddrws haiarnaidd ar enau ffynon Helicon i'w hattal hwy beth bynag, rhag profi diferyn o'i dyfroedd anwyl. Y mae y garddwr bobamser yn sicr o ofalu am y blodau tyner, beth bynag am y pren afalau brigog. Llyngeed y beirniaid hynyna. Ond nid ymgeiswyr y gadair oeddynt unig siomedigion Llangefni; na, cafodd fy nghyfaill Gwynedd Hughes un o'r camweddau mwyaf melldigedig a wnaed erioed mewn eisteddfod ar bob cyfrif dy- lasai y tlws aur fod ar ei fron ef heddyw, ac nid ar fron un ag yr oedd gwell eng- lynion na'i eiddo ef yn y gystadleuaeth. Yr ydwyf bellach yn llwyr argyhoeddedig mai inotto Eisteddfod Gadeiriol Mon, 1876, ydoedd— Hyderaf yn fawr na fuom yn rhy ym- hongar a hunanol yn y llinellau hyn, a datganaf etto nad wyf yn meddwl am funud nad oedd "Edmygydd" yn rhagori ar yr ymgeiswyr ereill ond dyna sydd genyf eisieu ,ei gael, a dyna ddylid gael, sef beirniadaeth ar yr awdlau, fel y gwelai yr awdwyr eu diffygion, yn nghyd a rhe- swm neu resymau boddhaol dros eu bod yn colli. Yr eiddoch yn barchus, E —.

ARHOLIADAU GWRECSAM.

Advertising