Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

Nodion a Newyddion.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion a Newyddion. Mr. Clifford Cory ydyw yr Aelod Seneddol dros St. Ives yn Nghernyw. Un o'r teulu adnabyddus o Gaerdydd sydd yn onwog am eu rhyddfrydigrwydd a'u Rhyddfrydiaeth ydyw Syr Clifford. Modd bynnag y mae Radicaliaid Cernyw wedi rhoi awgrym iddo nad yw yn ddigon iach yn y ffydd Ryddfrydol, a bod yn rhaid iddo drefnu ei dy erbyn yr etholiad nesaf. Mor anhawdd ydyw i'r rhai sydd a golud ganddynt fod yn wleidyddol gadwedig! Symudir yn awr tuag at godi cof- golofn i'r Parch. Stephen Hughes, "Apostol Caerfyrddin." Yr oedd efe y.i un o'r gweinidogion mwyaf blaen- llaw yn nhroad allan 1662. Os mai yn nhref Caerfyrddin y gosodir y golofn goffa bydd yn dipyn o amrywiaeth i'r hen dref, gan mai cofgolofnau i ryfel- wyr yw prif nodwedd y lie yn bresenol. Megys mai Mr. W. T. Stead ydoedd efallai y mwyaf enwog o ebyrth y Titanic, felly Mr Lawrence Irving yd- oedd y mwyaf adnabyddus o golledig- ion yr Empress of Ireland. Mab yd- oedd i'r diweddar Henry Irving, ac fel ei dad yr oedd yn hynod o boblogaidd a chymeradwy fel actiwr. Ar hyn o bryd gwneir cronfa fawr o ddwfr yn rhan uchaf Cwm Taf cyd- rhwng Cefncoed y Cymmer a Thorpan- tau. Diau fod pawb sydd wedi teith- io o Ferthvr i Dalyllyn ar Re) Iffordd y Brecon and Merthyr yn ddiweddar wedi sylwi ar y parotoadau i wneyd Cwm- taf yn llyn i ddisychedu pobl Caerdydd. Teithia y tren dros y tir hwn yn ddigon araf i rai gael golwg dda ar yr hyn svdd/ tuallan. Gwneir ymaith a llawer o hen ffermydd yn y cwm ac amryw fwthynod. Hefyd symudir Capel hen- afol Bethel, addoldy y Bedyddwyr, lie y bu y tadau yn teimlo yr hen bwerau nerthol yn amser y diwygiadau fuont yn siglo ein gwlad, cyn dechreu ei gwneyd yn ffynhonau dyfroedd i ddi- wallu estroniaid. Ychwaith ni cha esgyrn y meirw huno mewn hedd yn Nghwmtaf. Yn y fynwent henafol yn y lie rhoed llawer un i orwedd mewn tawel hun hyd foreu mawr y codi, fel y tybid ar y pryd. Yn awr symudir gweddillion y marw yn ogystal a theml v byw i fan o ddiogelwch rhag y Hit. Digwyddodd peth cyffelyb yn Maldwyn flynyddau yn oi pan aed atti i wneyd cronfa i ddiodi pobl Lerpwl. Penderfynwyd boddi pentref Llanwddyn, a gwneyd y dyffryn yn llyn. Cludwyd gweddillion y meirw i fynwent newydd. Ar un o'r beddfeini yr oedd yr argraff, "I must lie here till Christ appears." Wrth ddodi y pridd i'r pridd ychydig fedd- yliai neb y buasid yn rhaid ei symud i bridd arall i aros adgyfodiad. Gresyn meddwl fod cymaint o hen wlad ein tadau o dan ddwfr i gyllenwi angen pobl Lloegr. Heblaw dyffryn y Fyrnwy, lie gynt yr oedd pentref byw- iog Llanwddyn, wele ddyffryn Elan yn agos i Raiadr Gwy wedi ei wneyd yn nifer o lestri mawr, fel pe tae, i gadw yr 'elfen deneu ysblenydd' i dori syched pobl Birmingham. Unwaith yr oedd hwn yn ddyffryn rhamantus a phryd- ferth iawn, er nad oedd yma lawer o boblogaeth. Yma y bu Shelley, y bardd gwyllt, yn trigo am dymor-gwr nad oedd yn ofni Duw, ond ydoedd, chwareu teg iddo, yn caru ei gyd-ddyn. Mab rhamant oedd Shelley, ac yr oedd arddunedd dyffryn Elan yn cytuno a'l natur i'r dim. Heddyw yr unig gofnod o fywyd gwledig glan y Fyrnwy ac o geinder natur yn nyffryn Elan ydyw lleni mawr llynau mirain," megys y Mor Marw yn goffa o ddinasoedd y gwastad«dd. Pa faint yn rhagor o wlad y bryniau a raid ei rhoddi dan ddwfr er budd dinasoedd mawrion v tuallan iddi? Yn awr y mae Heolyfelin yn Nhre- cynon wedi ei lledu i raddau dymunol a chvfleus. Gwnaed y gwaith mewn amser neillduol o fyr gan Mr Tyssul Davies. Yma y mae Cwnrig, o flaen pi dy y dylai fod cofgolofn i'r anfarwol Garadog. Dyma fagwrfa y cerddor enwog pan ydoedd yn dy tafarn, sef y Crown, a phan yr adnabyddid Caradog fel "Griff o'r Crown." Mae ardal brydferth Llwydcoed yn graddol golli ei nodwedd wledig. Ych- ydig flwyddi yn ol yr oedd yn dreflan I fechan o dai gweithwyr, heb nemawr i dy mawr yn y lie. Saif y pentref ar lechwedd hyfryd yn ngwyneb haul, llygad goleuni. Erbyn hyn y mae rhan helaeth o'r tir wedi ei gymeryd i fyny i adeiladu tai i oludogion Aberdar. Hefyd y mae amryw o dai gweithwyr ar waith, yn ogystal a Cottage Homes Undeb Merthyr. A fydd i ymgais Arglwydd Howard de Walden^i ddodi y Ddrama Gym- raeg ar ei thraed droi yn llwyddiant? A chymeryd wythnos brawf Aberaman ar ei hyd ofnwn nad yw y canlyniad yn gefnogol iawn i'r mudiad. Cafodd y ddrama "Change," sydd mewn gwisg Saesneg, well derbyniad nag "Ephraim Harris," y Cymro.

Aberdare.

|Bethel, Trecynon.

Former Cwmaman Minister.

[No title]

Advertising

Welsh National Drama .Movement.

---------Military Display…

[No title]

Advertising

YR ADRAN GYMREIG.

Scraps.

Advertising

Sunday School Day at Cwmbach.

Aberewmboi's Needs.