Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYSTMDLEUAETH Y POST CARD.— Goreu o 30; Mr John Anwyl, 7, Jubilee-terrace, Gladstone. avenue, Caerlleon. BARDDONIAETH. — Mr William Roes, Rhosfach, Melino, Eglwys- wnv, R.S.O. STORI FER.—Benjamin Davies, 56, Balaclava-road, Dowlais. Y Pos RIIIFYDDOL.—Ateb 12 a 16. Derbyniwyd ugain o atebion cywir yn Gymraeg; ond nid oes un ohonynt yn dangos sut i ddadrys y cwlwm. Modd bynag, gwobrwyir John Rowlands, Pcnbontfach, Tregaron. CIIWEDLATJ AM GYFREITHWYR.— Goreu, Mr John Owen, Mary- street, Caernarfon. WYR Dyna hogyn bach del! TAID Dyna fi, pan oeddwn i 'run oed a chi. WYR Pwy ydi o 'rwan, taxd ? Beth ydyw yr achos fod Ned yn edrych mor ddigalon?" "Ei ewythr sydd wedi marw." "Wel, y mae ei ewythr wedi marw er's dyddiau. Edrychai yn eitliaf tan heddyw." "Y rheswn ydyw fod ewyllys yr ewythr wedi cael ei darllen neithiwr." Y FEJSTRES: Jane, yr wyf yn deall fod milwr arall wedi galw gyda thi; yr oeddwn i yn mcddwl nad oedd genyt ond un cariad ? Y GOGYDDES Nago, ma'm, y mae genyf ddau y mae genyf un wrth gefn bob amser. Dyna fel y mae nhw'n gwneyd efo'r milwyr cartrefol. MR HENPECK Yr haulwen fawr Dyma lythyr a bill eto. MRS HENPECK Beth ydyw y mater ? MR HENPECK: Nis gallwn fyned at fy ngwaith ond drwy un heol, oherwydd fod y siopwyr yn yr heolydd ereill yn dyfod ar fy cri i i ofyn am eu harian. Yn awr, dyma siopwr o'r hool arall yn dechreu gofyn am ei arian. Yn wir, rhaid i mi fyned at fy ngwaith mown cerbyd! MARY ANN Os gwelwch chwi yn dda, ma'm, yr ydw i yn clewis. ymadael oddiyma ddiwedd y mis. GWRAIG Y FICER Beth, a thithau lieb fod yma ond ychydig ddiwrnodiau betli yw yr achos dy fod yn myn'd mor fuan ? MARY ANN: Oherwydd, os gwelwch chi'n dda, ma'm, mi fu'm yn eich eglwys chwi ddoe, ac yr ydw i 'n gwel'd nad oes genych chwi ond gwasanaeth plaen yma, ac yr wyf fi wedi arfer bob amser a gwasanaeth cor awl. Ral blynyddoedd yn ol, yr oedd porter gorsaf wedi cael gorchymyn i fod yn barod i'r meddyg ei archwilio pan ddeuai yno. Methodd y meddyg a dyfod hefo'r tren a stopiai yn yr orsaf hono, ac anfoifodd frys neges at y porter, a dywedodd, Sefwch ar y platform* pan y bydd y tren yn myned heibio, a dangoswch eich tafod." Am ychydig o fynydau, gwelwyd y porter yn sefyll gan ddangos ei dafod allan. Ni ddywedai air wrth neb. "Gwarchocl ni" meddai'r stationmaster, fe fydd yn rhaid i ni fyn'd a'r llencyn yma Ddinbych!"