Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

--GO' GLYNOGWY - neu "Nid…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GO' GLYNOGWY neu "Nid Glan ond Clan o Calon' PENNOD IX. I Y CAPTEN YN CAEL EI BEN BLWYDD. 25ain o fis Gorphenaf a ddaeth un o'r y c h y d i g ddyddiau poethion, sychion, a ddigwydd, wedi gadael canol haf, a rhwng tywydd gwlyb yn blaenori a thywydd cyffelyb yn dilyn. Hwn oedd diwrnod pen blwydd aer Bodrhian, a mawr ydoedd y disgwyliadau a'r darpariadau trwy'r holl blwyf ar gyfer yr achlysur. Canai clychau eglwys y plwyf o'r boreu (gydag ychydig o orphwys i'r gwyr selog oedd yn tynu'r rhaffau); ac yn gynnar y prydnawn, welefand y Clwb Cla' o Drefaelog yn gneyd ei ymddangosiad, gan ddifyru y trigolion trwy ganu yn awr ac yn y man ar hyd y ffordd o'r dref uchod, trwy bentref Glyn- ogwy, ac oddiyno tua Phlas Bodrhian. p fel gwr call, yr oedd John rydderch wedi cychwyn gyda'i deulu, yn cynnwys yr holl forwynion, yn ddigon cvnnar e a8 i gerdded y ceffyl oedd wrth ei gar ^archnad yn lie ei brysuro. Trwy hyn, r ioddid chwareu teg i'r anifail ar dywydd or desog, ac ar yr un pryd, ysgoai anghysur i r Perched a'r plant trwy i'r car hercian a -j^y^hau gael eu ysgytio bron o ddechreu'r aith i w diwedd. Ac yr oeddynt yno mewn •gon o bryd, gan eu bod lawn hanner awr yr amser penodedig, sef dau o'r gloch. P ma'r fel eisys," ebai Mrs ^rydderch. Ac yr oedd Mrs Prydderch yn ^e" ^an ei bod yn yspaid gosegur p ° v. ermwyr—rhwng y cynhauaf gwair a'r ynliauaf yd—yr oedd yr holl wlad oddi- amgylch wedi dyfod i gyfranogi o'r wledd ° 1 ddifyru eu hunain a'r mabol-gampau. °) yr oedd y plant pum mlwydd ac uchod; yno yr un modd gwelid yr hen Abel omos y ffermwr hynaf o lawer yn y PlwYf-wrth ei ddwyffon, ac yn ymddangos 11 yu mwynhau ei hunan gystal a'r un „ deunaw oed. Digrifol iawn oedd J if ffermwr ar ol ffermwr, a'n cyfaill, o n Prydderch, yn eu plith, yn myned at fa 8an y«gwyd ei law yn harti ran? .j^S^eddi, "Sut ma hi'n dwad er's f yn ei glust, heb golio ar y foment llaw ^enafgwr yn fyddar fel post er's aWer dydd. n y cyfamser, yr oedd y Capten a Prys, y arrS°n' yn ymweled a'r ddwy ystafell fawr— ochr bellaf y plas—ac yn ymgomio y nghylch y trefniadau, y rhai oeddynt wedi od dan arolygiaeth neillduol Mrs Brown, yr Wekeeger, Yr oedd yr ystafell isaf wedi ei darparu ar gyfer y man dyddynwyr a'r tenantiaid yn y pentref a'r ystafell uwch at wasanaeth y tenantiaid mwyaf, eu gwragedd, a'u perthynasau. Trefnwyd un bwrdd i'r dynion ar eu penau eu hunain, ac un arall i'r merched wrthynt eu hunain. Dowch, Prys," ebai Einion, am fyrbryd. Dyna'r gloch yn canu i wahodd y tenantiaid i'w cinio." Ymddengys fod Capten Vaughan wedi taer erfyn ar Meredydd Morus i fyned i giniawa gyda'r tenantiaid mwyaf yn yr ystafell uchaf, er nad oedd efe ond dal ty a gefail yn y pentref. Nid oedd hyn yn ddymunol sut yn y byd iddo, yn gymaint ag y byddai fel hyn yn cael ei godi, megis, uwch ben ei fam, a'i frawd Ifan. Aeth, gan hyny, ar ei union i ddyweyd am y peth wrth y ddau. Yr oedd ei frawd yn bur falch o'r anrhydedd oedd wedi disgyn i ran ei frawd liynaf ond am yr hen wraig tuedd i rwgnacli, fel arfer, oedd ynddi hi. O'r gore, mam," atebai Meredydd, gan y mynwch chi i mi fod yma yn lie i fyny, a dwad efo chi ac Ifan gartref, mi a, i ar f' union i ddeyd wrth y Capten pa'm nad alia i ufuddhau i'w gais." Na, na, aros M'redydd," ebai ei fam anwadal, well i ti neyd fel ma'r Capten isio rhag iddo fo ddigio." Nid Meredydd Morus ydoedd yr unig denant a wahoddasid i'r ciniaw gyda'r prif denantiaid, ond yr oedd amryw ereill o bell ac agos wedi derbyn yr anrhydedd," nid ar gyfrif swm y rhent a dalent, ond olier- wydd rhyw swydd o gyfrifoldeb neu bwysig- rwydd a ddalient, ac yn mhlith y dosparth hwn yr oedd Mr Job Jenkin, yr ysgolfeistr. Wel, Mr Jenkin, sut ma hi'n dwad heddyw ?" ymholai Meredydd. Gweddol dda, machgen i, gweddol dda," oedd yr ateb. Rydw i wedi ngwadd gan y Capten i giniawa gyda'r prif denantiaid i fyny'r grisia, Mr Jenkin," ychwanegai'r Got Ma'n dda gin i glwad, M'redydd. Mi wela i sut ma'r gwynt yn cliw'thu—gwela siwr Ydach chi'n cofio be ddeydis i 'r noson o'r blaen pan o'ddacli chi acw, 'machgen i ?" Wel, chi o'dd yn ych lie, Mr Jenkin. Hyny sy newydd ddigwydd. Ond mi gawn siarad am hyn eto." b Purion, machgen i, purion. Un gair i gall, un gair i gall." Pan aeth y ddau i fyny'r grisiau, oawsant fed yno gryn wahaniaeth mewn perthynas i bwy ga'i fod yn llywydd a phwy yn is- lywydd wrth y bwrdd ciniaw. Daliai Eben- ezer Evans, gwr yr Einion Arms, mai yr hynaf yn yr ystafell ddylai gymeryd y gadair, gan nad pwy lanwai yr is-gadair. Ar y llaw arall, mynai Jona Jones, un o'r ffermwyr mwyaf ar yr ystad, a'r mwyaf afler gyda'i dir, hefyd, mai yr un oedd yn dal mwyaf o dir ddylai gael yr anrhydedd. Ond torwyd ar y ddadl fer ond brwd trwy ymddangosiad yr ysgolfeistr. Dyma Mr Job Jenkin," gwaeddai Fraser, y garddwr "ami ddyla fo fedru deyd wrtlio ni be' sy'n iawn ar y mater yma. Pw ddyla eista wrth ben y bwr', Mr Jenkin ? Y dyn lleta, wrth reswm," cbai'r ysgol- feistr achos wed'yn, chymer o ddim lie neb arall wrth y bwr' Parodd yr ateb cliwareus a hapus liwnw i'r holl gwmni chwertliin yn galonog a gweithredu ar farn ddigrifol Mr Jenkin. Pawb, meddwn, ond Ebenezer Evans, yr hwn oedd wedi bod yn butler am bymthog mlynedd, ac yn credu, gan hyny, "be o'dd be ar fater oll-bwysig fel llywyddu mewn ciniaw tenantiaid. Pan aed i edrych, cafwyd mai John Prydderch oedd y gwr lletaf yn yr ystafell, ac felly etliolwyd ef yn unfryd-unllais i'r gadair ac Ebenezer Evans i'r is-gadair fel y gwr nestif ato o ran lied. Yn ngwaelod y bwrdd yr eisteddai Meredydd, bron yn ymyl Ebenezer Evans ond rhwng y ddadl, a'i etlioliad, yn nghyda'r sylw dyladwy at angen y rhai a ddeuent ar ei ofyn fel carver, nid oedd gwr yr Einion Arms wedi sylwi ar y Gof. Heblaw hyn, yr oedd cryn lawer o genfigen, neu eiddigedd, yn y tafarnwr oherwydd fod gwyr uchel fel Capten Vaughan a Mr Prys, y person, yn gwneyd cymaint o Meredydd. Ycliwaneger at hyn y ffaith na fyddai y Gof ieuanc byth yn croesi rhiniog yr Einion Arms. Holo, Mr Morus! ebai Ebenezer toe rydach chi 'n yn un o'r bechgyn sy 'n dringo i fyny o dipyn i betli. Fu'cli chi rioed yn ciniawa yn 'r ystafell yma o'r blaen, hyd rydw i 'n cofio." "Naddo, Mr Evans," ebai'r gof yn ei lais cryf oedd i'w glywed i bawb o un pen i'r bwrdd i'r llall. Capten Vaughan ddymun- odd arna i i ddwad, a rydw i'n gobeithio nad ydi mliresennoldeb i ddim yn anllymunol i neb yma." "Nag ydi I nag ydi! Choeliai fawr!" oedd rhai o'r bloeddiadau calon gynlies a ddilynodd sylw Meredydd Morus. Pw o'dd yn deyd yn amgenacli, sgwn i? ebai Edward Ffoulkes, Hafodycoed. "A mi gawn Bugeilio'r Gwenitli Gwyn 'rol cinio. Does dim un hen diwn Gymreig fydd gymin wrth 'y modd i, bob amser." O," sylwai Fraser, y pen garddwr, yr hwn oedd wedi pigo i fyny wybodaeth led dda o'r Gyniraeg-digoil i ymgomio a'i gymydogion, "tydi'r hen diwnia Cymreig yn ddim byd wrth yr hen diwnia Scotaidd." "Be!" ebai Job Jenkin mewn syndod gwawdus, "y tiwnia Scotaidel, wir I Rydw i wedi clywad mwy na digon o lawer o'r hen diwnia hyny. Son am 'u cymharu am foment a Llwyn On,' Codiad yr Hedydd,' Bugeilio'r Gwenith Gwyn,' Difyrwch Gwyr Harlech,' a llawer un arall—lol botes fydda petha felly." "Wel done y schoolmaster," ebai amryw wrth y bwrdd, a churo dwylaw yn dilyn. Tydi tiwnia'r Scotiaid, coeliwcli chi fi," ychwanegai Mr Jenkin, yn dda i ddim ond i ddychrynu adar—hyny yw, adar Cymru a Lloegar aclios wyrach fod yr adar Scotaidd sy'n dwad i'r wlad ma am damad yn arfer canu hen diwnia 'u gwlad, am ddim a wn i. Rhowch chi bagpipes yn lie rattle, a mi ddalia i y bydd yr yd yn berffaith saff." Collwyd atebiad Eraser y' nghanol chwerthin cyffredinol a ddilynodd desgrifiad digrifol yr ysgolfeistr ac fel dyn call barnai Z71 mai doeth ynddo ydoedd peidio tynu gwr mor fratliog a Job jenkin yn ei ben. Yn y cyfamser, dal i edrych ar Olwen yr oedd Meredydd Morus, canys gallai yn y "I nawdd ei gweled wrth y bwrdd arall, nid heppeU oddiwrth Lizzie Evans, mercli