Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
EIN CYSTADLEUON
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EIN CYSTADLEUON CYSTADLEUAETH Y POST CARD.—Goreu o 39 Mr Wm. Williams, Garnguwch Fawr, Llith- faen, Pwllheli. LLYTHYR MERCH IFANC AT EI THAD.— Derbyniwyd cyfansoddiadau Angharad, Margaretta, Euronwy, Malen, Sian Fwyn, Penelope, Merch y Bryn, Bronwen Jones, Helen, Hephsibah, Myfanwy Morris, a Mary Prys.—Cystadleuaeth gampus. Dyfernir y wobr i Miss Kate Thomas, Plasycoed House, Treforris, Abertawe.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nid yn ysgol Gorseinon, ger Abertawe, ond yn ysgol Gorswnion, ger Dolgellau, y bu Job Moses yn rhoddi'r wers gyntaf i John, fel y cafwyd hanes yn rhif 15 o Papur Pawb. A'th 'sgubo di, fwgan y wasg MRS YOUNG: Onid oedd yn gosp ofnadwy -cael eu gyru allan o Eden ? MR YOUNG: Oedd, cariad, oedd ond yr oedd gan Adda ryw gysur wedi'r cwbl. MRS YOUNG: Beth oedd hwnw ?j MR YOUNG: Doedd .dim eisieu iddo ofni i'w fam-yn-nghyfraith droi i mewn i roi triniad iddo am yr hyn a wnaeth. EINION: Pe buasech chi heb fy ngwel'd i erioed a fuasech chi mor hoff ohonof ? MYFANWY 0 llawer mwy I Un diwrnod, cerddai hogyn ar yr heol a chanddo ddarn o bapyr gwyn yn ei law. Daeth cyfreithiwr i'w gyfarfod a gofynodd iddo, Beth yw hwna machgen i ? Ewyllys fy mamgu, syr." A gaf fi ei gweled ?" Cewch, cewch." Does dim yn y byd ar hwn." Nid oedd dim gan fy mamgu ychwaith syr." Un tro yn Aberteifi, pan oedd John Jones, saer llongau yn adgyweirio Hong fechan ar y traeth, methai yn lan loyw a chael gan y follt i fyned i mewn, a dywedai mewn tymher ddrylliog, "yr wy i'n credu fod Beel- zebub yn y twll yma." Safai y Parch J. Lampeter Evans, B.D., gerllaw, ac atebodd yn union, Gyr arno ynte, John, gyr arno; yr wyf fi ar ei ol er ys deg mlynedd ar hugain, ac wedi methu ei gael i un twll." Yr oedd gweinidog yn rhodio ar yr heol un diwrnod yn Drebanos, a gwelai hogyn bychan yn dyfod i'w gyfarfod dan ysmocio. Ebai'r gweinidog "vVel fy ngrwt bach i, faint o amser sydd oddiar pan 'rych chwi yn ysmocio ?" Hogyn Peidiwch a ngalw i yn grwt bach, syr. 'Rwyf fi yn ddyn, waeth 'rwy'n ysmocio a chnoi tybacco er's mwy na blwyddyn. 1 71-j Yr oedd Dai Gwel'd y Cwbl wedi bod yn gweithio dau fis yn y mynyddau ac wedi dod 'nol i roi tro am wlad ei enedigaeth." Un diwrnod, aeth i dalu ymweliad a'r hen Eyan y gof, ac, yn mysg pethau ereill a wel- odd ar ei daith hirfaith, dywedai mai yn Tonypandy oedd y sharpio mandreli cyflymaf a welodd yn ei fywyd. "Ai e," ebe yr hen wr, "pa sawl un oedden nhw yn wneuthur ar y tro yno, dywed ?" 0, un," ebe Dai. 0, wel, yr ydyn ni yn gwneyd un y ffordd yma," ebe yr hen of. Ac yr oedd Dai yn methu deall am beth oedd y ddau brentis yn chwerthin. GWEINIDOG MERIBAH (wrth un o'i dJiacon- iaid): Nid wyf yn cael un anhawsder i gael gan Mr Pugnose i ymattal oddiwrth yfed, ond yr wyf yn methu yn lan a chael ganddo roi fyny cymeryd snuff. Y mae y diafol wedi myned heibio i'w wddf ac wedi cymeryd gafael ddiollwng yn ei drwva. Wedi rhedeg ar ol y masnachwr dofednod, gwaeddai Jordan Jones, Hai, a ydacli chi yn prynu cywion ieir lieddyw, lYlr Ffoulsvvr ?" "Ydwyf siwr, a gaf fi eu gweled ?" "0, nid ydyn nhw yn barod heddyw, o achos neithiwr y daru Meistres Jones roi yr wyau o dan yr iar." Druan o William Wagtop! R)edd o wedi gwirioni yn lan ar Miss Bella Morris; ac wedi penderfynu gwisgo yn swelus dros ben i fyn'd i'w gwel'd. Cyn iddo gychwyn, gofynodd ei fam iddo ysgubo tipyn o flaen y drws. Pwy ddigwyddodd fyn'd heibio ond Bella a'i chyfeilles. Mae Bili yn awr bron tori ei galon; ac yn ofni fod y cwbl drosodd oherwydd fod ei gariad wedi ei wel d yn llewis ei grys. Na ddyweded neb wrtho fod Bella wedi sylwi wrth fyned heibo:— Fe wnaiff William wr da i rywun; gwel. wch mor garedig i'w fam y mae o,"