Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

EIN CYSTADLEUON

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EIN CYSTADLEUON CYSTADLEUAETH Y POST CARD.-Goreu o 56: Mr E. Ll. Edwards, LlysMeirion, Portmadoc. Cofied y cystadleuwyr y rhoddir nifer mawr o farciau am newydd-deb a Chymreig- rwydd. LLUNIAU DIGRIF.—Derbyniwyd rhai T. J. R., Llanfachreth T. R., Corwen; a D. E. J., Llandyssul.—Rhy anghelfydd, ond ceisiwch eto. CAN Y CHWARELWR." — Derbyniwyd ffrwyth awen Mab y Graig, Gwilym Llyfnwy, E. M. H. (Garreg Wen), Iago Fychan (Dinas Mawddwy), J. G. E. (Llandwrog), Ebill Rhys (Bethesda), a'r Garregddu (Ffestiniog).— Pyfernir y wobr i Mr Abbey Williams, Bettwsycoed; a rhoddir uchel ganmoliaeth i Gwilym Llyfnwy ac E. M. H. Y BARNWR Faint o ffordd sy' o'ch ty chi i Dafarn y Wane ? BOB Fpowc Wel, syr, 'dwn i ddim yn iawn. Y BARNWR: Wel, faint o amser gymerech chi i gerdded ? BOB: Begian ych pardwn chi, syr, myn'd ynte dwad 'nol ydach chi'n feddwl ? Nhad, ydych chwi yn tyfu o hyc1?" gofynai plentyn bychan Mr Penvoyl. Nac ydw, be' na'th i chi feddwl hyny ?" "Gwel'd top ych pen yn dwad trw'ch gwallt. Yn awr, Tommy," ebe Mr Birchrod, yr wyf yn gobeithio y byddweh yn fachgen da, felly ni bydd i mi eicli curo eto." Os ydych am guro rhywun," meddai Tommy, byddai yn well i chi guro un o'ch size ych hun." Dywed lien wraig o Lanllyfni mae ei rheswm dros fyned a'i gwydrau ar ei tlirwyn i'r gwely'r nos oedd ei bod yn gallu breudd- wydio print manach, a gweled pethau yn fwy eglur yn ei chwsg. 6&1&0. <3?i Aeth bugail o Wyddelwern i ffair Corwen i werthu ci; ac wedi talu am dano, gofynodd ei berchenog newydd a oedd yn rhedwr da. Rhedwr!" meddai y bugail, pe buasech ar ben y ffridd acw gyda mi ddoe, pan godedd o ysgyfarnog, ni fuasech yn gofyn y fatli gwestiwn. Bobol anwyl dyna lle'r oedd rhedeg Ddaliodd o hi ?" gofynai'r llall. Ei dal hi, na, rhedeg adref rhag ei hofn yr oedd." %?-<& Meddai cymydog wrth Ifan Benwan Beth wyt yn myn'd ar ol y wningen fel yna a chlo dy ddryll wedi tori ?" "Ust, frawd anwyl," meddai yntau, 'dyw'r wningen ddim yn gwybod hyny." Sylwodd Siors Garngoedog fod pobl yn defnyddio spectol i ddarllen. Aeth yntau i brynu un er mwyn iddo yntau allu darllen. Ar ol treio amryw a methu darllen, dywed- odd wrth y masnachwr na allai ddarllen ag un ohonynt. A ellwch chwi ddarllen o gwbl ?" gofynai y siopwr. H Na," meddai Siors, pe gallaswn, a ydych chwi yn meddwl y tuaswn i y fath ifwl a pbrynu spectol |??MB SWELLTOP A wyr eich mam, fy ngeneth i, eich bod wedi dyfod allan yr amser yma ar y nos ? Miss TAVODLYM 0, gwyr; fe roddedd ddimai i mi brynu mwnci; a ydych chwi ar werth ? ■ l Un tro yr oedd yr hotel mor llawn yn America fel y gorfu i farnwr gysgu gyda labrwr o Wyddel. Ebai y Barnwr "Pat, buasech chwi yn hir iawn, yn yr hen wlad, cyn y gallasech gael cysgu gyda barnwr, oni fuasech ?" Buaswn, eich anrhydedd," ebai Pat; ac yr wyf yn meddwl y buasech chwitliau yn hir iawn, yn yr hen wlad, cyn y buasech yn farnwr." GWEINIDOG GILGAL: Ma'n dda iawn gen i mod i 'n gallu eysuro tipyn ar ych gwr, Mis Roberts. Ond sut na fasech chi'n myn'd i nol gweinidog Bethel-dyna lie 'rych yn myn'd, oiiide ? MRS ROBERTS: Wel, welwch chi, ma r typhoid yma yn gatshing iawn; a 'doedde n ni ddim yn meddwl y base'n iawn i ni mofyn ein gweinidog ni n hunain J