Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

FOOTBALL NOTES.

Association.j

Billiards and Whist.

Mountain Ash Cricket Club.

[No title]

YR ADRAN GYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR ADRAN GYMREIG. "Y Gwir yn erbyn y Byd." Gwahoddir cynyrchion i'r Adran hon. j Pob gohebiaeth i'w anfon i Swyddfa'r "Leader," Aberdar. IMechreu yr wythnos bu dau fardd- bregethwr o fri yn tori bam y bywyd yn lighymydogaeth Aberdar, Gwili yn Aber- nant, a Job yn Nhrecynon. Pan yn Aberdar y mae Job yn ei hen gartref. Pan yma yn gweinidogaethu yn Nazareth yr enillodd y llawryf eisteddfodol ddaeth ag ef i syhv Cymru benbalndr fel bardd. Y Parch. W. E. Prydderch, cyd-bre- gethwr a'r Parch. J. T. Job yn nghyfar- fodydd Bryn Seion, ydoedd llywydd cym- deithasfa ddiweddar y Methodistiaid yn Briton Ferry, a'r Parch. John Morgan, bugail Bryn Seion, ydoedd yr ysgrifen- ydd. Yn nghyfarfodydd chwarterol y Meth- odistiaid yn Briton Ferry buwyd yn trafod gwedd neillduol ar y ewestiwn dir- westol. Cynygiwyd fod i'r gymdeithafsfi ba,sio penderfyiad i'r perwyl fod swydd- ogion eglwysig o hyn allan i fod yn llwyr- ymwrthodwyr. Siaradodd Dr. Rees, Cefn, yr hwn sydd ddirwestwr selog, yn gryf yn erbyn un rhith o orthrwm yn nglyn a llwyrymwrthodiad. Haerai Cynddylan nas gallai neb brofi ei bod yn bechod i yfed gwydraid o gwrw, er fod pawb yn gwybod, wrth gwrs, fod meddw- dod yn bechod. Mynai y Parch. Thomas Levi, Abeiystwyth, ei bod yn afresymol i rwymo swyddogion eglwysig i fod yn llwyrymwrthodwyr, tra y gallai aelodau wneyd fel y dewisent. Cyfeiriodd Mr. Thomas James, Porth- cawl, at gwestiwn y tybaco. Gwyddai ef am areithiwr dirwestol ydoedd yn ysmoc- iwr digymedrol. Meddwai ar fyglys i'r fath mdd8.u nes myned yn dost, a rhaid oedd iddo gael brandi i wella. ei hun! Gofynodd Cynddylan gwestiwn yn ei le pan ofynodd a fyddai i'r Gymdeith- asfa basio mesur i rwystro dyn anonest mewn masnach i fod yn swyddog eglwys- ig. A! pa sawl un heddyw a eistedd yn ddigon eofn yn y sedd fawr, yr hwn nad eisteddai yn stol y gwatwor" am bris yn y byd, ond yr hwn na phetrusai dwyllo cymydog, neu gyd-aelod, neu hyd y nod gyd-swyddog drwy gymhorth rhwydau Deddf Methdaliad. Ai nid yw anonest- rwydd yn gymaint pecliod ag anghymedr- oldeb ? Ar hyn o bryd y mae y Parch. R. B. Jones, yr hwn oedd gryn ffafryn gan gynulleidfaoedd y diwygiad yn Nghymru, yn brysur yn dodi yr Amerig ar dan gyda,'i ddawn hwyliog. Difynwn a gan- lyn o'r "Drych"Edwardsdale, Pa., Mawrth 9.—Nos Lun, y 25ain cynfisol, dechreuodd y dyn rliyfedd, y Parch. R. B. Jones, ar ei waith diwygiadol yn y lie hwn, a pharhaodd hyd nos Sabboth, Mawrth 3ydd. Yr oedd yma, fel mewn manau ereill, ddisgwyliad a dyhead am ei ddyfodiad, am ein bod wedi clywed fod Duw ganddo. Cynaliwyd wythnos o gyrddau gweddi yr wythnos flaenorol i ddyfodiad y brawd yma, a chaed Duw yn amlwg yn y cyfarfoclydd, a'r gweddiau yn daerion am i'r Meistr mawr i dd'od gyda'i was, ac hefyd am iddo ef barotoi calon pob proffeswr crefydd i dderbyn y genadwri. Atebwyd y gweddiau, cafwyd mil mwy na'r hyn ofynasom, fel arfer. Ymunodd pob eglwys air oedd yn deall Cymraeg a Saesneg i wneyd y mudiad mor gyraeddbell ag oedd bosibl, ac yn llwyddiant gwirioneddol. Sylweddolwyd hyny. Diolch iddo." Brawd Elfed ydyw prif-athriaw newydd etholedig Coleg Aberhonddu, y Parch. T. Lewis, M.A. Genedigol ydyw efe, fel ei frawd, o Gonwil Elfed, yn Sir Gaer- fyrddin. 0 Lanfyrnach vii, Sir Benfro yr hana y Parch. T. Rees, M.A., yr hwn sydd wedi ei godi i'r gadair a waghawyd gan y Parch. T. Lewis. Bu Mr. Rees, fel ami i fab dysg ac athrylith, yn gweithio ar y fferm ac yn y lofa cyn idclo ddechreu ar ei gwrs pregethwrol ac addysgol. Dech- reuodd breg,ethu yn Ebenezer, Trecynon, dan gyfarwyddyd y Parch. J. Graw.ys Jones. Y mae ei yrfa addysgol wedi bod yn .eithriadol ar lawer cyfrif. Yn mysg y rhai a enwir fel vmgeiswyr am gadair wag y Testament Groeg yn Aberhonddu y mae ein cymydog talentog, Mr. Joseph Jones, B.A., B.D., Cwmaman, pregethwr ac ysgolor addawol iawn.

Y FFYRLING EITHAF.

ODLAU MWYNIANT.

YNYSBOETH.

[No title]

Mountain Ash County Court.

Seaweed in Kidney Diseases.

Aberdare.

Mountain Ash.

Trecynon.

Penrhiwceiber.

------Abercynon Motes.