Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Nodion.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion. Yn Eglwys Sant Elvan, Aberdar, nos Fere her, Mehefin 21, cynhaliwyd gwas- anaeth coffa am y diweddar Lieut. J. Windsor Lewis, y gwr ieuanc o Aberdar a roddes ei fywyd i Jawr ar allor rhydd- id ei wlad yn Ffrainc. Trefnwyd y cyf- arfod dan nawdd Ficer y Plwyf a Mr. Charles Kenshole, Uwch Gwnstabi Mis- cyn Uwchaf. Arweiniwyd y gwasan- aeth gan y Ficer, yr hwn a roddodd allan yr hen emyn Cymraeg, 0 fryn- iau Caersalem," ac a ganwyd dan wasg- fa prudd-der gan y gynulleidfa fawr. Gyda Haw, yr oedd y diweddar swyddog dewr yn gefnder i Mrs. Lewis, priod y Ficer. Cydymdeimlir yn fawr a theulu galarus y boneddwr ieuanc o'r Plas- draw, yn cynnwys ei fam hoff. Eydded iddi yn nydd ei phrawf ymddiddanu a'r cysur a dynai mam gwron Gogerddan iddi ei hun ar achlysur cyffelyb, sef mai Gwell yw marw'n fachgen dewr Na byw yn fachgen llwfr." I Yn y gwasanaeth crybwylledig caed anerchiad teimladwy gan Esgob Llan- elwy, ewythr y diweddar wron—brawd ei fam. Ac os dy "gydwybod" a'th rwystra, tor hi. allan, a thafl hi oddiwrthyt; canys gwell i ti golli dy "gydwybod" (y fath ag yw) ac na thafier dy wlad enedigol i uffern (yr Hwniaid). Dy- wedai D. Lloyd George rywbeth go debyg yn ei araith yn Nghonwy. Ebe efe, "If we fail now, as surely as the Saviour lives, we shall go to hell.—"Y Drych." Nid da clywed dyn ei hun yn honni nad yw efe fel dynion eraill. Y mae'n wahanol pan y mae ereill yn dweyd hynny am rywun, &c felly ygwneir yn y Llwydcoed y dyddiau hyn ynglyn a'r. diweddar Lieut. Windsor Lewis, a ladd- wyd yn ddiweddar yn y rhyfel. Mae calonnau ei gymdogion yn friw. Yr oedd ei garedigrwydd a'i haelioni i'r tlawd yn ddihareb. Nid oedd neb yn debig iddo, ac y mae hiraeth gAvirion- eddol ar ei ol. Y Darian." Rhaid i'r Cymro gael dyrchafu ei lais a chwyfio ei freichiau hyd y nod mewn pwlpud Seisnig. Y dydd o'r blaen yr oedd y Prifathraw T. Rees, o Goleg Bala-Bangor, yn pregeflhu yn Bethany, Godreaman. Ar astell yr areithfa yr oedd dwy gostrel o flodau prydferth. ond gofynodd y pregethwr i un o'r diaconiaicT am eu svmud. nid am fod ganddo wrthwynebiad i flodau ond am #u bod ar ei ffordd i siglo ei freichiau ar ol myned i hwyl. Efallai nas gwyr pawb o'n darllenwyr fod y diweddar Barch. Thomas Levi nid yn unig yn meddu enw Iuddewig ond hefyd yn luddew o waed. Hebrewr o'r Hebreaid oedd ei dad, yr hwn a briod- odd Gymraes. Mewn papyr a gyhoeddir yn ninas Henffordd ceir tafarnwr yn hysbysebu ei wlybwr o dan yr arwyddair, Cwmry Am Byth." Gobeithiwn nad Cymro yw —nid yn gymaint am ei fod yn gwerthu cwrw a cider, ond am ei fod yn euog o'r pechod anfaddeuol o lofruddio yr hen iaith. Mewn papyr Cymraeg ceir Cym deithas Gymreig neillduol yn hysbysebu I y am "deputation secretary i gynrych- ioli y Gymdeithas yn Nghymru. Oed- ran, o 35 i 40. Ai nis gwyr awdurdodau y Gymdeithas hon fod ar y Llywodraeth eisieu pob dyn o'r oedran hwn? Ddydd Mawrth diweddaf, yn Nghil- fynydd, bu farw Miss Sarah Jane Rees (Cranogwen). Genedigol ydoedd o Langranog, yn Sir Aberteifi, ac yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes, er iddi farw oddicartref. Bu yn barddoni a llenydda am dros hanner canrif. Yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865 enillodd ar y gan i'r "Fodrwy Briodasol "—addurn na wisgodd Cran- ogwen erioed. Nid oedd hi ond llances ieuanc ar y pryd, ond curodd y fath gewri barddol a Mynyddog, Ceiriog ac Islwyn. Am tua deug&in mlynedd bu yn areithio ar DJirwest. Am ran hel- aeth o'i hoes bu hefyd yn pregethu gyda'r Methodistiaid. Gwnaeth was- anaeth dirfawr i len Cymru. Am flyn- yddau bu yn golygu y Frythones, misol- yn at wasanaeth merched Cymru yn benaf. Amheus gennym a wnaeth un Gymraes fwy dros ei rhyw a'i gwlad yn gyffredinol. Yn ystod blynyddoedd di- weddar gweithiodd yn ddygn _gyda mudiad Merched y De. "#

--.----__...-Clywedion Dyffryn…

Itching, Burning Eczema was…

----. Local Will.

I The Glory that was Egypt.I

Faith and the War.|

. ! Bethel, Abernant. !

I Trecynon and Llwydcoedi…

Cwmdare Notes.

Glamorgan Police.\ --I

Trinity, Aberdare.

'I Licensing.

Advertising