Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
ANTHEM CENEDLAETHOL Y CYMRY
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ANTHEM CENEDLAETHOL Y CYMRY Y mae yr uchod yn arlun perffaith. gywir o'r copi cyntaf erioed ysgrifenwyd o Hen Wlad fy Nhadau," yn llaw-ysgrif yr awdwr, wrth gwrs, ac wele isod ddarluniau o awdwr y geiriau ac awdwr y gerddoriaeth. ME EVAN JAMES. MR EVAN JAMES (Ieuan ap lago) Pontypridd, awdwr geiriau Hen Wlad fy Nhadau." Yn y flwyddyn 1857, cynnaliwyd Eis- teddfod ar raddfa eang y pryd hwnw yn Mhontypridd, ac y mae un digwyddjad mewn perthynas iddi yn deilwng o'i gofio. Prif orseddogion yr Eisteddfod oeddynt, Myfyr Morganwg ac Ieuan ap lago, awdwr geiriau Hen Wlad fy Nliadau," yr hon, er's blynyddoedd bellach, sydd wedi dyfod yn Gun Genedlaethol Cymru. Cyfansodd- wyd y geiriau yn y flwyddyn 1857. Arferai yr awdwr ysgrifenu llinellau o farddoniaeth ar lech, or mwyn en blotio a'u hail ysgrifenu. Ond byddai James James ei fab yn arfer a'u copio mewn llyfr. A chan ei fod ef yn delynor medrus ac yn gyfansoddwr, cyfan- soddodd alawon i amryw ohonynt. Yn yr pjugylchiad dan sylw, cyfansoddodd alaw mor bwrpasol i eiriau ei dad, nes y buasai hi yn deilwng o gael ei chanu yn yr Eisteddfod i gyfeiliant y clelyn ar Garreg yr Orsedd. Yr oedd yr alaw a'r geiriau mor newydd, mor lifeiriol, naturiol a Chymreig o ran eu nodwedd, fcl y cymerodd ar unwaith, a derbyniwyd y gan gyda brwdfrydedd. Yr olwg gyntaf a gafcdd y wlad ar y gan oedd yn y flwyddyn 1860, yn y Gems of Welsh Melodies, gydag ychwanegiad o eiriau Soisnig, symphonau a chyfeiliant gan casglydd, y diweddar Owajll Alaw. Masnachwr mewn gwlan a gAvehydd oedd y bardd, ac y mae gweddillion o'r hen adeiladau lie yr oedd yn dwyn yn mlaen ei fasnach i'w gweled heddyw yn Mill Lane. Yno yr oedd Evan James a'i fab, MR JAMES JAMES, yn byw y pryd hwnw. Y mac rhanau o'r hen adeilad wedi cu tynu i lawr, a chyfcewidiadau wedi cyweryd lie erbyn hyn, ac y mae y copi gwreiddiol o'r gan ar gael. Lie bynag y mae son am Gymru, Cymro a Chymraeg, y mae y don genedlaethol hon yn adnabyddus; a pha anghydfod bynag a ddigwydd mown Eisteddfod, y mae canu y gan hon yn effeithio fel cyfaredd-fel tywallt olew ar y dyfrocdd cythryblus, ac yn Ilonyddu yr ystorm. Yn ei hacenion hi y mae Dehau a Gogledd, yn feirdd a cherdd- orion, yn anghofio eu lioll ymrysonau. t-!
PA UN OEDD Y GONESTAF?
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PA UN OEDD Y GONESTAF? AETH gwas fferm o gymydogaeth Llansanan i ffair Dinbych i werthu march, ac wrth fargeinio a boneddwr yn ei gylch, dywedai yn fynych gyda phwyslais difrifol un yn gorfod ymadael a, hen gyfaill ei fod yn geffyl gonest. Wedi i'r boneddwr gael ei foddloni ar ei ragoriaethau a'i ffaeleddau, taraw y fargen yn y dull arferol a dodi yr arian i lawr, gofynodd i'r gwas beth oedd yn ei feddwl wrth ddyweyd ei fod yn geffyl gonest. "Fel yma, yn union, syr," meddai y gwas, "pa bryd bynag y byddwn i yn ei farchogaeth o, byddai bob amser yn bygwth fy nhaflu i lawr, ac yn hyny ni chefais erioed dwyll ynddo." Aeth y prynwr ymaith gan geisio dyfah., pa un ai y march ai y gwerbhwr oedd y gonestaf.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Bernir mai J'fraiuc yw y brif wlad am gynnyrchu wyau ac ieir. Daw gwerth yr wyau yn unig i fyny i 40,C00,C00p yn y flwyddyn, 0