Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
10 erthygl ar y dudalen hon
JM'::IØIS:¡1iiI8E:::; .THOMAS…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
JM'IØIS:¡1iiI8E: THOMAS PHILLIPS PRICE, A.S. AELOD arall dros ran o sir FYllWY yw y boneddwr hwn, sef yr aelod Gladston- aidd dros Fynwy Ogleddol. Unig fab y diweddar Barch William Price, ficer Llanarth a chanon Llan (laf, yw Mr Price, ac fel y gallesid dis- gwyl, cafodd addysg dda. Graddiodd yn M.A. yn 1869, a gwnaed ef yn fargyfreithiwr yr un flwyddyn. Y ma8 efe yn ustus heddwch a dirprwy-raglaw yn Mynwy, ac yn 1882 bu yn uchel-sirydd yno. Bu hefyd am rai blynyddau yn gapten yn y cartreflu. Preswylia gerllaw Abergafenni.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Camp fawr yw cadw canol y ffordd rhwng gorbrysuro a gorneillduo.
JOHN BRYN ROBERTS; A.S.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
JOHN BRYN ROBERTS; A.S. Y BONEDDWR Invn yw cynnrycliiolydd Sencdclol etholaeth Ddelieuol Sir Gaer- narfon (lieu etliol- net h Eifiou) er y flwyddyn 1885. Cafcdd fwyafrif ar- uthrol ar ci wrtli- wynebw)r yn mhob etlioliad a gyfarfu. Prcswylia yn Bryn Adda, Bangor, ac y mac yn fab hynaf i'r diweddar Mr Daniel Roberts, Bryn Adda. Ei fam ydoedd Anne, merch Mr G. Jones, Plas Gwanas, ger Dol- gellau, a ganwyd of yn y flwyddyn 1843, felly y mae yn banner can mlwydd oed eleni, Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadegol Cheltenham, a derbyniwyd ef yn gyf- reithiwr yn 1868, ac yn 1889 cafodd ei wneyd yn fargyfreithiwr yn Lincoln's Inn. Y mae yn ustus heddwch ac yn un o henaduriaid Cynghor Sirol Sir Gaernarfon. Y mae yn nodedig am ei allu i dreiddio i ddyfnderoedd materion dyrus, yn gyfreithiol a gwladwriaethol.
W. BOWEN ROWLANDS, Q.C., A.S.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
W. BOWEN ROWLANDS, Q.C., A.S. MAB hynaf y diweddar Mr Thomas Rowlands, U.H., Glanover, sir Ben- fro. Ganed ef yn 1837, derbyniodd ei addysg yn Mhrifathrofa Rhydych- ain, lie yr enillodd raddau o B.A. yn 1859 ac M.A. yn 1865. Gwnaed ef yn fargyfreithiwr yn 1871, ac ymunodd a chylchdaith Deheudir Cymru. Y mae vn ustus heddwcli yn mwrdeis- dref Hwlffordd, ac a II hofycl yn ustus sirol yn siroedd Pentro ac Aberteifi, yn ogystal a dirprwy-raglaw i'r sir olaf. G-wiiaed ef yn Queen's Counsellor yn 1882, ac yn yr un flwyddyn cafodd ei ethol yn Bencher Gray's Inn, a thrysorydd yn 1889, ac y mae yn aelod o Gynghor Addysg Gyfreithiol a Phwyllgor Llyfrgell y Bar- gyfrcithwyr. Y mae efe yn cynnrycliioli Ceredigion yn y Senedd er y flwyddyn 1886.
ALBERT SPICER, A.S.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ALBERT SPICER, A.S. YR aelod Seneddol dros Fwrdeisdrefi Mynwy. Mae ef yn un o aelodau cwmni mawr o stationers, sef J'ames Spicer a'i Feibion, y rhai a gariant fasnach ynmlaen yn Llundain, Manchester, a Birmingham. Yn Essex y spreswylia, ac y mae yn u itus heddwch o'r sir hono. Efe hefyd yw trysorydd Cvmdeithas Genadol Llun. dain. Aelod Gladstonaidd yw Mr Spicer,
- C.' M. WARMINGTON, Q.C.,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
C.' M. WARMINGTON, Q.C., A.S. CYNNRYCHIOLA y bon- ecldwr hwn Orllewin- barth Mynwy yn Nhy'r Cyffredin, fel aelod Gladstonaidd. Derbyn- iwyd ef yn gyfreithiwr yn y flwyddyn 1864, ac yn fargyfreithiwr yn mhen pum mlynedd ^wed'yn, ae yn 1882 gwnaed ef yn Q.C., ac y mae yn aelod o Gynghor Addysg Gyf- reithiol. Ymgeisiodd yn aflwyddiannus yn 1880 am gynnrychiolaeth sir Fynwy, ond yn 1885 etholwyd ef gan yr Adran Orllewinol o'r sir, yr hon y mae yn gynnrychioli byth er hyny.
THOMAS EDWARD ELLIS, A.S.,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
THOMAS EDWARD ELLIS, A.S., Cynlas, Llandderfel, Meirionydd, yr aelod Seneddol dros ei sir enedigol, ac un o'r ael- odau Cymreig mwyaf eofn a; blaenllaw gyda phob symudiad diwyg- iadol, yn enwedig os bydd a fyno a Chymru. .Efe oedd y cyntaf o aelodau ieuainc "Cymru Fydd" i gael ei anfon i Dy'r Cy- ffredin. ond v maent erbyn hyn wedi lluosogi a dod yn allu i'w deimlo. Mab ydyw i Mr Thomas Ellis, tenant amaethyddol, Cynlas, a'i fam yw Elizabeth, merch Mr John Williams, Llwyn- mawr, Bala. Ganwyd ef yn 1859, a derbyn- iodd ei addysg yn Ngholeg y Brif Athrofa, Aberystwyth, ac wed'yn yn New College, Rhydychain, lie y graddiodd yn B.A., gydag anrhydedd neillduol yn 1883. Bu yn gweith- redu fel ysgrifenydd cyfrinachol i Mr Brunner, A.S., ac y mae yn aelod dros ei sir enedigol bellacli er's 1886. Felly yr oedd yn aelod Seneddol pan ond saith ar hugain mlwydd oed. Dewiswyd ef yn un o ar- glwyddi y Trysorlys yn ngweinyddiaeth bresennol Mr Gladstone.
---YR ANRIIYDEDDUS F. C. MORGAN,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR ANRIIYDEDDUS F. C. MORGAN, A.S. MAE'R boneddwr hwn yn dra adnabyddus yn sir Fynwy a rhanau o sir Forganwg. Mae efe yn ynad heddwcli ac is- raglaw yn Mynwy ac yn ynad hefyd yn Morganwg. Treuliodd flynyddau, pan yn ieuanc, yn y fyddin, a chymerodd ran yn rhyfel y Crimea, ac am ei wrhydri y pryd hyny, derbyniodd fathoclyn y Crimea, ac hefyd fathodyn gan Ymherawdwr Twrci. Nid yw wedi hollol ymneillduo o gysylltiadau milwrol eto, oblegid cawn ei fod yn filwriad yn mhlith y gwirfoddolwyr. Preswylia yn Nghastell Rupera, ger Casnewydd, ac efe yw un o aelodau Seneddol Mynwy. Trydydd mab barwn cyntaf Tredegar ydyw, ac y mae wedi bod yn y Senedd dros Fynwy, neu ran ohoni, er y flwyddyn 1874, fel Ceidwadwr,
--THOMAS OWEN, A.S.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
THOMAS OWEN, A.S. MAE y boneddwr hwn wedi dringo i fyny drwy ei alluoedd a'i yni nes cyrhaedd sefyllfa uchel o anrhydedd a pliarch nid yn unig yn ei hen wlad enedigol ond hefyd yn mhlith ein cyd- Geltiaid yn Cernyw, oblegid mae efe yn awr yn aelod Seneddol dros Launceston, Cernyw. Mab yclyw i Mr Owen Owen, Bwlch a Cwmrhaiadr, gerllaw Machynlleth, ac y mae yn awr yn 53 mlwydd oed. Derbyniodd ei addysg yn Machynlleth. Bu gynt yn warehouseman, end perthyna yn awr i gwmni o bapyr-wneuthurwyr, yn gadeirydd cwmni Thomas Owen a'i Gyf,, Caerdydd; cwmni melinau papyr, Bath; a chwmui Evans ac Owen, Bath-tri chwmni cyfyngedig.
DAVID ALFRED THOMAS, A.S,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DAVID ALFRED THOMAS, A.S, ÐYMA y boneddwr a gafodd, gyda'i I gyd-aelod (Mr W. Pritchard Morgan) y mwyafrif mwyaf yn y deyrnas yn ystod yr etholiad cyffredinol di- weddaf. Preswylia yn Llanwern, ge,r Casnewydd, ac y mae yn fab i'r diweddar Mr Samuel Thomas, perchenog glofeydd, Ysguborwen, Aberdar. Ganwyd ef yn i856, ac enillodd ei radd o B.A. yii 1880 ae M.A. yn 1883 yn Nghaer- grawnt. Y mae yn aelod o gwmni Thomas, Riches, a'u Cyf., perchenogion glofeydd, Caerdydd, ac efe yw rheolwr busnes y flinn. Mae yn ynad heddwch yn sir Forganwg. Yn 1882 priododd ferch Mr George A. Haig, Pen Ithon, Drefnewydd, sir Drefaldwyn. Cafodd ei ethol yn aelod Seneddol gan Ferthyr Tydfil yn Mawrth, 1888, a cheidw ei sedd yno hyd iieddyw.