Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
"--..",.-----FFENESTR I'R…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
FFENESTR I'R CYLLA' DICHON eich bod yn synu tipyn sut y mae meddygon wedi bod yn alluog i gael allan pa fodd y mae bwyd yn treulio yn yr ystumog, a pha fodd y maent yn gwybod rhifedi yr Orlau a gymer y gwahanol fwydydd i dreulio. Daethant i feddiant o lawer iawn o'r wybodaeth hon drwy ddamwain a ddigwyddodd yn America i un o drigolion Canada a elwid Alexis St. Martin. Saethwyd ef a bwlet aeth y bwlet drwy ei ystumog, a gadawodd dwll mor fawr fel ag y gallai Dr Beaumont, y meddyg enwog a weinyddai arno, weled yr oil a gymerai le yn ei ystumog am flynyddau lawer. Digwyddodd y ddamwain Mehefin y 6ed, 1832. Ni oddefai Alexis St. Martin i'r agoriad gael ei gau, gan nad oedd yn cffeithio ar ei ieclxyd. Yr oedd yn mwynhau lechyd ardderchog, a threuliai ei ymborth mor gyson a phe na buasai yr agoriad erioed wedi ei wneyd. Treuliodd rai blynyddau fel gwas gyda Dr Beaumont. Yn union ag y cymerai frandi, neu pan elai unrhyw fath o wirod i'w ystumog, elai y bilen ruddgoch dlws a orchuddia yr ystumog yn anarferol o goch. Pan fyddai wedi cymeryd gwirod am ychydig ddyddiau, ymddangosai cornwydydd dolurus. Ymddangosai hylif y cylla wedi sychu i fyny, fel nas gallasai y cig gael ei dreulio. Elai yr albumen (hylif tebyg i wyn wy) yn galed, yn debyg fel pe byddai wedi cael ei goginio mewn dwfr berwedig. Yn union ag y rhoddai St. Martin i fyny y gwirodydd, diflanai y cornwydydd, deuai y swm priodol o'r hylif cyllaol allan o'r ystumog, a deuai y treuliad yn briodol drachefn.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"Jane," meddai rhyw wr yn Llanberis wrth ei wraig, "dywedwch wrth yr hogcn yna am beidio bloeddio cymaint wrth ganu." "Nid hi sydd yn canu o gwbl; ysgrecli corn y Glyn ydych yn glywed."
YR ALMANACIWR A'R HOGYN
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR ALMANACIWR A'R HOGYN ADRODDIR stori am Moore, yr almanaciwr enwog. Yr oedd, ar un achlysur, ar ei geffyl yn myned trwy'r wlad, pan y dywedodd crwt o fugail wrtho am beidio myned yn mhell iawn, fod storom o wlaw ar bwys. Aeth Moore, fodd bynag, rhag ei flaen heb wneuthur un sylw o rybudd y crwt. Ond nid aeth yn mhell cyn bod ystorm ddychryn- llyd yn ymarllwys ar ei ben. Aeth yn ei ol cynted y gallai, ac wedi cael gafael ar y bachgen, gofynodd iddo sut yr oedd yn gallu prophwydo am y tywydd mor dda. Pallodd y bachgen ag ateb ar y cyntaf, ond wedi hir gipian, a chael hanner coron i'w law, ateb- odd: "W el, os byth y gwelwch yr eidion gwyn acw yn troi ei gynffon ar y gwynt, yr ydyph yn sicr o wlaw yn mhen hanner awr." Nid yw yr hanes yn dywedyd pa un a oedd Moore yn teimlo ei fod wedi cael gwerth ei arian neu beidio.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mae balchder yn ami yn gwisgo csgidiau patent leather a menyg 7cid, tra, ar yr un pryd yn begio tybaco.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
LLYFIIAU 1 BAWB. YN A WR YN BAROD. ESBONIAD AR YR EPISTOL AT Y E GALATIAID, gan y Parch. AnEL J. PAiaty, Cefnmawr. Pris 6c. gyda'r post, 7c. ESBONIAD AR LYFR GENESIS (3ydd Argraphiad), gan y Parch. 11. lIuMi'iniiiVS, Bontnewydd. Pris, mewn llian, 3s.; hanner-rhwyui cryf, 4s. gyda'r post, 3s. 3c. a 4s. 3c. HANES Y FFYDD YN NGHYMRU, gan CHARLES EDWARDS, dan olygiaeth Owen M. Edwards, M.A. Pris 3c.; gyda'r post, 3|c. HOLI AC ATEB AR HANES CYMRU, gan OWEN M. EDWARDS, M.A. Pris lc. 2 gyda'r post, 11c. PLANT Y BE5RDD, gan OWEN M. EDAVARDS, M.A. Pris lc.; gyda'r post, L|c. LLAWLYFR AR HANES IESU GRIST, L gan Mr EDWARD JONES, Bangor. Pris 2c.; 2 gyda'r post, 2|c. LLEWELYN PARRI, Ffughanes yn gosod allan echryslonrwydd By ivy d y Meddwyn a Bendithion Llwyrymwrthodiad, gan LLEW LLWYEO. Pris 6c.; gyda'r post, The. YN Y WASG. I LYFR EXODUS gyda Nodiadau, gan y J Parch. II. HUMPHREYS, Bontnewydd. Pris 3s.; gyda'r post, 3s. 3c. ANTURIAETHAU CYMRO YN AFFRICA (Dai-lunicdig), gan Mr. W. GIUEFITII Pns 1 S; gyda'r post, Is. 1c. DIWYGIO'R EISTEDDFOD. Adroddiad Arbenig o Gynnadledd Gencdlaotliol, yn cyn- nwys syniadau PRIF EISTEDDFODWYlt CYMRU. Pris 6c.; gyda'r post, 7e. C YLVIIQRONA U CYMR U. Y TRAETHODYDD: Cylchgrawn conedl- aetliol dauiisol, dan oiygiautli y Parch. DANIEL ItOWLANDS, M.A., yn cynnwys ertliyglau ar bynciau'r dydd, gan Brif Ysgritcnwyr Cymru. Pris Is. gyda'r post, Is. Uc. C^YMRU Cylchgrawn misol i godi'r hen J wlad yn ei iiol'' (.Darlunicdig). Dan oly giaeni OWEN M. EDWARDS, M.A. Y cylchgrawn chwc cheiniog mwyaf yn yr iaitli. Pris 6c. 8T'^ i; post, 7^0. lihifyn Dwbl Ionawr pris Is.; g)u<i l post, Is. 2|c. 2 C^YMRU'R PLANT: Cylioeddiad misol J darluniedig at wasanaeth Plant Cytnru. Dan olygiaeth OWEN M. EDWARDS, M.A. Pris lc., gyda'r post, Ik. Y cylchgrawn cemiog rawyat yn ) i 2 iaith. Y' LLUSERN (Cyfres newydd): Cylch- grawn misol at wasanaeth y Metliodistnud Calfinaidd, dan olygiaeth y Parchn. J- AVl^ Brynsicncyn, ac 11. HUMPHREYS, Bontne^jdd. Pris lc.; gyda'r post, He. 11 2 YN EISIAIJ, Dosbarthwyr i'r uchod yn mhob ardal. Telerau da i ddynion cymhwys. Cyfoirior Archebion a phob Gohobiaoth: GORUCIIWYLIWR, Cwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig (Cyf.), Swyddfa'r Ger.edl, Caemarf'.Q,
" RHWYMO NERTH Y NIAGARA"
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHWYMO NERTH Y NIAGARA" BERNIR fod nerth ffrydlif Niagara yn ym. arferol gyfartal i 3,000,000 marchrym (horse- pot rer). Nid yw y gair marchrym yn golygu gallu march, ond dynoda allu peiriannol penodol. Marchrym yn beiriannol. yw digon o allu i godi 33,000 pwys un droedfedd mewn mynyd. Pwnc mawr y peiriannydd yw ffrwyno gallu naturiol at wasanaeth dyn, fel yr ydys yn yr Hen Wlad yn ceisio defnyddio tonau y mor i'r un pwrpas. Defnyddir dwfr afon Niagara yn barod at redeg melinau ar y glanau, ac at gynnyrchu trydan at wasanaeth ileoedd cyfagos. Ond yr oedd y pethau hyn yn ymddangos i'r peiriannydd yn anghymarol ddistadl o'u cymharu a'r gallu anhysbydd sydd yn guddiedig yn y dyfroedd. Meddyl- iodd y ctiweddar Thomas Overshed mai y cynllun hwylusaf oedd adeiladu twnel, a throi dwfr i hwnw, ar ol iddo droi yr olwyn- ion i gynnyrchu y gallu. Llwyddodd i ddar- bwyllo dynion arianog fod y peth yn ddichonadwy, ac yn sicr o fod yn enillfawr. Ffurfiwyd cwmni cyfoethog, prynwyd digon o dir y ddwy ochr i'r afon, ac erbyn hyn y mae y twnel wedi ei orphen. Yn cychwyn islaw y rhaiadr, tyllwyd drwy y graig galed i fyny tua milldir uwchlaw y rhaiadr, ac oddiyno rhed y twnel am tua milldir a hanner yn mhellach, tua IGOiroedfedd dan y ddaear, a 400 troedfedd o wely yr afon. Buwyct ddwy flynedd yn tori ac adeiladu y twnel, a chymerodd 13,006,500 o briddfeini at y gwaith. Gweithiodd 1300 o ddynion arno bob yn ail ddydd a nos. Defnyddid dros fil o bwysau o dynameit bob dydd er dryllio y graig. Gwariwyd 1,000,000 o ddoleri wrth adeiladu twnel yn unig. Torir camlesi i gario y dwfr at yr olwynion sydd i greu y gallu. Dechreuir gyda 120,000 marchrym, gyda olwynion 5000 marchrym yr un, ac ychwanegir atynt fel y byddo angen. Gellir defnyddio y gallu a gynnyrchir yma at yiu peiriannau a goleuo dinasoedd lawer, a chredir y gwelir New York a Chicago yn ymddibynu ar Raiadr Niagara am oleuni a north peiriannol, pan fydd yr holl gynlluniau wedi eu cario allan.
\ HANNER AWR aVDA GWALLGOFDDYN
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
iddo niweidio neb arall-mai myfi, a myfi yn unig, oedd gwrthddrych ei ddygasedd, ac felly, wrth ddianc o'r lie oddiar ei ffordd, gwyddwn nad oeddwn yn gadael neb yno fyddai mewn angen am gynnorthwy nac amddiffyniad. Rhoddwyd hysbysrwydd am gyflwr Isaac Roberts i'r awdurdodau, y rhai pan aethant yno a'i cawsant mewn cyffro dychrynllyd ar ol dod i sylweddoli fy mod i wedi dianc o'i afaelion. Dywedodd y meddygon fuont yn ei archwilio y byddai raid symud y truan i'r gwallgofdy yn ddioed er dyogelwch iddo ei hun ac i bawb o'i gwmpas, gan na wyddid pa mor fuan y gallai efe gymeryd yn erbyn rhywun arall a gwneyd ymgais arall i gy- meryd ymaith fywyd. Felly symudwyd ef, yr hyn wnaed yn lied rwydd drwy ddyweyd wrtho mai i gymanfa bregethu yr oeddynt yn ei gymeryd. Clywais wedi hyny nad oedd yn siarad am ddim yn y gwallgofdy ond w 'lg i am gael fy lladd i, a pharhaodd hyd y diwedd i sicrhau swyddogion y sefydliad hwnw fod yn rhaid iddo fy lladd neu fod ei hunan yn golledig am dragwyddoldeb. Bu yn dioddef fel hyn am rai misoedd, ac yna daeth Gallu uwch na gallu dyn i dori y cadwynau a ddalient ei enaid yn gaeth, ac ehedodd yr yspryd trallodus yma adref at yr Hwn a'i rhoes.