Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
W. T. SAMUEL, G. AC L., ABERTAWE. DARLUN ydyw hwn o un o cnwogion Cymru yn y byd cercldorol, ac er mai a'r De y mae a wnelo yn benaf, eto adnabyddir ef yn dda yn y Gogledd, yn enwedig yn Llandudno, lie bu yn beirniadu gyda pharcli amryw droion. Yn 1852 y ganwyd Mr Samuel yn Nghaerfyrddin, ac enwau ci dad a'i fam oeddynt David a Mary, Heol y Prior. Efe oedd eu mab ieuengaf, ac yr ocdd ei dad yn hen arweinydd y giln. Newydd adael ei 18 mlwydd oej yr oedd Mr W. T. Samuel pan enillodd drwydded gerddorol uchel yn Llun- dain. Yn 1875, aeth i Goleg Aberystwyth, ac wrth ymadael a Chaerfyrddin, cafodd dysteb ardderchog gan Eglwys y Bedyddwyr Seisnig. Ymbriododd gyda Miss Bessie Morgan, Albert House, yn 1877. Aeth ef rhagddo i enill graddau cerddorol, ac ar ol symud i Abertawe, lhvyddodd i sefydlu y South Wales Tonic Sol-ffa Conference." Wedi hyny, Ilwyddodd mown graddegau carddorol ereill, nes y mae yn awr yr hyn a elwir Licentiate, gradd pur anaml yn Nghymru. Y mae Mr Samuel yn lleisydd, cyfansoddwr, a beirniad, yn nghydag ar. weinydd cerddorol da ddigon. Bedyddiwr selog ydyw, ac y mae'r enwad yn falch fod ganddynt y fath dalent yn eu mysg. Caffed oss hir i wa >anaethu ei enwad a'r wlad o pa un y mae yn un o'i meibion mwyaf cerddgar a thalentog. Dywed Yr Hanwr Mae bywyd Mr Sam- uel, felly, wedi bod yn faes llafur yn gystal a llwyddiant, Ni chafodd ei oni a Uwy arian yn ei enau," mwy na'r mwyafrif o feib clod ond cafodd ei fendithio a digon o dalent, athrylith, a phenderfyniad i ddringo grisia u Parch a defnyddioldeb, fel erbyn heddyw, mae yr hogyn bychan fu yn canu alto yn 0 Heol y Prior yn un o'r rhai mwyaf adnab- yddus ac anrhydeddus yn y byd cerddorol.
MISS LLEWELA DAVIES.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MISS LLEWELA DAVIES. Y MAE y foneddiges ieuanc hon yn un o'r ser disgleiriaf erioec1 a ymddangosodd yn ffurfafen gerddorol Cymru. Merch yw i Mr Rhys Davies, U.H., Aberhonddu. Yn y cyfarfod blynyddol a gynnaliwyd yn ddi- weddar yn y St. James's Hall, Llundain, er cyliwyno gwobrau y Royal Academy of Music, dyfarnwyd batliodyn y Worshipful Company of Musicians iddi yn mhresennol- deb cynnullial mawr o foneddigesau a boneddigion am mai hi oedd yr efrydydd disgleiriaf yn yr Acadamy. Pan y gwnaeth ei ymddangosiad ar y llwyfan, derbyniodd y fath gymeradwyaeth nas gwelwyd ei gyffelyb erioed o'r braidd yn y neuadd hono. Yr oedd y ffaith ei bod wedi enill saith o fathod- ynau a phump o ysgoloriaetliau yn gamp- waitli na bu ei ragorach yn lianes y Royal Academy er pan y sefydlwyd hi 70 mlynedd yn ol. Pan yn dilyn ei hefrydiaethau cerddorol, nid oedd Miss Davies yn esgeuluso canghenau ereill ei haddysg. Y mae hi wedi matriculatio yn Mhrifysgol Llundain, lie hefyd y mae wedi pasio yr intermediate ar gyfer enill y gradd o M.B. mewn cerddor- iaeth. Yn yr Eisteddfod yn Pontypridd, cyfiwynodd y Barnwr Gwilym Williams hi i'r Eisteddfod, a galwyd arni i arwisgo arwein- ydd y cor buddugol am y wobr o 200 gini. Dywedodd y Barnwr dysgedig fod pob Cymro a Chymraes yn falch ohoni, a bod yno 500 o ymgeiswyr yn ceisio am wobr y Worshipful Company of Musicians. Yr oedd y derbyniad iddi yn yr Eisteddfod yn cira brwdfrydig.
TOM PRICE, MERTHYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TOM PRICE, MERTHYR. GANWYD Mr Tom Price yn Rhymni, sir Fynwy, yn 1857, a chafodd ei ddwyn i fyny yn nghanol teulu o gerddorion, ac yr oedd Rhymni ar y pryd yn fagwrfa dda i'r cerddor ieuanc. Yr oedd canu corawl Rhymni yn enwog trwy yr oil o Ddeheudir Cymru, ac yr oedd enwau Heman Gwent a Thomas Jones yn glodfawr fel arweinwyr corau. Ymunodd Mr Price a chor Heman Gwent, ac arwein- iwyd ef yn fuan i ddirgelion Handel, Webbe, Bishop, a Mendelssohn. Pan yn ddeg oed, aeth i weithio i'r gwaith glo. Hunan-ddysgydd 0 cl yw Mr Price braidd yn gwbl. Cynnortli- wyodd Heman Gwent ef i astudio cynghan- edd. Y mae Mr Price yn ddarllenwr mawr, ac i hyny y mae priodoli ei lwyddiant fel cerddor. Ni bu yn hir cyn dyfod allan ya arweinydd corawlllwyddiannus iawn. Dilyn- odd Mr Thomas Jones fel arweinydd Cor Unedig Rhymni, a chariodd y wobr am And the Glory of the Lord" yn Tredegar; Chwaon Bach" yn y Merthyr; "All we like sheep (40p) yn Abergafeni; When winds breathe soft" (20p) yn Abergafeni. Yn mhob cylch cerddorol, cydnabyddir ef fel awdwr llawer o ddarnau rhagorol. Y mae wedi enill gwobrau am y rhai hyn yn Nghymru, Lloegr, ac America. Y mae wedi cario gwobrau yn yr Eisteddfodau Cenedi- aethol lawer o weithiau. Yn ddiweddar, y mae wedi bod yn cynnal cymanfaoedd canu yn y De, a lleoedd ereill, ac y mae yn bur boblogaidd.