Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

LLAIS YR AMDDIFAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLAIS YR AMDDIFAD. Mae'r byd yn llawn o groesau du, 0 siomiant oer, a chwerw; Ond dyma'r drymaf loes i mi,- Fy nhad sydd wedi marw. Ni welaf mwy ei wyneb lion, Ac ni ddaw mwy i'm galw; Mudanrwydd leinw'r ty a'r fron, Fy nhad sydd wedi marw. Mae clywed arall blentyn gwan Yn seinio nhad" yn groew, Yn peri'r dagrau i syrthio pan 11 y Mae nhad yn mhlith y meirw. 'Does gofal mam, na chariad tad, Yn gwylio 'nawr dros hwnw Sy'n byw mewn galar, cherw 'stad, A'i drem ar fedd y meirw. Ow chwi sy'n berchen tad a mam, Na wthiwch fi'n ddisylw Mae engyl Duw yn gwylio am Amddifaid blant y meirw. I'm cyfri'n frawd nid yw'n sarhad, Er mod i'n dlawd, a gwelw Mae Iesu Grist yn frawd na'm gwad, Yn fyw, neu ynte'n farw. Mae'r deigryn distaw ar fy ngrudd, Mae'm gwedd yn llwyd a gwelw, Arwyddion angau'n d'wedyd sydd Y byddi dithau farw. Hiraethu 'rwyf am gael rhyddhad, 0 boenau'r byd a'i dwrw; Caf wed'yn groesaw mam a thad, A byw lie ni bydd marw. Ddarllenydd mwyn, os digwydd fydd It' wel'd fy medd pryd hwnw Fe draetha wrthyt eiriau prudd, Bydd raid i tithau farw. GLASWALCH.

MEDDYLIAU.

DAMMEG YR YSGUTHAN A'R BIOGEN.

CAN' PUNT 0 WOBRWYON