Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Marwolaeth Mr David Thomas,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Marwolaeth Mr David Thomas, Primrose Hill, Mountain Ash | Prydnawn dydd Gwener diweddaf ymadawodd a'r fuchedd hon mewn tangnefedd heddychol yr hen gymer- iad adnabyddus uchod, wedi cyr- haedd yr oedran teg o Slain o flyn- yddau, fel y mae heddyw ar fryniau anfarwoldeb A'i dant yn dyn, yn dal y nefol delyn." Brodor oedd yr ymadawedig o Trimsaran, Sir Gaerfyrddin, a daeth oddiyno i Aberdar oddeutu 58 rnlyn- edd yn ol. Bu yn gwasanaethu, yn mhlith lleoedd ereill, yn Siop Cwmni Abernant yn y Trap Road. Symud- odd o Aberdar i Mountain Ash) I oddeutu 52ain mlynedd yn ol, a hu am rai blynyddau yn pwyso glo yn y wageni o dan Gwmni Nixon. Wedi hyny, apwyntiwyd ef yn llywodraeth- 1 II wr trafnidiaeth (traffic manager), a daliodd y swydd bwysig hono hyd y I flwyddyn 1905, pan y cafodd ei oed- freinio (superannuated). Bu am iiynyddau yn flaenor yn Eglwys An- nibynol Bethania, Caegarw, ac wedi hyny yn flaenor ac ysgrifenydd Eglwys Carmel, Penrhiwceibr. Pan agorwyd Bethel, Miscyn, symudodd yno, a bu yn fiaenllaw gyda'r achos yno hyd ei farwolaeth. Yr oedd yn enwog ac ar ei ben ei hun yn y gwaith o gasglu at ddileu dyled yr eglwysi y perthynai iddynt, ac y mae Eglwys Bethel yn arbenig yn ddyledus iddo am yr hyn a wnaeth drosti yn y cyf- eiriad hwn. Ysgrifenodd lawer i golofnau y "Darian" flynyddau yn ol, a chyhoeddodd lyfr o dan y teitl, "Hancs Hynod ond Gwir." Gedy ar ei ol weddw oedranus, dau fab, Mr. Wro. Fred Thomas, Caerffili, o dan Gwmni Reilffordd y Rhymni, a Mr. Tom Thomas, gerllaw Llan- wern, Casnewydd ac un ferch, Mrs. Richard Griffiths, ceidwad amser yn Nglofa Cilfynydd. CYFAILL.

Sporting Notes.

--------Letters to the Editor.

PKNRHIWCEIBER POST OFFICE…

Trinity, Aberdare.,

---Obituary.

Advertising

To Select New J.P.'s.

Advertising

A WORD FOR SPIRITUALISM.

Church Lads' Brigade.

Advertising