Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
YRADRANG EIG.
YRADRANG EIG. Y Gwir yn arbs y Gwahoddir cynnyrchion 1r Adran hon. Pob gohebiaeth i'w anxoii i cwyddia r "Leader," Aberdar.
ENGLYN
ENGLYN I Mr. Henry Davies, Corwen Villa, Abemman. Gwr da 'i wedd, hawddgar, dyddan,-a lienor, Craff llonwch ei anian; Gwr, caruaidd, glewaxdd, gan, A'i fri'n em ar fron Aman.
DIWEDD HAF.
DIWEDD HAF. Daeth diwedd i hedd yr haf,-a'i dawel, Wir dywydd hyfrydaf; Tiysni daear yn araf Yn troi'n llwyd, gwywlwyd a gaf.
Y BEDD.
Y BEDD. Ty tyner iawn yw'r gwe-,yd,-o wir fudd Pan darfyddo'n bywyd; I'm banian, mwyn am enyd Yw hun y bedd o wae'n byd. Aberdar. Gwilym Nedd.
CYNORTHWYA EF.
CYNORTHWYA EF. O! cynorthwya ef, nid gweddio, Na moesol uno i anobeithio; Mae'r dyn ar y llawr, mewn angen yn awr Cymhorth sylweddol, nid gweddi fawr, fawr. Gronyn o gymhorth fydd well iddo'n awr, Na chyfrol o wersi gan seintiau y llawr; Gweddia, os rhaid, a'th galon yn llawn, Rho yn sylweddol, bydd hyn yn iawn. Mae'r byd yn llawn o gynghorion da, dwys, O weddiau, mawl, a phreg-ethau mwys; Eneidiau haelionus i noddi y gwan Sy'n brinach na'r aur i'w codi i'r lan. Rho fel y Cristion, siarada trwy waith, Bywyd haelionus yw'r goreu, mae'n ffaith; Çeir coron yn dal i'w gwisgo ryw awr Am gynorthwiyo yr hwn fo ar lftwr. ——
GWALIA.
GWALIA. I deg Walia, na foed gelyn-a chledd Mwy, na chlwyf i'w chanlyn; Na food gwg ond llonfydi gwyn I deulu Gwlad y Delyn. Cwmbach. David Davies.
Nodion cyffredinol.
Nodion cyffredinol. Y dydd o'r blaen darfu i nifer dfelerig- wyr ymgynull mewn cynhadledd yn Llun- dain. E'u hamcan ydoedd trafed cwestiwn tragywyddol cadwraetb y Sabboth. Yn gyntaf pasiwyd y penderlniad arferol fod yr anmharcb cynyddol i'r dydd Sabboth yn dyfod yn berygl cenedlaethol, ac yn gofyn sylw difrifol ac uniongvrchol yr Eglwys. Cynygiwyd y penderfyniad gan Canon Bristow. Yna aeth y Canon yn mlaen i sylwi mai ei Sabboth "ideal ef i'r dosbarth gweithiol ydoedd cymun- deb yn mhlygain y dydd, addoli yn y boreuddydd, chwareu criced neu y bel droed yn y prydnawn, a gwasanaeth de- fosiynol arall yn yr hwyr. Darfu i glerig- wr arall siarad dros gadw nog Sadwrn fel rhan o'r Sabboth, rbywbetb .yn debyg i ddull yr Iuddewon, gallem feddwl. Yna cyfododd amryw i brotestio yn gryf yn erbyn cael unrhyw fath o cbwareu ar y Diydd Santaidd. Yn ddiweddaf oil cyfod- odd rhywun ar ei draed, a dywedodd nad oedd yr Eglwys hyd yn byn wedi gwneyd i fyny ei meddwl sut yr oedd y Sabbath i gael ei chadw. -:0:- Cafodd y siaradwr diweddaf hyd i wr- eiddyn y mater. Cyn y gall yr Eglwys hyfforddi y byd mewn pwnc o a.thrawiaeth iaeu gy-farwyddo y byd mewn cwrs o ym- ddygiad, rhaid i'w dysgawdwyr a'i blaenoriaid yn gyntaf oil gytuno a'u gil- ydd parthed y cyfryw. Bn. adeg yn hanes y byd, pan oedd arweinwyr yr Eglwys yn anghytnno parthed pa ddydd i gadw y Sabbath. Yn awr y maent yn fwy unol ar y cwestiwn hwnw, ond y pwnc inarwr yn awr ydyw pa ffordd i'w chadw. "1r Pan oeddym ni yn blant yr oeqa y clycla yn cael ei amgylchynu gan warchgloddiau cedyrn, ond erbyn hyn y mae terfynau gwaharddiad wedi eu siyniud, ac argaeau gwyliadwriaeth wedi eu tori. Y mae y gorchymyn, "Cofia gadw yn santaidd y t'ydd Sabbath" ar dafod yr athraw, ac ar glyw y dysgybl yn barhans, ond y cwes- tiwn mawr ydyw, "Pa fodd ?" Cymbarer Sabbath "ideal1" y gwr parchedig cry-, w|ytLle«tig—cymundeb yn y plygain, Yeddi yn yr hwyr, a golf neu bel droed y cyfamser—a hen Sabbath Biwritan- d y Cymro, pregethan y bore a'r hwyr, go} Sul y prydnawn, a chyrddau gweddi flaen pob cwrdd arall. Dim amser i aith bydol nao i chwareu. Pa un o'r lwy Sabboth yw yr un iawn? Ai rheoJ Canon yw yr un ganonaidd? o: Gwneir cof-golofn i'r diweddar Bare'' bmham Matthews yn y Wladfa Gym- ig. Yr oedd Mr. Matthews yn enedigol Lanbrynmair, magwrfa lliaws o gedyrn y pwlpud Annibynok C'ymerodd ofal eg- lwysi Horeb, Llwydcoed, ac Elim, Cwm- dar, 34 o flynyddau yn ol. Trigai yn y Fedwhir, ac efe oedd gweinidog rheolaidd cyntaf Horeb. Yna rhoddodd Elim i fyny, ac rchwanegodd Adulam, Merthyr, at Horeb. Wedi gweinidogaethu am rai blynyddau, symudodd i Patagonia, ac yno y bu farw chwe mlynedd yn ol. Yr w-y c anos o'r blaeI yn Llys Ynadon Abercynon, gwrtliodou: Syr Marchant roddi gwybod i un d iivnydd beth ydyw "instinct" yn Gymraeg. Beth allai fod ei reewm am byny, tybcti? Nid oes neb a amheua, nad yw ein ijjarchog' ynadol yn gwybod wrth reol grtiddi beth ydyw y gair Cymraeg. -:0:- Yr wyuhnos ddiweduaf taenwyd y stori fod y Parch. Peter Price vn dyfod a chynghaws am athrod yn erbyn rhyw new- yddiadur Cymraeg. Nid oedd neb a ad- waenai Peter Price yn credu y chwedl, ac yn awr y mae y gwr parchedlg o Ddow- lais wedi rhoddi gwadiad cyhoeddus iddi. o: Yn Senghenycld yr wythnos- ddiweddat anrhegwyd Mr. T. Thomas (Tynywern) ag allbum yn cynwys lluniau 80 o weinidogion Annibynol Adran Dwyrain Morganwg, fel cydnabyddiaeth am 20 mlynedd o wasan- aeth fel Trysorydd y Gymanfa. -:0:- Mae yn ddios mai y ddau berson gaws- ant fwyaf o anrhydedd yn Mhrydain yr wythnu6 ddiweddaf oeddynt y Cadfridog Booth, yr hwlit dderbyniodd ryddfremiad Dinas Llundain, a Mr. Robert Hughes, Caerdydd, yr hwn a godwyd o fod yn Faer i fod yn Arglwydd Faer. o: Flynyddau yn ol, mewn plwyf bychan dinod yn Meirionydd, trigai bachgen bychan dinod. Fel yn nglyn a John Gib- son, yr arlunydd Cymreig enwog, nid oedd neb yn meddwl fod dyfodol neillduol i Robert. Yr oedd ei rieni yn dylawd iawn. ac heb fod mewn ffordd i roddi addyag iddo. Modd bynag, gwelodd offeiriad y plwyf fod rhywbeth yn y bachgen. Rhodd- edd gynorthwy iddo, ac yn y diwedd caf- odd 10 iddo fel clerc mewn darllawdy yn Nghaerdydd. Heddyw y bachgen disylw hwnw yn ardal ddisylw Llanegryn ydyw Arglwydd Faer Prif-Ddinas Cymru. o: Yr oedd Llanegryn mor annhebyg i gyfodi Arglwydd Fa-er ag ydoedd Nazareth i gynyrchu prophwyd. Y mae y trigolion bron i gyd yn Ymneillduwyr a, Rhyddfryd- wyr, a synant heddyw gael arddeall fod Eglwyswr a Cheidwadwr wedi cael ei godi yn eu mysg. Hefyd, y mae yr Egryniaid bron yn gryno yn ddirweetwyr, a rhyfedd yw ganddynjt feddwl fod cynrychiolydd ffirm chwisci wedi cael ei feithrin rhwng y Gader a Chraig y Deryn. Pregethwyr ac nid bragwyr ydiyw y rhan fwyaf o blant urddasol Egryn. Y mae llawer un or lie wedi eistedd mown cadair farddol, ond neb hyd yn awr mewncadair faerol, heb son am sedd argiwydd-faerol. -:0:- Y mae Caerdydd yn honi mai iddi hi heb os, bellach, y perthyn yr anrhydedd o fod yn brif-ddinas Cymru. O'r ochr aralli, y mae Caernarfon yr un mor rymus yn ei hawl mai ar lanaiu y Seiont, yn nghysgod y Castell, y mae y ddinas frein- iol i fod. Miyn yr Arfoniaid y bydd y Brenim yn dodi ei sel freiniol ar insignia pen. tref Arfon yr haf nesaf. -:0:- Ond beth am Aberystwyth, mangre y Brif-Athrofa, a sedd y Llyfrgell Genedl- aethol? Onid oes castell wrth enau y Rheidol hefyd? A dyma Fachynlleth, y lie y bu GLyndwr yn qynal ei lys, a'r lie mwyaf canolog yn Nghymru. Nid oes prinder defnyddiau prif-ddinasoedd yn "Nghymru fechan dlawd." -:0:- Ddydd Sadwrn:, yn lied sydyn, bu farw y Parch. David Jones, M.A., gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nghaerdydd. Gweinidogaethai yn Mryn- sadler cyn symud i Gaerdydd. c: Y mae y ProfcfBwr Ellis Edwards, prif- athraw C'oleg y Bala, wedl cwrdd a dam- wain ofidus. Pan yn croesi yr heol yn Nghaer dydd Gwener diweddaf, tarawyd ef i lawr gan gerbyd trydanol. Y mae y gwr parchedig yn gwella yn raddol. -:0:- Geilw y "South Wales Daily News" Sir Drefialdwyn "the most Anglicised county in Wales." Nid gwir hyn. Y mae Mald- wyn ijywbeth yn debyg i Sir Benfro, y naill haner o honi mor Gymreigaidd ag ydyw yr haner arall o Seisnigaidd. Y mae Brycheiniog yn fwy Seisnigaidd na Maldwyn, ond y gymydoges, Sir Faesyfed, ydyw y fwyaf Seisnigaidd yn Nghymru.
Hywel Cynon yn e Fedd
Hywel Cynon yn e Fedd GAN MR. JAMES PHILLIPS, GODRE- AMAJJ. A mi eto yn llanc, arferwn gredu ynof fy hun mai brawddeg anmhosibl i'w hysgrifenu yn hanes Aberaman fuasai y frawddeg uchod; a phwy tybed, ac efe yn hyddysg yn hanes y lie yn gerddorol, llen- yddol, addysgol, gwleidyddol, a chrcfydd- ol, dyweder bymtheg mlynedd ar hugain yn ol, a gymerai arno feio llanc am fyn- wesu syniad or fath. Nid ydoedd Hywel yn "ddyn mawr" mewn ystyr gorphorol, ond yr oedd yn "ddyn hardd." Ar lwyfan cyngherdd yr oedd yn un o'r rhai mwyaf 'graceful' a welsom erieod—ei wallt cyrliog yn gnwd toreithiog yn hongian hyd at ei ysgwydd- au, ei wisg yn ddilychwin, a'i holl agwedd yn effeithiol. Nid ar y llwyfan yn unig, ychwaith, eithr ar yr heoll, neu ystrryd yr oedd e1 droediad bywiog ac hoenus, ei safiad syth, heb fod yn aniystwyth, yn gosod arbenig- rwydd neillduol arno. Adnabyddid ei osgo o bell; a phan ddeuai yn ddigon agos, y farn unfryd ydoedd, "Dyna i chwi ddyn ysmart!" Nid efe oedd y dyn "mwyaf" o fewn cylch ein adnabyddiaeth yn y lie mewn ystyron ereill ychwaith; ond, yn sier, efe oedd y dyn, fedrai lanw yr adwy fwyaf, a achlysurid yn ddamweiniol mewn braidd unrhyw gylch, ac nid rhyw "round peg in a square hole' oedd efe, eithr
Advertising
Everybody knows that Is an admirable food, the nicest and most nutritious beverage for the breakfast table. It is made In a moment with boiling water or milk, and its sustaining qualities are COCOA Invaluable to all. J.
SATAN.
SATAN. Un cyflym, hyll, ac anan-a lledrith Twyllodrus lyw Satan; Osoda wyneib sidan, Dwylla haid i'w danbaid dan.
Advertising
• Drink ¿ Horniman's Pure Tea. A r ;} In Packets only. 1/6 to 3/6 PeP 1b. Sc, by— •• ABE:; 'ARE, T. Lloyd, Grocer, Commercial St. ABERAMAN, T. Roberts, Grocer, Lewis street (Wholesale and Retail) T. Maddy, Grocer, Cardiff road Hiiey's Cash Stores, Canon street Co-operative Society lonl Evans, Grocer, Whitcombe street J. W. Evans, Grocer, Cardiff road Phillips, Grocer, Victoria square V CWMAMAN, Co-operative Society E. E. Evans, Chemist, do. v PENRHIWCEIBER, Morris & Son, The tores W. H. Jones, „ > M. Isaac, Family Grocer D. Phillips, Grocer, Canon street MOUNTAIN ASH,. Cwmbach Co-operative Scy. D. Watkins, Cross street J. Long, Grocer Rees Jones, Ynyslwyd street D. Smith" Oxford street if D. Evans, Royal Stores, Gadlys road N. Thomas Jf D. E. Davies, Grocer, T. Bowen, y Jeffrey street CWMDARE, D. Edwards, Grocer Duffryn Co-operative Society TRECYNON, J. R. & J. Smith, Chemists CAPCOCH, Co-operative Society CWMBACH, Co-operative Society GODREAMAN, P. Thomas, Grocer n.'
Gohebiaeth. -
Gohebiaeth. PARTI MEIBION MOUNTAIN ASH. Syr,-Nid wyf yn gwybod wrth ba enw yr adnabyddir y parti uchod, ond pa fodd bynag am hyny, gellid gweled darlun o honynt yn ffenestr un o fasnachdai y dref, ac yn sicr i chwi mae Mr. Harris, Aber- dar, wedi gwneyd ei waith yn rhagorol, oblegyd mae y darlun yn un ardderchog. Ar ol dweyd hyny, yr ydys wedi dweyd y cwbl, mor bell1 ag mao y dariun yn y cwestiwn. Gan fy mod o duedd chwilfrydig, aethum i holi yn nghylch y darlun. Y cwestiwn cyntaf ofynais oedd, "Betii yw yr amean oedd gauddynt mewn golwg wrth dynu y darlun?" A dyma yr ateb gefais, "Eiu bod yn bwriadu cael 'picture postcards' o honynt eu hunain i'w danfon yma a thraw fel rhyw fath o advertiee- ment, er mwyn i'r wlad ddyfod i wybod am. dainynt, ac y byddant drwy hyny yn cael eu llogi gan ddynion a chymdeith- asau i gynal cyngherddau ar hyd a lied y deyrnas. Mor bell, nid oes gan neb hawl i ddweyd dim lyn eu herbyn. Yr ail gwestiwni oedd, "A oedd mwy nag un enwad yn gwneyd i fyny y cor?" Cef- ais fod pedwarr enwad parchus y dref yn cael eu qynrychioli, fel y canlyn:—Anni- bynwyr, 14; Methodistiaid, 5; Bedydd- wyr, 4; Wesleyaid, 1; a'r 3 arall ddim yn hidio llawer pa le yr ant. Y trydydd cweistiwn oedd hwn.: "A oes rhai o honynt yn aelodau Eglwysig?" "Oes (oedd yr ateb), mae 11 o Annibyn- wyr, 5 Methodist, 4 Bedyddiwr, ac 1 Wes- leyad." Yna gofynais a oedd rhai o hon- ynt mewn swyddi Ylli yr eglwysi, a chefais alliau fod dau o'r Annibynwyr yn swydd- ogion, un yn arweinydd y gan ac yn flaenor eglwysig", a'r un arall yn arwein- ydd y Band of Hope; un o'r Methodist- iaid yn arweinydd y gan; y Wesleyad yn un o arweinyddion y Band of Hope, heb- law fod yna ddau neu dri o honynt wedi bod yn canu o flaen y bregeth ar nos Sab- both. Wedi cael' yr atebion ffafriol yna, meddyliais ynof fy hun, "Wel, dyma barti o'r iawn ryw g,r diwedd; maei rliyw asgwrru cefn gan y bechgyn hyn. Ond, ar hyny,- dyma gyfaill yn troi ataf ac yn gdfyn, "Pa ddiwrnod, feddyliech chwi, y cafodd y darlun ei dynu? Ar y Sabboth Syned y nefoedd, a bydded i eglwysi ein tref wrido wrth feddwl fod y fath rylfyg ofnadwy wedi meddianu y parti, trwy halogi Dydd Sanctaidd yr Arglwydd yn y wedd waethaf! Cofiwch, fechgyn, fod Duw mor eiddigeddue heddyw dros sancteidd- rwydd y Sabboth ag y bu erioed. "Ni watworir Duw, beth bynag a haiuo dyn, hyny hyd a fed efe." Dylech ddangos i'r gwahanol eglwysi yr ydych yn aelodau ynddynt yr edifeirweh llwyraf, a hyny ytn gyhoeddus, am eich ymddygiad pech- adurus. "Hands off" oddiwrth bethau ty Dduw. Mae yr Iesu glan a, sanctaidd wedi dweyd "Nas gellwch waattiiaethu Duw a Mammon." Ond y mae yn dda geniyf hysbysu lliaws darllenwyr yr "Aberdare Leader" fod chwareuwr y parti wedi sefyll yn ffydd- lawn dros ei argyhoeddiadau trwy wrthod cydsynio a'r mwyafrif o'r parti (y rhai sydd yn proffesu diliyn yr Iesu) i halogi y Sabboth sanctaidd. Diolch fod yna am bell i fachgen ieuanc etc yn ein gwlad yn meddu ar ffyddlondeb y bechgyn ieu- ainc hyny ar wastadedd Durah, yn barod i fyned i'r tan, os bydd raid, dros en begwyddorion.—Yr eiddoch, etc., UN WEDI El GLWYFO.
Advertising
DISINFECT WITH"SANIT AS" "SANITAS" BEST DISINFECTANT. "SANITAS" » ™S^;l81Sg,U8 "SANITAS" FL*JID, POWDER onnilHO AND 80APS Of all Che mists and Stores. SEND FOR ILLUSTRATED PAMPHLET. I The 'SANITAS' Co., Lim., Limehouse, London, E. mmimmimmmmmmmmmmmmm
Anniversary S at Trinity,…
Anniversary S at Trinity, At ,>'9; VISIT OF THE REV P. JONES. The Rev. B. P. Jon- .A., Cardiff, is an acceptable preac r. a: nest and fervid in his discourse.. tt"ways suc- ceeds in making deep and ..biding im- pressions without resorting to pander. He ia regarded as a maeter of assemblies by his denomination, consequently it was but natural that his presence should com- mand large congregations at he anniver- sary services held at Tri ty last Sunday. At the morning service even, the chapel was fairly well filled. The prea cherts text wars Lamentations, 3, 24, "The Lordi is my po t on, saith my soul; therefore will I hope .n him." He observed that it was a surprise to dis- cover those words in the Book cf Lament- ations. To the Christian reader this book did not possess the throb of the palpitation of hope. In the PsaltmB, wber", a.mosc every note rang with the triumphant assurance of faith, it would not be a surprise to find this text. But the Book of Lamentations waa a, mere series of dirges on the destruc- tion of Jerusalem. Its motto was, "The glory has departed from Israel." Its sub- ject was the woe of Judah and Jerusalem. However, ini the' midst of all this pessi- mistic matter the prophet finds a cause for hope, and gives expression thereto in the glorious assurance of these words. The templie had been rased, its wealth carried away, and the political prestige of the nation was lost, but the prophet of Israel realised in the midst of all that God waa not lost. As a rule the sweet- est songs of Israel had been sung in the night. Mr. Jonee observed that the theme of his discourse would be "The ministry of failure and dis-illusionment." The text was the epilogue of the old order, and the prologue of the new order. God alone could satisfy the cravings of the human heart. That infinite craving would take an infinite filling. That was the lesson of the uatio-iiis adversity. Carlyle, in making a protest against the materialis- ation of the soul's ideal, referrrd to a cer- tain crisis in his life when his submerged soul emerged from the depths of mater- ialism. Said he, "It seemed to me that I began to be a man then." While in ruins, Israel discovered her soul, and then re-discovered God. Men like Herbert Spencer followed the guidance of intel- lectual agencies as far as they led them. Beyond that was the darkness of the un- known and unknowable. One of the uses of sorrow and failure was to ungag the soul. You murdered the flower in analysing it, and you murdered the soul also by submitting it to analysis. The soul of man meant man's capacity for God. The classic fool in the Gospels gagged his souli with the good things of this world. We often cried, "Britons never, never shall be slaves." We were afraid of no nation. But was the soul allowed to speak so fearlessly his own native language? Above the tumult of the world did we hear the still, small voice of the soul? We should love Ged by heart. A priest once ordered that a Testament which a young boy possessed should be burnt. "But," said the lad, "you cannot burn the twenty chapters that I have learnt by heart." He (the preacher) knfew of some young men in Car- diff who could not believe in God because they were told that the story of Eden was a myth! Did they believe in God simply because there, was a certain state- ment in a printed book? They were liv- ing .in an age of social and theological unrest. Let them take from the past one lesson. It was found in. the words of the text, "The Lord is my portion." In the afternoon and evening Mr. Jones preached again to very large congrega- tions.
Advertising
INDIGESTION WIND-BLOATING, DIZZINESS, j BACKACHE, HEADACHE, B FEAR OF FOOD, ALL GIVE WAY TO MOTHER SEIGEL'S SYRUP. For many years I suffered from indigestion and biliousness. I tried One medicine and another and dragged on till I grew very weak and nervous. I could not bear the thought of food and when I did eat, as I had to do, it all returned. At times I could not keep even a drop of milk on my stomach. I had awful pains too, m my head, chest, and back, and was bloated with a wind. I grew so weak that when H I went out I became sick and dizzy. a I became depressed and nervous and would sit brooding over my helpless lot For nearly a year I was un- der doctors, but it was not until I tried Mother Seigel's Syrup that any relief came. The first bottle did me a world of good, and when I had finished a second bottle I was almost well. I could eat and sleep, my pain and dizziness left me and I picked up so rapidly that soon I was completely cured. I take the Svrup now, when I feel the need of it, and recommend it to my friends." Mrs. Rose Ravenhill, 32, Spring Gardens, Doncaster, Sept. rst., 1905. I PRICE 2/6 AND 1/1% PER BOTTLE. j t The a/6 bottle contains 3 times as t tn much as the III size. j GOOD NEWS ;V FOR ABERDARE. MR,. d. H. TODD, Dentist, is returning to DEAN HOUSE, DEAN STREET, ABERDARE, where he may be consulted on all matters pertaining to Teeth. TEETH PAINLESSLY EXTRACTED. The very best work possibte in PHOTOGRAPHS BLACK & WHITE WATER COLOUR OIL PAINTINGS Is only obtainable at Te Triumph Studio Station Street, (Directly opposite the Police Station), Aberdare. J. HARRIS, Proprietor. A Forttine waiting for you. In the most fortunate Payment of event you can win all prizes 600,000 marks is guaranteed say £ 30,000 by sterling. Government. An invitation to take part in the Great Hamburg Money Lottery In which payment of all the prizes is guaranteed by the Government of the State of Hamburg. M8,640,285 or about Y,432,000 Sterling is the total sum of all prizes. The entire number of tickets issued is 88,000 of which 42,695, consequently nearly one half of all tickets issued must draw a prize. The highest prize will eventually be 600,000 Marks or £ 30,000 sterling in the most fortunate case. Especially there are the following principal prizes i premium of 300,000 marks 1 premium 200,000 x premium 60,000 i premium 50,000 i premium 45,000 i premium 40,000 II 1 premium 35,000 i premium 30,000 i prize 100,000 i prize 60,000 i prize 50,000 II i prize 40,000 i prize 30,000 7 prizes 20,000 i prize 15,000 i prizes 10,000 31 prizes 5,000 83 prizes 3,000 127 prizes 2,000 417 prizes 1,000 577 prizes 300 II 148 prizes 200 One German mark is equal to one English Shilling. In all, the Lottery contains 42,695 prizes and 8 premium-prizes. The latter are additional prizes awarded in each drawing to the respective ticket drawn the last with a principal prize in accordance with the regulations of the official prospectus. All prizes must be surely "won in 7 drawings within the space of a few months. The highest possible prize of 1st draw- ing amounts to Mk 50,000, increases in 2nd drawing to Mk 55,000, in 3rd to Mk 60,000, in 4th to Mk 65,000, in 5th to Mk 70,000, in 6th to Mk 80,000 and finally in 7th drawing to Marks 600,000. A wfyole ticket for 1st Drawing costs 6/- Half-a-Ticket 3/- Quarter-of-a-Ticket 1/6 I send the official prospectus showing the stakes for participation in the follow- ing drawings and the detailed list of prizes to everybody gratis and post-free on application. The official result-sheet is sent to every ticket-holder immediately after the drawing. The payment and forward- ing of the amounts won has my personal and prompt attention. Every transaction is treated confident- f ially, absolute privacy being guaranteed. ISe' Tickets are sent only against cash which therefore should accompany all orders. Remittances may be made by Cheques Banker's Draft, Post Office Orders, or Postal Orders made payable to Samuel Heckscher, senr., Hamburg, and should always be crossed. The postage on ordinary letters is 2!d, Seeing that the drawing is now fast ap- proaching, I shall be obliged if you will send me your orders at once, however not later than NOV. 23rd. SAMUEL HECKSCHER, senr., BANKER, Hamburg, Germany. L Seven Stars Hotel, Upper Boro' Walls, Bath- City Luncheon, Gd. Medium Class Hotel Accommodation» Bed, Breakfast and Attendance from 2s. 6d. PROPRIETOR: WILLIAM RAPPS, Late Griffin Hotel, Aberamau.
Hywel Cynon yn e Fedd
llanwai bob adwy hyd yr ymylon bob am- ser. Watcyn W'yn, os ydym yn cofio yn ser. Watcyn Wyn, os ydym yn cofio yn iawn, sydd yn dweyd am rywun mai "Boneddwr a wnaeth ei deiliwr wrth wneyd ei ddillad yw." Nid un o'r cyfryw oedd Hywel, ond boneddwr a wnaeth ei hun, drwy ddyfalbarhad, hunanymrodd- iad, a llafur diflino. Twyn-y-Morgrugyn ydoedd enw y fangre lie y gwelodd oleuni dydd gyntaf, ac er iddo adael y lie tra yn bur ieuanc, bu ei fywyd, hyd y parhaodd ei nerth, yn "dwynf-y-morgrugyn" ar ei hyd. Dyn yn lloegi y ganwyll o'r ddau pen ydoedd, ac ni fynai wrando ar rybudd- ion parhaus ei gyfeillion, ac arbed ei hun. Yr ydym wedi synu laweroedd o weith- iau fod ei "nervous system' wedi dal gy- hyd ag y gwnaeth, o herwydd nid oedd o gorph cadarn mewn unrhyw ystyr, ac yr oedd braidd yn anghredadwy y gwaith a gyflawnai mewn teithio, ysgrifenu. ar- wain, canu, darlithio, a phregethu ar hyd a lied y wlad drwy Dde a Gwynedd. Os nad oedd yn fawr fel yr awgrymwyd, yr oedd yn ymarferol (practical) iawn. Mewn pwyllgor neu gynadledd cashai a chas perffaith areithiau hirion. Gwaith ac nid siarad ydoedd ei arwydd-air bob amser, a gwae y neb a ddetuai ar ei ffordd i geieio ei rwystro wedi iddo unwaith ym- gymeryd ag unrhyw achos. Hwyrach nad yw wybyddus i lawer mai Hywel Cynon ymgymerodd a galw y cyfarfod cyntaf yn nglyn a ffurfiad y Cor Mawr, yr hyn a fu yn foddion i ddwyn ein cenedl i sylw y byd cerddorol fel cenedl o gantorion. Yr oe,dd fel wedi ei eni yn Corganiser: Os biyddai brawd neu deulu anghenus yn y gymydogaeth, nid oedd angen ond gosod yr achos ger bron Hywel, ac yn ebrwydd iawn byddai pwyllgor yn gweithio law a chalon i wneyd cyngherdd iddo. Ni chyf- eiliornem pe dywedeni ei fod wedi bod vn offeryn i gasglu canoedd o bunoedd i gyn- orthwyo y tlawd a'r anghenus yn Aber- aman yn unig. Efe hefyd ydoedd lorgan- iser' rhan isaf Aberdar yn adeg etholiad 1868, ao etholiadau dilynol y diweddar Henry Richards. Gweithiodd yn ddyfal ac egniol gyda'r diweddar Barch. John Davies, Saron (Caerdydd wedi hyny) yn, sefydliad y British School yn Aberaman, a, bu yn aelod selog a defnyddiol'ar bwyllgor yr ysgol hono o'i chychwyniad hyd at ei rhoddiad i fynu i Fwrdd Ysgol Aberdar. Y mae yn deilwiig o sylw, hefyd, mai yn ei dy ef yr agorwyd y reading room gyntaf yn Aberaman erioed. Yr oedd yn Rhyddfrydwr cadarn, ac yn Anghydffurfiwr selog a diwyrni, eto heb fod yn gul. Cofus genym am dano un adeg pan yr oedd cadgyrch y Dadgysyllt- iad yn ffyrnig dros ben, a blaenoriaid Cymdeithas Rhyddhad C'refydd wedi bod yn areithio yn t'rwd yn y lie, ac yntau ei hun mor bybyr a neb o honynt yn y gad, iddo y nos Sul1 ganlynol wneyd apel ar ran yr Eglwys Sefydledig yn Aberaman am fenthyg capel Saron i gynal cyngherdd er budd rhyw drysorfa berthynol i'r Eg- lwys hono, a dywedai mewn atebiad i wrthwynebiad i'r cais, HCofiwch, frodyr, mai dadgysylltu ac nid difodi yr Eglwys ydyw yr amcan mewn golwg." Dyn llettygar iawn ydoedd Hywel Cynon. Gellir yn hawdd gymhwyso ci linellau ef ei hun yn ei gan i'w ddiweddar weinidog a'i gyfaill calon, y Parch R. Rowlands, Saron, ato ef ei hun. 'Roedd gwir lettygarweh ar gapan y ddoir, Yn arwain i'w dy ac i'w galon; Cyfranai'n liaelionus, a bendith yr lor Bob amser yn dilyn ei roddion." Yr ydym yn cofio yn dda am flynyddau nad oedd nemawr i wythnos yn mynod heibio na fuasai rhyw fardd, Ilenor, neu gerddor yn treulio noson dan ei gronglwyd. ac ni feddyliai unrhyw weinidog yn Ngwent na. MorgaAwg am fyned drwy Aberaman heb alw ar HyweF. Dyn amlochrog iawn ydoedd. Nid yu ami y cyfarfyddir a dyn mor "round," fel ;| y dywedir; yr oedd yn bobpeth o'r braidd, ac eto i gyd nid yn rhyw "dipyn o bob- peth," Tel y dywedir, ond yr oedd yn uwchraddol yn yr oil o'i igysylltiadau. Fel awdwr cerddorol cyhoeddodd y geir- iadur cerddorol Cjymreig cyntaf, ac am ft wyddom ni, yr unig un a gyhoeddwyd erioed, yr hwn fu ynl gymhorth annhraeth- adwy i luaws o gerddorion unieithog Cymru. Fel datganwr yr oedd yn ddeibyniol, ac yn boblogaidd iawn ar Iwyfanau cyng- herddau y Deheudir, ac ar y llwyfan eis- teddfodol yr oedd yn gystadleuydd per- yglus dros ben. Fel arweinydd cymanfaoedd canu yr oedd galwadau ami a lliosog am ei wasan- aeth drwy Dde a, Gogledd, ac yr oedd bob amser yn dderbyniol a phoblogaidd pa le bynag yr elai. Ac nid ydym yn sicr nad iddo ef y mae yn rhaid priodoK cychwyn- iad y Gymanfa Gainu Gunulleidfaol yn Aberdar. Fel arweinydd corawl bu yn e,nwog am flynyddau, ac yn gystadleuydd peTyglus i'w gyfarfod. Arweiniodd Gor Saron i fuddugoliiaeth mewn cystadleu- aetha-u pwysig lawer tro. Fel darlithydd yr oedd mynych alwadau am ei wasanaeth ar hyd a lied y wlad, ac fe erys ei ddarlith ar "Tanyniarian" yn hir yn nghof canoedd o'r rhai a Rawsent y fvaint o'i gwrando. Yr oedd hefyd yn bregethwr poblogaidd ac efengylaidd iawn, ac er ei fod wedi myned yn mlaen mewn dyddiau cyn iddo ddechreu, llafuriodd yn galed a diorphwys hyd nes iddo ddyfod yn un o feistriaid y gynnlleidfa. Gwnai ddefnydd rhagorol o'i allu fel dadganwr yn nglyn a'i bregeth- au, ac nid yn hawdd yr anghofir y dylan- wad gwefreiddiol a deimlid pan y torai allan i ganu "pa, dafod all dewi am hyn? Pa galon mor galed no. thodd?" Yn ddiau pe buasai Hywel wedi cysegru ei alluoedd i'r cyfeiriad hyny pan yn ieu- anc, buasai wedi gwneyd efengylydd di. 4 ail. Yr oedd pobpeth o'i gylch yn ffafriol i hyny—ei ymddangosiad personol hardd a deniadol, ei arddull dariawiadol ac effeithiol o ddweyd ei genadwri, yn nghyd a'i lalls treiddgar a melodaidd yn cyfuno ynddo anhebgorion efengylydd llwydd- ianus, ar wahan i'w awyddfryd angherdd- ol am lwjTddiant teyrnas ei Waredwr yn y byd. Pwy a'i' clywodd yn canu Ulesu. o Nazar. eth sy'n m¡yn,'d heibio," "Yr oedd cant namyn un," "0 fewn ychydig," ac ereill o donau "Swn y Jiwbili," a all fyth an. nghono y dylanwad angherddol oedd yn cydfyned a'i ddatganiad ? Galleon ysgrifenu llawer mwy, Mr. Gol- ygydd, canys ni fynegwyd yr haner eto, ond l'haid ymatal gyda dweyd fod Eglwys Saron wedi colli aelod da a diacon defn- yddiol llenorion ieuainc ac ereill a deim- lent awydd i garu duwies barddas wedi colli eyfaill, a chynoi"thwywr ffyddlon, y tlawd a'r anghenus wedi colli ffynon lawn o 'gjydymdeimlad ymarferol, Ymneilldu. aeth wedi colli gwr cadarn a nerthol, qym- deithas wedi colli anwylun, a'r teulu wedi colli tad tyner, darbodus, a gofalus, a phriod anwy1 a ffyddlon. "Heddwch i'w lwch a,nwyl." Pe gwyddwn, Mr. Gol, na thybiech chwi na'ch darllenwyr fi yn hyfygus, carwn wneyd ychydig sylwadau mewn rhifynau dyfodol ar fy anwyl gyfaill fel bardd. (Byddai y oyfryw &ylwadau yn dder- byhiol dros ben.—Gol.)