Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
NI FYNAI El ORCHFYGU
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NI FYNAI El ORCHFYGU CANMOLAI dau Americanwr y biff a anfonid ganddynt i'r wlad hon. Cydnabyddai Cymro fod y biff yn un drt; a bod y bobl yn ei brynu. Ond nid oedd y bobl yn ei fwyta. Gwnant of yn lledr; ad anfonent ef i'r America wedi ei wneyc1 yn portmanteaus.
c=-=-CANU YR OEDD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
c=-=- CANU YR OEDD CLYWYD dyn yn y tren yn gruddfan, Oymci"- wyd trugaredd arno, a rhoddwyd drachtiad o frandi iddo. A ydych chwi yn teimlo yli Well '?" gofynwyd iddo. Ydwyf," atebodd yntau. Beth oedd arnoch chwi ?" Beth oedd arnaf fi ?" Ie. Yr oeddych yn gruddfan yn uchel iawn." Gruddfan yn wir Ond canu yr oeddwn 1
A ALL LLYGODEN ENILL El BYWOLIAETH
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
A ALL LLYGODEN ENILL El BYWOLIAETH GOFYNWYD y cwestiwn hwn yn cldiweddar. Atebwn ninnau "gall." Ac nid yn unig hyny, ond hefyd gall dalu yn dda i'w piierchenog. Dyma'r ffordd gwneler cage o ddefnydd ysgafn, ar ffurf olwyn lu:«"\vn. Dysger y llygoden i redeg ynddo. Trwy redeg trydd yr olwyn, a thrwy droi yr olwyn, troella edafeod, a gwna thua naw o reels. Os codir lc am bob reel—a naw reel mewn pum wythnos-onilla y llygoden 9c, neu tua ie y dydd, neu 7s 6c yn y flwyddyn. Blawd ceirch yw prif fwyd llygoden. Gwerth 6c o hwnw a bara un flwyddyn. Cyst yr olwyn tua Is. Felly deuai yr holl gostau i Is 6c yn y flwyddyn, gan adael 6s o broffit. Enillai 1000 o lygod 300p mewn blwyddyn, heb gyfrif costau y gofalwyr.
PRIODAS RYFEDD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ddaeth yr adeg i gyhoedd y gostegion, ac wedi i mi, am y tro cyntaf, agor y papyr, cefais fy synu yn ddirfawr wrth weled mai gostegion Daniel, yr hen sowldiwr, oeddynt, yr liwn oedd i gael ei briodi gyda rhywun o'r enw Rose Denham, o blwyf mewn sir arall. Yr oedd y syniad am y fatli betli ag i'r hen Ddaniel briodi yn peri digrifwch amlwg i'r rhan fwyaf o'm cymiulleidfa, a gwelwn luaws olionynt yn edrycli mewn syndod ar eu gilydd, ac ereill yn cliwerthin. Yn wir, yr oedd yn ymddangos i minnau hefyd yn both digon rhyfedd fod hen ddyn oedd gryn lawer dros ei ddeg a thri ugain mlwydd oed wedi cymeryd yn ei ben i briodi yn ei hen ddyddiau. Yr oedd enw y briodas- erch hefyd yn swnio braidd yn aristocrataidd i mi, ond cymerais yn ganiataol mai rhyw hen ferch wedi methu cael neb arall ydoedd. Aethum i edrych am yr hen Ddan boreu Llun, ond er fy syndod nid oedd dim i'w gael ganddo am y briodas ac er i mi siarad yn bur awgrymiadol ag ef, ni thalodd y sylw lleiaf i'r un o'm hawgrymiadau. Yr wythnos cyn y trydydd cyhoeddiad o'r gostegion, gofynwyd i mi weinyddu y briodas ar awr gynnarol iawn y dydd Llun dilynol. Pan ddaetli y boreu, ac i minnau gyrhaedd yr eglwys, yr oedd y lie yn dywyll ag eithrio y pen lie yr oedd yr allor-yr oedd yno ycliydig ganwyllau wedi eu goleuo yma ac acw gan y clocliydd. Rhoddais fy ngwenwisg am danaf, cymerais y llyfr, ac aethum at yr allor yn barod i ddechreu. Yr oedd Dan yno o'm blaen, yn sefyll a'i ffon yn ei law, mor sythed a phe yn rhengau milwyr. Yn fuan wed'yn daeth tri o bersonau i fyny at yr allor, un dyn a dwy ddynes. Adwaenais y y dyn, sef yr un fu gydi mi y nos Sadwrn ystormus hwnw yn nghylch y gostegion. Yr oedd un o'r merched yn ddynes dew, foddlon a chysurus yr olwg arni, a hawdd oedd dyfalu mai un o'r prif forwynion mewn rhyw balasdy ydoedd. Cymerais yn ganiataol mai hi oedd y briodasferch, gan mai merch ieuanc oedd y Hall—boneddiges ieuanc liardd a deallus ei hedrychiad, yr hon, fel y credwn i, oedd yn awycldus i weled ei mhorwyn yn cael ei phriodi. Ond pan ofynais i'r par priodasol sefyll yn mlaen, hawdd dirnad fy syndod pan weles y foneddiges ieuanc yn cymeryd ei safie wrth ochr yr hen Ddan. Beth!" meddwn, ai chwi yw y briodas- forcll ?" Ie," atebodd, gydag edrychiacl cymysg o benderfyniad ac ofn. Na, na; nis gall petli fel hyn fod," ttieddwn, gan gau fy llyfr. Ewcli yn mlaen," ebai y foneddiges ieuanc mewn cyffro. "A oes rhywun vn eicli gorfodi i liyn," gofynais iddi. Nac oes, neb." Wel, nid wyf yn meddwl fod hyn yn lawn," meddwn, ac nid wyf fi am fyned yn mlaen gyda'r seremoni, deued a ddelo." Ar hyn dyma'r dyn ieuanc, a safai hyd y foment hono o'r tu ol iddi, yn dod yn mlaen ae yn dyweyd wrthyf nad oedd genyf ddim bawl i wrtliod; fod yn rhaid i mi, yn ol y gyfraith, weinyddu y seremoni. Wedi ystyried am foment, gwelais ei fod yn gywir, fod yn rhaid i minnau fyned yn mlaen i briodi yr hen Ddan a Miss Rose Denliam. Felly gweinyddais y seremoni. Gelwais gyda Daniel rai o'r dyddiau nesaf, ond nid oedd ei wraig i'w gweled yn unman, ac nid ynganodd yntau yr un gair yn ei chylch. Gwelwn fod o'i gwmpas, yn ei fwthyn, arwyddion o fwy o lawnder a chysuron tymhorol nag a fu ganddo erioed o'r blaen, ond gan nad oedd ef yn dymuno dyweyd dim wrthyf yn nghylch ei briodas ni holais ddim arno. Cyn pen ychydig fisoedd ar ol hyn cefais fywoliaeth arall-plwyf mawr yn nghanol Lloegr, ac ni fu'm yn Llanidris byth ar ol hyny. Yn mhen rhyw bedair neu bum mlynedd wedi fy symudiad, yr oedd genyf aclilysur un diwrnod i fyned i lys ynadol gynnelid yn y dref agosaf. Ar ol eistedd i lawr ac edrych o'm cwmpas, gwelwn ar y fainc ynadol foneddwr y teimlwn yn lied sicr fy mod wedi ei weled o'r blaen yn rhywle nas gallwn gofio ar y fynyd yn mha le. Ond cyn diwedd gweithrediadau y llys cofiais mai efe oedd y dyn ieuanc ddaeth ataf i beri i mi gyhoeddi gostegion priodas yr hen Ddan a'r foneddiges ieuanc hono yn Llanidris gynt, a'r hwn hefyd wnaeth i mi fyn'd yn mlaen i'w priodi pan oeddwn yn petruso. Cefais allan Ihai ei enw oedd Arthur Mayne. Aethum ato ar derfyn y llys, a gelwais ar gof iddo y briodas ryfedd hono yn Nghymru, gan ofyn iddo egluro i mi, os gallai, y dirgelwch yn nglyn a'r petli. PetrUsodd roddi eglurhad, ond," meddai, os dowch gyda mi heno yn lie myn'd adref, cewch weled un fedr ddyweyd yr hanes wrthych yn well na mi." Aethum gydag ef yn ei gerbyd, ac wedi gyru allan i'r wlad am filldiroedd cyrhaedd- asom ei breswylfod, sef palas hardd mewn pare lied eang. Gynted ag yr aethom i mewn pwy welais yno ond y foneddiges oedd wedi cymeryd yr hen Ddaniel yn wr Yr oedd erbyn hyn yn fam, a chanddi faban yn ei brcichiau. Cofiodd fi y foment y gwelodd fi yn dod drwy'r drws. Ar ol ciniaw y noson hono adroddodd Mr Mayne ei hanes wrthyf, yr hyn a daflodd oleuni ar y briodas ryfedd yn Llanidris. Ymddengys inai mereh yr hen Arglwydd Roystone oedd y ddynes ieuanc briodwyd gyda'r hen Ddan, ac fod Mr Mayne a hithau wedi syrthio mewn cariad a/u gilydd, ond oherwydd rhyw reswm neu gilydd yr oedd Arglwydd Roystone yn gwrthwynebu y garwriaeth, a gwaliarddodu i Mayne ddod yn agos i'w breswylfod ef. Er hyny, foddbynag, parha- odd Miss Denham (dyna oedd enw teuluol y Roystones) a Mr Mayne i gwrdd a'u gilydd hyd nes i'r hen bendefig o'r diwedd dyngu yn ei lid na chaffai ei ferch byth briodi Mayne, neu os mynai ei briodi y byddai yn colli yr eiddo, yr hwn, drwy hyny, a elai i feddiant ei cliefnder, dyn ieuanc gwyllt a gwastrafflyd. Gwnaeth yr hen bendefig ewyllys newydd yn gadael ei holl eiddo personol i'w ferch ar yr unig ammod ei bod hi i briodi rhywun heblaw Arthur Mayne, a hyny o fewn deuddeng mis wedi ei farw ef, ei thad. Os arhosai heb briodi, neu os priodai gyda Mayne, yna yr oedd yr oil o'r eiddo yn myned i'w chefnder, a byddai hithau yn cael ei gadael yn hollol dlawd. Wrth gwrs, nid oedd yr un o'r ddau yn fo,,Idlawiii adael i'r ffo,tiwn slipio allan o'u gafael, oblegid wedi'r holl son sydd am ddy- munoldeb cariad pur y mac tipyn o arian yn help mawr i wneyd par priodasol yn dded- wydd. Cariad ddylai fod yn fiaenaf a phenaf, mewn priodas, ond os bydd arian hefyd-we1; peidiwch a'u gwrthod, oblegid ni wna dim ond arian brynu esgidiau i'r plant a'ch galluogi i gyfarfod y landlord ar ddiwrnod y rhent gyda gwen ar eich wyneb. Felly, penderfynodd Miss Denham, yn ei phenbleth, gyfarfod yn llawn ag ammod galed ewyllys ei thad, drwy berswadio yr hen Ddaniel i'w phriodi, yr hwn, wrth gwrs, na fuasai byth yn gofyn iddi gydfyw ag ef wedi hyny. Yr oedd yn adnabod yr hen gymeriad gonest hwnw er's pan oedd hi yn blentyn, yn byw gyda'i thad yn y Plas, Llanidris. Goliiriwyd y briodas hyd y diwrnod olaf o'r flwyddyn a enwid yn yr ewyllys, ac o'r braidd y llwyddodd Miss Denham i gadw meddiant o'i ffortiwn. Cymerwyd gofal da o'r hen Dclaniel ar ol hyny, ond ni fu byw fwy na rhyw ddeunaw mis ar ol y briodas, a phan fu yr hen frawd oedranus farw, yr osdd y ffordd yn glir i Mayne a'i gariadferch weddw briodi. Dyna ddirgelwch y briodas ryfedd, ond rywsut yr wyf hyd lieddy'w lieb gael llwyr foddlonrwydd mewn perthynas i briodoldeb y fath beth. Ond, wrth gwrs, yr oedd yr amgylcliiadau yn gelyd, ac hwyrach y gellir maddeu i Miss Denham oherwydd hyny.